Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Rhagfyr, 2010

Fel pob un ohonoch mae’n siŵr, yr wyf yn falch iawn fod yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffordd i Wrecsam yr haf nesaf ‘ma. Rwy’n edrych ymlaen ati’n arw ac yn brysur yn cynllunio sut allaf fynychu cymaint ohoni ag sy’n bosib. Yr wyf hefyd wedi bod yn mwynhau mynychu, a darllen am, yr amryw weithgareddau cysylltiedig sy’n rhan o’r rhagarweiniad (neu ‘build up’ ynde!) Ond pan welais un atodiad e-bost yn gyntaf, doeddwn i ddim yn gwybod cweit beth i’w feddwl – “Eisteddfod y dafarn…yng nghlwb lager Wrecsam” (meddai’r poster) “Beth y Ddaear?” (meddyliais i fy nhun!) Yn amlwg fuasai hyn yn achlysur ‘chydig yn wahanol i’r ‘Genedlaethol’ a hefyd yr eisteddfodau lleol arferol (wedi ei chynnal fel ag y maen nhw mewn Capeli neu neuaddau pentref, gyda the, cacennau, a chystadlaethau canu i blant bach), ond, yn ôl y poster, mi roedd yna gystadlaethau llên ac felly es ati i synfyfyrio’r categorïau. Pan welais mai testun y gystadleuaeth ‘telyneg’ oedd ‘llygaid’ neidiodd fy nghalon braidd.

Cofiais yn ôl, yn hir, hir yn ôl, trwy’r niwl o flynyddoedd maith, nôl at 1996, pan oeddwn yn fy arddegau, dwy ar bymtheg oed i fod yn fanwl, pryd,  dan fantell o anobaith, mi ysgrifennais sylfaen cerdd lawn ‘teenage angst’ a thorri calon (a ganddi ffocws ar “Llygaid”). Ar ffurf telyneg oedd y gerdd, gan i mi lunio’r strwythur ar fy hoff gerdd ‘Y Pabi coch’ gan I.D.Hooson. Ar y pryd nid oedd gen i lawer o syniad am y sin llenyddiaeth Gymraeg na chystadlaethau llenyddol, ond mi roeddwn yn browd o’r gerdd ac mi roedd yn ymarferiad therapiwtig dros ben i mi drafod a mynegi fy nheimladau chwerw, ai gweld nhw’n glir ar bapur fel hyn. Y flwyddyn ganlynol fynychais yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf (i mi gofio eniwe), yn bennaf gan fy mod wedi trefnu fod yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am ‘Senedd i Gymru’, a hynny yn sgil y refferendwm ar gyfer Cynulliad. Mi roedd yn breswyliad tyngedfennol i mi mewn sawl ffordd; ces agoriad llygad yn nhermau gwleidyddol, ieithyddol, diwylliannol, llenyddol a dirfodol (…ond fwy am hyn rhyw bryd arall ella!)

