Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Hydref, 2011

          Fy enw i yw Sara Louise Wheeler a fi yw Miranda Hart y sin-llenyddiaeth-Gymraeg. Rŵan fy mod wedi rhannu’r datguddiad yma hefo chwi gadewch i mi egluro. Dros y misoedd diwethaf yr wyf wedi bod yn mwynhau’r rhaglen  ‘Miranda’ am hogan yn ei thridegau sydd yn andros o neis ac yn trio’n galed iawn, ond heb lwyddo gwneud rhyw lawer a’i bywyd hyd yma. Un o’r problemau fwyaf sydd ganddi yw ei dueddiad unai i ddweud y peth anghywir, neu i ganu’r peth anghywir – mewn sefyllfaoedd lle nad oedd galw am ganu, neu i faglu a disgyn mewn ffordd anhygoel o ddramatig gan ennyn dirmyg a beirniadaeth am ei phen. Ac eto, mae yna rywbeth…gwahanol am Miranda sy’n ei gwneud hi’n cymysgiad unigryw o sirioldeb ac anobeithrwydd.

          Ond beth, medde chwi, sydd gan y rhaglen BBC yma i’w wneud a’r Eisteddfod genedlaethol 2001? A oedd Miranda Hart ene tybed, yn cadeirio rhyw sesiwn yn y babell lên efallai? Wel nag oedd wrth gwrs, a doedd ddim angen iddi fod oherwydd roeddwn i, bili-ffŵl yr ŵyl, ene yn ei lle hi! Chi’n gweld am fisoedd mae fy ngŵr a finnau wedi synnu ar y tebygrwydd rhwng fy hun a’r cymeriad Miranda, o’i dueddiad i rwdlan pan mae hi’n teimlo’n swil hyd at ei penchant am gacennau a ‘box-sets’ o ‘Midsomer Murder’! Ond yn ystod y ‘steddfod daeth fy mherfformiad fwyaf amlwg a fy ‘Miranda-moment’ gorau hyd yma!

          Efallai cofiwch o’r erthygl mis diwethaf fy mod wedi cael y fraint o gadeirio sesiwn yn y babell lên: “Y stori tu ôl i’r gân”, sef rhaglen lle byddai pedwar cerddor yn perfformio cân yr un ac yna yn esbonio sut wnaethon nhw ei sgwennu. Roeddwn wrth fy modd hefo’r syniad a fues ati dros yr haf, wedi i mi orffen fy noethuriaeth, yn paratoi fy araith, gan gynnwys hanesyn bach digri am Don McLean sydd, hyd heddiw, wedi bod yn amharod i rannu unrhyw esboniad ynglŷn â thelynegion ei gân enwog ‘American Pie’, gan ateb y cwestiwn ynglŷn â “beth mae’r gân yn ei olygu” trwy jocian: “Mae’n golygu na fyddaf angen gweithio byth eto!”

          Ar y diwrnod ei hun mi roeddwn wedi cyrraedd mewn digon o bryd, wedi gwisgo mewn ffrog ddel ‘50s’ a colur-air-brush, ac mi roedd y teulu Edwards i gyd wedi dŵad draw i ddangos ei chefnogaeth, gan gynnwys y Pinto-Edwards bach! Mi roedd Christina ac Isabella (fy nithoedd pump a dwy oed) wrth ei boddau pan dynnais fy sgidiau pinc ‘peep-toe’ o’i bocs a’i gwisgo yn lle fy ‘fflip-fflops’, a chamais i’r llwyfan gan atgoffa fy hun yn barhaus mai dim ond am ddwy funud y buaswn yn siarad, a’r cerddorion oedd ffocws y sesiwn beth bynnag. Ond roeddwn dal yn hynod o nerfus a theimlais fy hun yn cochi wrth iddi nesáu at y foment lle byddaf actiwli’n gorfod cychwyn siarad.

          Serch hyn llwyddais i draddodi fy araith fach swil a chawsom berfformiadau gwych gan y cerddorion; hiraethodd Daniel Lloyd am anwyldeb cymuned Rhosllannerchrugog – mewn cân a oedd yn cynnwys y geiriau ‘nene’ ac ‘ene’ A chyfeiriad at y ‘stiwt’!; soniodd Geraint Lovgreen am garwriaeth gymhleth, ffugiol draw ym Mhonciau, wedi ei hysbrydoli gan y cân ‘Up the Junction’ gan y band ‘Squeeze’. Swynodd Arwel Tanat Jarvis gyda chân am gwm Tryweryn – a hynna er gwaetha’r ffaith fod ei gitâr wedi rhoi’r gorau iddi wrth iddo gychwyn – gan ei orfodi i gario ‘mlaen ar gitâr Daniel Lloyd! Daeth elfen o ddrama roc a rôl i’r pnawn o’r ffaith fod Gwilym Morus dal ar ei ffordd o Firmingham pan gychwynnon ni’r sesiwn, a chamodd i’r babell lên eiliadau cyn roedd angen iddo gychwyn perfformio! Ond fel y ‘seasoned rock star’ ydyw, ni phoenodd am hyn o gwbl a berfformiodd cân ‘blues’ am hanes cau Woolworths…wir yr!

