Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Medi, 2010

           Pan es ati yn wreiddiol i lunio’r wefan yma doeddwn i ddim yn deall rhyw lawer am ‘blogio’; fy mwriad oedd creu wefan arferol er mwyn cael rhywle i gasglu fy ngwaith creadigol, megis fy marddoniaeth a straeon byr, a hefyd fy ngholofnau (Synfyfyrion Llenyddol) wedi iddyn nhw ymddangos yn Y Clawdd. Ond dim ond rhyw saith colofn y flwyddyn yr wyf yn ei sgwennu a dim ond ryw lond llaw o gerddi oedd gen i wedi ei chyhoeddi. Cyn pen dim roeddwn wedi sylwi fy mod ond yn postio unwaith y mis tra bod blogwyr eraill yn tueddu o bostio o leiaf pob wythnos, os nad pob dydd.

            Pendronais y broblem am fisoedd. Darllenais bloggiau pobl eraill a ddes i ddeall mai sylwadau ar wleidyddiaeth oedd rhai, tra bod eraill fwy fel dyddiaduron. Er bod y syniad o rain yn apelio ataf, pwrpas fy ngwefan i oedd rhannu a hyrwyddo fy ngwaith creadigol, fel gall unrhyw un ddod at y wefan, o unrhyw ran o’r byd, a phori’r archif a’r hafan, gan ddod i wybod amdanaf fel awdures, bardd a newyddiadures a hefyd darllen fy ngwaith…ac efallai cynnig book-deal i mi! Os dechreuaf bostio llif-ymwybod a sylwadau ar y blog, peryg i fy ngwaith creadigol fynd ar goll yn y white-noise.

            Dechreuais blog arall yn y Saesneg er mwyn cael bloggio yn y gwir ystyr, fwy fel dyddiadur, ond rwyf dal eisiau postio’n fwy rheolaidd yma – os am ddim rheswm arall ond i hybu ymwybyddiaeth o’r blog a denu fwy o ddarllenwyr! Ar ôl postio un neu ddau o straeon byr a cherddi sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn ffeindio rhywle i’w cyhoeddi, penderfynais greu ‘colofn ar-lein’ fel ychwanegiad i fy ngholofn papur bro, lle allaf archwilio syniadau sydd gen i ar y gweill, gan gynnwys rhai sy’n synfyfyrion ieithyddol neu gyffredinol na rhai llenyddol. Gallaf hefyd trafod pynciau/ digwyddiadau a fyddent yn ddarfodedig erbyn iddynt fynd trwy’r broses cyhoeddi i fy ngholofn arferol. Penderfynais alw fy ngholofn newydd sbon yn: Rwdlan a bwhwman, gan mai dyna yr wyf wrthi yn gwneud a fy mywyd, mae’n ymddangos, wrth i mi straffaglu i greu cilfach i’n hun fel awdures, fardd a newyddiadures.

            Iawn medde chwi, ond beth sydd gan hyn i gyd i wneud a ‘Hoff Gerddi Cymru’? Wel, fel mae’n digwydd, fe ddaeth pwnc addas i fy ngholofn newydd i’r gweill dros y dyddiau diwethaf yma, ar ffurf lythyr a chyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg ac felly dyma fi wedi mynd ati i sgwennu’r ‘colofn’ cyntaf.

            Yng nghopi Golwg Medi 16, 2010 mi roedd yna lythyr, wedi ei hysgrifennu gan Elinor Wyn Reynolds, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion i Wasg Gomer. Yn ei llythyr mi roedd Elinor yn sôn bod deng mlynedd wedi pasio ers cyhoeddi’r gyfrol: Hoff Gerddi Cymru ac felly mae Gomer am ychwanegu at y casgliad gan gyhoeddi: Mwy o hoff Gerddi Cymru. Aeth Elinor ymlaen i annog darllenwyr Golwg i roi gwybod i Gomer pa gerddi yw ei ffefrynnau – hir neu fyr, hen neu newydd, astrus ac uchel ael neu rigwm/ cwpled – does dim ots medde nhw, cyn belled ei bod nhw’n ffefrynnau gennym.

