Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ionawr, 2014

Roedd hi’n chwarter i wyth ar fore dydd Sadwrn – ie, bore dydd Sadwrn! Roedd pump ohonom ni wedi ymgasglu o amgylch y bwrdd mewn stafell ddigon dymunol, a’r llenyddiaeth dan sylw oedd ‘Rheolau’r ffordd fawr’ (the highway code). Ie, dene ni, roedden ni gyd wedi cael ein dal yn ‘goryrru’ (speeding). Gair diddorol hwnna tydi, gyda llaw? ‘Over-driving’ fyswn ni wedi meddwl oedd ‘goryrru’,  tra roeddwn i wedi cyfieuthu ‘speeding’ fel ‘gyrru’n rhu cyflym’, ond ta waeth, dyna’r gair swyddogol am y drosedd roeddem ni’n euog ohoni.

Roeddem ni gyd wedi cyrraedd mewn da o bryd, i gyd yn teimlo rhywfaint yn wylaidd (sheepish) ac felly i gyd ene hefo meddwl agored ac yn barod i wrando, dysgu, ac i wneud yn iawn am ein camwedd (misdemeanor). Ond mi roedd yna broblem; roedd y pump ohonom wedi dewis gwneud y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, ac o ganlyniad roedd dau ohonom wedi trafaelio yn reit bell i’w mynychu – ond pan gyrhaeddom ni, daeth yn amlwg doedd neb wedi dweud wrth yr hyfforddwyr druan…a hwythau heb air o Gymraeg rhyngddyn nhw!

Chwarae teg i’r hyfforddwyr, mi wnaethon nhw drio ei gorau glas i gywiro’r sefyllfa, a oedd, be debyg wedi ei chreu gan nam technegol ar ryw algorithm cyfrifiadurol yn rhywle. Aethant ati i wneud sawl alwad ffôn ar ein rhan ni, ond roedd hi’n fore dydd Sadwrn, ac yn ddiwedd ddaeth hi’n amlwg nad oedd modd rhedeg y cwrs y diwrnod hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg. Wel, am bicil ynde?! Cawsom drafodaeth reit hir wedyn am beth ddylen ni ei wneud. Wedi’r cyfan, mi roeddem ni gyd wedi troseddi doedden?

Aeth y syniad trwy fy mhen mwy nag unwaith y dylwn i jest gwneud beth bynnag a ofynnwyd o honnaf er mwyn cael fy maddau am fy niffyg canolbwyntio enydol (momentary) – ger Prifysgol Glyndŵr gyda llaw – i gael gadael yr ystafell hefo llechfaen glân, gan addo i beidio byth goryrru eto. Ag eto, doedd hynna ddim cweit yn iawn chwaith nag oedd? Dim ots beth oeddem ni wedi ei wneud, roedd gennym ni’r hawl i gael ein cosbi a’n ail-addysgu trwy ba bynnag iaith (o’r ddau swyddogol yng Nghymru) yr oedden ni eisiau…yn doedden? Onid dyna bwrpas deddf yr iaith? Ag eto, beth oedd y manylion pwysig ynglŷn â’n hawliau yn y sefyllfa yma tybed?

Cawsom ni gyd ein dal gan gamerâu yng Nghymru ac felly cawsom ni gyd y cynnig o wneud y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Pan ffoniais innau i fwcio roeddwn reit swil am ofyn, gan sarsio nad oeddwn am greu ffwdan, dim ond os oedd hi’n gyfleus iddyn nhw ayyb; ond roedd yr hogan ar y ffôn yn hapus iawn i fwcio fi ar y cwrs Cymraeg. Ond pam, medde chwi…efallai braidd yn llidiog (outraged), fy mod i’n bihafio fel cymaint o lwfrgi? Wel cofiwch er fy mod yn frodor o Gymru, yr wyf bellach yn byw dros y ffin yng Nghilgwri. Ac er nad wyf yn arbenigwr ar ddeddf yr iaith, na’r ‘mesur’ ddaeth yn 2011 ychwaith, rwy’n gwybod nad yw’n estyn i ni alltudion ar bob cyfri (os o gwbl dweud y gwir). Rwy’n cofio pan ddaethon nhw o gwmpas hefo’r cyfrifiad (census) cefais fy siarsio fod rhaid i mi lenwi’r ffurflen Saesneg gan fy mod yn dewis byw yn Lloegr – neu byddaf yn cael fy nghosbi. Felly efallai roedd gen i’r hawl i ofyn am gwrs Gymraeg gan fy mod wedi troseddu yng Nghymru…ond efallai ddim oherwydd fy statws alltudol?

