Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mehefin, 2017

“Mae’r ffin UDA-Mexico yn es una herida abierta (briw agored) lle mae’r trydydd byd yn crensian (grates) yn erbyn y cyntaf ac yn gwaedu. A cyn i’r briw magu crachen (scab) mae’n gwaedlifo (haemorrhages) eto, gyda gwaed-bywyd ddau fyd yn ymdoddi i ffurfio trydedd wlad – diwylliant gororau/ ffin” (Anzaldúa 2007, 25).

Dyma eiriau Gloria Anzaldúa, o’i llyfr enwog ‘Borderlands La Frontera: The New Mestiza’ (Mesitza = hetifeddiaeth-cymysg, yn enwedig dynes hefo hetifeddiaeth America-Lladinaidd). Hyd yn oed hefo fy nghyfieithiad gwan o’r Saesneg-Sbaeneg cymysg gwreiddiol, mae pŵer y frawddeg yn parhau i fod yn drawiadol, dwi’n meddwl. Mae’r ffin rhwng dwy wlad, sydd hefo ieithoedd a diwylliannau gwahanol, yn gallu fod yn lle heriol i fyw, yn enwedig lle bo un diwylliant yn gryfach o ran statws ac felly’n dominyddu’r llall. Serch hyn, mae diwylliant a hunaniaeth unigryw yn gallu ffurfio yn y gofod yma, sy’n cyfuno elfennau o’r ddau ochr, ac yn cael ei siapio gan y cyd-destun. Mae hyn wedyn yn rhywbeth werth ei archwilio a’i ddathlu.

Ddes ar draws gwaith Anzaldúa wrth baratoi at gynhadledd gymdeithasegol adeg  y Nadolig. Mae hi’n uniaethu a’r hunaniaeth o ‘Chicana’, sef fenyw o etifeddiaeth Mecsicanaidd. Cafodd ei gwaith ei thrafod yng nghyd-destun trawsieithu mewn cyd-destun bywyd pob dydd – sef wneud defnydd o fwy nag un iaith, gan ennyn fwy o ystyr a dealltwriaeth. Trwy ei barddoniaeth a thraethodau byr, mae Anzaldúa yn creu darlun o fywyd a hunaniaeth ei chymuned. Mae’r profiad yn cael ei wneud yn fwy dilys trwy ddefnydd tafodiaith cymysg yr ardal, gyda rhai cerddi, e.e. Nopalitos (tud. 134-135) yn cynnwys geirfa ar y diwedd er mwyn helpu i’r darllenydd sydd ddim yn siarad Sbaeneg, neu ddim yn gyfarwydd â’r ardal dan sylw, i ddeall yr hyn sydd yn cael ei thrafod.

Yn fy sleidiau ar gyfer y gynhadledd, mi wnes y cysylltiad hefo gwaith ein bardd ac awdur lleol, Aled Lewis Evans, gan ddyfynnu un o fy hoff gerddi ganddo, ‘Over the llestri’. Cerdd yw hon sy’n mewngapsiwleiddio’n berffaith tafodiaith coridorau Ysgol Morgan Llwyd yn y ‘90au pan oeddwn i ene. Ond yna, yn gynharach wythnos yma, mynychais y digwyddiad ‘Cip yn ôl’ yng Nghanolfan Catrin Finch ym mhrifysgol Glyndŵr, a sylweddolais cymaint oedd y tebygrwydd rhwng gwaith Aled a gwaith Gloria. Roeddwn wastad wedi bod yn ymwybodol fod yr ardal yn thema gref gan Aled. Ond wrth wrando arno yn adrodd cerddi mewn rhaglen gyfan o’i waith, a gwylio clipiau fideo o amrediad eang o’i waith, mi roedd y synnwyr o ‘lleoliad’ yn dod i’r amlwg yn glir. O ymddangosiad biniau-siarad dwyieithog yn yr ardal, i ddramâu traddodiadol a chyfoes, nid yn unig yr iaith Cymraeg oedd yno drwyddi draw, nag ychwaith y cysyniad o ‘Gymru’, ond bywyd ar y ffin, a’i dwyieithrwydd.

Mae yna agweddau cyfochrog i’r ddwy gymuned, ac mae gwaith y ddau awdur yn delio hefo materion difrifol, gan gynnwys gormes ac arglwyddiaeth. Mae yna hefyd wrth gwrs gwahaniaethau mawr mewn natur wleidyddol y ddwy ffin, gyda gormes yn fwy agored a difrifol ar y ffin UDA-Mexico hyd heddiw (ac yn enwedig yn y misoedd diweddar). Yn nodweddiadol o hyn, yn 2012, dau ddeg mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, cafodd ‘Borderlands’ ei gwahardd fel rhan o fudiad i wahardd astudiaethau Mecsicanaidd-Americanaidd yn Arizona. Yn ôl yn y DU, mae rhagfarn a barnau wrth-Gymraeg yn faterion llai agored dyddiau yma. Ond maent dal ene, o dan y wyneb, ac o bryd i’w gilydd byddem yn ddigon anffodus o’u gweld, clywed a’i theimlo. Serch hyn, mae  gwaith  Aled yn delio hefo’r materion yma gyda hiwmor bendigedig, gan chwarae’n ddireidus hefo geiriau a mynegiant yr ardal, a hyd yn oed hefo difaterwch rhai pobl tuag at dynged yr iaith. Heb os, mae ei waith wedi cael dylanwad mawr arna i, a hefyd ar lawer iawn o bobl eraill (roedd y digwyddiad ‘Cip yn ôl’ yn llawn dop o ffans!)

Diddorol iawn oedd mynd ati i geisio cyfieithu’r dyfyniad Saesneg-Sbaeneg uchod, gan sylweddoli’r fraint oedd gen i fel arfer wrth drawsieithu’n hawdd wrth ddarllen darnau o waith Cymraeg-Saesneg. Rwy’n cofio rhai misoedd yn ôl yn trafod, hefo myfyrwraig o Batagonia, y broblem o drio astudio trwy gyfrwng y Gymraeg os nad oeddech hefyd yn medru’r Saesneg. Problem ddiddorol, heb ddatrysiad amlwg a hawdd (gydag un hirdymor o fynd ati i greu adnoddau Cymraeg yn hytrach na disgwyl i bawb cyfieithu neu drawsieithu).

Diddorol hefyd, er trist, oedd sylweddoli fod fy ngeirfa Cymraeg braidd yn gyfyng ar rhai materion – fu raid i mi sbïo yn y geiriadur am scab, grates’, ac haemorrhages’, a hynny mewn dyfyniad mor fyr! Dysgais hefyd, am y tro cyntaf, mai ystyr y gair ‘gororau’ oedd ‘ffin’. Sylweddolais nad oeddwn erioed wedi deall ystyr y gair o’r blaen – hyd yn oed mewn cyd-destun ‘Sain y gororau’, sef ‘Marcher sound’. Yr wyf y nawr yn cymryd nad cael eu henwi er mwyn hawlio/ brolio mai nhw oedd hefo’r bandiau gorau oeddent! Beth bynnag, fel rhyw fath o gasgliad, wnâi ddweud fod bywyd ar y ffiniau, neu’r gororau, yn gymhleth, anesmwyth ond byth yn ddiflas – ac mae’n hyfryd gweld gwaith creadigol yn cael ei hysbrydoli ganddi ac yn ei adlewyrchu.

Read Full Post »