Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Tachwedd, 2009

Yn creu, yn gweu, y geiriau’n delweddi,

ond yn ôl y beirniaid, nid ydynt yn gerddi –

sy’n canu, na’n dangos dealltwriaeth gan fardd,

ag o’r cylch breintiedig caf fy ngwahardd.

 

Fod fy ngwaith yn amrwd, nid oes amheuaeth,

a ni fydd yn llwyddo yn yr un gystadleuaeth,

ond i mi, o leiaf, maent yn llawer mwy siriol,

na ‘r cerddi a dyfarnir ei bod yn rhagorol.

 

Mae’r cerddi cyhoeddedig sy’n canu i chi,

Yn anffodus yn ddiflas ac yn ddirgelwch i mi.

Delwedd ni ddaw, dim ond geiriau mydryddol,

Wedi ei gosod yn fedrus mewn siâp arddulliadol.

 

Efallai mai anwybodaeth o’r grefft o farddoniaeth,

Sy’n rhannol gyfrifol am fy niffyg dealltwriaeth,

Ond yn wir i chi dyna yw’r profiad cyffredin,

Gan na hastudiwyd mynegiant ymysg fy nghynefin.

 

Ac felly rwy’n sidro fod gwell i mi beidio,

Newid fy steil rhag i mi niweidio,

yr hyn sy’n arbennig i’m waith wyddost ti,

y cerddi pob dydd sydd yn bleser i mi.

 

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn ‘Tu Chwith’ (Cyfrol 30, Thema: ‘Na!’)/ Originally published in the journal ‘Tu Chwith’ (Issue 30, Theme: No!)

Read Full Post »

Yng nghysgod yr eglwysi,

uwchben y fferyllfa,

rwy’n brysur yn gwastraffu fy mywyd.

Rhannu’r diwrnod hefo’r sŵn a’r mwg,

bodoli am ddeng mlynedd.

Daw’r teitl diystyr ‘dim-wyth’ i’m plith,

offer adeiladu a’r siang-di-fang;

anrhydeddu’r meddwon-penwythnosol,

a’r strydoedd drewllyd yn ei sgil.

Fuont wrthi’n paratoi cofia,

canolfannau siopa crand ag ‘apartments’ iypiaidd;

piti nad oes neb i’w lenwi,

 nag i dalu’r prisiau Llundeinaidd.

“Ys gwn i pam nad yw’r graddedigion yn aros?” meddent,

 ia – ys gwn i wir!

Fuont wrthi hefyd yn ‘achub’ difrod Banksy,

y gath a’r llinellau hyll yn ‘celf’,

yn ôl rheini sy’n byw mewn cymdogaethau parchus,

 a ddim yn gorfod rhannu stryd.

Mae’r porth lliwgar yn Nhref-Tsieina,

yn cynnig testun siarad diwylliannol cyfleus;

ffotograffau deniadol i’r twristiaid,

ond ni welwch wynebau Tsieineaidd,

ymysg ddathliad ddawns y ddraig.

Y gymuned ymdeithwyr a’i hanwybyddwyd,

nes y chwiw ‘ddathlu-diwylliant’ ffug;

a gyda hyn yr ymddiheuriad hwyr,

am erchyllterau’r llosgaberth Affricanaidd.

Y ddinas lle na ddaeth y ‘steddfod,

er cof am frad Tryweryn;

mae’r Braddocks wedi hen ddiflannu,

ond ni chawsom eto ein cofeb cerflun.

Cymhleth fu’r perthynas rhyngom,

 a fuodd son am ymddiheuriad,

piti fod e’n ddiffyg dilysrwydd,

a mantais wleidyddol oedd ei phrif nod.

Yn wir y mae yna ddiwylliant unigryw,

yn fyw ar lannau’r Mersi;

Hiwmor ysmala a thafodiaith hwylus,

pwyslais ar gymuned a phwysigrwydd charedigrwydd.

Ond ni fuodd y rhain yn rhan o’r llinyn mesur penderfynol,

Nag yn rhan o’r ‘masterplan’;

ail-fowldio’r ddinas yn ddelw’r teitl tra chwenychedig,

cyfalafu diwylliant a’i newid – er gwell?

