Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Hydref, 2016

Roeddwn newydd orffen y ddarlith ac roedd y myfyrwyr wrthi’n pacio casys pensiliau i’w bagiau ac yn gadael yr ystafell – yn llawn ysbrydoliaeth ac yn edrych ymlaen at astudio ymhellach yn y llyfrgell…wel, roeddent yn gadael yr ystafell beth bynnag. Sylwais, fodd bynnag, fod un o’r myfyrwyr yn symud yn y cyfeiriad arall – tuag ata’ i. Roedd hi’n edrych arnaf ac yn gwenu. Gwenais yn ôl – mae hi’n fyfyrwraig ddisglair ac roeddwn yn disgwyl rhyw gwestiwn gwych am y ddarlith. Ond na, dim dyna oedd nod y sgwrs oedd i ddod nesaf.

A fyddai’n bosib, gofynnodd, i mi ysgrifennu ‘reference’ iddi. Wel wrth gwrs medde fi – un o’r pethau da am addysgu grwpiau bach yw eich bod yn dod i nabod pob myfyriwr yn dda iawn – trwy farcio eu haseiniadau a chael trafodaethau difyr yn y dosbarth.  A oedd hi’n mynd am swydd dros yr haf? Sidrais. Na, roedd hi am drosglwyddo i brifysgol arall. Suddodd fy nghalon i lawr at fy esgidiau – doeddwn ddim eisiau ei cholli. Chofiais yn ôl at y gweithdy lle taflais gwestiwn dechreuol allan i’r dosbarth, am symptomau-heb-ei-esbonio-gan-feddygaeth, a daeth y llais cryf yma yn ôl, yn gwneud pob math o bwyntiau gwych am bwnc fy nhraethawd hir doethuriaeth. Yn wir, erbyn diwedd y gweithdy yna roedd fy mhen yn troi hefo’r dadansoddiadau cymdeithasegol roeddwn wedi ffaeli a gwneud pan oeddwn wrthi’n ysgrifennu’r traethawd, ac roeddwn yn rhyfeddu ein bod ni newydd ei thrafod mewn modiwl isradd, blwyddyn gyntaf.

Oedd rhywbeth yn bod? Oedd rhywbeth wedi digwydd? Oedd yna unrhyw beth fedraf ei wneud? Cynigais yn obeithiol. Ond na, digon teg oedd ei rhesymau – dyheu am fwrlwm y ddinas fawr oedd hi, sef fy rheswm i yn y lle cyntaf am fynd draw i Lerpwl yn 1998…a’r un rheswm i mi adael deng mlynedd yn ddiweddarach. Roedd yn ddiddorol trafod hyn hefo hi, gan gofio fy nghymeriad i pan oeddwn yn deunaw oed. Roeddwn wrth fy modd yn mynd allan a threuliais gryn dipyn o fy amser sbâr yn y ‘Cooler’, sef clwb nos o fewn undeb myfyrwyr LJMU. Wnes i hyd yn oed gweithio wythnos gyfan yn ‘The Cavern’ un flwyddyn, yn ystod y ‘Mathew’s street festival’; gwariais y shifftiau 13 awr y dydd, yn tapio fy esgid ac yn canu’r caneuon Beatles, wrth weini diodydd a chasglu gwydrau gwag. Ac roeddwn wrth fy modd hefo pob munud ohono. Ysmala felly fy mod y nawr yn llawr iawn hapusach adre ar nos Sadwrn, yn gwylio’r teledu ac yn gweu ‘granny squares’!

Beth bynnag, rhai diwrnodau yn ddiweddarach, daeth yr e-bost trwy gan UCAS yn gofyn i mi gadarnhau fy mod yn hapus i roi ‘reference’, ac yna yn rhoi’r cyfarwyddiadau (manwl a llym) o beth i’w sgwennu a sut. Chofiais yn ôl at y gweithdy uchod a wnes ei chynnwys, ynghyd at ddisgrifiad o sut ddes i nabod y fyfyrwraig, hanes marcio ei thraethawd, ychydig am ei chymeriad, a sut roedd hi’n gwneud yn gyffredinol ar ei chwrs, gan gynnwys y modiwlau eraill nad oeddwn yn ei addysgu. Roedd yn broses reit ddiddorol, ac yn agwedd pwysig yn fy natblygiad fel darlithydd newydd. Synfyfyriais wedyn am ba mor bell rwyf wedi dŵad ers dechrau’r tymor, pan oeddwn yn pryderu cymaint am gofio enwau pawb a dysgu’r pethau fwyaf sylfaenol amdanynt – mi ddaeth hyn i gyd yn naturiol, fel gwnaeth pawb dweud wrthyf y byddai’n ei gwneud.

Yna, dechreuais adlewyrchu ar y ffaith ein bod ni’n dwy, fel Cymry Cymraeg, wedi defnyddio’r gair Saesneg ‘reference’ ynghanol sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, fel bod hynna yn beth hollol naturiol i’w gwneud. Yna, wrth feddwl, nid oeddwn yn medru rhoi fy mys ar y gair Cymraeg am ‘reference’. Beth oedd o tybed? Es at geiriadur.bangor.ac.uk, a dyna le oedd y gair – ‘geirda’. Ew, roedd hynna’n ffitio llawer iawn gwell na’r gair Saesneg! Ac roedd yn gwneud llawer iawn fwy o synnwyr hefyd, gan gyfateb a’r frawddeg Saesneg “Put a good word in” – er, roedd hyn (i’w weld) yn fwy nag un gair, sef geiriau – hence y ‘geir’-‘da’. Mae’r lluosog braidd yn lletchwith fodd bynnag – ‘geirdaon’. Ond dyna’r gair, felly well i ni ei dysgu hi, ynghyd a’r gair ‘Geirda’, sydd, wedi’r cyfan, yn air bach da!

Mae’n ddiddorol fod cymaint o eiriau fel hyn yn cael ei gollwng yn y Gymraeg, gan i ni ffafrio’r geiriau Saesneg – megis ‘aunty’ yn lle ‘dodo’. Mae’n debyg hefo’r gair ‘geirda’, mae oherwydd bod byd gwaith rhan fwyaf o bobl wedi, ers talwm, bod trwy gyfrwng y Saesneg – neu o leiaf pethau swyddogol megis ‘geirda’. Mae hyn wedyn yn mynd i fod yn arferiad o ddefnyddio’r gair Saesneg nes anghofio (neu beidio llunio) gair Cymraeg. Mae hi efallai wedyn yn teimlo braidd yn ‘ffug’ (false) i ddefnyddio’r gair Cymraeg sy’n ddieithr i ni. Ond dwi am annog ein bod ni gyd yn gwneud yr ymdrech – mae gennym eiriau bach annwyl fel hyn, ac felly mae’n biti defnyddio’r Saesneg?

Read Full Post »