Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Tachwedd, 2016

Rwy’n eistedd yn dderbynfa’r gwesty ym Maldives, yn darllen fy e-byst trwy’r IPad. Dwi’n ei sganio nhw ar frys oherwydd dwi newydd dalu $10 am awr o Wifi ac rydym wedi gwario hanner o hynna yn barod, yn synnu ar y newyddion am Frexit! Dyna pryd gwelais yr e-bost gan Chris, golygydd y Clawdd, yn dweud ei fod wrthi’n gosod rhifyn Gorffennaf er mwyn ei anfon at yr argraffwyr nos yfory, felly os hoffem gynnwys rhywbeth dylwn ei hanfon ato erbyn bore yfory. Roedd yr e-bost wedi ei hanfon ar y 4ydd o Orffennaf ac mi roedd hi yn nawr y 7fed o Orffennaf – roeddwn wedi methu’r diwrnod cau gan ddau ddiwrnod. Felly hyd yn oed os fedraf gyrraedd cyfrifiadur, a sgwennu colofn wych – ni fyddai’r rhifyn yma o’r Clawdd yn cynnwys fy ngholofn. Teimlais yn syn, yn anfodlon, yn siomedig, ac roedd gen i gywilydd – sut oeddwn i wedi gadael i hyn ddigwydd? A finnau heb golli’r un rhifyn ers cychwyn y golofn yn rhifyn Hydref 2009.

Rhedais trwy’r wythnosau diweddar yn fy mhen. Roedd hi wedi bod yn fwrlwm braf o gynadleddau ysgolhaig a gwyliau blynyddol. Y gynhadledd ryngwladol ar ddwyieithrwydd mewn addysg ym Mhrifysgol Bangor, lle cyflwynais bapur am ddatblygu darpariaeth baralel cyfrwng Gymraeg, a phoster am canu-dwylo (iaith-arwyddo i gerddoriaeth) a hefyd wnes i berfformio canu-dwylo hefo’r grŵp Wrexham Singing Hands. Wedyn ymlaen a fi i Sbaen i’r gynhadledd ieithyddiaeth gymdeithasegol – lle cyflwynais am y “bri negyddol” (negative prestige) tuag at dafodiaith Rhosllannerchrugog. Wedyn ymlaen i Blaya Flamenca i aros hefo fy rhieni, a chael ychydig o orffwys ar y traeth. Yna fues adre am ychydig ddyddiau, dadbacio ac ail bacio, ac wedyn dyma ni wedi hedfan i Biyadhoo – un o’r ynysoedd yn atol De Malé.

Oedd, mi oeddwn wedi bod yn brysur felly – ond a oedd hynny’n esboniad boddhaol mewn gwirionedd? Wedi’r cyfan, fel bydd un rhywun sydd wedi bod yn darllen y golofn dros y blynyddoedd yn gwybod, mae pob blwyddyn wedi bod yn ffair o weithio’n ffyrnig ar brosiect ymchwil, yna chwilio am waith wrth i’r contract tymor-byr diweddaraf gorffen, yna glanio contract newydd a dechrau o’r cychwyn eto – nes i fi cael swydd fel darlithydd flwyddyn ddiwethaf. Siawns felly fod mynychu’r cynadleddau braf, a diogi ar y traeth ‘cw, wedi bod yn fwy ingol (stressful)? Ta waeth, roeddwn wedi colli’r rhifyn yma a dene fo, doedd dim ffordd o drwsio hyn. Ond fel unrhyw gymdeithasegydd gwerth ei halen, roedd diddordeb gen i mewn adfyfyrio ar beth oedd wedi digwydd.