O ganlyniad i’r preswyliad-i’r-eisteddfod, dechreuais gymryd sylw o’r agwedd lenyddol o’r eisteddfod (doedd e ddim ar fy ‘radar’ cyn hynny i ddweud y gwir!) Yna rhai blynyddoedd wedyn, roeddwn wrthi’n sidro beth i’w wneud wedi i’r flwyddyn sabothol olaf yn yr undeb myfyrwyr dod i ben yn yr haf. Nid oedd gwaith newydd yn galw a pan welais hysbyseb yn Y Cymro yn chwilio am bobl i weithio yn feithrinfa’r Eisteddfod, penderfynais gymryd mantais o’r bwlch yn fy amserlen, a mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto. Mi roedd yn 2003, a’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ‘Maldwyn a’r gororau’. Prynais lyfr ‘Rhestr testunau’ o flaen llaw a sbïais drwyddi ar y cystadlaethau a’i phynciau amryw; a oedd modd i minnau cystadlu tybed? (Gan fy mod yn mynd i fod ene eniwe!) Yna, ar dudalen 64, dyna le oedd categori’r ‘telyneg’ ar y thema ‘Llygaid’. “Diddorol” medde fi wrth fy hun. Sbïais ar y gerdd roeddwn wedi ei sgwennu ryw saith mlynedd ynghynt ac yna es ati i geisio ei ‘sprucio fynnu’ ‘chydig a chwaraeais a’r syniad o’i mentro…ond cefais drafferth deall y ffurflenni gais ac roeddwn yn ddiffyg hunan hyder yn fy ngwaith… “Ydy e hyd yn oed yn gerdd tybed?” Poenais, ac yna… “Dwi’n eithaf siŵr mai telyneg yw e, os mai cerdd yw e”. Fydd hi ddim llawer o syndod i chi glywed i mi beidio a’i fentro. Ond cedwais i hi ar y silff yn fy llyfr bach, wedi ei sgwennu’n daclus…a dyna le y bu hi, yn hel llwch, nes Mehefin 2010, pan welais y poster i’r ‘Eisteddfod y dafarn’.  Estynnais y llyfr bach o’r silff eto a sbïo ar y gerdd. Mi roedd hi’n amrwd, wedi ei sgwennu mewn Cymraeg syml, tafodieithol, naïf. Ond mi roedd gonestrwydd ene ac emosiwn yr oeddwn efallai wedi ei golli erbyn hyn, neu yn sicr y nawr yn ei guddio rhag cywilydd. Mentrais y gerdd, gan feddwl “Dim byd i golli nagoes?”

Cyrhaeddais yr eisteddfod-dafarn braidd yn fuan hefo fy nhad a ffeinio’n ni fwrdd ger y llwyfan, prynu diodydd a setlo mewn am noson o adloniant. Yna ddaeth yn glir fod yna ‘audience-participation’ agwedd i’r noson a, pryd allaf gredu’r peth – ella’r awyrgylch hwylus (neu ella’r ail lasiad o win gwyn tra’n aros i bawb arall gyrraedd, dwi ddim yn siŵr de) ond yn sydyn dyna le oeddwn i, ar y llwyfan gyda’r meic yn fy llaw, wedi cytuno canu o flaen pawb! Ond er fawr syndod i mi, fwynheais fy hun, a cherddais o’r llwyfan yn teimlo fatha Agnetha Fältskog! Cawsom noson gwerth chweil gyda sawl cystadleuaeth ardderchog a digri a’r noson yn llawn hwyl a chyfeillgarwch.

Yna ddaeth hi’n adeg beirniadu’r cystadlaethau llenyddol. Cyhoeddodd y beirniad, Aled Lewis Evans, mai fy ngherdd i oedd wedi ennill ac mi roedd am ei ddarllen allan gan ei fod mor dda. Roedd hyn yn ddigon o beth yn ei hun wrth gwrs, ond yna, wrth iddo ddarllen, clywais fy ngherdd yn iawn am y tro cyntaf. Daeth dristwch-melys drostaf; mi roedd y gerdd yn swndio’n llawer iawn gwell wrth gael ei yngan mewn Cymraeg cref, chyfoethog ardal Machynlleth y bardd adnabyddus lleol. Ac mi roedd e hefyd wedi deall naws ac emosiwn y gerdd ac wedi ei thrwytho a’r maint cywir o chwerwder a thristwch. Cefais fy hun yn gollwng dagrau o flaen pawb – o gofio’r teimladau o pan sgwennais y gerdd, ac am ennill fy nghystadleuaeth barddoniaeth gyntaf, ac am i’r gerdd fach yma, a fuodd ar y silff am mor hir, cael ei gwerthfawrogi o’r diwedd.

