Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ionawr, 2010

Gwallt yn llwydi, gwasg yn lledaenu,

crychion ysgafn yn patrymu’r croen,

o amgylch fy llygaid blinedig.

Ddim eto’n hen, ag eto ddim yn ifainc,

bwgan y ddeg-ar-hugain yn fy helfa,

trwy’r byd effro ac yn fy nghwsg.

Ddim yn briod, ddim yn llwyddiant,

ddim yn hydal hyd yn oed.

Pendroni’n ddiflas am fy methiannau,

 cyn lleied yr wyf wedi ei wneud,

a’r chymaint na wnes i eto,

dros gyfnod fy einioes ddibwys.

 

Ni freuddwydiais am foethusrwydd,

enwogrwydd na gogoniant ychwaith,

ond meddyliais y byddaf, erbyn hyn,

â mwy i ymfalchïo ynddi.

Lle aeth pethe o chwith tybed?

i’r hogan fach hapus, llawn brwdfrydedd?

Ddim yn brydferth, ag eto’n reit ddel,

yn synhwyrol, heb fod yn rhagorol.

Yn ddigon clên hefyd, cyn i’r cymylau casglu,

a ddim am ddiffyg ymdrechu mae’r bai.

Mae fy mywyd braidd yn siom i mi felly,

Ac yn aml mae’r felan yn codi ynddo i.

 

Ag eto wrth i mi heneiddio,

mae’r dicter milain yn ymdawelu.

Rwy’n hidio llai, ac yn derbyn fwy,

yr hyn a dynghedwyd i mi.

Y mae’n rhaid cyfaddef, rwyf weithiau’n ymfalchïo,

yn fy nhristwch a digalondid.

Ella’n wir mai dyma fy nawn,

i berffeithio melys wylo.

Eto i gyd, ella mai dryswch,

Sy’n fy ngafael yn fy argyfwng..

Gobeithiaf pan yr wy’n cwrdd â’r bwgan,

Y daw pethau’n gliriach i mi unwaith eto.

 

Cerdd yw hon megis steil ac ysbryd “The Wife of Bafa” gan Patience Agbabi ac “Over the llestri” gan Aled Lewis Evans. Nid yw’r gerdd yma wedi ei cyhoeddi hyd yma./ This poem is written in a similar style and spirit to “The Wife of Bafa” by Patience Agbabi, and “Over the llestri” by Aled Lewis Evans. It is currently unpublished.

Read Full Post »