         Felly er nad oeddwn wedi ymateb rhyw lawer i’r perfformiadau, gwneud sylwadau meddylgar rhyngddynt, na hyd yn oed diolch i’r perfformwyr wedi iddynt orffen, mi roedd pethe yn mynd yn oke…nes i ni gyrraedd hanner ffordd trwy gân Gwilym a dyma fi’n meddwl “beth sy’n digwydd nesaf?” Ceisiais gofio’r diwrnod cynt pan oeddwn yn saff yn y gynulleidfa…  sut oedd y sesiynau wedi cau? Dwrdiais fy hun – pam nad oeddwn wedi meddwl am hyn yn gynharach?

          Strymiodd Gwilym am y tro olaf a sefais ar fy nhraed, gyda fy nghoesau fel jeli o dannaf. Cerddais yn sigledig at y meic, yn chwys domen, ac mewn llais bach llygoden dechreuais rwdlan, tra hefyd yn ceisio gofyn i Aled yn rhes blaen y gynulleidfa beth oedd yn digwydd nesaf…a dyna pan ddatblygodd deialog fuaswn, oni bai mai ei bod hi’n Cymraeg-specific, yn ei hanfon at Miranda Hart fel sketch-fodder! Atebodd Aled, ond nid oeddwn yn medru clywed yn iawn. Trïodd eto ond doeddwn dal ddim yn ei chael hi…yna meddyliais mai ‘coffi’ oedd o wedi ei ddweud… “coffi?” gofynnais, “na meddodd…yna clywais y cerddorion tu ôl i mi yn chwerthin a sibrydodd Gwilym mai “wedi gorffen” oedd y neges. O’r ffasiwn gywilydd! Fues wrthi’n ailchwarae hyn i gyd am ddyddiau wedyn yn llawn hunan-casineb gan ddifaru’n enaid fy mod wedi bod mor ffôl ag i feddwl buaswn yn gallu fod yn gyflwynydd heb wneud llanast o’r cwbl.

          Ond yn ddiddorol iawn yr wyf y nawr yn gallu ei chofio ai thrafod heb wingo gormod, a hyd yn oed yn gweld yr hiwmor ynddi…yr hyn a welodd fy mrawd ar y diwrnod ei hun ynte! Yn wir yr wyf wedi cychwyn yn ddiweddar, yn fy aeddfedrwydd fel dynes ‘ail-chwartel’ (yn-ei-tridegau), i dderbyn y cwirciau yma yn fy mhersonoliaeth sydd yn arwain at gymaint o ffwlbri tebyg, ac i gymryd agwedd llai angerddol tuag at fy mywyd…a hyd yn oed, efallai, i hoffi fy hun fel yr ydw i, yn hytrach na phoeni am beth ddylwn i fod. Ac efallai dyma yw athrylith y comedi ‘Miranda’ – y ffaith fod Miranda yn ‘buffoon’, a braidd yn anghyffredin, ac yn byw mewn tryblith-o’i-gweithredau-ei-hunan…ond fod hyn, mewn gwirionedd, yn oke; mae yna le yn nhapestri cyfoethog bywyd am ffwlbri i gyd-fynd a’r ‘chic’, ac ysgafnder i gyd-fynd a’r difrifol…yr ymdrech sy’n bwysig, a’r ewyllys da. Efallai fy mod wedi cyrraedd y doethineb yma ar ben fy hun, yn sgil fy mhrofiadau ac ymdrechion…ac efallai felly fod fy mrawd yn fwy doeth nag oeddwn i wedi sylweddoli? Ond beth bynnag, mae gwylio anturiaethau Miranda wedi bod fel therapi i mi dros y misoedd diwethaf, a braf yw cael rhywbeth hwylus i’w wylio gyda’r nos yn hytrach na’r holl raglenni realaeth ddiflas sydd wrthi’n lledaenu fel pla dros bob sianel dyddiau yma… ahem. Eniwe, wedi i mi adlewyrchu arni, rwy’n falch i mi drio ac rwy’n sicr i mi ddysgu llond o’r profiad – a ddim jest i gofio os oedd yna egwyl neu beidio, fel plagiodd fy mrawd!

          Yn ogystal â’r sesiwn yma fues yn y babell lên llond, ac yn ôl pob sôn daliodd y camerâu fy ‘Jimmy Carr laugh’ wrth i mi fwynhau jôcs Aled Lewis Evans am finiau yn siarad Cymraeg yn ardal Wrecsam! Cefais hefyd y fraint o fod ar y llwyfan yn ystod seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen draw yn y babell binc; sgwrsiais hefo un o newyddiadurwyr ‘Golwg’ am Y Clawdd a chefais ‘mench’ yn yr erthygl rhedwyd amdani; collais y car o leiaf tair gwaith yn ystod yr wythnos; gwariais gryn dipyn o arian ar fwyd a nic-nacs, a chefais ddiwrnod hunllefus y diwrnod cyn yr un a soniaf amdani yma…ond fwy
am y straeon yma rhywbryd arall…unai yn y golofn yma neu efallai fel rhan o’r casgliad o straen fer yr wyf wrthi’n ei pharatoi. Mi roedd hi’n eisteddfod fendigedig, a braf oedd cael gweld cymaint o bobl yr ardal ene trwy gydol yr
wythnos.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Hydref 2011 (Rhifyn 147)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, October 2011 (Issue 147).

Read Full Post »