Siŵr na welodd y beirniaid ffiniau’r ddinas,

lle mae tlodi’n aruthrol a’r felan yn codi.

Yn fan hyn o leiaf, mae’r trigolion yn saff,

rhag crafangau’r statws flwyddyn.

Yma mi fydd pob dim fel ag oedd hi,

trwy ffars ‘ddim-wyth’, ag tu hwnt.

 

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn ‘Tu Chwith’ (Cyfrol 29, Thema: ‘Dinas’)/ Originally published in the journal ‘Tu Chwith’ (Issue 29, Theme: ‘City’).

Read Full Post »

Bu ffwdan yn Y Grapes nos Sadwrn:

“Dim ‘smygu yn y mangre” meddai’r tafarnwr – “Pardwn?”

“Ers Awst yr eilfed, chi heb ‘di clywed?”

“naddo” meddent, gan gymryd llymed.

 

“Sigaréts a baco, wedi ei banio,

anghyfreithlon bellach i chi ei danio”.

Smocwr sigaréts yn dal ei focs yn syn,

bacwr yn gwgu gan fodio’i dun.

 

“Dim ysmygu yn y mangre?

Rargor fydd y lle ‘ma’n wagle!

Fydd y ‘smygwyr i gyd yn cadw draw…”

“Lol botes, gânt nhw fynd i’r glaw.”

 

Rhai’n cwyno na allent ddallt yr arwydd,

gan nad yw mangre yn air cyfarwydd,

William Morgan ai fêts, medde nhw,

oedd dwytha’ i ddefnyddio’r hen air cw.

 

Ond mae’r rheol wedi ei basio,

a dyna ddiwedd ar y ffagio,

pob tafarn, bwyty a man cyhoeddus

pob mangre y nawr yn lle mwy iachus.

 

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn ‘Tu Chwith’ (Cyfrol 27, Thema: ‘Newid’), o dan y teitl golygyddol: Anadlu’n Iach/ Originally published in the journal ‘Tu Chwith’ (Issue 27, Theme: ‘Change’) under the edited title: Anadlu’n Iach)

Read Full Post »

Yr oeddwn wrthi’n astudio Llenyddiaeth Saesneg ar gyfer lefel A pan ges i fy swyno’n gyntaf gan waith yr awdures Jean Rhys, a hynny trwy ei llyfr enwocaf: Wide Sargasso Sea. Er mawr syndod i mi yr oedd y nofel yma, a chafodd ei chyflwyno i ni fel ‘ffan-ffictiwn’ i Jane Eyre, yn cydio yn y dychymyg o’r llinell gyntaf. Yr oedd yn egsotig a chyffroes, a chyda golygfa poenydied meddyliol megis poenydied corfforol Bond yn Casino Royale, mi roedd hi’n llawer iawn fwy dilys a diddorol na nofel Charlotte Brontë!

Y mae Wide Sargasso Sea yn cynnig hanes posib y Mrs.Rochester cyntaf, sef Bertha Mason, cyn i ni ei chwrdd â hi yn ganol y nofel Jane Eyre. Y mae’r stori yn cychwyn gan adrodd ei hanes yn ferch greolaidd ifainc a magwyd yn Jamaica yn yr 1830au. Y mae’n gyfnod o ansicrwydd a thrafferthion i’r gwladychwyr gwynion a oedd yn berchen ystadau mawr crand tra bod y boblogaeth frodorol, dduon yn byw mewn tlodi. Y mae hi’n cwrdd â’r Edward Rochester ifainc ac, mewn penderfyniad tyngedfennol, annoeth, y mae hi’n cytuno i’w briodi. Mae’r stori wedyn yn dilyn ei chymyniad yn nwylo Rochester. Wedi iddo ddysgu am ‘wallgofrwydd’ ei mam mae’n ei thrin yn greulon a dirmygus, cyn ei llusgo yn ôl i Loegr a’i chloi yn yr atig ym Mhlas Thornfield. Mae’n ei gosod dan ofal Grace Poole ar sail y ffaith fod hi ei hun yn ‘wallgof’. Y mae’r diweddglo’n tryfalu’n berffaith a’r adroddiad yn Jane Eyre o’i marwolaeth yn y tân yn Thornfield.

