Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Awst, 2018

Wordle tafodiaith 2

Read Full Post »

Yn fy ngholofn ddiwethaf, fues yn swnian am y sioc o golli fy nghreadigrwydd, yn sgil straen a thristwch y misoedd diwethaf. Wel, mae’n rhyfeddol fel gall un digwyddiad bach hwylus, disodli’r cwmwl enfawr o rwystredigaeth. Sôn wyf, mis yma, am fynychu lansiad llyfr newydd Yr Athro Angharad Price, o ysgol y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor. Ag yn fwy penodol, am fwynhau ei llyfr yn arw, gan deimlo awydd newydd i geisio sgwennu yn dechrau pigo, wrth i mi hanner breuddwydio trwy’r rhyddiaith fendigedig.

Cynhaliwyd y lansiad yng Ngaleri Caernarfon, sydd rhyw 20 munud o fy swyddfa yma yn y brifysgol, felly es i yn syth o fy ngwaith. Roedd criw go lew wedi ymgasglu i glywed yr areithiau a’r gerddoriaeth fel rhan o’r noson; ac mi roedd yna giw i gael eiliad hefo’r awdur a llofnod ar y llyfr – na wir yr, roedd hi’n fedlam! Yn amlwg, roeddwn wrth fy modd yn cael mynychu soirée o’r fath, a braf iawn oedd clywed cymaint o Gymraeg wrth i bobl sgwrsio a mwynhau ei hunain – mater nodweddiadol o ardal Gaernarfon wrth gwrs. Ond y peth fwyaf trawiadol yw’r llyfr ei hun.

Nawr mae’n debyg fod rhai ohonoch wrthi’n meddwl “llyfr ysgolhaig, uchel-ael, anodd-i’w-ddeall”…a rhaid cyfaddef fy mod wedi poeni am hyn ychydig fy hun; OND, llyfr llawn pytiau annwyl am fywyd pob dydd y dre yw’r llyfr yma, gyda lluniau trawiadol gan Richard Outram, sydd yn dod a’r darllenydd yn agosach at y dirwedd a’r sefyllfaoedd a ddisgrifir.

Diddorol iawn oedd darllen yn y rhagair, fod y llyfr wedi cychwyn fel cyfres o ddarnau byrion am ‘gorneli cudd’ Caernarfon ar gyfer ‘Papur Dre’, sef papur bro Caernarfon. Hefyd yn ddiddorol yw’r ffaith fod Angharad yn ei ddisgrifio nhw fel ‘sgetsys byrion’, gan mai dyna beth ydyn nhw; rhyw 400 o eiriau yn cyfleu teimladau dwfn ac awyrgylch y cyd-destun yn gyfoethog. Mae’r rhyddiaith yn debyg i farddoniaeth, gyda phob gair yn ennill ei le ar y tudalen. Rwy’n gweld ei arddull a chystrawen yn debyg i Jean Rhys, ac mae’r trysor o lyfr yma yn debyg i ‘The Left Bank’, sef casgliad o straeon byr, a oedd Jean hefyd yn ei ddisgrifio fel ‘sgetsys’.

Mae yna synfyfyrion cymdeithasegol yma, megis trafod effaith erydiad caeau chwarae a llefydd i fwynhau, wrth i ‘botensial’ godi tai a datblygu cael ei sylwi (Cae Top). Hefyd, mae’r ffaith ei bod hi wedi penderfynu sgwennu sgets am ‘Parc Sgêtbords Coed Helen’, yn nodweddiadol, gyda’r llun yn ei ddangos mewn olau realaeth foel, yn hytrach na thrio ei rhamanteiddio. Ond rwy’n credu mai ‘Castell Bach Coed Helen’ yw perl y casgliad i mi. Mae’n llawn delweddau a syniadau o blentyndod, wrth chwarae ym myd y dychymyg, sy’n bleserus iawn i’w ddarllen. Felly medraf wir argymell y llyfr yma, sef:

Trysorau Cudd Caernarfon, Angharad Price, lluniau gan Richard Outram.

Gwasg Carreg Gwalch (£12).

Mae’n llyfr i’w fwynhau hefo paned, tro ar ôl tro, gan ei ddefnyddio i gychwyn breuddwyd liw dydd a synfyfyrion braf. Ond i mi, hefyd, mae hi wedi helpu clirio beth bynnag oedd yn rhwystro fy nghreadigrwydd; rwyf wedi fy ysbrydoli i geisio sgwennu’n greadigol, a hynny unwaith eto yn y steil rwyf wedi edmygu ers rhyw ddegawd bellach (ers ‘fy nghyfnod mawr Jean Rhys’). Rwyf am geisio fod yn ddarbodus hefo geiriau – yn hytrach na fy rwdlan arferol, i geisio creu sgetsys atgofus, sy’n cwmpasu naws a theimlad rhyw le neu ryw adeg arbennig. Hyfryd o deimlad i gael yn ôl yw hyn.

Cafodd y colofn yma ei gyhoeddi’n wreiddiol yn Y Clawdd/ This column was originally published in Y Clawdd.

Read Full Post »