Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2013

Yn ôl yn 2011, mynychais barti pen-blwydd Aled Lewis Evans, ac mi roedd hi’n noson werth chweil chwarae teg, hefo cherddorion a bandiau lleol yn chwarae, gan gynnwys Arwel Tanant Jarvis a hefyd Calon, sef band Kay a Stephen Lee a fuodd yn Ysgol Morgan Llwyd yr un adeg a finnau. Tra oeddwn wrthi’n ciwio am y bwffe, dechreuais siarad hefo’r hogyn oedd yn sefyll tu ôl i mi, a throdd allan i fod yn gefnder i Aled – Tudur Puw. Mae’n debyg mai trafod pa mor flasus roedd y brechdanau’n edrych neu rywbeth felly oedd mân gychwyn y sgwrs, ond rywsut dechreuon ni trafod ein colofnau llenyddol yn y papurau bro, ac rwy’n cofio rhan ddoniol o’r sgwrs lle disgrifiodd ei golofn ef gan ddweud mai ‘Rhyw dudalen o’r Dalar’ oedd yr enw, ac atebais innau gan ddweud ‘Synfyfyrion llenyddol’, ac mi nodiodd ei ben gan ddweud ‘Ie rhywbeth fel ‘na’ cyn sylweddoli mai enw fy ngholofn i oedd hynny! (Efallai mai un o’r ‘you-had-to-be-there-moments’ oedd hwn, ond dwi’n gwenu wrth feddwl amdano rŵan!) Cawsom sgwrs ddiddorol am ein colofnau ac ein cymhelliannau dros ei hysgrifennu a phenderfynais y buaswn yn mynd ati i danysgrifio i Y Wylan, sef papur bro Penrhyndeudraeth, Porthmadog…a sawl pentref cyfagos…er mwyn i mi gael asesu’r gystadleuaeth.

Mae Tudur yn ysgrifennu erthyglau llawer iawn fwy grymus a llengar na’r rwdlan rydych chi’n cael yma, ac mae’n rhaid dweud fy mod hyd yn oed ychydig yn genfigennus o enw ei golofn – esboniodd mai enw ei dy yw ‘Talar wen’, gyda ‘Talar’ yn golygu darn o dir mewn cae, lle mae rhywun yn defnyddio i droi rownd wrth aredig neu drin tir. Mae yna gyfeiriadau am ffermwyr yn cael rhyw ychydig o orffwys ar ben y dalar cyn ail gychwyn…felly mae’n enw sydd â naws cefn gwlad, clyfar o ran pwrpas y golofn, ac, yn ôl Tudur, y mae’n cynganeddu! ‘Ew, dwi’n ‘out-classed’, meddyliais! Ond ta waeth, o ganlyniad i gwrdd â Tudur mi rwyf y nawr yn tanysgrifio i Y Wylan ac yn mwynhau ei ddarllen pan ddaw trwy’r post yma i ‘Melyn-Yr-Eithin’ (yr enw rydym wedi ei ddewis o’r diwedd ar gyfer y Tŷ ‘ma!)

Yna, un diwrnod, rhyw ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn wrthi’n fflician drwyddi pan welish i hysbyseb gan Fentrau Iaith Cymru yn cynnig grantiau i bobl cael mynd i Nant Gwrtheyrn ar gyrsiau i wella eu Cymraeg. Yn sicr yr wyf wedi bod yn sidro gwneud hyn ers talwm, ond methu fforddio mynd, felly anfonais e-bost i holi am fanylion pellach. Yn y bôn, roedd y grantiau yn talu am 75% o gwrs o’ch dewis, os oeddech yn gallu esbonio a chyfiawnhau sut fyddai’r grant yn eich helpu o ran gwaith, gyrfa, symud yn ôl i Gymru, bywyd teuluol, hamdden a/neu waith cymunedol. Wel, roedd rhesymau cadarn gen i dros bob un o’r pethau yma ac es ati i lenwi’r ffurflen gyda brwdfrydedd ac unplygrwydd fyddai Sheldon o ‘The Big Bang Theory’ yn edmygu! Ac ymhen hir a hwyr ces glywed fy mod wedi cael y grant ac wedi fy nerbyn i fynychu’r cwrs ‘Hyfedredd’ (neu loywi iaith) ym mis Chwefror.

