Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2015

Dyma fydd y golofn cyflymaf i mi ei sgwennu erioed. Dros y 24 awr ddiwethaf mae’r tŷ ‘ma ‘di bod yn fwrlwm o bacio, pwyso’r bagiau, dat-pacio, ail-pacio, pacio mewn bag ysgafn yn hytrach na fy siwt ces sy’n hawdd ei symud o gwmpas, teimlon blin bod fi yma’n pacio yn hytrach na mynd draw i’r ŵyl cerdd dant yn Y Stiwt ‘cw, sylweddoli fod y pwysau a chaniateir yn 23kg yn hytrach na 15kg, rhoi’r pethau moethus ‘non-essential’ yn ôl yn y bag…ac yn gyffredinol trio cael fy hun yn barod am y gwyliau bendigedig ar ddiwedd y pacio diflas ‘ma a fydd yn gwneud yr holl ffwdan werth o. Lle da ni’n mynd medde chwi? Kafunta river lodge, draw yn nyffryn Luangwa, Zambia. Dwi’n edrych ymlaen, o ydw! Dydw i erioed ‘di bod i Africa o’r blaen ac felly mi fydd yn brofiad hollol newydd i mi. Dwi’n cymryd camera hefo fi, felly mi fydd ail ran y stori yma mewn colofn yn y flwyddyn newydd, ynghyd a lluniau gwych o anifeiliaid a bywyd natur!

Ond dwi wedi ei gadael tan y munud olaf braidd, gan fod swydd newydd wych gen i ac felly dwi wedi bod yn brysur hefo hwnnw. Wrth i mi sgwennu’r geiriau yma, mae gen i ryw hanner awr nes bod Mam a Dad yn dŵad draw i’n tywys ni i faes awyr Manceinion…a dwi dal angen newid y bin, golchi’r llestri a gwneud y pethau bychain eraill cyn i mi fynd. Felly jest pwt bach i rannu fy newyddion da, ac yna ffwrdd a fi i orffen y gwaith sortio.

Yr wyf y nawr yn Gydymaith Ymchwil (Research Associate) draw ym mhrifysgol Bangor. Rwy’n gweithio ar brosiect am ‘Cymdeithas sifil’ (civil society), sy’n rhan o brosiect mawr gan WISERD (Wales Institute of Social & Economic Research, Data and Methods). Y mae’r gwaith yn andros o ddifyr ac rwy’n dysgu llond wrth i mi fynd yn fy mlaen. Ond rwyf hefyd wrth fy modd hefo prifysgol Bangor fel lle i weithio. Ydy mae’n bell o Gilgwri – rhyw awr a chwarter os ydach chi’n gadael cyn yr awr-brys, ond mae hi hollol werth o er mwyn y swydd yma a bod yn rhan o’r tîm yn Neuadd Ogwen – a beth bynnag, gwaith ethnograffeg y byddaf yn ei wneud felly byddaf ‘yn y cae’ cyn bo hir.

Er fawr syndod i mi, mae llawer fywyd pob dydd y brifysgol yn cael ei chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, neu yn ddwyieithog hefo cyfieithu cydamserol – hefo headsets a chyfieithydd yn eistedd yn y gornel a phob dim! Ac mae’n braf iawn cael cerdded o amgylch y lle yn clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad â’i fwynhau; mae rhai cyrsiau yn cael ei chyflwyno a’i hastudio yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gen i gytundeb tair blynedd ene felly fydda i yn sgwennu mwy am hyn i gyd mewn colofnau’r dyfodol (dim ond yn fis Hydref cychwynnais).

Eniwe, fel yr ydych yn gwybod erbyn hyn, rwy’n nyrd llenyddiaeth ac roeddwn braidd yn amheus ynglŷn a gwario wythnos cyfan heb ddim byd i’w ddarllen na modd sgwennu storïau…ond roeddwn hyd yn oed mwy amheus ynglŷn â chymryd fy Ipad gwerthfawr hefo fi. Ac felly fues ati yn sbïo ar y Kindle-au gwahanol: yr un gwreiddiol a’r ‘paperwhite’, sydd yn teimlo ac yn edrych fel papur go iawn, a hefyd y ‘Kindle fire’ (gwahanol fodelau), sydd â sgrin sgleiniog sy’n warthus yn yr haul ond yn oke i ddarllen, fel unrhyw dabled, ac sydd hefyd a buddion tabled/ cyfrifiadur.

Roedd y dewis yn anodd – cwbwl o ni eisiau oedd rhywbeth rhad, bach ac ysgafn i’w gymryd hefo fi…ond roedd y ‘Paperwhite’ yn llawer iawn gwell na’r Kindle gwreiddiol…ac roedd yna un newydd yn dwad allan yn y flwyddyn newydd…ac wedyn roedd yna’r Kobo i’w sidro, a chwmnïau oedd yn gwneud waterproofing i chi cael defnyddio eich peiriant darllen yn y bath/ pwll nofio! Roeddwn yn y siop am tua awr, a syrffedodd yr hogyn druan oedd yn ene i’w gwerthu wrth i mi gerdded rhwng y ddau fwrdd yn gwneud twll yn y carped wrth i mi gamu nôl ac ymlaen yn ceisio dewis. Yn y diwedd dwi ‘di optio am y Kindle Fire HD 6, a oedd yn rhatach na’r Kindle ‘Paperwhite’ er bod o’n gweithio fel tabled, hefo’r rhyngrwyd arni a’r gallu i sgwennu nodiadau (holl bwysig i awdures flagurol). Felly wnâi adael i chwi wybod sut mae hyn yn troi allan mewn colofn ar y gweill a fydd yn gwerthuso’r peiriannau darllen yma.

Ond am rŵan, rhaid ffarwelio a chwi, i mi gael anfon y golofn yma, ac yna ffwrdd a fi ar fy antur Affricanaidd (disgwyliwch Safari-selfies a gwerthusiad o’r bwyd a’r cyfleusterau cyffredinol yn y camp, yn ogystal â’r lluniau gwych rwy’n ei gymryd o eliffantod, llewpard a chrocodeiliaid…os allaf feistroli’r camera posh yma mewn digon o bryd!

saralouisewheeler.wordpress.com

Read Full Post »