Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mawrth, 2019

Mae hi’n flwyddyn o gerrig filltir yn fy swigen fach bersonol. Mae hi’n ddegawd ers i mi gychwyn y golofn yma, nol yn 2009. Mae hi’n ddegawd ers i mi gael fy wobble mawr am y ffaith fy mod yn troi’n deg-ar-hugain – y creisis chwarter bywyd. Rwyf y nawr, felly, yn deugain, neu bedwardeg – sydd yn garreg filltir yn einioes unrhyw un, amwn i. Yn ôl pob sôn mae bywyd yn dechrau hefo’r garreg filltir yma, felly dwi’n reit obeithiol am sut fydd pethe’n troi allan flwyddyn yma; ac wedi’r cwbl, allen nhw ddim mynd llawer iawn gwaeth na’r flwyddyn ddiwethaf hunllefus!

Rwyf ar hyn o bryd wrthi’n mwynhau fy ngwaith ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac wrth deipio’r golofn yma, dwi’n cadw llygad ar y cloc achos fy mod yn ddarlith am 9.15yb (mae hi’n 8.12yb ar hyn o bryd, a dwi ar ei hol hi yn anfon hwn i Aled fel mai!) Ond rwy’n hapus i ddweud nad wyf yn panicio, achos dwi’n teimlo fod gen i’r gallu i sgwennu hwn mewn digon o bryd a’i hanfon; mae fy ngallu i sgwennu wedi dychwelyd (wel, i’r hyn a oedd hi cyn mynd yn sâl beth bynnag!)

Mae troi’n pedwardeg yn gwneud i rywun adlewyrchu – beth rwyf wedi ei ddysgu yn y bloc cyntaf yma o fy mywyd? Llond fyswn i yn dweud, ac nid yn unig am y byd a’i betws, nag ychwaith am faterion ysgolhaig, ond amdanaf i fy hun. Sut rwy’n ymateb i bethau, a sut fedraf addasu hyn at y dyfodol, er mwyn fwynhau bywyd tawelach a fwy hwylus. Ac yn ddigon ysmala, mae sawl peth ar hyn o bryd yn tryfalu’n berffaith ac felly mae fy nyletswyddau a diddordebau personol ac ymchwil yn berthnasol i’w gilydd.

Yn ôl pob sôn, mae’r ffilm wreiddiol ‘Alien’ hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn bedwardeg, ac i gofnodi’r achlysur, mae’r Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin draw ym mhrifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd. Er fy mod wedi gadael y brifysgol bellach, rwyf dal yn aelod o’r ganolfan ac rwy’n awyddus i gyfrannu ac i fod yn rhan o bob digwyddiad. Fodd bynnag, roedd yna un broblem hefo’r gynhadledd yma – dwi wastad wedi osgoi’r ffilmiau yn y gyfres yma gan nad wyf yn ei hoffi nhw. Damnia medde fi wrth fy hun, ond yna – efallai fod hwn yn gyfle am adlewyrchiad?

Weithiau, mae’n anodd rhoi bys ar pam ein bod ni yn ymateb mewn un ffordd neu’r llall, ac fel yna roedd hi hefo’r ffilmiau yma i ddechrau. Ond wedi i mi eistedd hefo pen a phapur, yn sgwennu’r geiriau cysylltiedig â’r teimladau, mi ddaeth i’r amlwg fod rhywbeth penodol yn fy ngwaredu. Roedd geiriau megis: goo, dripping, gloop, fluids, uneccissary, gratuitous, a yuck ar y papur o’m mlaen. Cefais drafodaeth hefo fy mentor, Dr Roger Slack, a ddaeth a mewnwelediad i fy ngwaith.

Dwi ddim cwbl yn erbyn y genre o ‘arswyd’ (horror). Dwi’n mwynhau ffilmiau am fampirod a zombis. Er fy mod yn cael ymateb reit gorfforol iddynt – teimlo’n pryderes ag ati, dwi ddim yn cael ymateb llawer iawn gwaeth na phobl eraill i bethau megis torri pennau zombiau ffwrdd. Ac felly, mae’n ymddangos, mai rhywbeth i wneud hefo’r agwedd fwy perfeddol (visceral) sy’n fy mhoeni; dwi hefyd yn teimlo fod yna agwedd pwrpasol a dros ben llestri hefo’r ‘xenomorphe’ (yr hyn maent yn galw’r aliwn yn y ffilmiau).

