Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2012

          Rhai misoedd yn ôl bellach, cefais fy ngwahodd i siarad â’r Gymdeithas Owain Cyfeiliog, sef grŵp llenyddol Wrecsam, am fy ngwaith ymchwil doethuriaeth, fy llenydda, ac am fod yn golofnydd llenyddol rheolaidd ar gyfer Y Clawdd. Yn naturiol mi roeddwn wrth fy modd gyda’r syniad a dechreuais baratoi araith fyddai’n cyfleu sut oedd fy ngyrfa academaidd wedi tryfalu’n berffaith a fy ymdrechion llenyddol, a sut roedd ysgrifennu i’r papur bro wedi rhoi hwb mawr i fy ysgrifennu academaidd, gan fy helpu trwy adegau tywyll yn fy ngyrfa. Yna cefais e-bost gan yr awdures Mari Strachan (“The Earth Hums in B Flat” a “Blow on a dead man’s embers”) yn diolch i mi am anfon copi o’r Clawdd, (Rhagfyr 2011) ati, ac am sgwennu’r erthygl ynddi wedi ei selio ar ei llyfr newydd; ond soniodd hefyd fod fy enw i yn ymddangos yn agos at ei henw hithau ar raglen digwyddiadau llenyddol ‘Llenyddiaeth Cymru’ (Yr Academi gynt). Es ati i gwglo a dyna le oedd fy enw ar y rhaglen, hefo pwt bach yn hysbysebu fy araith gerllaw! Ew yr anrhydedd ynte! “Mae’r yrfa lenyddol wedi cychwyn yn wystl” meddais wrth fy hun, gan frasgamu o amgylch y tŷ, ac yn ymarfer cyfweliadau dychmygol y dyfodol wrth olchi’r llestri – megis Jimmy Rabbitte yn y ffilm “The Commitments”! Ond wrth gwrs, gyda “me being me” fel mae’r dywediad yn Saesneg, doedd hi ddim yn hir, wedi i mi gael cyfle i synfyfyrio ychydig, nes dechreuais hefyd dychmygu’r posibiliadau dystopaidd hefyd, gan gynnwys gwingo wrth i bobl trafod “yr hogan wirion ene oedd yn rwdlan am flynyddoedd yn y papur bro pob mis, gan feddwl fod hi’n gallu sgwennu – a hithau methu hyd yn oed siarad Cymraeg gweddus!” Es ati i boenydio’n hun: “Ydy fy Nghymraeg yn ddigon cryf i roi’r araith o flaen pawb? Fydd pobl yn gallu deall beth rwy’n ei ddweud? Fydd pobl eisiau clywed am fy ngwaith ymchwil neu yn hidio am fy ngherddi bach amrwd neu fy ngholofn wibbley-wobbley?!”
          Eniwe, fe ddaeth y diwrnod proffwydol o’r diwedd ac roeddwn wedi paratoi araith roeddwn yn eithaf hapus ag hi. Printiais ‘hand-outs’ o’r hyn roeddwn am ddweud, ynghyd a delweddau perthnasol, megis: Gath ‘Saber-toothed’; darlun yn esbonio effeithiau’r ymateb ‘cwffio neu hediad’ (fight or flight) ar y corff; paentiad ‘Lluest y mynydd’ gan Valériane Leblond; hunan-avatar; coedwig brydferth yn yr Unol Daleithiau; ac, wrth gwrs, ffotograff o Arthur Conan Doyle! (Wnâi adael i chwi synfyfyrio ar y cysylltiadau posib!) Ac felly y bu hi, ar noson oer ym mis Chwefror, gyrrais o fy hafan yng nghefnwlad Cilgwri, i Wrecsam, tref fy mhlentyndod, i gyflwyno fy ngwaith hyd yma ynghyd a’n syniadau blagurol. Yn ôl fy arferiad, roeddwn wedi cyrraedd rhyw ddwy awr yn fuan ac wedi anghofio dod a fy mrechdanau hefo fi (roeddynt dal yn y rhewgell adre). Parciais ynghanol Wrecsam a cherddais ar draws y stryd i siop sglodion “Eddie’s” lle fuon ni’n mynd pan oeddwn yn blentyn. Synnais pan welais pa mor swish oedd y lle erbyn hyn – roeddent wastad wedi gwerthu sglodion bendigedig ond roedd bwydlen eang ganddynt rŵan, gan gynnwys “Battered Mars Bars”, ac roedd yna ystafell gyda seddi i chi cael bwyta ene – yn hytrach nag ei bwyta o’r papur yn y car, fel roeddwn wedi bwriadu gwneud. Prynais lond hambwrdd o fwyd blasus, gan gynnwys un o’r Mars Bars, a setlais mewn cornel i ddarllen trwy fy araith i gael fy hun ‘in-the-zone’ cyn mynd yn ôl i’r clio a gyrru o gwmpas y gornel i Westy’r Belmont, lle mae’r gymdeithas yn cynnal ei chyfarfodydd pob mis.
