Wel braf iawn yw cael dweud fy mod gwir yr yn byw fy mywyd orau ar hyn o bryd. Rwyf bellach wedi dychwelyd o’r cawell o bryder a thristwch oedd wedi rhewi fy nghreadigrwydd, ac rwyf y nawr, i’r gwrthwyneb, wrthi mewn bwrlwm o greadigrwydd, yn gwneud pob math o bethau direidus a hwyl – gan gynnwys niwlio’r ffiniau rhwng fy ngwaith creadigol a fy ngyrfa ysgolhaig.
Dros gyfnod y Nadolig, cyhoeddais gerdd ac ysgrif ar wefan Meddwl.org, am effaith ‘burnout’ ar y broses greadigol. Yn yr ysgrif, trafodais hefyd y ffaith nad oes gennym air Cymraeg am ‘burnout’, a gan ei bod yn gysyniad pwysig ym myd iechyd meddwl, ella dyle ni creu term; yn dilyn trafodaeth trydar ar y mater, cynigais ‘hunlosg’ – ond ys gwn i os oes darllenwyr Y Clawdd yma hefo barn ar y mater?
Rwyf hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiad o’r ysgrif a’r gerdd am ‘burnout’, ynghyd a gwaith creadigol arall, ar fy nghyfrif newydd ar wefan ‘Medium’. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn ehangu ar ysgrif cyhoeddais yn Y Stamp am drawsieithu a’r broses greadigol, gan obeithio ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn ysgolhaig – fwy am hyn rhyw bryd arall!
Yn y cyfamser, rwyf wedi bod yn sgwennu crynodebau erthyglau ymchwil, a’i hanfon at gynadleddau ysgolhaig ym maes Dyniaethau iechyd. Hyd yn hyn, mae dau ohonynt wedi ei derbyn. Un am fyddardod a Byddaroliaeth (Deafhood) mewn ffilmiau a nofelau, a hynny yn Nottingham, a’r llall am y ‘tywysogesau arian’ – megis Khaleesi (Game of Thrones), Elsa (Frozen), ac Addison (Zombies) – a hynny yng Nglasgow.
Ac, yn ddigon ysmala, mae’r gynhadledd yng Nglasgow newydd gyhoeddi galwad am gerddi perthnasol i iechyd, gan ei bod nhw am gynnal noson a darllen a pherfformio cerddi fel rhan o’r ŵyl – ew, da ydy byd y Dyniaethau iechyd ynte? Ac felly, wedi i mi ddarfod sgwennu’r golofn yma, byddaf yn mynd ati i orffen cyfieithiad o gerdd am fy mhrofiad i fel ‘Tywysoges arian’ – un rwyf wedi ei gynnig fel rhan o ‘Blodeugerdd 2020’ Y Stamp.
Dwi wedyn hefyd yn mynd i dynnu llun hefo fy mhensiliau lliw newydd, a fy medrau newydd, i’w hanfon hefo’r gerdd. Dwi hefyd am anfon fy ngherdd ‘Wellbecoming’, sef cyfieithiad o fy ngherdd ‘Dychwelyd’ sgwennais ar encil Y Stamp yn nhŷ newydd.
Yr wyf hefyd yn mynd i fod yn perfformio’r ddwy fersiwn o’r gerdd yma – ydy’n nhw’n ddwy gerdd, yntau fersiynau o’r un gerdd? Ydy cerdd yn gysyniad, niwlog reddfol, neu’n casgliad o eiriau ar dudalen? Dwn i’m, ond gai’i hwyl yn datrys hyn yn fy erthygl cyfnodolyn ar y gweill. Beth bynnag, byddaf yn perfformio ‘Dychwelyd’ a ‘Wellbecoming’ mewn gŵyl i ddathlu ‘Dydd Miwsig Cymru’, ar y 7fed o Chwefror, draw ym mhrifysgol Glyndŵr.
Damwain oedd i mi fod yn gwneud hyn gyda llaw. Roeddwn yn sôn yn y cyfarfod fod un o ffrindiau fi yn fardd ac yn ganwr, ac wedi bod yn gwirio fy Sgymraeg ar ambell i gerdd, a wnaeth rhywun camddeall a meddwl fy mod yn cynnig darllen fy ngherddi! Ond ta waeth, roedd pawb i’w weld yn meddwl ei fod yn syniad da, felly dwi’n edrych ymlaen at y sylw!
A tra bod hyn i gyd wedi bod wrthi’n blaguro fel eirlys wedi’r tywydd garw, ddes i glywed am ‘Gŵyl y Ferch’. Cyhoeddwyd galwad am waith creadigol o bob cyfrwng. Reit medde fi, wnâi anfon cerdd. Ond pan ddaeth y ffurflen ymgeisio, roedd tabl ynddi – rhes i nodi teitl y gwaith, rhes i nodi disgrifiad, a rhes i ddweud sut y byddech yn ei glymu i’r wâl. Ew, meddyliais, mae angen creu’r gwaith fel ei fod yn weledol. Sbïais ar eu cyfrif Instagram a gweld cerddi hefo delweddi arnynt, megis deigryn arian ar gerdd ‘Wylo’ gan Grug Muse.
Roedd yn gwneud synnwyr, gan fod hi’n ‘ŵyl’ – dechreuais ddychmygu awyrgylch megis yr eisteddfod, hefo galeri a phawb yn symud o gwmpas yn sbïo ar y waliau. Ac, mae beirdd Gwynedd i’w weld yn addurno ei gwaith hefo delweddau ayyb. Felly, es ati i lunio delwedd addas fel cefndir i fy ngherdd ‘Dwy ganrif o Fyddartopia a fu’. Yna defnyddiais Power Point i osod y gerdd ar y ddelwedd, ac mi brintiais hi yn y llyfrgell yn Glyndŵr fel poster A1. Prynais ffrâm bren rhad oddi ar Amazon, ac mae hi nawr yn barod i fod yn rhan o’r arddangosfa.
Mae hi wedi dod i’r amlwg y nawr, trwy drafod hefo’r trefnwyr, fy mod i wedi camddeall y ffurflen. Colofn ar gyfer arlunwaith oedd yr un oedd yn holi am dog-clips a waliau – mae’r farddoniaeth yn cael ei osod mewn antholeg, heb ddisgwyliad o greu delweddi. Fodd bynnag, roedd y trefnwyr yn hael iawn am fy ‘buffoonery’ ac, er ei fod yn waith braidd yn gae chwith, dywedasant ei bod nhw yn edrych ymlaen at ei weld e!
Ac i gloi felly, wrth synfyfyrio, mae’r darn o waith celf yma am Fyddartopia yn symbol diddorol o le rwyf wedi cyrraedd, ar ôl fy siwrne igam-ogam. Pan roes llun ohonof hefo fy delwedd-cerdd, wedi ei fframio, wnaeth un o fy nghydweithwyr cynt o Fangor ofyn os taw allbwn creadigol oedd e, yntau poster ysgolhaig. Ac wrth feddwl, fedrai weld naws y dryswch, gan mai cyfuniad o fy medrau a syniadau yw hyn…a dwi’n ei hoffi hi’n fawr iawn!
Cyhoeddwyd y golofn yma’n gyntaf yn Y Clawdd, Papur bro Wrecsam a’r cylch, Rhifyn 196.