            Wel, yn naturiol mi roedd hyn o ddiddordeb mawr i mi ac es ati i ddewis tair o’m hoff gerddi gan fy llenyddiaeth-idol: Aled Lewis Evans, gan gynnwys cerdd fach ddiymhongar o’r enw: ‘Lliw duw’ o’i gyfrol: Dim angen creu teledu yma. Anfonais fy newisiadau i Elinor ar ffurf e-bost i: Elinor@gomer.co.uk

            Nawr te, gobeithiaf na fyddech yn gweld hyn fel hunan-serch ar fy rhan i ond dechreuais sidro’r posibiliad o gael un o fy ngherddi i yn y gyfrol. “Ond wyt ti’n fardd ac a oes gennych gerddi sydd wedi ei chyhoeddi a’i darllen…yn ddigon iddynt gael ei hystyried yn ffefrynnau?” (rwy’n eich clywed chi’n gofyn!) Wel, mae gen i un neu ddau o gerddi sydd wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tu Chwith, ac maent hefyd wedi ei gyhoeddi yma, sydd, mewn ffordd, yn ei chyhoeddi ai cyflwyno i unrhyw un yn y byd sydd hefo mynediad i’r we.

           Yn ogystal â hyn mae gen i un gerdd – Pam fod brechdanau’n fenywaidd? (A chwestiynau difyr eraill) sydd wedi ei gyhoeddi yn Y Clawdd, fel rhan o fy ngholofn ac sydd felly, yn ôl cylchrediad Y Clawdd, wedi ei gyhoeddi 600 o weithiau ac wedi ei dosbarthu i sawl cartref yn ardal Wrecsam (a thu hwnt i ‘alltudion’) a’i ddarllen gan gryn nifer o bobl. Cafodd y gerdd cryn sylw ar ôl ei chyhoeddi, gan gynnwys llythyr a cherdd yn ymateb i’r cwestiynau ynddi gan un o ddarllenwyr Y Clawdd; mi fydd y llythyr a’r gerdd yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn nesaf Y Clawdd. Yn ogystal, cafodd y gerdd ei gyhoeddi yn ddiweddar yng nghylchgrawn ar-lein ‘Voice’ (United Press) ynghyd a fersiwn Saesneg o’r gerdd. Gellir darllen y gerdd (fersiwn Cymraeg a’r Saesneg) yma ar yr hafan neu gwasgwch y ddolen ‘Barddoniaeth’.

           Ac y nawr, yr wyf wedi rwdlan ar y pwnc yma am dros i wyth cant o eiriau a well i mi cau’r colofn-we yma cyn iddi fynd yn rhu hir i neb boddran ei ddarllen. Hoffwn gau felly gan eich annog i bleidleisio dros eich hoff gerdd yn arolwg barn Gwasg Gomer, pryn bynnag cerdd gan bwy bynnag yr ydych yn ei ddewis fel ffefryn. Mae’n bwysig fod mentrau fel hyn yn cael cefnogaeth a sylw a hefyd ei bod nhw’n adlewyrchu chwaeth y cyhoedd yn gyffredinol, yn hytrach na chylch cyfyng, breintiedig o ysgrifenwyr a chyhoeddwyr. Craidd llenyddiaeth yw difyrru a dod a phleser a chysur i bob un ohonom ni, mewn amserau hwylus a thrist.

           Fy mreuddwyd fwyaf yw cyhoeddi ryw waith llenyddol sydd yn ffitio’r disgrifiad uchod, boed e’n gerdd neu nofel, neu hyd yn oed cân pop, pwy a ŵyr? Dwn i’m os wyf eto wedi cyrraedd fy nghamre ac wedi creu eto fy ‘American Pie’, ‘Nant y Mynydd’ neu fy ‘Wide Sargasso Sea’  ond os wyf wedi dod yn agos ati, ‘Pam fod brechdanau’n fenywaidd?’ yw hi ac, os ydych wedi ei ddarllen ac wedi ei fwynhau ddigon i’w cynnig fel un o’ch ffefrynnau, mi fyddaf wrth fy modd!          