Y mae wedi rhoi hyder newydd i mi ac, er ei fod yn amrwd ac yn llawn gwallau difrifol mae’n siŵr, hoffwn ei rhannu a chwi yma, gan obeithio y byddech yn ei fwynhau. Er nad oes soundtrack amlwg yn mynd hefo’r golofn, sgwennais y gerdd mewn cyfnod lle fues yn gwrando ar ganeuon megis “The winner takes it all” gan ABBA ac “Every breath you take” gan Sting, a theimlaf fod y rhain yn cynnwys yr un naws tor calonus. Eniwe, dyma hi’r gerdd a chofiwch gellwch ddarllen/ lawr lwytho fwy o fy ngwaith, ynghyd a’r cyn colofnau Synfyfyrion llenyddol o fy ngwefan: http://www.saralouisewheeler.wordpress.com 

Mi ellwch hefyd ddod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau eraill sy’n ymwneud a’r Eisteddfod 2011 o’r wefan: <http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=346&gt; gan ddewis y ddolen ‘gweithgareddau lleol’ ar ochr chwith y sgrin.

Llygaid

Tyllau oer o aeaf cas,

crisialau creulon, llygaid glas,

caledu’n sydyn i guddio hen boen,

daw ias oer dros fy nghroen.

Cywilydd i mi fod mor ffôl,

disgwyl i ti ddod yn dy ôl,

mor annwyl oeddet ar yr adeg,

ond gwenwyneg yr wyt ti ychwaneg.

Wrth fy modd, a fy nghalon yn canu,

ond mae’r teimladau wedi diflannu,

wedi mynd y ddealltwriaeth,

cydymdeimlad wedi symud ymaith.

Dy edmygedd i mi wedi suddo,

a rŵan mi wyt ti yn fy rhybuddio,

‘Paid â siarad amdana i, nag i mi,

peth bach gwirion yr wyt ti’.

Fy siarsio nad wyt yn fy ngharu,

a dy fod ti wedi alaru,

allan o’m dyfnder a’r Gwyddel hynach,

mewn byd gwahanol a rheolau cymhleth.

Ond deall ddylet wedi gwneud,

merch ifanc wedi cyffroi gan ddweud,

wrth ffrind – ‘dwi ddim yn siŵr’ medd fi,

beth oedd yn digwydd rhyngot ti a fi.

Teimlad ofnadwy o gael fy mradu,

cywilydd am y cysylltiad ti’n gwadu,

patrwm poenus a ddilynais,

dros sawl un fel ti a wylais.

Ond hen yw’r hanes erbyn hyn,

gwella mae fy mywyd cryn,

ddysgais y wers yn ddigon plaen,

fod rhai fel tithau ddim gwerth y straen.

Cadwaf draw o rai fel chdithau,

sglein caled ar fy llygaid innau,

ag os welai eto’r llygaid glas,

fydd llygaid innau’n oer a chas.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Rhagfyr 2010 (Rhifyn 142)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, December 2010 (Issue 142).

Read Full Post »

Mae’r noson yn araf

Tic, toc, tic, toc.

Un o’r gloch, dau, tri –

a dyma fe’n cyrraedd;

awr yr anhapus

pan ni ddaw cwsg

waeth bynnag a wneir.

 

Ddaw’r blaidd ar amser

noson ar ôl noson

pob tro yn brydlon.

Tic, toc, tic toc.

Yr union awr pob noson

i fy mhoenydio’n gyson –

Mami blaidd, a’i tri fychan

yn crafu wrth ddrws

fy isymwybod.

 

Mewn cawell o dristwch

yn disgyn i’r tywyllwch.

Yna mae’n gwawrio

a daw cwsg dwfn

annaturiol

i gymylu’r ymennydd

trwy’r dydd

ar ôl deffro.

 

Tic, toc, tic, toc.

Pob munud yn boenus

trwy’r dydd, a’r nos.

Alla’i ddim dioddef

ddim ‘chwaneg.

Rhaid datrys

y drafferth

sy’n fy nghadw’n

y penbleth –

y cylch o ddioddef,

druenus, hyn.

 

Cafodd y gerdd yma ei hysgrifennu ar gyfer cyfrol Gaeaf 2010 (141) Taliesin ar y thema ‘Mathemateg’. Ni dderbyniwyd ac nid yw e wedi ei cyhoeddi ninlle arall/ This poem was written for the Winter 2010 (141) edition of Taliesin on the theme ‘Mathematics’. It was not accepted and it has not been published elsewhere.

Read Full Post »