Fel sawl un ohonoch mae’n siŵr, does dim byd gwell gennyf ar ddiwedd wythnos flinedig na gwrando ar ychydig o gerddoriaeth, efallai dros glasiad o win, gan sidro “tybed beth oedd ar feddwl y cerddor pan sgwennon nhw hyn?” Gwaetha’r modd y mae fwy a fwy o ganeuon cyfoes dyddiau yma yn tueddu i gael llai o stori fel man cychwyn, wedi ei gynhyrchu fel ag y maen nhw gan mogwlau y sin pop i’w canu gan bobl uber-ifainc, deniadol mewn gwisgoedd ffasiynol at gyfeiliant sydd wedi ei syntheseiddio’n slic ond heb lawer o deimlad nag ystyr. Ahem, eniwe…Mae yna dal ddigonedd o ganeuon cyfoes fodd bynnag sydd yn amlwg yn meddu ar stori ddifyr, sydd un ai’n bersonol i’r cerddor neu yn hytrach yn rhyw fath o naratif, ac yr wyf wedi treulio oriau hwylus dros y blynyddoedd yn ceisio dehongli telynegion dirgel.
Un o fy hoff ganeuon er enghraifft yw “If you tolerate this your children will be next” gan y Manic Street Preachers. Cafodd ei rhyddhau nôl yn 1998, y flwyddyn symudais i Lerpwl er mwyn astudio fy ngradd, ac er nad oeddwn rili yn deall am beth oeddent yn son, mi oeddwn wedi gwneud hi ar delynegion anghyffredin, yn enwedig y llinell: “so if I can shoot rabbits then I can shoot fascists”. Nawr te, nid oedd y we nôl yn y nawdegau cweit beth yw hi heddiw, felly pan es ati ar y pryd i bori’r we am ystyr y geiriau ni chefais lawer ymhellach na’r ffaith fod y grŵp wedi ei dylanwadu gan The Clash, a bod y cân yma wedi ei hysbrydoli gan y cân Spanish bombs. Ond dyddiau yma wrth gwrs mae gennym ni wikipedia a bloggiau i’n helpu, a hefyd mae llawer o gylchgronau a phapurau newydd yn cyhoeddi ei chynnwys ar y we. Felly wrth fynd ati i wneud y gwaith ymchwil i’r erthygl yma mi ddes o hyd i lawer o ffeithiau newydd am y cân ei hun a hefyd am y digwyddiadau a phobl gysylltiedig.
Yn ôl wikipedia, thema’r gân yw’r rhyfel cartref Sbaenaidd a delfrydiaeth y gwirfoddolwyr Cymraeg fuodd yn ymuno a’r ‘International Brigades’ i ymladd milwyr Franco nôl yn y tridegau. Daeth y teitl o un o’r posteri gweriniaethol lle ddefnyddiwyd ffotograff o blentyn wedi ei lladd gan fomiau’r cenedlaetholwyr i gyfleu’r rhybudd di-flewyn ar dafod. Ysbrydolwyd y llinell am saethu cwningod a ffasgwyr gan sylw un milwr Cymraeg wrth iddo ymuno a’r gweriniaethwyr, ac mi gafodd hyn ei dyfynnu’n wreiddiol yn llyfr Hywel Francis “Miners Against Fascism”. Mae hyn i gyd yn ddiddorol dros ben, ond mae dal cwestiynau gennyf, er enghraifft: pam fod “monuments put from pen to paper” yn mynd i droi’r adroddwr yn “gutless wonder”? A beth yn union yw ystyr y llinell: “Holes in your head today/ but I’m a pacifict”? Mae’n debyg gyda mwy o waith ymchwil ar y pwnc fuaswn yn gallu cynnig dyfaliadau, ond dim ond sgwenwr y telynegion fyddai’n gallu datgelu eu gwir ystyr.
Fel graddedig Hanes a Chymdeithaseg, y mae cywilydd gen i gyfaddef nad oedd lawer o ymwybyddiaeth gen i ynglŷn â’r rhyfel cartref Sbaenaidd, a llai fyth am ymglymiad y Gymru ynddi. Fodd bynnag, pan es ati i drafod y mater hefo fy nhad ymddangosai fod llawer o’r Gymru wedi ymuno a’r gweriniaethwyr, gan gynnwys pobl leol i’r ardal; y mae hanes un milwr ifanc, o ardal Rhosllannerchrugog, wedi ei chofnodi ar wefan Gogledd-ddwyrain y BBC, sef hanes ‘Twm Sbaen’.
