Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Gorffennaf, 2013

Wel, mae ‘na bob math o bethau wedi digwydd ers i mi sgwennu’r golofn ddiwethaf…prin yr wyf yn gwybod lle i gychwyn! Ond ella mynd hefo’r traddodiad o ‘newyddion drwg i gychwyn’ wnâi. Wrth iddi nesáu at ddiwedd mis Mai, roeddwn ar flaen fy set yn disgwyl clywed os oedd fy nghais grant am gymrodoriaeth gyrfa-cynnar (early career fellowship) wedi llwyddo ai peidio. Dechreuais ‘count-down’ ar facebook a rhannais y disgwyl yn ddyddiol hefo fy ffrindiau-cyber…yn ogystal â fy ffrindiau pob dydd, teulu, cydweithwyr…pobl ar y check-out yn Sainsbury’s  ayyb. Roeddwn yn llawn brwdfrydedd ac yn fy nghalon yn teimlo y byddwn yn lwcus ac yn cael y grant a fyddai’n cadarnhau fy ngyrfa academaidd, caniatáu i mi astudio fy mhrosiect delfrydol am ‘hunaniaeth byddar-Cymraeg’ ac yn rhoi swydd sefydlog ar gyflog dda i mi am dair blynedd. Ond doedd hi ddim i fod.

Glaniodd yr e-bost tyngedfennol un amser cinio, jest wrth i mi fynd ati i ‘gloi’ y cyfrifiadur cyn mynd allan i nôl brechdan. Prin allaf agor yr e-bost roedd fy nghalon yn curo mor gyflym. A dyna le oedd hi, y ‘ddim-tro-ma-cyw’ a fyddai’n newid fy ngyrfa a fy mywyd – o leiaf am y flwyddyn neu ddwy nesaf ‘ma, os nad am byth a beunydd. NA, NA, NA! Meddyliais – ac wedyn Pam, Pam, Pam?! Wrth ddarllen yr e-bost trwy ddagrau sioc, dysgais fod 650 o ymgeiswyr wedi trio am yr 83 grant ac mi roeddwn i wedi llwyddo cyrraedd y rhestr fer derfynol – ond ddim wedi cael grant y tro yma. Es allan am fwyd i’r ‘Clove Hitch’, ar ben fy hun, ac eisteddais ene yn ail-ddarllen yr e-bost trwy’r ffon symudol. ‘Be ddiawl dwi’n mynd i wneud rŵan?’ meddyliais. Yna, fel pe bai’r bydysawd yn trio ysgafnu’r awyrgylch ‘chydig, dyma lais Mick Jagger yn llifo trwy’r bwyty, gan ddweud wrtha i’n di-flewyn ar dafod ‘You can’t always get what you want’!  Oke, hyd yn oed yn fy siom a phryder, allaf weld fod hynna’n reit ffyni ! Wedi ychydig o ddyddiau o bendroni amdano, a llefain ddigon i greu sin megis Alice-in-Wonderland, ffoniais i ofyn pa mor hir (neu fyr) oedd y rhestr fer. Calonogais wrth glywed mai dim ond 152 o bobl cyrhaeddodd y rhestr fer – felly roeddwn wedi curo bron i bum cant o ymgeiswyr eraill, ac roedd hefyd modd, meddent, i mi ail-ymgeisio blwyddyn nesaf. Reit, meddyliais, mi wnâi. Ac yr wyf wrthi’n cynllunio sut i wneud fy nghais hyd yn oed yn well ar gyfer blwyddyn nesaf, gan gynnwys dechrau’r gwaith ymchwil ar liwt fy hun (gweler isod).

Eniwe, yn y cyfamser, yr wyf wedi bod wrthi yn cymryd rhan, trwy ‘Cwmni Da’, mewn rhaglen am fyddardod ar gyfer y gyfres ‘Taith fawr y dyn bach’, sydd wedi cychwyn rŵan ar S4C a fydd ‘in full swing’ erbyn i chi ddarllen hyn. Y mae’r gyfres yn dilyn James Lusted, a chafodd ei eni hefo ‘Diastrophic Dysplasia’ ac sy’n tair troedfedd a saith modfedd, wrth iddo deithio ledled Cymru yn cwrdd â phobl gyda gwahanol anableddau ac yn dysgu mwy amdanynt. Fel rhan o’r rhaglen mi wnes i drafod hefo James y cyflwr genetic yn ein teulu ni, sef Waardenburg Syndrome, sydd wrth wraidd y byddardod yn ein teulu a hefyd y ‘quirks’ megis y blaengudyn wen (white forelock) a’r llygaid sy’n ymddangos ei bod nhw’n bell oddi wrth ei gilydd (dystopia canthorum).   Mi wnaeth James hefyd ddŵad i wylio fi ac Aunty Brenda yn ymarfer ac yn perfformio hefo ‘Wrexham Singing Hands’,  dilyn cwmni ‘Handtastic’ wrth iddynt ddarparu ‘Deaf awareness’ a dysgu’r wyddor BSL i blant ysgol, a chynnal cyfweliad hefo Aunty B draw yn Rhosllannerchrugog. Fwynheais gymryd rhan yn y rhaglen a’r unig beth rwy’n difaru yw fy mod wedi dal nôl ar lawer o bethau diddorol am yr ymchwil oeddwn am ei wneud ar hunaniaeth byddar-Cymraeg, a hynny oherwydd nad oeddwn eisiau tanseilio’r prosiect os oeddwn yn llwyddiannus hefo’r cais grant…

