Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mawrth, 2010

             Yr oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Bodhyfryd pan ddechreuais freuddwydio am y tro cyntaf am fod yn awdures ac yn fardd. Rwy’n cofio’r diwrnod fel petai hi’n ddoe. Yr oeddwn newydd ysgrifennu cerdd ar y thema o fwlio: ‘Billy y bwli’ ac mi roedd ‘Mr.G’ wrthi’n gofyn i Owain, un o hogiau’r dosbarth, i dynnu llun i fynd hefo’r gerdd fel galla hi fynd ar y wal, gan ei fod mor dda. Yr oeddwn wastad wedi mwynhau barddoni ac ysgrifennu storïau ac roeddwn wedi derbyn clod gan sawl athro/ athrawes am fy ngwaith, gan gynnwys stori o’r enw ‘Y cyw bach melyn’ a cherdd Saesneg: ‘The sea is like a…big, grey cat’. Ond y diwrnod hwnnw cefais foment eureka a phenderfynais mai ‘ysgrifennwr’ oeddwn am fod.

            Es ati i berffeithio fy nghrefft. Ysgrifennais gasgliadau o gerddi naïf, lluniais syniadau ar gyfer nofelau a ddarllenais yn frwd, yn ddwfn ac yn eang. Roeddwn yn mwynhau’r ysgol a chyrhaeddais Ysgol Morgan Llwyd yn llawn brwdfrydedd. Cefais fyn osod yn set un am bob dim ac mi roedd y dyfodol yn edrych yn ddisglair. Yna, yn anesboniadwy, ddechreuais aflwyddo. Dechreuodd sgiliau megis sillafu, taclusrwydd a rhifedd dyfu mewn pwysigrwydd, lle oedd creadigrwydd a dealltwriaeth wedi ei phwysleisio yn gynt. Mi roedd fel petawn i wedi bod yn chwarae gêm yn llwyddiannus am flynyddoedd ac yn sydyn mi roedd y rheolau wedi newid a fi oedd yr unig un oedd yn methu ddygymod. Ges fy symud i set tri (o bedwar) mewn sawl pwnc ac roedd marc cwestiwn dros fy ngallu i basio’r TGAU. Er i mi ddal i fwynhau gwersi Cymraeg a Saesneg, a’r llyfrau a’r cerddi astudiwyd, suddodd fy niddordeb braidd mewn gwaith ysgol a diflannodd y freuddwyd o ysgrifennu fel gyrfa; yn wir ni feddyliais am y syniad o ‘yrfa’ nes i mi gael y newyddion annisgwyl fy mod wedi gwneud yn o lew yn y TGAU. Mewn chwyrlwynt, dewisais fynd ymlaen i’r chweched dosbarth.

            Wrth astudio i lefel – A, daeth yr epiffani nesaf. Roedd yr athrawes Cymdeithaseg yn gweithio hefo pobl ac anawsterau dysgu, megis Dyslecsia, a’i chred hi oedd fy mod innau’n arddangos symptomau’r cyflwr. Cadarnhaodd y prawf fy mod i’n ddyslecsig felly ddarllenais am y cyflwr a sylweddolais mai hyn oedd wraidd fy aflwyddion. Dysgais ei bod hi’n bosib ‘trwsio’ rhai o’r problemau, megis atalnodi, ac es ati a brwdfrydedd newydd i ddysgu sut i ysgrifennu yn ‘gywir’ (trwy gyfrwng y Saesneg beth bynnag).

