Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ionawr, 2013

Ie ie, wnaethom ni briodi tair blynedd yn ôl bellach, ond roeddwn yn fwrlwm o brysurdeb bryd hynny – rhwng trio ysgrifennu’r Thesis i’r ddoethuriaeth, symud tŷ, chwilio am swydd newydd…sgwennu’r Thesis ayyb. Yna graddiais o’r diwedd mis Gorffennaf blwyddyn yma ac, ar ôl blynyddoedd o sbïo’n hiraethus ar gannoedd o gatalogau egsotig, aethom i ynysfor y Maldives ym mis Awst, am wythnos o fis mêl gohiriedig. Teithiom gyda chwmni Kuoni, ac felly dechreuodd yr hwyl cyn i ni adael Gatwick, gan fod ganddynt lolfa egscliwsif yno gyda chadeiriau moethus a byrbrydau yn rhad ac am ddim (roedd y caws a chraceri yn fwy blasus fyth o ganlyniad!) Roedd y siwrne awyren yn drofaus o hir ond cawsom ein cyfarch ym Male gan dywyswr llon a’n hebrwng at gwch gwib a oedd yn aros i’n gwibio i ynys Angsana Ihuru (aka paradwys!) O hyn ymlaen mi roedd pob dim wedi ei choreograffi’n berffaith a chyn pen dim mi roeddem ni yn gorffen ein hufen ia coconyt yn y bar wrth ryfeddu ar grwban y môr a digwyddai ddod i’r wyneb i gymryd anadl rhyw pum llath o le roeddem yn eistedd!

Dechreuwn bob diwrnod gan fynd i snorcelu ar y riff-cartref – ac mi roedd hyn fel cael ein cludo i ryw fydysawd pell.Mi roedd y cwrel ei hun yn arallfydol a prydferth, ond mi roedd rhai o’r creaduriaid oedd yn byw ene yn syfrdanol – pysgod ‘puffer’ enfawr, pysgod-llyffant (rhaid bod yn ofalus gan ei bod nhw’n wenwyneg), pysgod-dragonet, pysgod-parot (sydd i’w glywed dan dwr yn creinsio’r cwrel a’i phigion sy’n edrych yn debyg iawn i ddannedd gosod!), morgwn-riff reef shark), a haig o pysgod-ystlym a oedd yn ymddangos ac yn diflannu i’r dyfnderoedd mewn modd hudol, arswydus. Ond Pièce de résistance y bywyd morol oedd y Manta ray – creadur sy’n edrych yn debyg i blanced du a gwyn, gyda cheg enfawr i hidlo plancton a larfae pysgod o’r dŵr, ac sy’n ‘hedfan’ yn urddasol trwy’r dŵr…tuag at, ag yna o dan, snorcelwyr sy’n ceisio nofio a hwy!

Ar ôl ein snorcel cyntaf, arsylwais fod y riff yn fy atgoffa rhywsut o blaned Pandora yn y ffilm ‘Avatar’, ac atebodd fy ngŵr fod hi’n bur debyg fod y bywyd morol wedi bod yn meddwl James Cameron wrth iddo greu cynefin y Na’vi (brodorion glas y blaned) gan ei fod e’n snorcelwr brwd ei hun. Yn ddiddorol iawn, wedi i mi gwglo’r mater, ddes ar draws sawl cyfeiriad ar y we lle mae Cameron wedi esbonio fod lliwiau ac ansawdd fflora Pandora wedi ei hysbrydoli gan anemonïau mor, tra bod ffawna’r coedwigoedd wedi ei hysbrydoli gan bysgod riff trofannol, creaduriaid riff bach, a chreaduriaid o ddyfnderoedd y môr megis mathau o fioymoleuedd (creaduriaid sy’n allyrru golau).

Eniwe, mi roedd hi’n wyliau bendigedig a heddychlon ac mi roedd y bwyd yn anhygoel o dda – gyda lassi-coconyt, cimwch (lobster), pysgodyn-riff a sglodion, BBQ ysblennydd o bob cig dan haul, a ffrwythau egsotig – yn cynnig gwledd i’r synhwyrau pob tro aethom am bryd o fwyd. Gwelsom amrywiaeth trawiadol o fywyd natur, gan gynnwys crëyr glas oedd yn hongian o gwmpas y BBQ yn disgwyl tameidiau blasus, a ystlum-ffrwythau gwelsom yn hedfan o ein hynys ni i’r un nesaf, wrth i ni caiacio o amgylch yr ynys (roedd yr ynys yn ddigon bach i ni gael gwneud hyn mewn rhyw ugain munud!) Yn ogystal, gyda help y snorcel a esgyll, mi roedd hi’n hawdd dychmygu fy hun fel môr-forwyn – ac mi roedd hyn yn freuddwyd gennyf pan oeddwn yn blentyn (wnaeth y ffilm ‘Splash’ argraff fawr arnaf)…rwy’n cofio cael cacen pen-blwydd un flwyddyn gyda môr-forwyn arni…ac mi wnes i ac un o’m ffrindiau yn Ysgol Bodhyfryd sefydlu Clwb-Môr-Forynion ar un adeg (ond wnâi ddim ei henwi hi yma rhag ofn fysa cywilydd ganddi am i mi sôn am ffasiwn beth!)

Wrth ddychwelyd o’r gwyliau anhygoel yma, fuon ni’n dau yn synfyfyrio ar faint yr oeddem ni wedi ei fwynhau a phenderfynwn y byswn ni yn hoffi dychwelyd ene ymhen ddwy flynedd – i’r un ynys hyd yn oed – roedd hi jest mor hyfryd! Nol i fywyd pob dydd ac rwyf wrthi’n cynllunio a sidro sut allaf wneud bwndel o bres mawr, er mwyn i mi gael dychwelyd cyn gynted ag sy’n bosib…gydag aneddiad sy’n cyseinio a monolog Jake Sully am ei fywyd avataraidd! Felly, without-further-ado, gallaf hollol argymell gwyliau ar yr ynys hyfryd yma, a wnâi orffen gan bwyso’r botwm ar y ghetto-blaster-rhithwir, gan eich gadael i gyfeiliant soundtrack trawiadol y ffilm wych ‘Avatar’  – a fydd, gyda llaw, yn cael ei dilyn gan o leiaf tair ffilm ddilynol yn ôl pob sôn…rwy’n edrych ymlaen!

Read Full Post »