Mae yna sawl llyfr sydd wedi dylanwadu arnaf yn ddwfn dros y blynyddoedd, ac rwy’n hoff iawn o’i rhestri weithiau, i ymarfer sut fuaswn yn ateb y cwestiwn: Pa lyfrau fyddwn yn ei chymryd hefo fi, os oeddwn yn mynd i ynys ddiffaith (desert island). Dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth sgwennu’r golofn yma, rwyf wedi troi at fy silff lyfrau i synfyfyrio fy hoff lyfrau ac, lle nad oes gen i gopi o’r llyfr, dwi’n mynd ati i mofyn un. Felly meddwl oeddwn i, y byddai’n reit hwyl rhannu rhai o’r trysorau yma hefo chwi, gan ddechrau hefo un o’r llyfrau sydd wedi achosi epiffani hyfryd i mi yn ddiweddar.
Pan oeddwn yn hogan fach mi roedd gen i sawl llyfr ‘Ladybird, read it yourself’, gan gynnwys y clasuron cyfarwydd, megis: Rapunzel, Y tri mochyn bychan, a Cinderella. Ond mi roedd yna un llyfr yr oeddwn yn cofio yn eglur iawn a oedd yn wahanol iawn i rhain, wedi ei lleoli fel ag yr oedd hi yn Africa. Enw’r stori yw: Ananse and the Sky God. Nid oedd gen i gopi bellach ac felly es ati i pori’r we, gan ddysgu trwy’r ymchwil fod y stori yma yn rhan o lenyddiaeth eang o storïau am Ananse, a oedd weithiau yn ymddangos fel dyn ac weithiau fel pryf copyn; yn y llyfr dan sylw, mae’r darluniau atgofus yn ei ddangos fel dyn, ac mae’r stori yn ei ddisgrifio fel ‘Ananse y dyn pry copyn’ (Ananse the spider man). Roedd y lluniau yn y gyfrol oedd gen i un hynod o drawiadol ac felly gwariais gryn dipyn o amser i ffeindio’r union un; llwyddais ei gael dau gopi o http://www.abebooks.co.uk
Y mae’r stori yn un hyfryd ac unigryw. Mae’n cychwyn gan ddweud fod, ar un adeg, nid oedd gan blant y byd storïau o gwbl – roedd y storïau i gyd yn perthyn i Dduw’r Awyr, a oedd yn ei chadw wrth ei gadair yn ei dŷ yn yr awyr. Roedd Ananse yn gwybod am y storïau ac mi roedd ef eisiau nhw i blant y byd. Felly, gwnaeth gwe pryf copyn ac aeth i fyny i ymweld â Duw’r awyr i ofyn beth allai cyfnewid am rhai o’r storïau. Chwarddodd Duw’r Awyr, gan osod be feddyliau y byddai tair tasg amhosib: ‘dewch i mi Osebo, y llewpard hefo’r dannedd dychrynllyd; Mmoboro, y cacwn sy’n pigo fel tân; ac Aboatia, y tylwythen deg does yr un dyn yn ei weld’ meddai, ac yna mi rodda i rai o’r storïau i ti. Ond roedd Ananse yn benderfynol o gael y pethau hyn er mwyn ei chyfnewid am y storïau. Felly, trwy gyfrwystra, a gyda help deilen banana, cicaion (gourd), doli wedi ei gorchuddio a glud a bowlen o iamau (yams), mae’n llwyddo casglu’r nwyddau ac mae’n dychwelyd i weld Duw’r Awyr hefo nhw. Mae Dyw’r Awyr yn llawn edmygedd ac mae’n rhoi’r holl storïau i Ananse, gan ddweud y byddent, o hyn ymlaen, yn cael ei alw’n ‘storïau pry copyn’.
