Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2019

Wel, wrth i mi sgwennu’r geiriau hyn, mae hwythau draw yn Nhŷ’r cyffredin wrthi’n ceisio datrys dryswch a phenbleth Prydael (Brexit). Yn ôl pob sôn, ddoe (Mawrth 29ain) oedd y diwrnod roedd ganddynt mewn golwg ar gyfer cwblhau’r ysgariad hanesyddol, gwleidyddol yma. Erbyn i’r Clawdd cael ei dosbarthu, mae’n debyg y bydd hi’n tair blynedd yn union ers i bobl Prydain pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd (Mehefin 23ain 2016).

Mae hi’n anodd coelio llond o bethau erbyn hyn: y pandemoniwm a fuodd y bleidlais yn y lle cyntaf – cyn lleied o wybodaeth y rhoddwyd i ni fel pleidleiswyr, y bws, y sbin ayyb; yna’r diffyg cynllunio amlwg oedd wedi ei wneud ar gyfer paratoi am adael – beth oedd Prydael hyd yn oed? Yna daeth y gwahanol fathau o Prydael i’r amlwg – fel wŷ berwedig, roedd sawl ar gael – un feddal, un caled, rhai yn y canol, un glas, coch a gwyn (dim sôn am wyrdd?). A dyma ni nawr, tair blynedd o ridl-mi-ri yn ddiweddarach, a tyda’n ni fawr callach ar ôl dioddef y fath ffwdan, fel ein bod ni wedi syrffedu ar y lol botes yma.

Dros y pythefnos diwethaf, mae’r gŵr cw wedi bod yn gwylio trafodaethau’r Tŷ’r Cyffredin, gan fynnu ei adael ymlaen wrth i ni fwyta te ag ati, rhag ofn i ni golli rhyw eiliad hynod hanesyddol. Mae hi wedi dod i’r amlwg mai hyn yw’r drefn yn sawl cartref, gyda mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth y DU nag erioed yn ystod fy einioes – wel, i mi gofio beth bynnag. Mae hi hefyd wedi dod i’r amlwg fod rôl Llefarydd (speaker) Ty’r Cyffredin yn un hollbwysig yn ystod y trafodaethau dirdynnol yma. Rydym wedi gwylio’n astud wrth i John Bercow dylanwadu ar drefniant a chyfeiriad y trafodaethau a phenderfyniadau.

Ond mae yna agwedd arall o berfformiad Bercow sydd wedi ennyn sylw a diddordeb y cyhoedd yn gyffredinol – ei ddefnydd o iaith ac ynganiad. Hyd a lled trydar, mae pobl yn teipio ‘orrrrdeeeeeeer’, neu yn adrodd storïau digri am ateb cwestiynau bywyd pob dydd, megis grawfwyd (cereal) neu dost i frecwast, gan ddweud ‘division, clear the lobby’, neu ‘the toast has it, the toast has it’! Yn ôl pob sôn, mae plant hyd yn oed yn mwynhau’r hwyl, gan alw ei gilydd yn ‘the right honourable sibling’, gan chwerthin wrth gael dweud y drefn wrthynt am ‘chuntering from a sedentary position’. Fel nyrd ieithyddol, mae’n ddiddorol ystyried y ffenomenon hyn, gan sidro beth fedra i gyfrannu i’r hwyl.

Mae dadansoddiad sgwrs (conversation analysis) yn cynnig symbolau trawsgrifio, er mwyn i ni ail-osod y geiriau hefo’r llafarganu (intonation) yn ôl i mewn i’r geiriau ar y dudalen. Dyma ddefnyddiais ar gyfer trawsgrifio’r trafodaethau rhwng meddygon a chleifion yn fy nhraethawd hir doethuriaeth. Mi all hyn fod o fudd i ni yma, gan ganiatáu i ni nodi ynganiad Bercow; er enghraifft mae: <ord:::er> yn dangos y ffordd y mae rhai synau yn cael eu hymestyn, a hefyd fod y gair wedi ei arafu a’i ‘dynnu’n hir’. Fyddai’r math arall o ynganiad, yr un byr, wedi ei wasgu, yn edrych fwy fel hyn: >order<, tra byddai ynganiad swnllyd, uchel yn edrych fel hyn: ORDER, ac ynganiad distaw yn edrych fel hyn: °order°. Wrth trawsgrifo fel hyn, medrwch adeiladu corpws o deunyddiau ac yna ceisio gweld sut mae ynganiad, defnydd iaith, a pherfformiad, yn cael effaith ar beth sydd yn cael ei ddweud, yn ogystal a’r geiriau ei hunain. Rwy’n sidro gwneud hyn dros yr haf, pan mae fy nghontract presennol yn darfod.