Felly, dydd Gwener ddiwethaf, paciais fy clio gyda fy ngeiriaduron, cyfrifiadur hefo Cysill arno a phob math o bethau eraill, gan osod y Tom-tom am Llithfaen. Mi roedd hi’n ddiwrnod braf a gyrrais ar hyd yr arfordir a trwy’r twnnel yn y mynydd – ew mi roedd hyn yn llawer iawn fwy pleserus na brwydro fy ffordd dan y Mersey i Lerpwl! Pan gyrhaeddais Nant Gwrtheyrn ei hun (ar ôl gyrru’n ofalus iawn lawr y ffyrdd anhygoel o serth) sylweddolais jest mor brydferth oedd y lle yma – gyda’i mynyddoedd clegyrog, coed prydferth a golygfa hyfryd o lan y môr, gallaf deimlo fy hun yn ymlacio gan anghofio pryderon yr wythnos…ar ddinas bell; yn wir, mi roedd geiriau John Denver yn llifo trwy fy mhen: “He was born in the summer of his twenty-seventh year, coming home to the place he’d never been before, He left yesterday behind him, You might say He was born again, You might say he’d found the key to every door”…ond mai mynyddoedd Llithfaen yr oedd wedi sbarduno fy epiffani innau, yn hytrach na’r Colorado Rocky Mountains! Ac mi roeddwn yma i wella fy Nghymraeg a chael profiadau Gymraeg; achlysur prin felly o gael gwneud yr union beth yr oeddwn eisiau ei gwneud, yn hytrach na rhywbeth y dylwn i’w wneud…darn o awyr las heddiw…

Yr oedd y cwrs yn llawn ac roedd y rhan fwyaf yn Gymru Gymraeg fel finnau, oedd am un rheswm neu’i gilydd heb amgyffred yn rheolau cymhleth yr iaith yn hollol – yn wir teimlais ryddhad wrth weld fod yna rhai ene oedd yn waeth na fi ar rhai pethau, gan gynnwys un ferch a ddywedodd yn hollol onest nad oedd wedi sylweddoli tan rŵan fod yna ‘Mae’ a ‘Mai’!! (chwarae teg, dwi’n ei chymysgu nhw weithiau, ond roeddwn yn ymwybodol ohonynt). Dysgais pa mor bwysig yw hi i ddefnyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na throsi o’r Saesneg (felly dyma fy mhrosiect nesaf – dysgu am idiomau…megis ’dod at dy goed’).

Yn ddiddorol iawn, dysgo’n ni hefyd pethau annisgwyl am y Saesneg wrth i ni ddysgu am y Gymraeg, e.e. fod llawer o fynegiadau Saesneg yn dibynnu ar eiriau cyfeiriadol, megis ‘up’ a ‘down’, ‘on’ ac ‘off’, ac, er nad yw hyn yn wir am Gymraeg naturiol, yn anffodus maent wedi dechrau treiddio i’n bywyd pob dydd ni, e.e. yn lle ‘Diffodd y golau’, mi rydym ni yn tueddu o ddweud ‘Rhoi’r golau ffwrdd’, ac ‘Dwi di fod fynnu trwy’r nos’ yn hytrach na ‘Dwi di fod ar fy nhraed trwy’r nos’. Yr wyf y nawr hefyd wedi derbyn, o’r diwedd, fod hi’n bosib, ac yn dderbyniol, i hyfforddi’r glust i wybod pryd mae angen treiglo neu beidio, gyda’r ddadl fwyaf argyhoeddedig yn dŵad eto o’r Saesneg, sydd yn cuddio’i threigliadau, megis ‘spy’, ‘stop’ a ‘ski’, ac mi rydym ni’n ei dysgu nhw’n naturiol wrth ddysgu’r geiriau a sut dyle nhw swndio, yn hytrach na sut maent yn ymddangos ar y tudalen. Wrth adlewyrchu, rwy’n cytuno a’r athrawes hyfryd, a ddywedodd ar y nos Wener – ni fydd ein Cymraeg yn sgleinio ar ôl un penwythnos, ond mae’r cwrs yn rhoi sylfaen cadarn. Ges i epiffani ieithyddol yn ystod un wers, lle ddechreuodd y rheolau gwneud synnwyr, ac rwy’n teimlo’n reit hyderus rŵan y byddaf, trwy astudio yn frwd, yn gallu cyrraedd safon uchel hefo fy Nghymraeg, yn yr un modd a gwnes i hefo fy Saesneg; efallai fod gobaith i mi eto cael gyrfa Atwood-aidd trwy gyfrwng y Gymraeg?

Eniwe, cefais andros o amser da ar y cwrs, a oedd yn drylwyr ond yn hwyl, a chawsom ddawnsio gwerin ar y nos Sadwrn, sydd wastad yn hwyl. Roedd y bwyd yn fendigedig, y gwestai yn foethus, ac, wedi ei lleoli ym mharadwys Lithfaen, mae Nant Gwrtheyrn yn un o’r llefydd gorau i mi ymweld â hi ers llawer dydd; gallaf ei hollol argymell!

Read Full Post »