Ond mi roedd yna ‘brucie-bonus’ arall o gymryd rhan yn y rhaglen – cefais gyfarfod un o’m ‘llenyddiaeth-idols’…ac mi rydym ni nawr yn ffrindiau! Ie wir, wrth i mi ateb ymholiadau un o ymchwilwyr Cwmni da, a chytuno cwrdd ag ef i drafod y rhaglen, dyma fo’n dweud y byddai ef ar gynhyrchydd, Beca Brown, yn dŵad draw i’r clwb rheilffordd i wylio’r ‘Sign Singing’ ar y nos Fercher. Wel, dyna newyddion cyffroes – a finnau heb sylweddoli fod yr awdures y nawr yn gynhyrchydd deledu. Chi’n gweld nôl yn 2005 roeddwn wrthi’n fflician trwy Golwg a ddes ar draws erthygl am nofel newydd oedd wedi ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, dan y teitl diddorol: Corcyn Heddwch. Darllenais ychydig am y llyfr a’r awdures ifanc, cŵl cyn penderfynu ei phrynu. Ac ew roedd hi’n nofel dda, yn dilyn helyntion Leri Elis, hogan glamorws, sy’n gweithio fel newyddiadures ac hefyd yn fam newydd. Corcyn heddwch yw ei henw hi am ‘dummy’ ac mae hi’n symbol o’r pethau ym mywyd Leri sydd ddim cweit wedi troi allan fel y bysai hi wedi ei ddisgwyl nag ei eisiau (wel dyna fy nehongliad i ynde!) Mwynheais ddilyn helyntion ysgytiol Leri, gan boeni amdani a meddwl ‘O Leri be wyt ti’n gwneud rwan?!’ A sidro ‘Ew ma’ hon hefo llai o gliw be’ mae’n gwneud na fi!’ Ddaeth y nofel i ddiwedd llawer iawn yn rhu buan ac roeddwn eisiau mwy…ffoniais Wasg Carreg Gwalch i ofyn a oedd hi wedi sgwennu ‘sequel’…nagoedd ond roedden nhw’n siŵr mi fysa hi…oke, pryd fydd hynny ac oedd modd rhoi fy hun ar y list i gael clywed pan roedd hi’n cael ei gyhoeddi…erm, does ‘na ddim list siwr ond mae’n debyg fydd yna hysbyseb amdani yn y wasg. Huh, a dyna ni felly, dim byd…tan rwan.

Felly es a’r llyfr bach melyn hefo fi i’w chwrdd â, wedi i ni orffen trafod y rhaglen, estynnais hi o’r bag a gofyn iddi ei llofnodi. Sgwennodd neges fach hyfryd ynddi, gan addo sgwennu sequel – roedd o gyd braidd yn Sheldon-Wil Wheaton! Eniwe, ddes i nabod Beca wrth i ni wneud y rhaglen, gan sgwrsio trwy Facebook ac yn ystod y diwrnod o ffilmio hefo Flintshire Deaf Children’s Society. Yna, pan ges i fy newyddion anffodus ynglŷn â’r gymrodoriaeth, mi roedd hi’n llawn cydymdeimlad a chynigodd y syniad gwych o sgwennu rhan o’r ymchwil fel llyfr – gan hyd yn oed cynnig helpu fi chwilio am grant i’w sgwennu! Felly dyw hi ddim cweit yn ‘llenni’ eto ar fy ymchwil hunaniaeth y gymuned fyddar yng Nghymru, ac efallai y bydd yr allbwn cyntaf yma yn ysgolhaig ag eto’n fwy hygyrch a darllenadwy o ganlyniad (megis ‘Sisters of the Yam’, ‘The Female Eunuch’, a ‘Signs of Hope: deafhearing family life’.) Felly fyddaf yn fforio’r posibiliadau ar hyd y llwybr newydd a chyffroes yma dros y misoedd nesaf – a hynny hefo help fy ffrind newydd, yr awdures, newyddiadures (colofnydd i gylchgrawn ‘Barn’) a’r cynhyrchydd teledu, Beca Brown. Edrychaf ymlaen at sgwennu fwy amdani yn y dyfodol agos, pan fydd hi wedi gorffen ysgrifennu’r sequel mae hi di gaddo ei wneud!

Read Full Post »