Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mai, 2010

             Wrth i Chwefror droi’n fis Mawrth, a’r oerfel dal yn ein cydio, sbïais allan trwy’r ffenest un bore Sadwrn, dros y caeau a’r corsydd, gan sidro “Pryd cawn ni awyr las eto tybed?” Perodd hyn i mi gofio llyfr a astudiwn tra yn yr ysgol sef: “ga’i ddarn o awyr las heddiw?” Ac es ati i’w ffeindio ar y silff lyfrau. Fel arfer y mae fy Sadyrnau’n gweithredu gyda ‘military precision’: Codi, tacluso, Tesco, bwyd i’r cypyrddau, glanhau’r tŷ, smwddio, gwneud te. Mae Sadwrn trefnus fel hyn yn gwneud hi’n haws ymdopi ac wythnos lawn o waith ac astudio, ond weithiau mae’n gallu ennyn y teimlad o’r shining “All work And no play makes Jack a dull boy”. Bryd hynny mae’n neis, os nad yn bwysig, i ddianc o’r rwtîn a gwneud rhywbeth hwylus.

            Ar y Sadwrn mewn cwestiwn roeddwn newydd symud tŷ ac wedi bod wrthi am ddyddiau yn straffaglu a bocsys, yn ysgubo a thacluso, ac yn gwylltio wrth fethu ffeindio pethau; ac mi roeddwn wedi blino’n llwyr. Penderfynais felly fy mod yn haeddu cael mynd nôl i’r gwely, agor y llyfr bach yma, a chael awr fach o ddarllen ddim-byd-i-wneud-hefo’r-doethuriaeth-na’r-gwaith. Fel ceiriosen ar y gacen daeth fy ngŵr a phaned bach neis i mi cyn diflannu i’r caeau i wylio adar. Dyma setlo lawr felly yn foethus i fwynhau’r casgliad o straeon byr gan fy ‘Llenyddiaeth Idol’, Mr Aled Lewis Evans, a fu’n athro yn Ysgol Morgan Llwyd pan fues i ene’n ddisgybl. Cofiais i ni astudio’r llyfr mewn gwers Cymraeg gyda Mrs Liz Williams, a chael traethawd wedi ei osod ar: ystyr y stori ‘Alltud’. Pan ganodd y gloch dyna le oedden ni felly, mewn gang bach, yn dilyn Mr Evans druan o amgylch y coridorau yn ceisio ei berswadio i roi’r ateb i ni, gydag un hogyn yn holi os mai am  rywun a ‘split-personality’ ydoedd, a Mr Evans yn pwffian chwerthin gan ddweud “Erm, na, ond syniad diddorol!”

           Fel sawl llyfr a astudiais yn yr ysgol, ges i lawer fwy o bleser wrth ei ddarllen fel oedolyn. Teimlaf i mi ei ddeall a’i gwerthfawrogi yn well. Daw teitl y casgliad o un o’r straeon sy’n sôn am ferch sydd wedi dioddef trwy gydol ei heinioes, trwy blentyndod caled a thor-priodas, ac yn ei iselder mae hi’n gweld bywyd trwy’r trosiad o gymylau ac awyr las; y mae’n canolbwyntio ar greu ‘awyr las’ i’w hun. Dyma yw thema’r llyfr, hynny yw: cymeriadau amrywiol yn chwilio am yr ‘awyr las’ mewn bywyd llawn cymylau. Y mae’n neges  bwerus, yn enwedig mewn dyddiau llwyd o aeaf milain, gyda bwgan y dirwasgiad yn loetran a dim ond thristwch yn llenwi’r newyddion; weithiau y mae hi’n anodd gweld mymryn o awyr las o gwbl, ac mae bywyd yn pasio’n un llif pryderus, dibwrpas.

            Pob tro yr wyf yn pendwmpian fel hyn fodd bynnag, y mae fy hoff gân gwerin, ‘Moliannwn’ yn atseinio yn fy nghof, fel rhyw oleuni yn y tywyllwch: “Daw’r coed i wisgo’u dail, a mwyniant mwyn yr haul, a’r ŵyn ar y dolydd i brancio!” Rhywsut mae’n rhoi ‘wmff’ i mi bob tro wrth feddwl am yr hen fferm nostalgia-aidd ar oen bach gwlanog yn prancio! Af ati i synfyfyrio’r trosiad “ac ar ôl y tywydd drwg, fe wnawn arian fel y mwg” nes anghofio fy nhrafferthion a byddaf wrthi’n hymian yr alaw am oriau! Yn ddiddorol iawn dysgais, wrth wirio’r ffeithiau ar gyfer yr erthygl, fod ‘Moliannwn’ yn un o ganeuon adnabyddus ‘Bob Tai’r Felin’, sef Bob Roberts o ardal y Bala. Yn ôl trigolion maes-e.com, yn Cwmtirmynach oedd ‘Tai’r Felin’ ac mi gyseiniodd hyn a fy nghof o Nain yn sôn fod Bob yn un o ardal Tryweryn. Fodd bynnag, sgwennwyd y geiriau gan Benjamin Thomas, bardd a oedd yn wreiddiol o Fethesda ond fu’n byw yn yr Unol Daleithiau rhan fwyaf o’i oes. Cyfansoddodd y gân tra’n byw yn North Pawlet, Sir Efrog Newydd, gan ei osod i alaw Americanaidd sef: ‘The Old Cabin House’.

