Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2010

             Yn ystod y misoedd diweddar ddes i ar draws gwaith ddwy artistwraig talentog, wedi eu hymgartrefi yng Ngheredigion, a wnaeth peri i mi ddechrau sidro’r syniad o ‘Nostalgia’ fel genre. Sôn wyf am y pethau hynny sy’n ennyn teimladau cynnes, cysurus o amser pan oedd bywyd yn fwy syml, naïf a hwylus. Pethau megis pentrefi pictiwrésg y gyfres deledu Midsomer Murder, cegin Hepzibah yn y nofel Carrie’s War a hyd yn oed gwrthrychau difywyd megis lampau Tiffany a chrochenwaith Portmeirion.

Y mae’r syniad o ‘Oes aur’ wedi ei chrybwyll mewn caneuon poblogaidd megis ‘Those were the days’ (Mary Hopkin) ag ‘Yesterday once more’ (The Carpenters), ac mewn brawddeg Obi Wan Kenobi (Star Wars), wrth iddo roi’r lightsaber i Luke am y tro cyntaf: Not as clumsy or random as a blaster; an elegant weapon for a more civilized age.”

Y mae’r teimladau ac emosiynau y mae’r ‘genre’ yma yn ei gwysio yn rymus ac mae enghreifftiau hanesyddol o ddefnydd anfad o ‘nostalgia’, er enghraifft addewidion y Nazis o adnewyddiad diwylliannol a chenedlaethol trwy draddodiadaeth ‘Völkisch’. Mae yna hefyd esiamplau diddorol o’r syniad ‘Oes aur’ fel ideoleg a glasbrint i fywyd, megis cymdeithasau ‘arwahanwyr’, megis yr Amish.

Mewn ffordd lai eithafol ella y mae cymunedau lleiafrifol eraill wedi ei dygyfor er mwyn diogelu ei diwylliant, megis ‘Ghost Dance’ yr Americanwyr brodorol, ac, i raddau, ni’r Gymru a’n ymrwymiad i warchodi’r Eisteddfodau, y traddodiad barddol a’n hiaith hyfryd, unigryw (ymgyrch y mae’r papur bro yn rhan bwysig ohoni!)

Yn fwy cyffredinol fodd bynnag, lle mae’r ‘genre o nostalgia’ yn trosgynnu’r celfyddydau, y mae’n fynedfa i necsws o gynefindra; dihangdod o’r presennol, cyfoes, caled ac yn gweithredu fel ‘chicken soup for the soul’. Y mae’r manylion bach yn bwysig i’w apêl, megis cofion annwyl o ffasiynau ac agweddau amheus y Saithdegau a welir yng nghyfres ‘Life on Mars’.

Wrth fynd ati i gysyniadoli’r erthygl yma, estynnais am fy ngeiriadur ‘Academi Gymreig’ ffyddlon i chwilio am air Gymraeg addas i’w ddefnyddio am ‘nostalgia’. Ond dyna siomedig oedd y cynnig, un gair yn unig – ‘hiraeth’.

            Er bod hiraeth yn air eang sy’n estyn ystyr i sawl cysyniad, nid oedd yn ffitio rywsut yr hyn oeddwn yn ceisio ei chyfleu. Wrth sgwrsio a fy nghyd-faeswyr ar maes-e.com wnaethom ddadansoddi’r defnydd cyffredinol o’r geiriau, gan gynnwys y ffaith fod yna elfen o dristwch i ‘hiraeth’ tra bod ‘nostalgia’ yn rhoi gwên ar yr wyneb a theimlad cynnes yn y fynwes gan greu’r teimlad – ‘doedden nhw’n ddyddiau da’. 

Yn ogystal, fuaswn i yn cynnig fod ‘Hiraeth’, gan amlaf, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio teimladau trist o rywbeth yr ydym wedi ei golli, neu yn sicr yr hyn yr ydym yn ei gofio o brofiadau ein hunain – rhywbeth yr oeddem unwaith yn rhan ohono. Ond mae ‘nostalgia’ yn cynnig fwy na hyn; defnyddir i gyfleu teimladau o gynefindra ac atyniad i bethau nad oeddent, o angenrheidrwydd, yn rhan o’n magwraeth, megis hynny a ddisgrifiwyd yng nghan ‘Rocky mountain high’  John Denver: “He was born in the summer of his 27th year, comin’ home to a place he’d never been before”.