Mae’r stori’n arsylwad craff sy’n ystyried natur oddrychol ‘gwallgofrwydd’. Fel ‘gwladychiaethwr’ ei hun, wedi ei magu yn Nominica, roedd Jean Rhys yn teimlo’n gryf fod portread Charlotte Brontë o’r wraig greolaidd yn un annheg, rhagfarnllyd ac unochrog. Aeth ati felly, yn seiliedig ar ei phrofiadau ac atgofion ei hun, i gyflwyno portread gwrthrychol o ferch ifanc ddiniwed, a chafodd ei ymelwa a’i yrru’n benwan gan amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth. Athrylith y gwaith yw’r newid persbectif sy’n deillio o switsio naratif rhwng Antoinette (enw genedigol Bertha yn ôl y stori) ac Edward Rochester. Yn ddiddorol iawn, yn ôl geiriau Jean ei hun mewn llythyr i ffrind, ddaeth yr ysbrydoliaeth i’r arddull yma o’r ffaith ei bod hithau a’i chyn-gŵr, Jean Lenglet, wedi ysgrifennu hanesion unigol o’i hysgariad, sef: ‘Quartet’ a ‘Barred’, yn ôl ei threfn.

Mwynheais y stori’n arw a pharhaodd y darlun yn glir yn fy nghof wedi i mi darfod ysgol. Yna, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, a finnau adre un diwrnod yn rhu sâl i fynd i fy ngwaith, dyma fi’n chwilio’r silff lyfrau am rywbeth i’w ddarllen gan estyn am ‘Wide Sargasso Sea’. Wrth ddarllen y rhagymadrodd, sylweddolais am y tro cyntaf mai o dras Cymraeg oedd Jean Rhys. Creolaidd oedd ei mam, o dras Albanaidd, wedi ei eni yn y ‘West Indies’ i deulu oedd wedi byw ene am sawl cenhedlaeth. Mi roedd ei thad, Dr Rees Williams, yn feddyg o Gyffylliog, Sir Ddinbych, lle fuodd ei thaid,  William Rees Williams, yn rheithor am 26 mlynedd.

Wedi ail ddarllen Wide Sargasso Sea a’i fwynhau yn arw, es ati i ddarllen un o’i llyfrau eraill adnabyddus sef Goodmorning Midnight. Wrth i mi ddarllen y llif ymwybod llwm yma mi ges i epiffani iasol, megis disgrifiad Lori Lieberman o glywed Don McLean am y tro cyntaf. Cytras a Lieberman teimlais fod yr awdures yma, a fu farw ym mlwyddyn fy ngenedigaeth (1979), yn fy “killing me softly with her words” gan amlygu fy nheimladau a chyfrinachau i bawb ei barnu. Yr oedd Jean yn falch iawn o’i dras Cymraeg a’i hunaniaeth gymysg ac mae sawl cyfeiriad at hyn yn ei llyfrau a straeon byr, gan gynnwys enwau ei chymeriadau a sylwebyddion am agweddau a bihafied ‘Saeson’. Yr oedd yn dioddef o flinder parhaol, ysbrydol a chorfforol, ond, yn ôl yr awdur Francis Wyndham, ni rwystrodd hyn arni’n mwynhau ei hun; mi roedd hi’n ffrind hynod a oedd yn gwerthfawrogi pleserau bach bywyd megis hen alaw neu goctel perffaith. Yr oedd yn synfyfyrwraig, wedi perffeithio’r ‘Melys Wylo’ a ddisgrifiwyd gan y bardd ‘Crwys’, ac mi roedd hi’n alltud; yn Nominica, yn Lloegr, yng Nghrymu ac ym Mharis. Y mae’r storïau sydd wedi ei lleoli ym Mharis yn crybwyll perthynas caru-casau a’r ddinas ac mi gydseiniodd hyn a fy nheimladau innau o fyw yn Lerpwl am ddeng mlynedd.

