Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2014

Rydyn ni gyd yn gyfarwydd â’r hen chwedl drefol (urban myth) tydan: aeth Sais i mewn i dafarn yng Nghymru, lle’r oedd pawb ene wrthi’n siarad Saesneg, ond yna wnaethant droi at siarad Cymraeg fel bod y Sais methu deall beth oedden nhw yn ei ddweud. Pob tro dwi’n clywed y chwedl yma (sawl gwaith dros y blynyddoedd) mae’r un cwestiynau yn fy mhoeni: lle ddiawl ydy’r tafarn mytholegol yma? Sut fod cymaint o Saeson wedi llwyddo ei ffeindio, ag eto dwi erioed wedi bod ene? A sut mae’r brodorion Gymraeg yn y chwedl yn sylweddoli fod y cwsmeriaid newydd yn ddi-gymraeg, jest o weld nhw yn cerdded i mewn? A pam, wir Ddyw pam, fysant nhw’n hidio o gwbl os fydda’i Saeson yma yn gwybod beth oeddent yn dweud wrth ei gilydd, wrth iddynt wylio Pobl y cwm dros beint neu ddwy?

Eniwe, y mae’n bleser i mi rhannu hefo chi dameg (parable) felly, am brofiad i’r gwrthwyneb ges i jest cyn dolig. Mi es i a fy Ngŵr i’r Saith Seren am noson o adloniant. Wrth agor y drws daeth llais Dafydd Iwan i’n clustiau, yn canu Yma o hyd. Wrth gamu ymlaen i mewn i’r dafarn, sylweddolais ein bod ni’n tarfu ar olwg pawb o’r rygbi, a oedd arni ar sgrin fawr y tu ôl i ni, hefo’r sylwebyddiaeth (commentry) yn y Gymraeg. Yna, wedi symud o’r unfan ar ein cwrcwd, cawsom ein cyfarch gan bownsar y noson, Aled Lewis Evans – yn y Gymraeg wrth gwrs. Prynais docyn pob un i ni gael gwylio’r band ac aethom i chwilio am rywle i eistedd. Pan aethom ni at y bar, prynais gwrw ‘Brains’ Cymraeg i fy ngŵr, a sudd oren i fi (gan fy mod yn gyrru).

Ar ôl gwylio’r gêm rygbi fwyaf anfoddhaol (unsatisfying) erioed, a hynny er i Gymru ennill, ddaeth ffrind ataf sydd wedi dysgu Cymraeg, a chawsom sgwrs fach hyfryd am y gêm rygbi, trwy gyfrwng y Gymraeg. Yna gwyliasom y tywydd – ac ie, mi roedd hynna trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd! Ac yna dechreuwyd y band.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, sylwais ar y band Brigyn yn gyntaf pan ryddhawyd ei fersiwn Gymraeg o gan Leonard Cohen ‘Halleluja’. Yr oeddwn wastad wedi hoffi’r can gwreiddiol ac felly roeddwn yn mwynhau’r adfywiad y cafwyd trwy ymgyrchiad y mogwl Simon Cowell – a hynny er gwaethaf y fersiynau fwyaf erchyll, ymchwyddedig, wedi ei orwneud, or-canu…eniwe chi’n dallt, roedd y canwyr bach x-factor yn llofruddio’r gan, ond roedd e dal yn neis ei glywed eto. Yna clywais sylwebydd Awstraliaidd yn dweud “Have you heard the Welsh version yet? It’s really good”. Ac yn wir, wedi i mi gwglo, ffeindiais eu gwefan ac archebais y CD yn syth. Ac ew wnes i fwynhau’r CD. Mae fersiwn Brigyn ‘Haleliwia’ yn rhagorol – a hynny mewn ffordd ei hun. Ac, wrth chwarae’r CD drosodd a drosodd, wrth olchi fynnu, coginio a thwtio’r gegin, ddes yn gyfarwydd hefyd a’r ddau gan arall ar y ‘b-side’. Ac i ddweud y gwir hoffwn ‘Dilyn yr haul’ yn fwy na ‘Haleliwia’.

Eniwe, roedd ‘Brigyn’ yn eithriadol o dda ‘live’ a pan canon nhw ‘Haleliwia’ ymunodd y gynulleidfa a chefais y teimlad braf ene mae rhywun yn ei gael pan rydych yn teimlo eich bod chi’n rhan o eiliad arbennig iawn. Cawson egwyl fach yn y canol ac roeddwn wrth fy modd pan wnaeth Aled fy nghyflwyno i Ynyr ac Eurig – brodyr gyda llaw, o ardal Eryri. Yn eofn, gofynnais a oeddynt am ganu ‘Dilyn yr haul’ a achosodd hyn iddynt sbïo ar ei gilydd yn siomedig; na oeddent, gan nad oeddent wedi ei hymarfer ers talwm – er ei fod yn ffefryn ganddynt.

