Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mehefin, 2018

Am ryw 21 mlynedd bellach, yr wyf wedi bod wrthi’n ceisio barddoni a sgwennu’n greadigol. Yn amlwg nid wyf wedi bod yn hynod o lwyddiannus hyd yma, ond dwi wedi cael hwyl yn trio ac rwyf wedi sgwennu un neu ddau o bethau bach rwy’n reit browd ohono. Roedd cychwyn y golofn synfyfyrion llenyddol yma yn rhan o fy ymgais; gyda’r teitl yn un hunanymwybodol gan nad oeddwn yn teimlo fod gen i’r hawl i sgwennu colofn lenyddol – gan mai dim ond synfyfyrion oedd gen i i’w chynnig. Serch hyn, un peth nad wyf erioed wedi dioddef o, tan rŵan, oedd diffyg syniadau a chreadigrwydd – nid wyf erioed, tan rŵan, wedi cael y profiad o ‘writer’s block’. Mae hi wastad, yn hytrach, wedi bod fwy fel oedd I.D.Hoosen yn dweud yn Y Gwin, fel bod cerdd yn fy nilyn i bob man, yn tapio fi ar yr ysgwydd ac yn mynnu sylw, nes fy mod wedi ei chwblhau. Rwyf wastad wedi cael fwy o syniadau nag sydd gen i amser i’w ysgrifennu. Teimlad od ac annifyr yw hi, felly, ar hyn o bryd, gwybod nad oes gen i’r un syniad am gerdd na’r gallu creadigol i’w chyflawni – dwi’n teimlo fod fy storfa yn gwbl wag.

Nawr te, efallai eich bod chi yn ystyried wrth ddarllen hyn – pam ysgrifennu am y ffasiwn beth? Wel, er nad wyf yn teimlo’n greadigol iawn ar hyn o bryd, fel unrhyw cymdeithasegydd werth ei halen, dwi’n ffeindio’r ffenomenon yma yn diddorol. Yn y gorffennol rwyf wedi rhyfeddu wrth ddarllen neu clywed pobl yn sôn am ‘writer’s block’ – yn enwedig awduron broffesiynol; sut ei fod yn bosib i hyn ddigwydd, yn enwedig os yw’r amodau yn iawn – digon o amser i’w sgwennu, pawb yn disgwyl mai dyma y byddwch yn ei wneud. Felly nawr y mae hi wedi digwydd i mi, ceisiaf adlewyrchu ar y profiad, gan obeithio dysgu ohono a cynnig rhyw fath o doethineb.

Un o’r rhesymau amlwg am gael blanc fel hyn yw, wrth gwrs, beth bynnag arall sydd yn mynd blaen yn ein bywydau. Mae straen, ansicrwydd a newidiadau mawr i gyd yn mynd i effeithio ar ein stad emosiynol ni fel unigolion – a heb fynd i mewn i fanyldeb, dwi wedi cael profiad o rain i gyd dros y flwyddyn ddiwethaf yma. Mae yna gysylltiad cilyddol rhwng ein stad emosiynol a barddoni, sydd yn gweithio’r ddwy ffordd. Yn y blynyddoedd diweddar, mae hi wedi dod i’r amlwg fod astudio barddoniaeth, a sut i farddoni, yn medru fod o fudd i feddygon a phobl eraill o fewn byd iechyd. Mae hyn, a’r Dyniaethau iechyd yn gyffredinol, yn medru helpu datblygu ar ‘deallusrwydd emosiynol’, sydd, yn ôl ymchwil yn y maes, yn cael ei gwanhau yn ystod rhai agweddau o hyfforddiant meddygol. Felly mae sgwennu barddoniaeth yn medru helpu pobl i ddod yn fwy cysylltiedig â’u hemosiynau nhw.

Ar ochr arall y graddfa, wrth gwrs, mae beirdd yn medru bod yn pobl emosiynol iawn – i’r pwynt lle nad yw pobl o’m cwmpas yn medru deall pam rydym yn ymateb mor emosiynol i pethau y byddent yn ei weld yn pitw ac yn di-nod. Ond dyma yw medr y bardd – yr allu i deimlo a dadansoddi ac i sianeli profiadau a teimladau cryf i mewn i rhyw siâp creadigol. Weithiau rydym yn sgwennu rhai o’n cerddi gorau pan rydym wedi cael profiad hynod o emosiynol – a hynny weithiau yn profiad hynod o annifyr, megis torri perthynas.

Pa amodau felly fyddai’n achosi blanc? Wrth feddwl am fy sefyllfa i yn benodol, byddaf yn cynnig mai cyfnod parhaus o straen ac ansicrwydd sydd wrth wraidd y peth. Nid felly’r math o straen sydd yn dŵad hefo sioc, na’r math o newidiadau sydd yn gofyn i ni ymateb yn sydyn ac yn bendant at rywbeth. Ond y math o straen sydd yn dŵad os mai gofyn i ni barhau hefo bywyd pob dydd, wrth ddisgwyl i rywun arall penderfynu ein tynged – a heb i ni gael unrhyw bŵer i newid y sefyllfa un ffordd neu’r llall. O ran sut deimlad yw hi i fod yn blanc – mae hi’n ‘disorientating’. Mae hi wir yr yn deimlad od ceisio meddwl am sgwennu cerdd, a bod dim geiriau neu deimladau yna dŵad. Gobeithiaf y byddent yn dŵad yn ôl i mi cyn bo hir!

Read Full Post »