Poenais yn arw am be fysai’n digwydd pe bawn yn gwrthod gwneud y cwrs y bore Sadwrn hwnnw, trwy gyfrwng y Saesneg…roeddwn ar rew tenau fel oedd hi. Ac oke, cyfaddaf fod y syniad wedi cropian i’n meddwl fy mod wedi llusgo’n hun o’m wely clyd a gyrru pedwar deg munud, a bysai peidio wneud y cwrs bore hwnnw o leia’ yn golygu gorfod ail-wneud hyn rhywbryd arall, tra hefyd yn  creu risg i mi gael fy erlyn a chael tri phwynt ar fy nhrwydded glân-tan-rwan; oni fyddai’n doethach jest wneud y cwrs ‘ma heddiw, fynd ati i astudio am fy hawliau fel Cymraes-sort-of, ac yna wneud safiad dros yr iaith rhywbryd arall? Ond yn ddigon ysmala, mi roedd tri o’r mynychwyr eraill yn llawer iawn fwy ‘bolshie’ na fi, ac yn byw’n saff ar ochr cywir Clawdd Offa, ac felly y bu hi i’r cwrs cael ei hail-drefnu.

Rhai wythnosau wedyn felly, dyna le oedden ni eto, pump o Gymru Gymraeg – pedwar gwreiddiol ac un newydd tra oedd un o’r rhai gwreiddiol wedi optio wneud y cwrs rhywbryd arall trwy’r Saesneg. Roedd hi braidd yn ground-hogg-day-esque, yr un amser o’r bore, yr un ystafell ddymunol…ond y nawr yn ganol yr wythnos a phawb wedi gorfod cymryd diwrnod o wyliau o’r gwaith i fod ene, tsk! Roedd yr hyfforddwr yn sicr yn siarad Cymraeg tro yma a chawsom gwrs difyr iawn ddweud y gwir. Dysgais llawer iawn ar y cwrs ac rwy’n sicr fy mod yn llawer iawn ymwybodol o bwysigrwydd rheoli cyflymder rŵan; gwyliasom glip erchyll o ddamwain enfawr yn Swindon nôl yn y nawdegau a thrafodwn achos lle wnaeth goryrru chydig achosi marwolaeth hogyn ifanc mewn pentref, gan sidro’r effaith ar drigolion y pentref, gan gynnwys y troseddwr, wedi’r ddamwain.

I ddweud y gwir, mwynheais y cwrs yn fawr iawn ac yr wyf yn sicr y nawr yn mynd i fod yn fwy gofalus am gadw eitemau rhydd yn y cerbyd (gall hyd yn oed eitemau bach ysgafn ei lladd neu’ch anafu os ydych yn cael damwain ac maent yn hedfan tuag atoch yn gyflym). Ond mae’r hen fusnes hawliau dal yn fy mhoeni – heb sôn am yr argyfwng dirfodol mae hyn i gyd wedi ei hachosi i mi – pa mor ‘Gymraeg’ sy’n ddigon? Ydw i’n Gymraes neu nag ydw i?

Pan siaradais a’r hogan i aildrefnu roeddwn yn ofnus am adael hi’n rhu hir gan fod swydd newydd gen i ac nid oeddwn eisiau gorfod mynychu’r cwrs ar ôl i’r ‘gwaith cae’ (cyfweliadau) dechrau; sidrais wneud y cwrs yn Saesneg. Y sylw wnaeth y ferch oedd bod y bobl eraill y cwrs i gyd yn amlwg, iddi hi pan siaradai a nhw, yn Gymraeg iaith gyntaf…tra bod yn amlwg fy mod innau…erm…ddim? Dwi dal ddim yn sicr beth i ddweud am hyn, na sut i ymateb, ond rwy’n bron a sicr am un peth: nid y ffaith ei bod hi’n iaith gyntaf rhywun yw’r pwynt yn nage? Yr hawl sydd ganddynt, gan fod Cymru yn wlad ddwyieithog. Yn ôl y trafod o amgylch y bwrdd, mi roedd tri ohonom wedi cael chydig o ffwdan fel hyn wrth geisio ail drefnu. Ond y cwestiwn sy’n parhau yn fy meddwl yw: beth yw ein hawliau tybed – ac i ni alltudion yn arbennig?

Fel rhan o’m yrfa academaidd yr wyf wrthi’n ceisio llunio erthyglau i’w cyhoeddi mewn siwrnalau academaidd a hoffwn droi’r profiad yma’n erthygl os allaf – efallai i’r siwrnel ‘Qualitative Inquiry’ sy’n groeso ymchwil ‘hunan-ethnograffeg’ (auto-ethnography). Yn gyntaf, fodd bynnag, fydd raid i mi fynd ati i astudio’r rhan y mae deddf yr iaith yn chwarae yn hyn i gyd, yn enwedig fel alltud – diddorol, diddorol! Fwy am hyn mewn colofn ddilynol…

I ddarllen fy ngwaith llenyddol ewch i sbïo ar fy mlog/ wefan: http://www.saralouisewheeler.wordpress.com  neu os oes gennych sylwadau ar yr erthygl yma, e-bostiwch i: saralouisewheeler@googlemail.com

Read Full Post »