(Ôl nodyn: Y mae’n rhaid anfon yr e-bost cyn diwedd mis Medi gan ei bod nhw am gyhoeddi erbyn Nadolig felly ewch ati dros y Chwe diwrnod nesaf!)

This article is the first of my new online column ‘Rwdlan a Bwhwman’ (drifting and prattling)

Read Full Post »

           Eisteddais yn anghyfforddus yng nghefn y dosbarth. Yn gwylio, ac yn gwrando, yn afresymol o astud, wrth i’r athrawes wenwynig erlid yr hogyn yn yr ail res. Teimlais y blew ar gefn fy ngwar yn codi wrth i’r arswyd fy lapio. “Paid tithau â siarad yr iaith fudur yna yn fy nosbarth i, myn uffarn i!” meddai hi, gan syllu arno fel pe bai o’n Beelzebub ei hun. “Ddaru, sidro, starfio, ych a fi wir!”

             Sylwais fod clustiau Arwel Gruffydd druan wedi troi’n goch erbyn hyn, a thybiais ei fod o’n gwrido gan gywilydd, ond ni ddywedodd air. “A dwi’n gwybod yn iawn fod dy dad yn hoff o drafod teilyngdod y  ‘tafodiaith’ a fo’n brifathro yn yr ysgol acw. Dwi erioed ‘di clywed y fath lol wir, tafodiaith – bratiaith, i fod yn fanwl gywir”, chwarddodd yn hyll ar ei jôc ei hun.

          Yr oedd hi’n cyrraedd ei chamre nawr ac wedi symud o’i hunfan nes ei bod hi’n cawrio drosto, a’r casineb tuag ato yn amlwg ar ei hwyneb sgwâr. Roedd yr aer yn yr ystafell yn llawn cyffro wrth i’r athrawes wylio Arwel yn ddisgwylgar, beth fyddai ei ymateb tybed?

            Chwarae teg, yr oedd o wedi cadw mudandod urddasol hyd yn hyn, heb ateb yn ôl, na dangos emosiwn. Yna cododd ei ysgwyddau mewn ystum o ymostyngiad, ac rwy’n credu iddo lwyddo i wenu – buddugoliaeth yn wyneb y fath ymosodiad, da iawn yn wir!

               Llifodd y gwaed o wyneb yr athrawes a throdd ar ei sawdl gan ddychwelyd at flaen y dosbarth. Dechreuodd y wers fel pe bai dim wedi digwydd. Yn wir, rwy’n credu fod llawer yn y dosbarth yn anymwybodol o arwyddocâd yr ymosodiad, gan dybio mai cael ei gosbi am ryw gam oedd Arwel; aethant ymlaen efo’u gwaith yn ddigon hapus.

               Ond i mi, roedd y digwyddiad yn un hunllefus a bygythiol. Roedd fy mhen yn llawn gofidiau a fy nghlustiau yn canu hefo geiriau’r athrawes. Nid oedd hyn yn ddechrau da i fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd. Er nad oeddwn i wedi fy magu ym Txanbelin, Cymraeg Txanbelinaidd yr oeddwn yn ei siarad gan mai dyna o le yr oedd teulu fy nhad yn hanu ohono.

              Ddiolchais yn dawel fod hyn i gyd wedi dod i’r amlwg cyn i fi agor fy ngheg gan ddatgelu fy mod innau o’r un ‘bratiaith’ ar hogyn truenus hwnnw. Efallai fod hyn yn dangos llwfrdra. Efallai y dylwn fod wedi gwneud safiad efo fo. Ond roeddwn yn ifanc ac yn naïf, ac, fel yr oedd pethau ar y pryd, yr oedd hi’n llawer iawn haws suddo i gefn fy nghadair ag aros i’r nyth cacwn dawelu.

                 Nid oedd modd iddo fo ddianc y ddamnedigaeth gan fod ei dad mor adnabyddus ym Txanbelin. Yr oeddwn innau, ar y llaw arall, wedi fy magu yn Nhreffin, i deulu a oedd yn anweledig yn y gymuned Gymraeg, ac felly fe fyddai hi’n bosib, os oeddwn yn ddigon gofalus, i osgoi gwrthdaro o’r fath.