            Eniwe, yn ôl at y casgliad o straeon byr! Rhoddodd y llyfr bach yma cysur ‘Moliannwn-aidd’ i mi dros yr wythnosau diwethaf. Y mae’r storïau yn llawn anhwylder yr awdur ac yn eich cludo o amgylch y byd wrth iddo ystyried cymdeithas, perthynasai a hunaniaeth. Boed e’n dathlu’r flwyddyn newydd, gan sipian siampên mewn clwb yn Rimini, neu’n eistedd mewn caffi ym Mangor, yng nghanol prysurdeb y brys siopa ‘dolig, yn bwyta taten bob hefo caws a nionyn; y mae Aled Lewis Evans yn meddu ar yr allu i synfyfyrio’n llenyddol gan fewngapsiwleiddio awyrgylch, personoliaethau a rhyw naws neu neges ysbrydoledig.

           Mewn ffordd ysmala, wrth hyrwyddo ei nwyddau trin gwallt a chroen, y mae cwmni L’ORÉL wedi creu mantra sydd â’r un cysyniad dwys a llyfr Aled Lewis Evans; mi ryda’n ni gyd yn haeddu ‘ddarn o awyr las’ yn ein bywydau. Rydan ni gyd ei hangen er mwyn blodeuo fel yr eirlys a phrancio fel yr oen. Ond weithiau yr ydym yn rhu prysur hefo cyfrifoldebau neu’n ffeindio hi’n anodd rhoi caniatâd i’n hunain ymlacio. Neges y golofn mis yma felly yw: hawliwch eich ‘darn o awyr las’; mynnwch hi; boed hi’n bâr o ‘Ugg boots’, ‘Radley handbag’ neu awr fach dawel nôl yn y gwely ar fore dydd Sadwrn, gyda phaned wedi ei gwneud gan rywun arall, a llyfr i’w ddarllen jest er mwyn hwyl. Mynnwch eich darn o awyr las heddiw, “oherwydd eich bod chi werth o!”

           Ers sgwennu’r erthygl cefais wybod bod cyfrol newydd o straeon byrion Aled Lewis Evans ar y gweill, yn Saesneg y tro yma. ‘Driftwood’ fydd y teitl, ac fe gyhoeddir y gyfrol gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon. Byddant ar gael o Siop y Siswrn, gyda lansiad cyhoeddus ar Fehefin 16eg 2010 yn Llyfrgell Wrecsam. Bu’n fwriad cael y gyfrol allan cyn Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, ac i’r llyfr fod yn bont i rai o’r ddi-gymraeg yng Ngogledd ddwyrain Cymru, i fentro i ddarllen gweddill llyfrau Cymraeg Aled.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Mai 2010 (Rhifyn 139)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, May 2010 (Issue 139).

Read Full Post »

Y mae hi’n cysgu’n ddwfn y nawr,

Wedi cyffro ei diwrnod mawr,

Ei thrwyn bach del wedi ei chladdu,

Ym mhen y doli Sali Mali.

 

Olion hufen iâ o amgylch ei gwefusau,

Gronynnau tywod ar ei hesgidiau,

Ai am y feithrinfa y mae hi’n breuddwydio?

Lle tynnodd y llun y mae hi’n ei chydio?

 

Toc y mae’n deffro a’i llygaid yn agor,

Dychwelyd mae’r gwen unwaith yn rhagor,

A dyma ni’n troi hi yn ôl tuag adref,

i’r fflat ger-yr-afon, draw yn y pentref.

 

Ys gwn i os cofith manylion y dydd,

Dwn i’m ond yn sicr, mae gen i ffydd,

Gyda nain, taid a dodo, fe gafodd hi hwyl,

Ar ei hymweliad cychwynnol i faes y brif ŵyl.

 

Y mae’r cerdd yma yn rhan o’r casgliad ‘Dodo’. Nid yw e wedi ei cyhoeddi ninlle arall/ This poem is part of the ‘Dodo’ (aunty) collection. It has not been published elsewhere.

Read Full Post »