Felly dros y misoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gwneud ymchwil ar y mater. Mae fi a’r gwr wedi gwylio pob ffilm yn y gyfres a’i thrafod. Rydym hefyd wedi gwylio ffilmiau cysylltiedig, megis: Dark Star a The Thing. Rydym wedi trafod y ffilmiau a’r agweddau perfeddol. Rwyf hefyd wedi bod yn darllen y llenyddiaeth ysgolhaig cysylltiedig ac rwyf wedi dod ar draws academydd o’r enw Julia Kristeva, a sgwennodd y llyfr: Powers of horror: an essay on abjection (ymysg sawl peth arall).

Mae’r syniad o ‘abjection’ yn diddorol ac rwyf ar hyn o bryd yn dysgu amdano a sut fedrith helpu i mi ddadansoddi fy nheimladau o ffieidd-dod tuag at y ffilmiau poblogaidd yma. Mae ganddo ei wreiddiau yn seicdreiddiad (psychoanalysis) ac mae o am deimladau goddrychol o arswyd. Yn y modd yma, felly, rwy’n dysgu fwy am fy nheimladau i a hefyd am y genre a’r modd y mae yn cael ei dadansoddi yn ysgolhaig.

Gan ei fod yn ymchwil cyfoes gen i, ac oherwydd natur y cysyniadau damcaniaethol, rwyf hefyd wedi bod yn mwynhau trafod y gwaith hefo fy myfyrwyr sydd yn astudio’r cwrs sylfaen mewn seicoleg; rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r prosiect fel sail enghreifftiau iddynt, megis: sut i lunio poster/ adlewyrchiad/ cynllun traethawd ayyb. Ac felly, mae pob dim yn dechrau gwneud synnwyr yn fy mywyd, yn hytrach na thynnu fi i sawl cyfeiriad gwahanol. Ond, dyma hi’r nawr wedi cyrraedd 9yb, felly dwi am droi’r sgwennu ‘ma trwy ‘Cysill’ ar-lein ac yna ei hanfon i’r Clawdd cyn rhedeg lawr y coridor i addysgu’r myfyrwyr..

Advertisements

Read Full Post »

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi cael amser caled wrth geisio ysgrifennu, mewn unrhyw gyfrwng – sydd wrth gwrs, i mi, yn achosi pryder, gan mai dyna rwyf yn ei wneud yn fy ngwaith ac yn fy amser hamdden. Dechreuais 2018 yn cyhoeddi’n gynhyrchiol ac yn y llefydd cywir: The Conversation; Y Stamp; Yr Esboniadur; Gerddon Fach; Discover Society; DWY erthygl cyfnodolyn perthnasol, ‘Methodological Innovations’ a ‘AlterNative’ – a phob un yn adeiladu ar fy niddordeb ym maes iaith, tafodiaith ac enwau. Wnes i hyd yn oed sefydlu blog dwyieithog, ‘Yr Onomastegydd’, gan greu platfform i rannu fy synfyfyrion am enwau ym mhob agwedd o’n bywydau.

Ond yna daeth y pryder a gyda hi cyfnod gwag, dideimlad, pan roedd yn anodd i mi ganolbwyntio ar unrhyw beth, a throdd ysgrifennu o fod yn weithred cyffroes i fod yn dasg boenus. Wrth i ni dynnu tuag at ddiwedd y flwyddyn anghysurus yma, rwy’n falch cael dweud fy mod wedi dechrau ysgrifennu eto – a hynny heb ormod o straen na phoen. Nawr felly, meddwl oeddwn fyswn yn siarad am y llenyddiaeth ddaeth yn bwysig iawn i mi dros yr haf a’r hydref, wrth geisio ffeindio’r llwybr yn ôl o’r swigen roeddwn ynddi: llenyddiaeth iechyd meddwl merched.

