Wel dwi ddim eisiau witsio’r peth (jinx), ond mae bywyd yn mynd yn reit dda ar hyn o bryd, mae’n rhaid dweud. Mae gen i swydd ragorol ym mhrifysgol Bangor; dwi ‘di cael fy newis fel un o’r gwyddonwyr cymdeithasol gyrfa gynnar (early career social scientists) i fynd am wythnos i Dre’r Penrhyn (Cape Town) i weithdy am y gwyddorau cymdeithaseg ac iechyd; ac mae fy medrau crochet yn dod yn ei blaenau’n foddhaol!
Ie wir, rhai misoedd yn ôl es i draw i Gyfandir Affrica am y tro cyntaf yn fy mywyd, i Zambia ar safari, a dyma fi, unwaith eto, wrthi’n paratoi i fynd yn fy ôl, ond y tro hwn i De Affrica, er budd fy ngyrfa. Rwy’n edrych ymlaen at y gweithdy yn fawr iawn. Mi fydd gwyddonwyr cymdeithasol gyrfa gynnar, sydd hefo diddordeb yn y maes iechyd, yn trafaelio ene o ar draws y byd i drafod sut i ddatblygu’r ddisgyblaeth academig yma (academic discipline) yn De Affrica. Mae’n anrhydedd cael fy newis a bydd yn brofiad unigryw. Fel rhan o’r gwaith paratoi, mae gofyn i’r cenhadon (delegates) ysgrifennu cynllun pum mlynedd, yn amlinellu eu diddordebau ymchwil a’r gwaith darlithio maent yn disgwyl ei ddatblygu yn y dyfodol. Rwyf yn creu cynllun sy’n ffocysu ar fy mhrosiect cyfredol (current) o gymdeithas sifil, tra hefyd yn hel fy niddordebau blaenorol at ei gilydd, megis ym meysydd cyfleoedd cyfartal, anabledd, byddardod, ac ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol (linguistic and cultural minorities).
Mae’r broses paratoi felly wedi bod yn gyfle da i sbïo’n fanwl ar fy ngyrfa – lle rwyf wedi bod, beth rwyf wedi ei gwneud, a lle hoffwn fod yn y dyfodol. Mae’n neis cael sylwi felly fod rhyw faint o batrwm a chydlyniad (coherence) i’w weld; mae hi fel pe bawn wedi teithio mewn cylch, yn hytrach na dilyn llwybr igam ogam. Yn wir, mae’r gweithdy yn cael ei chynnal yng nghanolfan ‘Goedgedacht’, sef prosiect sy’n gweithio i wella cyfleoedd i blant cefn gwlad yr ardal, yn bennaf trwy addysg. Mae hyn yn cyseinio a’r swyddi cynnar wnes i yn y cylch meithrin, y clwb gwaith cartref, a trwy’r prosiect ‘Enjoy English’ yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg, a hefyd y prosiect diwethaf gwnes i ym maes hyfforddiant ‘habilitation’ i blant hefo amhariad golwg. Dwi’n hollol edrych ymlaen at weld sut fydd y gwaith wnawn ni yn y gweithdy yn ffitio hefo’r hyn y mae Goedgedacht yn gweithio tuag ati yn yr hir dymor.
Eniwe, yn y cyfamser rwyf wedi sylwi ar batrwm arall sy’n rhedeg trwy fy ngyrfa a fy mywyd pob dydd – patrwm o ddarllen patrymau! Yn wir i chi, dyna dwi wrthi’n ei wneud bore dydd a nos, ac ella nag trwy ddamwain y mae hyn wedi digwydd – efallai mai dyma yw’r medr lle wyf yn fwyaf dawnus. Wrth ddechrau unrhyw brosiect academaidd newydd mae angen i’r ymchwilwyr cael dealltwriaeth eang o’r llenyddiaeth ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y gorffennol; rydym yn cael hyn trwy wneud arolwg o’r llenyddiaeth. Gan fod y pwnc o gymdeithas sifil yn un cymylog ac aneglur, nid yw arolwg cyfundrefnol confentiynnol (conventional systematic review) yn bosib nag yn ddymunol; mae angen dull hyblyg sy’n cynnwys ystyriaeth o gyd-destun a’r llenyddiaeth gyfagos, ac yna dehongliad a dadansoddiad trwyadl ond hefyd creadigol.
Am y rhesymau yma, rydym wedi dewis gwneud ‘Cyfuniad Dehongli Feirniadol’ (Critical Interpretive Synthesis) ac felly rwyf wrthi ar hyn o bryd yn darllen llond llwyth o erthyglau a llyfrau am gymdeithas sifil yng Nghymru ac yn sbïo am batrymau, a hefyd diffyg patrymau, er mwyn cael deall sut y mae cymdeithas sifil wedi ei cysyniadu (conceptualized) yn y llenyddiaeth ymchwil gynt. I helpu a’r gwaith, dwi’n defnyddio NVIVO, sef pecyn dadansoddi yr ydym yn ei ddefnyddio i adnabod patrymau mewn data ansoddol (qualitative data); mae hyn yn pwysleisio’r tebygrwydd rhwng y ddau ymarfer, a’r ffaith mai sbïo am batrymau yw prif gymhelliad y gwyddonwr cymdeithaseg ansoddol (qualitative social scientist).
Ar nodyn llai proffesiynol, ond yr un mor gyffroes, yr wyf wedi bod wrthi dros y misoedd diwethaf yn dysgu’r grefft o ‘crochet’, ac mae’n bleser gen i ddweud fy mod wedi dechrau cael hwyl arni o’r diwedd. Mae hi’n anodd cofia, dysgu darllen patrymau crochet neu weu – mae hi fel darllen iaith newydd, neu drio torri cod dirgel! Ond mae hi werth o pan ydych yn ei deall ac yn cael mewn i rythm – mae’n gallu bod yn reit therapiwtig. Ac wrth gwrs, canlyniad y fenter yw bod gennych blanced hardd i’w fwynhau, a gellwch creu blancedi niferus sy’n dilyn neu yn creu patrymau hardd, diddorol (ond fwy am hyn rhywbryd arall!)