          Roedd perchennog y gwesty yn ffeind tu hwnt a chefais groeso cynnes a thebot llawn te hyfryd. Euthum drwodd i’r orendy prydferth, gyda’i tho gwydr, dreser a chrochenwaith tlws, a dodrefn pren tywyll gyda lliain bwrdd gwyn wedi ei brodio. Roedd hi’n osodiad llaes a braf a dechreuais deimlo’n fwy hyderus am yr hyn yr oeddwn ene i’w wneud. Dosbarthais yr hand-outs o amgylch y bwrdd gan osod y seddi mor gyffyrddus a gallaf o amgylch un o’r byrddau mawr – gan groesi bysedd fyddai ddigon o bobl yn dŵad fel na fyddai’r bwrdd yn ymddangos yn rhu wag. Ymhen ychydig funudau fodd bynnag, mi wnaeth y ‘gynulleidfa’ dechrau cyrraedd ac mi roedd llawer o bobl hyfryd, garedig (a cydymdeimladol) wedi dŵad draw i wrando arnaf. Wedi i ni gyd setlo o amgylch y bwrdd mi wnaeth Aled Lewis Evans darllen ‘bio’ amdanaf yr oeddwn i wedi helpu i’w paratoi (yr hubris ynde!) ac, ar ôl rhyw dwy eiliad o banig, dechreuais mewn llais bach swil, sigledig, i gyfleu fy araith. Yn ddigon ysmala, unwaith i mi gychwyn roeddwn yn oke a dechreuai fy hunan hyder dyfu; ffeindies fy hun yn ymlacio ac yn mwynhau fy hun wrth sylwi ar ymateb pawb o amgylch y bwrdd, a oedd yn ymddangos fel ei bod nhw’n ymddiddori yn yr hyn roedd gennyf i’w ddweud. Wedi i mi orffen siarad cawsom drafodaeth ddiddorol, bleserus dros ben, gyda phynciau yn cynnwys amrediad rhwng: myfyrdod Bwdhaidd; esblygiad yr NHS; deuoliaeth meddwl-corff Cartesaidd; a synfyfyrion lenorion adnabyddus, megis R.Williams Parry a John Donne, ar y mater sobr o farwolaeth, a’r emosiynau wrth ei bendroni (mwy am hyn rhywbryd arall efallai, wedi i mi ymchwilio’r syniad yn drylwyr!)
          Os wyf am adeiladu gyrfa yn y byd academaidd, neu’r byd llenyddol – neu’r ddau wrth gwrs, mae’n hanfodol fy mod yn dod i arfer, ac i fwynhau, siarad yn gyhoeddus am fy ngwaith ac am faterion cysylltiedig. Mae gen i un neu ddau o ‘gigs’ ar y gweill blwyddyn yma, gan gynnwys cynhaliad academaidd yn Denmarc ym mis Mehefin ac, efallai, slot yn un o’r nosweithiau Cymraeg/ dwyieuthog, megis: ‘VIVA VOCE’ – noson meic agored llenyddol, fydd yn cymryd lle yn y canolfan Cymraeg newydd: Y Saith Seren yn Wrecsam. Rwy’n edrych ymlaen at y sialens ac ni allaf feddwl am gychwyn gwell, na chroeso mwy cefnogol, na’r hyn y cefais gan y Gymdeithas Owain Cyfeiliog, draw yng Ngwesty’r Belmont yn Wrecsam. Yn sgil hyn, sountrack y golofn yw “Feels like Home to me” gan Chantal Kreviazuk, gan i’r Cymdeithas Owain Cyfeiliog estyn y fath croeso nes i mi deimlo’n gartrefol unwaith eto yn nhref fy mhlentyndod, er gawethaf fy mhryderon am fy Nghymraeg chwithig. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis ar nos Iau am 7 o’r gloch yr hwyr. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth mynychu’r cyfarfodydd a gallaf hollol argymell y profiad! Am fwy o fanylion cysylltwch ag Alun Emanuel ar y ffon: 01978 359846, neu cysylltwch ag Aled Lewis Evans trwy Facebook neu gyrrwch e-bost at: aledlewisevans@yahoo.co.uk

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Mawrth 2012 (Rhifyn 150)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, March 2012 (Issue 150).

Read Full Post »