Y llyfr cyntaf ddaeth i fy sylw oedd ‘The Bell Jar’, gan Sylvia Plath. Ddaeth y llyfr yma yn enwog, yn fwy na dim, gan i Plath sgwennu’r stori yma am hunanladdiad, ei chyflwyno i’r cyhoeddwr…ac yna cyflawnodd hunanladdiad. Dyma felly oedd mewnwelediad gan llygad-dyst i’r teimladau ac argyfwng all arwain at y ffenomenon trist yma – persbectif ychwanegol i’r hyn a geir gan y cymdeithasegwyr Durkheim a Douglas a wnaeth astudiaethau meintiol ar ffigyrau hunanladdiad, ac yna astudiaeth fwy ansoddol, yn ôl eu trefn.

Darllenais i hi yn frwdfrydig, gan ei bod hi, felly, o ddiddordeb proffesiynol i mi. Yn wir, pan es ati i sbïo, diddorol oedd gweld faint o ysgolheigion, gan gynnwys hwy o faes meddygol, sydd yn dyfynnu llyfr Plath hyd heddiw, yn y cyfnodolion academaidd, fel enghraifft o brofiad iselder a thriniaeth mewn clinig – gan gynnwys defnydd therapi sioc trydan. Ond, fyddwn yn argymell gofal wrth ei thrin fel hanes bywgraffyddol – er gwaetha’r ffaith ei fod yn seiliedig ar brofiad personol Plath, o gael ei thrin yn ysbyty adnabyddus ‘McLean’, yn Belmont, Massachusetts.

Sgwennodd Plath y llyfr yn wreiddiol o dan y ffugenw ‘Victoria Lucas’. Rhoddodd yr enw ‘Esther Greenwood’ ar y prif gymeriad, a ni wnaeth ei chyflwyno fel gwaith hunan-bywgraffyddol felly. Ond yn fwy na hyn, mae gennym lythyrau Plath i’w mam, yn esbonio: ei bod wedi sylwi fod pobl eisiau darllen am faterion iechyd meddwl, ar ôl gweld ymateb y cyhoedd i lyfr Mary Jane Ward ‘The Snake Pit’, a gwnaed ffilm ohono; ei bod hi felly wedi cymryd ei phrofiadau ei hun a’i gymysgu hefo ffeithiau eraill; a bod hyn oll yn ymdrech i greu ‘pot boiler’, sef, fel dwi’n ei ddeall, yn llyfr fydd yn cadw’r blaidd oddi wrth y drws.

Beth bynnag oedd ei chymhelliad wrth ei hysgrifennu, a faint o ffeithiau personol neu o ymchwil systematig wnaeth hi ei chynnwys, creodd Plath yma campwaith – yn fy marn i beth bynnag. Mae yna faterion hynod o ddiddorol yn cael ei thrafod, gan gynnwys y teimlad o bellter oddi wrth bob dim o’i chwmpas. Un peth nodweddiadol iawn oedd ei bod yn dangos ei llawysgrifen i bobl, gan esbonio ei fod yn edrych yn gwbl wahanol i’w hysgrifen arferol. Gan fod fy llaw ysgrifen i wastad wedi bod yn uffernol o flêr, ac nid wyf yn tueddu o sgwennu rhyw lawer hefo pen dyddiau yma, ac nid wyf wedi sylwi fawr o wahaniaeth. Ond, mae fy steil ysgrifennu wedi altro dwi’n meddwl. Nid yw’n llifo yn yr un ffordd – mae dôn y llais wedi newid – a hyd yn oed yn ddiweddar, lle rwyf wedi llwyddo sgwennu pytiau, mae’r llais dal yn un nad wyf cweit yn gyfarwydd â hi (ac ydw, dwi’n cyfri’r golofn yma yn hynny!)