Eniwe, er fawr fy siom am iddynt beidio canu fy hoff gan ganddynt, mi wnaethon nhw ganu ‘b-side’ arall ‘Haleliwia’, sef ‘Cariad dros chwant’, sydd hefyd yn dda iawn, ac yna, fel finale, mi wnaethon nhw arwain ni gyd mewn canu ‘Hen wlad fy nhadau’…ac ew, does dim geiriau i gyfleu pa mor sbesial oedd hynny – roedd wir yr rhaid bod ene! Ac felly, ar ddiwedd fy chwedl Aesop-aidd, beth yw moeswers (moral) y stori? Wel, mi faswn i yn cynnig fod y llanw gwir yr wedi troi gyda sefydliad y canolfan diwylliannol (cultural centre) Y Saith Seren. Yn hytrach na thafarndai lle y mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fel rhyw god cyfrinachol (os ddigwyddodd hyn erioed, dwi’n amau ddim?!) y mae‘R Saith Seren yn esiampl o le mae’r Gymraeg yn hollol fyw ac iach ac yn treiddio pob cornel o’r adeilad. Yn wir, ni fuaswn yn synnu o gwbl os af i mewn rhyw dro a chael fy ngweini wrth y bar gan Mair Llywarch ei hun, achos rwy’n sicr mai rhywle tebyg yr oedd gan Islwyn Ffowc Ellis mewn golwg pan ddychmygodd ei wythnos gyntaf yng ‘Nghymru fydd’ (y fersiwn iwtopaidd)…neu ella wir mai dyma le ddaeth o, wir yr! Un peth sy’n sicr, mi fysa Islwyn Ffowc Ellis wrth ei fodd yn Y Saith Seren, ac mi fwyheais innau fy noson yng Nghymru iwtopaidd ei ddychymyg!

Cyhoeddwyd yn Wreiddiol yn Y Clawdd, papur bro Wrecsam a’r cylch.

Read Full Post »

Roedd y gwynt wedi gwylltio ac yn chwibanu’n wyllt o amgylch y guddfan (hide). Roedd y glaw yn diferu a’r oerni yn brathu’n bysedd wrth i ni ffocysu ysbienddrych, telesgopau a chamerâu. Ond dyma oedd bore olaf ein gwyliau dolig yn Minsmere, ardal Suffolk. Ac felly, gyda chymorth wellingtons ‘Aigle’, hosanau alpaca a fy parka timberland ffyddlon, arhosais yn y guddfan, yn benderfynol o gael cip olwg o rywbeth arbennig cyn cychwyn ar ein siwrne frawychus yn ôl i Cilgwri trwy’r tywydd mawr. A ni chefais fy siomi ychwaith.

Wrth wylio glan y cawn (reeds), gwelsom drwyn bach du a llygaid yn ymddangos uwchben y dŵr – dyfrgi (otter) neu ddyfrgwn, gan fod ‘na pâr ohonynt ene. Dros y munudau nesaf, fuont wrthi’n pysgota, bwyta’i daliad (catch), a nofio hefo’i gilydd gan droelli dan y dŵr megis sin o’r ffilm ‘Tarka the otter’. Yna ddaeth y ci (dyfrgi gwrywol) allan o’r dŵr a chrwydro o amgylch ynys fach o glan reit o flaen y guddfan, cyn llithro i’r pwll ar ochr arall y glan, a’i gorff yn ‘toddi’ i’r dŵr unwaith eto (i ddyfynnu Ted Hughes).

Cawsom olygon ardderchog ohono unwaith eto cyn iddo ddiflannu’n gyfan gwbl – y tro hwn roedd e wrthi’n ‘scent marking’ ar glympiau o gawn toriedig (cut reeds) yng nghanol y dŵr. Mae hyn yn arwyddocaol, efallai, fod ganddo diriogaeth (territary) arall yn y rhan yma o’r cawn, efallai un newydd wrth i’r dyfrast (dyfrgi benywaidd) magu cybiaid ar ochr arall y cawn. Eniwe, roedd hi’n reit gyffroes ac yn ddiweddglo perffaith i’n ymweliad yma i Finsmere.

Wrth adlewyrchu ar y golwg arbennig yma o ddyfrgwn, sidrais: ys gwn i os oes diddordeb gennych chi’r darllenwyr mewn bywyd natur? Efallai fod rhai o’n darllenwyr ifainc yn Iolo Williams blagurol, neu’n Michaela Strachen, Chris Packham, neu David Attenborough hyd yn oed? Ydych chi wedi gweld rhyw anifail neu aderyn diddorol yn ddiweddar, ac efallai wedi tynnu llun ohono hefo camera neu siarcol, pensil neu baent? Os ie, beth am helpu i ni greu colofn ‘Y Cornel Natur’ yma yn Y Clawdd? Anfonwch gopi o’ch llun a phwt bach amdano i’r golygydd a chewch weld eich llun ach erthygl wedi ei gyhoeddi fama!

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Clawdd, papur bro Wrecsam a’r cylch.

Read Full Post »