Yn ôl gwefan y BBC, mi roedd ‘Twm Sbaen’, aka Tom Jones o Market Street, Rhosllannerchrugog, yn un o’r sawl gwirfoddolwr Cymraeg a fuodd yn filwr yn yr ‘International Brigade’ adeg y rhyfel cartref Sbaenaidd. Cafodd ei gipio yn ystod y frwydr waedlyd yn 1938 ac, fel yr unig filwr o’i bataliwn i bara’n fyw, cafodd ei garcharu yn Zaragoza ac yna yn Burgos sef pencadlys Franco. Yn 1940 dychwelodd i’w pentref yma yng Ngogledd Ddwyrain lle ddysgodd nid yn unig fod ei rieni wedi marw, ond ei bod nhw wedi derbyn llythyr cyn iddynt farw, yn ei hysbysu’n anghywir fod Twm wedi ei lladd ar bridd Sbaenaidd yn ystod y rhyfel. Stori drist iawn, ac eto’n un swynol a diddorol i’w gofio sy’n mewngapsiwleiddio dewrder dynion ifainc y cyfnod yn sgil ei argyhoeddiadau. Ac mae hyn, ynghyd a neges cân y ‘Manics’, yn parhau i fod yn berthnasol i ni hyd heddiw.
Nawr te, mae’n debyg y bydd darllenwyr rheolaidd y golofn wedi hen arfer erbyn hyn arnaf yn mynd allan ar dangiad cyn cyrraedd pwynt yr erthygl, ac felly y byddwch wrthi’n darllen yn amyneddgar, yn disgwyl i mi esbonio sut y mae’r rwdlan yma am y rhyfel cartref Sbaenaidd yn berthnasol i’r digwyddiadau yn y babell len wythnos y ‘steddfod. Wel, yn ystod y misoedd diweddaf cefais y fraint o gael fod yn aelod o’r ‘Is-bwyllgor Llenyddiaeth’ i’r Eisteddfod ‘cw, ac felly’r cyfle cyffroes o fod yn rhan o’r broses i lunio’r rhaglen ar gyfer wythnos yr Eisteddfod yn y babell len. Yn amlwg ni allaf ddatgelu ormod o fanylion cyfrinachol, ond medraf eich sicrhau fod gennym wythnos fendigedig wedi ei pharatoi ar eich cyfer, gyda rhywbeth at bob dant – o’r deallusyn i’r fwy ysgafn a llaes; ar fy llw, cewch hwyl ac wythnos i’w gofio os ddewch draw i’r babell len blwyddyn yma.
Un o’r slotiau newydd yw’r “Stori tu ôl i’r gân” (pnawn dydd Iau) lle fydd pedwar canwr o’r sin cerddoriaeth Gymraeg yn datgelu’r straeon wrth wraidd un o’i chaneuon pob un. Wrth gwrs y mae hyn yn ddigon cyffroes ynddo’i hun, yn enwedig i fi gan fy mod yn gwybod pwy ydyn nhw’n barod (ond dwi’n cadw’n shdwm ar hyn, ‘sboilers’ ynde!) Ond ar ben hyn i gyd, a prin allaf goelio fy lwc, mi rwyf innau â’r anrhydedd o gael cyflwyno’r canwyr i’r llwyfan…yn y babell len ei hun…ew fysa Nain wedi bod mor browd ohonnaf!! Fel y gellwch ddychmygu, rwyf wrth fy modd ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fy ‘début’ i’r sin-llenyddiaeth-Gymraeg! Rwyf wrthi’n gwneud y gwaith ymchwil iddo rŵan, yn ogystal a sidro’r mater difrifol o beth i’w wisgo…dwi’n credu dwi di setlo ar y ffrog ‘50’s’ hefo’r esgidiau pinc ‘peep-toe’ a bag-llaw i gyd-fynd…ond fydd hi’n dibynnu ar sut fydd y tywydd ar y diwrnod ynde!
Eniwe, os ydych am gymryd mantais o’r cyfle prin i glywed canwyr yn trafod ei thelynegion yn hael ac yn agored, neu os ydych am fy nghefnogi wrth i mi wneud fy ‘début’, dewch draw i’r babell len pnawn dydd Iau. Yn ogystal, mae yna llawer iawn o ddigwyddiadau diddorol yn y babell len trwy gydol yr wythnos, a does dim ots os nad ydych wedi mynychu’r babell o’r blaen na chwaith os nad ydych yn ‘llenyddiaeth-buff’, mae croeso cynnes i bawb, felly dewch draw am ‘chydig o hwyl a sbri; am ragor o wybodaeth ewch at wefan yr eisteddfod: <http://www.eisteddfod.org.uk/> , prynwch raglen, neu jest piciwch draw i’r babell i weld beth sy’n mynd ymlaen…a welai chi ene!
Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd, Gorffennaf 2011 (Rhifyn 146)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, July 2011 (Issue 146).