Wrth i’r pryder fy nghydio, ddaeth yn anodd braidd i hyd yn oed darllen erthyglau cyfnodolyn neu adnoddau ysgolhaig eraill. Troais felly at ffuglen. A beth y mae hogan sy’n dioddef o bryder yn mynd i gael blas arni i’w ddarllen? Wel, pobl yn yr un sefyllfa neu waeth, ynde! Cofiais fod yna ffilm adnabyddus gyda’r teitl diddorol: ‘Girl, interrupted’, oedd am iechyd meddwl. Doeddwn erioed wedi ei weld – dim amser, rhu prysur yn astudio at fy ngradd israddedig…hmm. Wel, dyma gyfle i mi ei fwynhau, meddyliais. Yn handi iawn, gyda help fy IPad ffyddlon, a’r ap. ‘Prime Video’, roedd mynediad at y ffilm yn hawdd a bron yn ‘instant’.

Mae’n seiliedig ar brofiad personol yr awdures, Susanna Kaysen, o pan fuodd hithau yn breswylydd dros dro yn ysbyty ‘McLean’, er, yn y ffilm ei enw yw ‘Claymoore’. Ceir darlun yma, o hogan ifanc sydd yn aros yn yr ysbyty a bron iawn yn gwneud astudiaeth hunanethnograffaidd ohoni. Gan ddechrau hefo’i chyflwr a phrofiadau ei hun, mae hi’n troi ei sylw at ei chyd-breswylwyr, gan nodi disgrifiad ohonynt yn ei llyfr nodiadau. Trwy’r ddyfais stori yma, rydym yn dod i nabod y cymeriadau amrywiol a’r perthnasau rhyngddynt.

Mae yna olygfeydd melys, megis pan mae un hogan wedi ypsetio’n lân yn ei hystafell, ac mae Susanna a Lisa yn eistedd tu allan yn canu “Downtown” (gan Petula Clark) i geisio codi ei hysbryd. Yna, cyn iddi fynd yn rhu delfrydol, mae’r perthnasau rhwng y gennod yn dirywio ac mae yna olygfeydd reit erchyll a syfrdanol, gan gynnwys hiliaeth, casineb a hunanladdiad. Ond ar y cyfan, rhywsut, mae yna deimlad reit ysgafn i’r ffilm, sydd hefo ‘soundtrack’ berthnasol ag addas i’r cyfnod a chyflwyni’r, sef diwedd y chwedegau.

Ar ôl mwynhau’r ffilm, es ati i ddarllen y llyfr y mae’r ffilm yn seiliedig arni. Mae hwn ar ffurf portreadau bychain o wahanol agweddau o fywyd yn yr ysbyty, yn hytrach na naratif cydlynol megis campwaith Plath. Ar adegau, felly, ges i lai o flas arni ac, ar balans, mae’r ffilm yn well – sydd ddim yn rhywbeth rwy’n aml yn ei deimlo. Serch hynny, mae’n llyfr diddorol ac mae’n llawn adlewyrchion difyr, megis y ffaith fod Susanna wedi cael diagnosis o ‘Anhwylder personoliaeth ffiniol’ (borderline personality disorder) – a beth a olygir hyn iddi hi yn bersonol.

Yn ddifyr iawn, mae’r diagnosis yma yn dod a ni’n dwt at y trydydd llyfr o ddiddordeb, sef ‘Rhyddhau’r Cranc’ – ac nagie, nid cyfieithu ydw i yma, llyfr cyfrwng Cymraeg yw hon, yipee! Wnaeth un o fy ffrindiau dynnu fy sylw ati rhai dyddiau yn ôl, yn bennaf oherwydd y teitl diddorol a’i botensial i fod o ddiddordeb onomastaidd. Fodd bynnag, ymdrech yw hon gan Malan Wilkinson i rannu, mor onest â phosib, ei phrofiadau o anhwylder personoliaeth ffiniol – gan gynnwys cael ei rhoi mewn unedau seiciatryddol. Ew. Gwych. Dwi wrthi rŵan yn ei ddarllen, ac yn ei fwynhau – ond, a’r golofn eto’n edrych yn hirach na ddylid hi fod, rhaid cadw’r adolygiad at rywbryd arall!

Read Full Post »