Mis yma fuon yn ddigon ffodus i dderbyn llythyr, a hynny gan Mr Alun Davies, Ffordd Caer, sy’n cynnig llun ateb i brydyddiaeth ein colofnydd, Sara Louise Wheeler, a fuodd wrthi’n trafod yn ei erthygl yn rhifyn 140 (Gorffennaf 2010) Y Clawdd: Pam fod brechdanau’n fenywaidd? (A chwestiynau difyr eraill!) Dyma’r llythyr a cherdd gan Alun Davies, gydag ymateb gan Sara Louise Wheeler; gellir lawrlwytho cerdd wreiddiol Sara Louise Wheeler ynghyd a’r erthygl lawn oddi ar ei wefan: www.saralouisewheeler.wordpress.com
Annwyl Golygydd
Diddorol a difyr oedd sylwadau Mrs Sara Louise Wheeler yn rhifyn diwethaf ‘Y Clawdd’. Caniatewch i mi felly awgrymu ateb iddi â rhigwm fel yr amgaeedig.
Yr hyn sy’n ddiddorol yn y Gymraeg yw nad oes air yn cyfateb yn union i’r gair Saesneg ‘IT’ e.e. “IT is raining” – “Mae HI yn glawio”. HI a FO neu FE yn Gymraeg, gan ein bod yn bobl rywiol! ‘Vacillating nouns’ yn ôl J.M.J. Felly BRECHDAN o ddyn – rhyw fath o Gadiffan!
Yn Gywir
Alun Davies
Baled y frechdan
(I’r rhyw nid adweinir)
Mae rhywbeth bach yn poeni pawb
Nid yw yn haf ym mhobman
A’r hyn sy’n blino ambell un –
Ai hwn neu hon yw brechdan!
Pan steddaf lawr i fwyta
Fy mrechdan amser te
Ni roddaf yn fy ymyl
Ramadeg J.M.J
Ac felly nid wy’n poeni
Am ryw fel ‘eg’ a ‘bi’
Pwysicach i’m bryd hynny
Yw blas fy mrechdan i.
Pe chwiliech bob geiriadur
Un Spurrell neu un Bruce
Nid yw yr un o’r rheini
Yn help i agor drws.
Naw wfft i’r holl gwestiynau
“Pa le?” “Pa fodd?” a “Sut?”
Yr hyn sy’n broblem inni
Nid oes Gymraeg am ‘IT’
Rhown heibio holl reolau
Gramadeg rif y gwlith
Ni chawn ni drafferth bellach
Wrth fwyta bara brith
Beth yw’r ots am genedl brechdan
Paid a dirdynnu’th fron
Duw a’th waredo, Sara
Ni elli ddianc rhag ‘HON’.
Ymateb Sara Louise Wheeler:
Rwyf wrth fy modd a’r gerdd yma, a’r ffaith y cafodd ei hysbrydoli gan fy ngherdd i. Efallai af ati y nawr i geisio sgwennu cerdd newydd fel ymateb, gan ofyn am eglurhad pellach am frechdanau – Pam Benywaidd ac nid Gwrywaidd? A pam “Y bara hwn” (gwrywaidd) ac nid “Y bara hon” (benywaidd)? Pwy benderfynodd? Ac os yw’r bara yn wrywaidd, oni ddylid cenedl y frechdan dibynnu ar gydbwysedd cenedl weddill y cynhwysion? Er enghraifft: brechdan caws – gwrywaidd, brechdan letys a moron – benywaidd?
A oes system i weithio’r peth allan? Neu oes rhaid dysgu pob un trwy broses o ‘osmosis’?! Rwy’n cofio mai “O’r alaw hon” yw hi, gan allaf glywed llais swynol Meinir Gwilym wrth iddi ganu “Fin Nos” (o’r albwm “Dim Ond Clwydda”) ac fel graddedig yn y Gymraeg allem fod yn weddol hyderus fod Meinir yn gwybod ei stwff; ond beth am y sylwebyddion rygbi a chwynodd y pedant amdanynt (Yng nghylchgrawn Golwg sef ysbrydyoliaeth fy ngherdd) yn cam-dreiglo ‘Y linell’ (lle ddylent ddweud Y llinell?) Peryg i ni ddilyn yr esiamplau anghywir!
Ta beth, hoffwn i gynnwys eich llythyrau yn Y Clawdd felly anfonwch eich llythyrau a sylwadau at: clawdd@ysgolmorganllwyd.Wrexham.sch.uk