Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Rhagfyr, 2009

Yr unig ddiweddglo posib i’r stori,

ond mae fy nghalon yn dal i dorri.

Bywydau cymhleth wedi plethu,

mewn perthynas wedi methu.

 

Dymchwel gwnaeth y byd bach diogel,

a thrist a phoenus fu’r ffarwél.

Hen dro і bethau droi yn chwerw,

ni’n dau wedi ein siomi’n arw.

 

Llwyddais ddelio hefo’r colled,

mewn agwedd parchus, call ac aeddfed.

Ond rhyw ddydd wnei di ddifaru,

i ti anghofio sut і fy ngharu.

 

Nid yw’r gerdd yma wedi ei gyhoeddi/ This poem is unpublished.

Read Full Post »

 Am mor hir ag yr allaf gofio, yr wyf wedi bod wrth fy modd hefo ‘Ffuglen Wyddonol’ megis y gyfres deledu Star Trek, cyfres radio Hitchhiker’s Guide to the Galaxy, ag, wrth gwrs, y llyfrau clasurol Foundation Series gan Isaac Asimov. Y mae’n ‘genre’ eang sy’n archwilio posibiliadau technoleg, megis fforiad y bydysawd, ynghyd ac esblygiad cymdeithasol yn sgil y datblygiadau hyn a’i goblygiadau, megis gweriniaeth ‘Gilead’ Margaret Atwood yn ‘The Handmaid’s tale’.

Dros y blynyddoedd yr wyf wedi darllen pentyrrau o lyfrau ‘Ffuglen wyddonol’ ac mae’r silff ‘cw yn crynu dan bwysau sawl ‘box-set’ o gyfresi megis Star Trek Next Generation, Babylon 5 a Firefly. Ond yn rhyfedd iawn nid oeddwn erioed wedi meddwl chwilio am lyfrau na chyfresi ffuglen wyddonol Gymraeg tan ddechreuais drafod y peth gyda fy ffrindiau-cyber ar maes-e.com.

O’r sgwrsio yma ddes i wybod fod yna prinder o ffuglen wyddonol yn yr iaith Gymraeg (fe lwyddon ni rhestri ryw 10 llyfr/ cyfres deledu). Mi oedd, fodd bynnag, un llyfr a oedd yn cydio’n arbennig yn nychymyg y gymdeithas o ‘Trekkies’ (neu nyrds) Gymraeg, sef Wythnos Yng Nghymru Fydd, gan Islwyn Ffowc Ellis. Fel unrhyw nyrd gwerth ei halen felly, es ati i bori’r we i geisio mofyn copi. Ond er syndod i mi, roedd hyn yn fwy o gamp nag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl gan ei fod allan o brint, heblaw am yr argraffiad talfyredig.

O’r diwedd ffeindies i gopi ar werth gan siop lyfre ail-law ynghyd a llyfr arall gan Islwyn Ffowc Elis sef Y Blaned Dirion. Mae’r nofel Wythnos yng Nghymru Fydd mor wych fel ei bod yn amhosib ei chrybwyll a gwneud cyfiawnder iddo fan hyn (fwy amdano rywbryd arall ella). Ond ‘suffice to say’ mae’n stori blynyddoedd-goleuni ‘ahead of its time’ ac mae’r frawddeg ‘ yn ôl i’r dyfodol’ yn cael ei yngan yma degawdau cyn i Marti McFly a Doc Emmett Lathrop Brown ei ddefnyddio!

Y mae ‘Y Blaned Dirion‘ yn drysor bach arall a’i darlledwyd yn wreiddiol yn ddrama-gyfres radio gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn ystod Ionawr a Chwefror 1959. Eto mi roedd hyn yn ddegawdau cyn i Hitchhiker’s Guide to the Galaxy gael ei ddarlledu yn 1978 ar BBC Radio 4. Yma, am y tro cyntaf, y buodd goddefir y gair ‘Gwyddonias’ sef air mwy Cymreigaidd am ‘Ffuglen Gwyddoniaeth’.

Tra bod trafodaeth eang ymysg cylchoedd ffuglen wyddonol Saesneg ei hiaith am bwy yw sefydlwr neu ‘founding father’ y genre – ai Jules Verne yntau H.G.Wells? Does dim amheuaeth mai Islwyn Ffowc Elis yw  arloeswr y genre trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fuodd trafod brwd ymysg aelodau maes-e.com am ailgydio yn yr air arbennig ‘Gwyddonias’ a grëwyd gan gawr y genre, a hefyd am sut allwn hybu ‘gwyddonias’ trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sgil hyn aeth rhai aelodau ati i greu ‘fansin gwyddonias’ ar ffurf blog <http://bodiorbydysawd.rhwyd.org/&gt; a fuont yn trafod cyfresi cyfoes megis ‘Dr Who’, yn ogystal â chlasuron y genre.

Yn ddigon ysmala, y mae hi’n ymddangos yn ddiweddar fod yna twf mewn gwyddonias trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llyfrau newydd yn cael ei chyhoeddi, gan gynnwys Y Dŵr gan Lloyd Jones, ac fe enillodd Fflur Dafydd y Wobr Goffa Daniel Owen gyda’r llyfr Y Llyfrgell wedi ei osod yn y flwyddyn 2020. Arweiniodd hyn iddi gael cyfnod fel awdur preswyl ym Mhrifysgol Iowa yn yr Unol Daleithiau, ac y mae hi’n gweithio ar gyfieithiad o’r nofel i’r Saesneg.

Ar yr un pryd y mae Gwasg Gomer wedi ail-argraffu Wythnos yng Nghymru Fydd ac mi fyswn yn ei hargymell fel anrheg Nadolig i unrhyw un sy’n mwynhau gwyddonias neu sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru a dyfodol yr iaith Gymraeg.

Gyda’r twf annisgwyl yma yn y sin gwyddonias, ynghyd a’r twf anesboniadwy mewn rhaglenni teledu ffantasi am sugnwyr gwead, megis True Blood a Twighlight, y mae’n adeg cyffroes iawn i nyrds Gymraeg. Fel über-nyrd fy hun, edrychaf ymlaen at ei ddilyn a’i fwynhau, gan grybwyll ambell i beth yn y golofn yma.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Rhagfyr 2009 (Rhifyn 136)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, December 2009 (Issue 136).

Read Full Post »