Gyda fy nychymyg wedi ei effro, es ati i ddarllen pob dim a sgwennodd hi erioed ac yna i bori’r we am ragor o fanylion amdani. Dysgais iddi gael ei eni’n Ella Gwendoline Rees Williams yn 1890 yn Roseau, Dominica, gan symud i Loegr yn un-ar-bymtheg oed lle fynychodd ysgol i enethod ac yna’r ‘Academy of Dramatic Art’. Wedi marwolaeth ei thad nid oedd pres ganddi i astudio a fuodd yn bwhwman o swydd i swydd, gan weithio fel côr-ferch, mannequin a model arlunydd. Chafodd carwriaeth drychinebus ac yna chyfnod o iselder ysbryd a dibyniaeth ariannol ar ei chyn cariad, yna priododd Jean Lenglet, chansonnier a newyddiadurwr Iseldireg a symudon nhw i Baris. Yn 1923 cafodd Lenglet ei arestio ac aeth Ella i fyw hefo Ford Madox Ford (nofelydd a chyhoeddwr adnabyddus) a’i gariad Stella Bowen. Tra bu’n byw hefo nhw, ddechreuodd ysgrifennu a chafodd ei stori fer gyntaf, Vienne,  ei chyhoeddi gan Ford yn ei gylchgrawn The Transatlantic Review, o dan y nome de plume ‘Jean Rhys’ a ddyfeisiwyd iddi gan Ford. Yma hefyd y cafodd ei rhwydo i fénage à trois boenus hefo Ford a Stella, a chwalodd ei phriodas hefo Lenglet o ganlyniad. Pum mlynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Jean y nofel Quartet yn ffuglenoli y perthynas bisâr yma.

Aeth ymlaen i gyhoeddi tair nofel arall sef: After Leaving Mr Mackenzie, Voyage in the Dark a Good Morning Midnight. Mae pob un wedi ei hysgrifennu mewn steil diamser, gyda thameidiau o Gymreictod trwyddynt, ac yn cludo’r darllenwr i fydoedd ei chymeriadau. Mi roedd yn Carrie Bradshaw ei chyfnod, yn trafod rhywioldeb, perthnasoedd a dirfodaeth fenywaidd gyda didwylledd ac eglurder brawychus. Cafodd ei gwaith cynnar ei werthfawrogi gan leiafrif gwahaniaethol, ond ni ddaeth a’r llwyddiant na’r sicrwydd ariannol a hiraethodd amdanynt; ella oherwydd nad oedd y byd cweit yn barod am Sex and the City. Ddisgynnodd o’r golwg am bron i ugain mlynedd nes iddi ffeindio cydnabyddiaeth o’r diwedd yn 1966 gyda Wide Sargasso Sea a enillodd y ‘Royal Society of Literature Award’ a’r W.H.Smith Award. A hithau’n 76 mlwydd oed erbyn hyn, ei hunig sylw ar y gwobrwyon oedd: “It has come too late”. Teimlais dristwch ychwanegol am hyn wrth ddarllen y llyfr ‘Jean Rhys Letters 1931 – 1966’ a sylweddoli fod ganddi’r sylfaen am stori Mrs. Rochester ers y 1940au ac roedd felly ar y gweill ganddi am dros i ugain mlynedd. Cafodd ei rhwystro rhag ei chwblhau yn gynt, fodd bynnag, gan aflwydd a thlodi, gan gynnwys gorfod symud yn aml rhwng tai afler wedi ei rhentu dros dro a marwolaeth ei ail a thrydydd ŵyr sef Leslie Tilden Smith a Max Hamer. Er iddi ennill clod a ffawd am Wide Sargasso Sea, a chyhoeddodd nifer o straeon byr yn ei sgil, nid yw ei henw mor gyfarwydd inni heddiw ag y mae rhai o’i chyfoeswyr, megis D.H.Lawrence, ac y mae llawer o’i gwaith yn parhau i fod allan o brint ag yn anodd ei mofyn.

Fu i Jean Rhys farw ar 14eg o fis Mai, 1979, yn 84 oed ar ôl byw rhan helaeth o’i bywyd mewn tlodi a dinodedd. Y nawr, 30 mlynedd ar ôl iddi farw, teimlaf ei bod yn weddus i dalu teyrnged i’r Gymraes unigryw yma a llwyddodd, er gwaethaf pob rhwystr, i greu llenyddiaeth ryfeddol sydd mor ffres a pherthnasol heddiw a phan wnaeth hi ei sgwennu.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Hydref 2009 (Rhifyn 135)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, October 2009(Issue 135).