Meddyliais yn ôl i sut ddes i fod yn golofnydd i’r Clawdd yn y lle cyntaf. Yn ôl yn 2007, sgwennais bwt bach i’r Clawdd am beth oeddwn yn astudio at fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Rhai misoedd wedyn, a’r Clawdd yn ei newydd wedd, ysgrifennais bwt mwy personol, am fod yn alltud Wrecsam. Ar y pryd roeddwn yn nesáu at ddiwedd fy nghyfnod fel myfyrwraig doethuriaeth (wel, y ‘stipend’ beth bynnag) ac yn teimlo braidd yn bryderus. Roedd ysgrifennu ysgolhaig yn anodd ac roeddwn wedi “rhewi”, mewn ffordd – methu ysgrifennu dim heb gynnwys clamp o gyfeirnodion fel tystiolaeth fod yr hyn roeddwn yn dweud hefo unrhyw werth. Doedd fy mrawddegau ddim yn llifo. Doeddwn fethu ysgrifennu – felly sut ar y ddaear roeddwn yn mynd i sgwennu traethawd hir?!

Yna ffeindiais ffynhonnell o gwytnwch, ac yn y pen draw’r ateb i fy mhroblemau – disgynnais yn ôl mewn cariad hefo fy hen hobi o ysgrifennu creadigol (a darllen nofelau a storïau). Ysgrifennais fy ngholofn gyntaf am waith a bywyd Jean Rhys, yna daeth fy ngholofn yn ffocws i fy ngwaith ysgrifennu a synfyfyrion am y “sin llenyddol Gymraeg”, a llenyddiaeth yn gyffredinol. Wrth feddwl yn ôl, ar adegau, ac yn enwedig pan oedd fy sefyllfa ysgolhaig yn edrych yn andros o ansicr a bregus, daeth y golofn yn rhan bwysig iawn yn fy mywyd. Gwariais wythnosau yn archwilio pynciau – megis “hiraeth”, gan ei drafod hefo un rhywun oedd yn fodlon gwrando, ac yna’n trio gweithio allan beth oedd y neges wrth wraidd yr hyn roeddwn wrthi’n synfyfyrio. Ac yn ddigon ysmala, mi wnaeth y sgwennu rhydd yma, am fy synfyfyrio’n llenyddol, yn hytrach na materion ysgolhaig meddygol, helpu llacio ychydig ar fy steil ysgrifennu, ac mi wnes i ffeindio fy llais academaidd – jest mewn pryd i ysgrifennu traethawd hir doethuriaeth go lew.

Yna, wrth gwrs, flwyddyn yn ôl, dechreuodd fy ngyrfa ysgolhaig o ddifri, gan i mi gael fy swydd gyntaf fel darlithydd ym mhrifysgol Bangor. Mae’n ddiddorol sbïo yn ôl rŵan ar natur y golofn dros y blynyddoedd, ac adfyfyrio ar sut mae fy mherthynas a hi wedi newid. Lle ar un adeg mi roedd hi’n graig yr oeddwn yn glynu wrthi (hynny ydy, os ddim byd arall, rwy’n colofnydd i’r Clawdd), mae hi nawr wedi datblygu’n fforwm lle rwy’n trafod fy synfyfyrion cymdeithasegol a gyrfaol, yn ogystal â synfyfyrion llenyddol.

Ac felly, efallai mai dyna pam wnes i ddŵad i anghofio am fy ngholofn am un rhifyn – oherwydd bod fy ngyrfa ysgolhaig wedi blodeuo cymaint, a hynny’n mor sydyn, fel fy mod wedi bod mor brysur yn mwynhau’r haf o weithgaredd ysgolhaig, aeth pob dim arall allan o’m mhen. Ond, dwi nôl rŵan ac mae’r profiad yma wedi gwneud i mi gofio i werthfawrogi’r fraint o gael ysgrifennu i fy mhapur bro leol. Ac ar ben hyn, gan ddefnyddio fy “nychymyg cymdeithasegol” (C.Wright Mills), dwi am gasglu’r adfyfyrion yma at ei gilydd, a sgwennu erthygl cyfnodolyn ysgolhaig am fy mhrofiadau ac adborth fel colofnydd “synfyfyrion llenyddol” dros y saith mlynedd diwethaf, a sut mae hyn yn ffitio hefo’r llenyddiaeth ysgolhaig sy’n datblygu am y papurau bro yn gyffredinol, o fewn fframwaith y cyfryngau lleol mewn cyfnod pentref-byd-eang.

Read Full Post »