             Siarsiais fy hun “paid â deud ene, na nene, na llefrith, na odi, na hawddach, na dodo…..” duwcs mi fydda hi’n flwyddyn hir yng nghwmni’r dialedd yma. Teimlais fy nghalon yn suddo wrth feddwl am yr her. Roedd enbydrwydd y sefyllfa ar fin fy niflasu yn llwyr pan ganodd y gloch.

                 Hwre! Teimlais ryddhad bendigedig wrth i mi bacio fy nghas bensiliau i fy ysgrepan; roeddwn bron a bostio eisiau gadael cyfyngiadau’r ystafell.

                O’r diwedd cawsom ein gollwng i’r coridor i fwynhau ein hamser bwyd bore, wps, egwyl, ia, egwyl roedden nhw’n ei alw o yma yn yr ysgol fawr ynte, rhaid gollwng y geiriau babïaidd os am ffitio mewn. A gollwng hefyd fy nhafodiaith yr oedd yn ymddangos.

                 Hmm, difyr iawn wir, eniwe, amser am sgon a hufen yn y neuadd ‘cw a chaf anghofio am y wleidyddiaeth-ysgol-newydd yma… am ryw bymtheg munud bach beth bynnag.

Cafodd y stori fer yma ei fentro ar gyfer cystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a’r Cylch 2008; cafodd sylw weddol ffafriol ohono yn y llyfr Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Nid yw wedi ei gyhoeddi ninlle arall hyd yn hyn./ This short story was submitted to the short story competition for the National Eisteddfod of Wales, Cardiff and district 2008; it received a reasonably favourable commentary in the book of Compositions and Judgments. It has not been published anywhere else as yet.

Read Full Post »

The Llinell, not the linell.

The llong, the llinyn, the llyfr, the llwyn.

Sali Mali is counting the sandwiches,

Un, dwy, tair, pedair,

because sandwiches are feminine aren’t they?

But why are sandwiches feminine?

And how to know when to mutate –

and when not to?

Meddal, trwynol, llaes, Cysefin.

I have the table in the back of my dictionary,

But it may as well be on quantum physics from the planet Siwenna!

And what of the acen grom?

and other decorative symbols?

They look very nice on the page,

and add a Je ne se quoi to people’s names,

I must admit.

Siôn, Siân, Llŷr and Andrèa.

But I can’t for the life of me remember the rules,

and they’re a nuisance to type as well.

Complicated codes like some nightmarish semaphore,

it’s enough to keep someone from blogging!

And how to write the date even?

-af, -fed, -ydd, -ed,

And why are some things un-deg-tri,

While others are dair-ar-ddeg?

I’m a stranger to the language of my heart –

in every “correct” sense anyway.

And yet there’s a beauty which lies within the complexity,

Of the old tribal language shrouded in mystery.

With its pretty idioms and poetic phrases,

Steeped in a history which continually amazes.

Morphological traditions which contemporaries respect,

and the richness derived from each dialect.

A vivaciousness of spirit when Cymraeg is spoken,

So proud are we that it has not been forsaken.

And thus I am willing to study diacritics,

 For the honour to write with their added aesthetics.

I’ll embrace now the teg, tecach, and teced,

the drud, the drutach, the drutaf, the dryted.

It’s a pleasure to learn how to correct my gwallau,

and to learn the correct way to count the brechdanau.

This poem is a translation of my poem “Why are sandwiches feminine? (And other interesting questions)”  which was published in my column “Synfyfyrion llenyddol (literary musings)” And also in the magazine “Voice” (United press); the translation was published with the Welsh version in “Voice”./ Y mae’r cerdd yma yn cyfieithiad o fy ngherdd “Pam fod brechdanau’n fenywaidd? (A chwestiynau eraill)” a chafodd ei cyhoeddi yn fy ngholofn “Synfyfyrion llenyddol” a hefyd yn y cylchgrawn “Voice” (United press); cyhoeddwyd y cyfieithiad gyda’r fersiwn Gymraeg yn “Voice”.

Read Full Post »