Y mae hyn yn cyseinio a fy nheimladau innau am ‘Bugail Aberdyfi’ (John Ceiriog Hughes),  sy’n cychwyn a’r geiriau: ‘Mi geisiaf eto ganu cân, i’th gael di’n ôl, fy ngeneth lan, i’r gadair siglo ger y tân, ar fynydd Aberdyfi’. Nawr te, dydw i erioed wedi bod i Aberdyfi, na hyd yn oed wedi perchen cadair siglo ger y tân, ond rywsut mae’r geiriau yn fy nghyffwrdd gan ennyn syniadau o ‘cartref’. Yn sicr nid ‘hiraeth’ gonfensiynol yw hyn – ella gellir ei ddisgrifio fel rhyw hiraeth-eilaidd?

Daeth penbleth drosta i felly – ‘Hiraeth’, ‘Nostalgia’, ‘Coffâd’? Neu tybed a oes yma le i ni greu gair newydd? Cynigodd un ieithydd fues i’n ei holi y dylid cael cystadleuaeth yn yr Eisteddfod i greu geiriau newydd ar gyfer arlliwiau fel hyn. Sgwn i os gallwn gynnig hyn ar gyfer Eisteddfod Wrecsam 2011? Neu efallai fod yna ieithyddion ymysg darllenwyr Y Clawdd a fyddai’n gallu cynnig gair addas am ‘nostalgia’?

Eniwe, yn ôl at yr artistiaid o Geredigion. Y cyntaf oedd Valériane Leblond, Ffrances-gwebecaidd ifainc a symudodd i Gymru hefo’i chariad (Cymro) ac sydd yn creu celf unigryw gan bortreadu ‘yr hen fywyd’’ yng nghefn gwlad, megis y bythynnod nodweddiadol gwyngalch, a’r gwragedd yn ei bratiau yn hongian blancedi clytwaith ar y llinyn golchi. Yr wyf innau wrth fy modd a’i lluniau gyda’i henwau Cymraeg a naws hen-ffasiwn iddynt, megis ‘Gwyddau’ a ‘Gwres yr aelwyd’. Gellir gweld rhagor o’i gwaith, ynghyd a manylion o sut i’w mofyn, ar ei wefan:

http://www.valeriane-leblond.eu

Yr ail artist yw Mari Strachen, awdures newydd sydd wedi cyhoeddi llyfr gwych: The Earth Hums in B-Flat (Canongate). Y mae’r awdures graff yma wedi llwyddo i fewngapsiwleiddio bywyd mewn cymuned Gymraeg gan ei chyfleu i gynulleidfa eang trwy gyfrwng Saesneg. Y mae’n defnyddio enwau megis Guto’r Wern a Price the Dentist, sy’n ennyn cofion o Huw tŷ capel a John Jones Tŷ Pren  o Gwyn ei byd yr adar gwylltion (John Idris Owen). Wrth ddarllen y nofel cefais fy nghludo i’r pentref, cynefin, braf yn ystod y 50au, a ges i’r teimlad prin hynny, sy’n dŵad pan wyf yn mwynhau nofel yn arw, o ‘be wnâi pan mae’r llyfr yma wedi darfod?!’

Fodd bynnag y mae yna rywbeth dyfnach, tywyllach yma, wrth i’r stori ddatblygu i ddatgelu ochr anfad y pentref, gyda chyfrinachau, twyll, celwyddau a thrasiedi wedi ei blethu rhwng bywydau’r cymeriadau (mwy am hyn mewn erthygl gerllaw ar ‘genre’ y ‘Seedy underbelly’…dwi wrthi’n gweithio ar eiriau addas rŵan!)

Y mae Mari Strachen wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ei llyfr nesaf ‘Blow on a dead man’s embers’. Yr wyf innau ar flaen fy nghadair…siglo, o flaen yr Aga yn fy nghegin llechi, gyda phaned mewn mwg Portmeirion, dan olau’r ‘Tiffany lamp’ i gyfeiliant Poems, Prayer and Promises…yn aros am iddo ddod allan!

Hoffwn ddiolch i Valériane Leblond am roi caniatâd i ni ddefnyddio delweddau o’i chelf, ac i Mari Strachen am roi caniatâd i ni ddefnyddio lluniau ohoni hi a’i llyfr.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Chwefror 2010 (Rhifyn 137)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, February 2010 (Issue 137).

Read Full Post »