Tu hwnt i Prydael a gwleidyddiaeth, mae cyfle arall i sidro mecanwaith iaith, a hynny mewn ffurf ffilm newydd sydd ar y gweill, hefo’r teitl (braidd hir a dadleuol): Extremely Wicked, Shockingly Evil and Vile. Biopic yw hwn am y llofrudd cyfresol Ted Bundy. Mae’r diddordeb yn y llofrudd yma hefyd yn ffenomenwn diddorol, gyda mwy nag un ffilm/ cyfres yn barod, ag elfen sbin cyfryngol, megis yr hyn yn achos Amanda Knox (Foxy Knoxy); roedd Ted yn golygus, swynol, ag yn glyfer – ag eto yn ‘drygionus’ (evil), beth bynnag mae hynna’n ei olygu (ond mae hynna’n colofn arall)…ac am rhyw reswm, mae hyn yn ennyn ein diddordeb fel bodau dynol – am un peth, mae hi tu hwnt i’r steroteip (fel arfer mae dihirod yn hyll ag/neu’n anabl/ sâl…ond mae hynny hefyd yn colofn arall).

Ond eto, i mi, a rhai o fy myfyrwyr, y peth mwyaf diddorol yw’r ffaith iddo droi i siarad yn y trydedd person er mwyn allu trafod y llofruddiaeth, thrais, a pethau gwaeth yr oedd wedi bod wrthi’n ei chwblhau. Yn ôl fy myfyrwyr, mae’n bosib hefyd gweld ei eirfa yn newid, ar ôl switso o siarad amdan ei hun, i siarad am y Ted-drygionus. Mae’r mater o pham, sut, a’r goblygiadau, yn ystyriaeth i seicolegwyr disgwrs (discursive psychologists), gan ddefnyddio agweddau o dadansoddiad sgwrs, i’w archwilio.

Ag yn olaf, y ffenomenwn fwyaf diweddar i mi ei ddarganfod – a hynny trwy ddefnyddio ein tyledu-clyfar newydd, hefo ‘amazon firestick’, yw’r gyfres moethus ‘Duwiau Americanaidd’. Yn seiliedig ar nofel gan Neil Gaiman, mae’n cymysgu hanes y Duwiau Norwyaidd (Norse Gods), hefo diwylliant poblogaidd, ac hefo delweddaeth ac awyrgylch hydolus, megis Twin Peaks. Ond, er i mi fwynhau’r wledd synhwyrol yma, fy hoff rhan hyd yma yw rhan o’r deialog o pennod 1, lle mae’r cymeriad ‘Mr Wednesday’ (Ian McShane), yn eistedd yn rhan dosbarth cyntaf yr awyren, yn yfed wisgi, ac mae hyn yn digwydd:

Stiwardes awyr:      Syr, dwi i fod i gymryd dy ddiod di rŵan

My Wednesday:      Ah, ond ti ddim am gwneud nag wyt…achos os oeddet ti am wneud, fysa chi wedi dweud “dwi’n gorfod cymryd dy ddiod di rŵan”, neu “dwi’n mynd i gymryd dy ddiod di rŵan”, ond wnaethoch chi r’un o’r ddau beth naddo? Felly wnai dal y diod neis ag yn dynn, a fedre di fynd a nôl un arall i mi, ac un i fy ffrind (gan amlygu ‘Shadow Moon’, wedi ei chwarae gan Ricky Whittle).

Ac mae hyn, felly, yn portread o agwedd arall o fecaneg iaith – yr hyn yr ydym yn ei ddweud, a’r ffordd union yr ydym yn ei ddweud e, a’r ystyr y mae hyn yn ei chyfleu. Yn ôl y llenyddiaeth ysgolhaig, rydym hefyd yn dechrau ymatebion problemataidd, megis troi lawr gwahoddiad, gan ddweud ‘Oh’. Mae hefyd tystiolaeth bod pobl yn dweud celwydd noeth wrth drïo gwneud pwyntiau pennodol, ac yna yn ‘trwsio’r’ celwydd, gan fynd yn ôl a dweud, er enghraifft: “Wel, mi aeth ei merch i’r brifysgol, yn diwedd, ar ôl straffaglu cael lle, a wnaeth hi ddim mynychu cwrs werth chweil, mewn brifysgol gwerth chweil” – sydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i “wnaeth ei merch hi ddim hyd yn oed mynychu prifysgol”. Ew, diddorol yw dadansoddi iaith, ynte?!

@SerenSiwenna

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn papur bro Wrecsam a’r cylch Y Clawdd, Ebrill 2019, rhifyn 192.

Read Full Post »