Read Full Post »

“Alltud yw’r Cymro sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru

            Yn strydoedd a siopau Seisnigaidd, sidét y dre,

            Mae bron mor hen-ffasiwn heddiw a sucan a llymru, –

            Rhyw anachronistiaeth ac odrwydd i bawb yw efe.”

Gyda’r cwynfan yma y dechreuodd y bardd W. Leslie Richards ei soned “Alltud”, sy’n trafod stad y Cymry Cymraeg yn ei gwlad ei hunain. Rwy’n cofio pan astudiais y gerdd ar gyfer T.G.A.U i mi rhyfeddu ar graffter yr arsylliad yma am y ffenomen hon a oedd yn amlycach byth i ninnau yn byw mewn Tref ar y ffin. Yn wir yr oeddwn wastad wedi bod yn ymwybodol fy mod o gymuned leiafrifol ac arbennig, o ran iaith a diwydiant beth bynnag. Ni ddisgwyliais felly y byddwn yn sylwi llawer o wahaniaeth pan groesais y ffin i astudio gradd ym Mhrifysgol John Moores yn ninas Lerpwl; ond mi ges i sioc!

Fel Sting yn ei gan enwog “Englishman in New York” roedd hi fel pe bawn yn “ei chymryd hi pob man y cerddwn”, er nad oedd yn amlwg wrth edrych arnaf (oni bai fy mod yn gwisgo crys rygbi Cymru!) Ges i amser caled yn addasu i fyw yn y ddinas fawr ond mi lwyddais ddygymod a’r trawsnewid ac yno y bues yn astudio ac yn gweithio am ddeng mlynedd, hyd nes flwyddyn y dathliad broc “Capital of culture – ‘08”.

Drist iawn oedd sylweddoli, ar ôl graddio a mynd ati i chwilio am waith, fy mod wedi trawsffurfio i fod yn Alltud-Zenaidd. Roeddwn y nawr hefyd yn teimlo’n alltud o’r gymuned Gymreig – yn cael hi’n anodd siarad Cymraeg gweddus, heb sôn am ei hysgrifennu, ac roeddwn yn hollol ‘out of touch’ a’r diwydiant Cymreig. Es ati felly i ddarllen nofelau Cymraeg, mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol, treulio amser yn Llangollen (lle mae fy rhieni bellach yn byw) ac i ‘siarad’ Cymraeg yn y byd-cyber.

Ar ddechrau’r flwyddyn, a finnau’n nawr yn 30, cychwynnais bennod newydd yn fy mywyd, gan symud o’r ddinas i Gilgwri (Wirral) a dechrau ar fy ngwaith newydd fel ymchwilydd ar astudiaeth Clefyd Siwgr ym Mhrifysgol Caer. Yn ddigon ysmala, er fy mod yn dal i fyw a gweithio yn Lloegr, rwy’n teimlo fy mod yn preswylio byd sy’n pontio’r ffin. Rwy’n cael S4C a’r sianelau Cymraeg i gyd ac rwy’n mynd i gerdded ar hyd Parkgate, gan edrych allan ar Gymru ar ochr arall i’r foryd. Ac o’m hamgylch pob dydd y mae tameidiau o Gymreictod – bara brith yn Gerrard’s y dre, enwau tai Cymraeg, ac acenion Cymreigaidd o gwmpas pob cornel.

Tair blynedd yn ôl, ganed fy nith, Christina. Y mae hithau’n byw yn Runcorn ac yr wyf wrth fy modd a fy rôl newydd fel “Dodo”. Yn sgil hyn yr wyf wedi bod wrthi yn dysgu iddi, a gyda hi, am yr iaith a’r diwydiant bendigedig sydd yn rhan o’m hetifeddiaeth. Fy ngobaith am y dyfodol yw y bydd y ddau ohonom yn teimlo’n hyderus ac esmwyth am ein perthynas a’r gymuned Gymraeg.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn y golofn: Alltudion Wrecsam, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawddd, Gorffenaf 2009 (Rhifyn 134)/ Originally published in the column: Alltudion Wrecsam (Exiles of Wrecsam), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, July 2009 (Issue 134).

Read Full Post »