Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2018

Mawr y cynnwrf, rwyf wedi cael cyhoeddi cerdd ar blog y cyfnodolyn llenyddol Y Stamp! Enw’r gerdd yw ‘Brwydr y tafodieithoedd’ ac mae hi’n rhoi blas ar un o’r materion sydd yn achosi pryder i mi fel darlithydd cyfrwng Gymraeg – sef hierarchaeth y tafodieithoedd. Pwrpas ein darpariaeth yw rhoi mynediad at astudio pynciau ysgolhaig yn y brifysgol, i’r sawl fydd am wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn swndio’n ddigon syml, yn enwedig ym mhrifysgol Bangor, sydd wedi ei lleoli o fewn Y Fro Gymraeg, ac sy’n denu carfan eithaf sylweddol o’r ardaloedd lleol sydd yn ddwfn o fewn Y Fro Gymraeg, megis Gwynedd ac Ynys Môn. Ond wyddoch chi be, ar lefel bywyd pob dydd, mae hi llawer iawn fwy cymhleth na hynny, ac os medrwn daclo rhai o’r materion sydd wrth wraidd y broblem, fysa gennym o leiaf ddwy faint y garfan ar bob modiwl, yn fy marn i.

Taswn i’n cael punt am bob tro dwi’n clywed y frawddeg ‘ond tydi fy Nghymraeg ddim yn ddigon da’…wel, ella fyswn erbyn hyn yn medru fforddio un o’r ‘Microsoft Surface Book 2’s yna, neu o leiaf gorchudd Cath Kidson i gadw un ynddi! Mae yna broblem hyder gan lawer iawn o’r darpar fyfyrwyr, o ran safon eu Cymraeg, ac nid yw’n deillio’n uniongyrchol o realaeth y sefyllfa. Oes, wrth gwrs, mae yna’r mater fod y Gymraeg yn iaith fwy cymhleth na rhai ieithoedd eraill, yn enwedig Saesneg. Mae gennym dreigliadau i ymdopi a hwy – rhywbeth dwi dal wrthi’n ceisio ei meistroli (unrhyw ddiwrnod rŵan!) Mae yna hefyd y ffaith fod yna lefel uwch o ‘diglossia’ rhwng iaith safonol ac iaith dafodieithol yn y Gymraeg na’r Saesneg. Ond y broblem fwyaf, fyswn i yn dweud, o’r hyn yr wyf wedi ei arsylwi, yw beth fyddai ieithyddion yn galw’n ‘bri’ neu ‘mawredd’ (prestige).

Dwy flynedd yn ôl, es i allan i Murcia yn Sbaen i’r gynhadledd seicoieithyddiaeth, gan roi cyflwyniad ar y thema yma o ran tafodiaith Rhosllannerchrugog, a fy mhrofiadau personol o deimlo agweddau negyddol tuag at dafodiaith fy nheulu tadol. Yn wir, pan es i am y swydd fel darlithydd, roedd o leiaf rhan ohonof yn poeni os fysa’r panel yn meddwl ei fod yn gwbl sarhaus fy mod wedi hyd yn oed cynnig cais – mor isel oedd fy hyder yn safon fy iaith – ac nid yn unig ansawdd fy sillafu a threiglo, ond fy ngeirfa ac unigryw i’r gymuned iaith hwnnw, a fy nghystrawen fwy Seisnigaidd – sydd yn nodweddiadol o Gymraeg y ffin, lle mae hi’n anodd mynd trwy ddiwrnod cyfan heb orfod croesi i’r Saesneg. Ond fel y trodd pethau allan, nid yn unig wnaethant nhw ddim chwerthin ar fy nghais, ond ges i’r swydd.

Wrth ystyried mae dyma fy man cychwyn felly, dychmygwch fy syndod pan rwy’n cyfarfod myfyrwyr o ardaloedd lle mae 95% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, lle mae eu bywydau pob dydd yn cael ei chynnal i’r rhan helaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac maen nhw’n benderfynol peidio astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd diffyg hyder yn eu medrau ieithyddol?! Mae llond ohonynt hefyd, hefo iaith gyfoethog, naturiol, ac maent hyd yn oed yn treiglo ar lafar, mewn ffordd rwy’n stryglo i’w wneud. Ag eto, maen nhw’n dweud pethau israddol amdanyn nhw eu hunain, megis “da ni’n goman”. Ac yn wir, mae’r frawddeg yma’n rhoi rhyw fewnwelediad i’r broblem fwyaf – mater dosbarth cymdeithasol sydd yma, gyda thafodieithoedd yn cael eu cysylltu hefo bod yn fwy dosbarth gweithiol, tra bod iaith safonol yn cael ei hystyried yn fwy dosbarth canol.

Wel, yn amlwg medrwn ddweud fod mynd i’r brifysgol yn y lle cyntaf yn beth fwy dosbarth canol i’w wneud, trwy gyfrwng y Saesneg cymaint â’r Gymraeg. Ag eto, nid yw’r mater o dafodieithoedd i’w weld yn achosi cymaint o ffwdan trwy gyfrwng y Saesneg; yn wir, mae’r myfyrwyr o’r Fro Gymraeg, hefo’u Cymraeg cyfoethog pob dydd, yn dŵad i’r brifysgol ac yn astudio eu cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg, a ddim i’w gweld yn poeni’n ormodol am faterion sy’n ymwneud a dosbarth cymdeithasol. Mae’n baradocs braidd, ond maent i’w gweld yn fwy hyderus am astudio yn eu hail iaith. Y peth fwyaf rhwystredig ydy, pan fydd rhai ohonynt yn cael eu hargyhoeddi i wneud y ddarpariaeth Gymraeg, yn fwy aml na ddim, mae eu Cymraeg nhw yn fwy na digon da at astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; yn wir, mae’n anodd gweld pam maent wedi bod wrthi’n poeni! Ar ddiwedd y rwdlan yma i gyd, nid oes gen i ddoethineb i’w gynnig er mwyn datrys y broblem, ond rwy’n parhau i archwilio’r mater a’i ystyried yn ddwfn – felly ddof yn ôl atoch pan mae gennyf ryw syniadau i’w rhannu. Yn y cyfamser, cwbl fedraf ei wneud yw denu sylw at y mater, a hynny trwy’r barddoni cyntaf i mi wneud ers sbel. Mi fedrwch ddarllen fy ngherdd yma

Read Full Post »

Ar y 27ain o fis Chwefror 2018, cyhoeddwyd fy ngherdd am tafodieithoedd ar blog y cyfnodolyn llenyddol ‘Y Stamp’.

Read Full Post »