            Es ymlaen i astudio gradd a chefais fy ethol i flwyddyn Sabothol yn yr Undeb myfyrwyr. Trwy’r gwaith yma penderfynais mai academydd yr oeddwn am fod; astudio, dysgu ac ysgrifennu fel gwaith – beth alle fod yn well?! Ddechreuais ddarllen nofelau eto ag, trwy ddarllen gwaith Jean Rhys a Margaret Atwood, ges i epiffani newydd. Ailgydiais yn fy mreuddwyd o fod yn awdures, gyda’r twist o fod yn academydd ar yr un pryd. I gychwyn y bwriad oedd sgwennu trwy gyfrwng y Gymraeg ac es ati i fentro’r Eisteddfodau lleol a’r Genedlaethol a fynychais gwrs ‘Magu hyder’ gwych yn Nhŷ Newydd. Ond mi roedd problemau anferth yn fy nisgwyl yma ac roedd rhaid i mi anghofio’r syniad am y cyfamser (fwy am hyn rhywbryd arall).

            Nawr te, efallai fod hi’n ymddangos yn ddewisiad od, ella ychydig yn annoeth, i rywun hefo Dyslecsia i eisiau fod yn awdures neu yn academydd, heb sôn am freuddwydio am lwyddo yn y ddau faes? Ond tydi dyslecsia yn golygu fod hi’n amhosib i chi sgwennu neu ddarllen? Wel nac ydi yw’r ateb byr; gyda’r ateb hir yn cynnwys disgrifiadau o’r ffordd y mae’r cyflwr yn effeithio ar yr unigolyn trwy gasgliad o anawsterau ac hefyd medrau gwahanol. Yn gryno y mae hi fel petai’r ymennydd wedi ei wifro’n wahanol yn hytrach na wedi ei thorri. O ganlyniad y mae talentau arbennig ac unigryw yn datblygu, yn enwedig (fyswn i yn cynnig) trwy flynyddoedd o guddio rhai anawsterau gan gywilydd, er enghraifft: methu darllen cloc arferol; mynd ar goll ynghanol y ddinas lle fuoch yn byw ers deng mlynedd; a gorfod digolledu am ‘short-term-sequential-memory-disorder’ trwy fod yn bedantig am daclusrwydd a threfnwch. Ond yn ddigon ysmala y mae hi’n bosib dygymod a’r cyflwr ai harneisio i’ch mantais.

            Esiampl wych o hyn yw Sylvester Stallone a’i bortread o’r paffiwr Rocky Balboa sy’n llwyddiannus, er gwaethaf pob rhwystr, oherwydd ei ysbryd cryf,  ei ddyfalbarhad a’i ‘eye of the tiger’. Yn wir, y mae Rocky II yn cynnwys sawl cyfeirnod at anawsterau dysgu’r cymeriad, wedi ei selio ar brofiadau’r awdur ei hun o ddyslecsia. Yn ddiweddar mi roedd Henry Winkler (aka Y Fonz) yn sôn wrth Paul O’Grady mai’r unig ‘footage’ ohono ar feic modur yn y gyfres Happy days oedd rhyw ugain eiliad yn ystyr y ‘credits’ agoriadol a ffilmiwyd cyn iddo ddisgyn oddi ar y beic (a ddefnyddiwyd gan Steve McQueen yn The Great Escape) gan achosi’r beic i lithro o dan lorri! Yr oedd ef fethu reidio beic modur oherwydd ei sgiliau symudol gwan sy’n rhan o’i dyslecsia; ag eto ef oedd brenin y cŵl yn y sioe boblogaidd.

        Yr wyf innau felly yn obeithiol y byddaf, er gwaethaf fy anawsterau, yn gallu ffocysu’r ‘wmff-dyslecsig’ yma ar y medrau sydd gen i, megis creadigrwydd a syniadau gwreiddiol, a’i harneisio i anelu am yrfa mewn ysgrifennu. Gyda hyn mewn golwg yr wyf wedi creu blog: http://www.saralouisewheeler.wordpress.com  lle rwyf wrthi’n postio fy ngherddi, straeon byr a’r erthyglau o’r golofn yma, a byddaf yn hyrwyddo fy syniadau ar gyfer nofelau ar y gweill.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Mawrth 2010 (Rhifyn 138)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, March 2010 (Issue 138).

Read Full Post »