Mi roedd y stori’n drawiadol am sawl rheswm, gan gynnwys y ffaith fod y cymeriadau, y nwyddau, y gosodiad a’r darluniau yn egsotig i mi ar y pryd ac agorodd fy llygaid i ddiwylliant (culture) wahannol. Ond gwraidd y stori wnaeth y trawiad fwyaf, hynny yw: mae storïau yn werthfawr a ddylwn ei fwynhau, ei rhannu a’i thrysori. Yn ddiddorol iawn, y mae’r syniad yma yn cael ei ddefnyddio mewn pennod o Star Trek Voyager: Prime Factors. Yn gryno, mae Capten Janeway a’i chriw yn darganfod planed lle mae’r trigolion hefo’r dechnoleg i’w hanfon hanner ffordd ar draws yr alaeth, tuag adref yn yr Alpha Quadrant. Ond er bod y trigolion (y Sikarians) yn gyfeillgar, nid ydynt yn fodlon rhannu ei thechnoleg gan y byddai’n trosedd yn erbyn ei ‘canon of laws’ (fersiwn nhw o’r ‘prime directive’). Ond mae Harry Kim yn darganfod fod y Sikarians, fel cymdeithas, yn mwyhau ac yn gwerthfawrogi storïau fel nwyddau gwerthfawr. Felly mae Janeway yn ceisio fargeinio hefo’r arweinydd Gathorel Labin, gan cynnig llyfrgell gyfan Voyager, sy’n cynnwys llenyddiaeth gorau’r ffederasiwn fel cyfnewid. Mae hyn yn denu Gathorel, lle fethau’r bargeinio cynt, ac mae’n gaddo trafod y syniad hefo’r arweinwyr eraill.
Wrth synfyfyrio’r syniad yma, o storïau fel nwyddau gwerthfawr, sylweddolais fy mod i fel unigolyn, ym mhob agwedd o fy mywyd, yn gwario llawer iawn o fy amser yn mwyhau, ymdrin, ac yn gwerthfawrogi storïau; i ddweud y gwir, storïau yw fy mywyd! Yr wyf wedi hyfforddi fel Cymdeithasegwr, ac wedi arbenigo mewn ymchwil ansoddol (qualitative research). Felly yn fy ngwaith proffesiynol, rwy’n recriwtio pobl sydd â stori berthnasol i’r prosiect y maent yn fodlon rhannu. Rwy’n eu cyfweld ac yn casglu’r storïau. Yna, rwy’n dadansoddi’r data, gan gymharu’r storïau, trafod y storïau, ei phlethu nhw hefo’i gilydd mewn adroddiad sy’n distyllu (distil) ei ystyr, naws a neges. Fy nod yn y cyd-destun yma yw cyflwyno’r stori yn ofalus ac yn effeithiol, gan sicrhau fy mod yn cynrychioli gwir naws yr hyn y mae’r cyfranogwyr wedi ei ddweud, gan hefyd creu stori resymegol, clir, a gallai cael ei ddefnyddio i bellhau dealltwriaeth yn y maes neu feysydd perthnasol, megis meddygaeth ac/ neu’r gwyddorion cymdeithasegol.
Yn fy mywyd personol, rwy’n breuddwydio lliw dydd, megis cerdded i’r goedwig hyd at fy hoff goeden, sy’n fy atgoffa o stori’r ‘Magic Faraway tree’, ac yn sbïo o amgylch fy nghegin, yn hel syniadau tuag at y gyfres o storïau yr wyf wrthi’n paratoi: ‘Carmen Fernandez-Jones a chyfrinachau Cegin Dodo’ (rwyf wedi anfon crynodeb heddiw at gyhoeddwr, felly croesi bysedd i mi!) Ac wrth gwrs, pan dwi ddim yn sgwennu stwff fy hun, dwi wrthi’n synfyfyrio llenyddiaeth pobl eraill ac yn sidro’r ‘genres’ gwahannol y mae’r storïau yn ffitio iddi. Ew, da ydy storïau ynde!
I gloi, buaswn yn dweud: wrth gwrs fod yna bethau mwy pwysig na storïau mewn bywyd, ac ni fuasai hi’n addas petai bawb yn freuddwydiwr fel fi. Mae llawer o bobl hefo swyddi hynod o bwysig ac yn rhu prysur am storïau, neu mae gwell ganddynt ddarllen gwyddoniaeth na gwyddonias (science fiction). Ond rwy’n hoff o feddwl, os oeddwn yn sâl ofnadwy, ac yn yr ysbyty, byddaf angen gofal gan feddygon, a’r cyffuriau a thriniaeth wedi ei ddatblygu gan bobl sy’n rhagori mewn gwyddoniaeth; ond byddaf hefyd angen rhywbeth i godi fy nghalon a fy nifyrru – ac i fi, storïau byddai’n gwneud hynny. Fy mreuddwyd felly, yw i sgwennu stori, rhyw ddydd, sydd a’r potensial i ddarparu’r gwasanaeth yma. Amser fydd yn dweud, ond ga’i hwyl yn trio beth bynnag! saralouisewheeler.wordpress.com