Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Tachwedd, 2014

                    Yn ôl ym mis Mai roeddwn yn dychwelyd o brifysgol Manceinion, lle roeddwn wedi bod mewn cynhadledd gymdeithasegol, a ffeindiais fy hun yn eistedd ar blatfform bythol-oer rheilffordd Oxford road. Oherwydd y tywydd braf diwrnod hwnnw…ar ffaith fod gen i gymaint i’w gario fel oedd hi, nid oeddwn wedi dŵad a chôt hefo fi. Dilynwyd y gynhadledd hefo pryd o fwyd yn y ddinas ac mi roedd hi wedi mynd braidd yn hwyr. Mae’r platfform yn Oxford road hefo rhyw micro-climate ei hun lle mae hi wastad yn wyntog ac yn oer ac sydd hyd yn oed yn waeth gyda’r noswaith. Ac felly mi roeddwn yn ysgryd pan benderfynais sbïo ar fy e-byst fel gwrthdyniad.

                    Trwy sgrin fy ffôn symudol, welish i fod rhywun o ‘Y Lolfa’ wedi gyrru e-bost i mi. “Diddorol” meddyliais. Mi roedd hi’n e-bost gan Branwen Rhys Huws, Pennaeth Marchnata ‘Y Lolfa’, ac mi roedd hi’n gofyn a fuaswn â diddordeb mewn derbyn copi adolygu o Water gan Lloyd Jones. Dyma, wrth gwrs, cyfieithiad o’i nofel ‘Y dŵr’ a chyhoeddwyd yn 2009. Ew – yr anrhydedd ynde?! Ac yn sydyn nid oeddwn yn oer gan fod teimlad cynnes braf wedi fy lapio a fyn amgylchynu mewn swigen o lenyddiaeth a Chymreictod braf. Wrth gwrs atebais yn syth i ddweud ‘ie plîs’ ac, trwy sgwrs o e-byst, dysgais fod Branwen wedi darllen fy mlog rhai misoedd ynghynt ac wedi gwneud nodyn i gofio fy mod wedi sôn am nofel Lloyd, gan fod y gyfrol Saesneg yn cael ei chyhoeddi yn eithaf buan. Ac felly mi ddaeth yr anrhydedd yma i mi diolch i’r ail golofn ‘Synfyfyrion llenyddol’ sgwennes i erioed, yn ôl ym mis Rhagfyr 2009: Roddenberry, Atwood…ac Islwyn Ffowc Elis! Tarddiad ‘Gwyddonias’ Cymraeg.

                    Ac felly mi ges i gopi, yn boeth o’r wasg, ac eshi ati yn frwd i wneud adolygiad, gan ddyfeisio system arbennig o ddarllen un bennod yn y Gymraeg, ai dilyn gan ddarllen yr un bennod wedyn trwy’r Saesneg, er mwyn cymharu’r ddau ac adlewyrchu ar y trosiad – a oedd y naws wedi ei chadw? Sut oedd y stori a oedd mewn cyd-destun Cymreigaidd iawn yn gweithio trwy gyfrwng y Saesneg? Trwy’r system yma dwi’n amau i mi gael dealltwriaeth well o ystyr rhai agweddau o’r nofel – beth oedd y tu ôl i’r geiriau ag ati. Mi wnes i hefyd ddod o hyd i lawer o anghysondebau (neu efallai gwahaniaethau pwrpasol) rhyngddynt. Er enghraifft yn y fersiwn Gymraeg mae Elin yn nesáu at ei hanner cant oed, tra ei bod yn nesáu at bedwardeg yn y fersiwn Saesneg. Hefyd, ar ddiwedd pennod 5 yn y fersiwn Gymraeg, mae Wil yn gorffen y sgwrs hefo Mari gan ddweud “Mae hen ddigon o bysgod eraill yn y môr”, ond y fersiwn Saesneg, mae’n ei hateb gan ddweud ei fod wedi rhoi dewis i’r dieithryn – y ceith ddŵad i fyw i ‘Dolfrwynog’ os ddeuai a cheffylau iddynt. Mae sawl esiampl fel hyn, gan gynnwys rhai sy’n gwella’r stori – er enghraifft tynnu allan ambell i linell cliché megis ‘because you’re worth it’.

                    Y mae hefyd esiamplau diddorol o le nad yw rhai disgrifiadau yn trosi’n dda ac felly maent yn cael ei newid…ac eto ddim cweit yn gweithio; er enghraifft ar ddechrau’r nofel mae’r awdur yn gofyn “Faint ohonon ni Gymry, a safodd ar fuarth ym more oes, yn ein clytiau”. Nappies yw trosiad clytiau, ond nid yw hyn yn swnio’n iawn yn Saesneg rhywsut, ac felly mae’r awdur wedi ei throsi i ddweud: “We Welsh people – how many of us started our lives in a place like this, still in our baby clothes?” Ond tydi baby clothes ddim yn swnio’n iawn chwaith, i mi eniwe. Y mae teitl y nofel wedi newid hefyd – ‘Y Dŵr’ i ‘Water’ (yn hytrach na ‘The Water’) a dwi’n teimlo fod hyn yn newid tarddiad/ ystyr y teitl a ddim mewn ffordd dda. Ond ta waeth, dyna ddiwedd arna i yn cogio fod yn ‘Robert Webb’ (Great Movie Mistakes), beth am y stori ei hun medde chwi – yn y ddwy iaith?

                  Y mae’n nofel dystopaidd, fy hoff genre, ac mae hi’n un da hefyd. Yn wir, ar ôl dechrau braidd yn araf a ling-di-long, y mae’r stori’n datblygu i fod yn un gafaelgar…mor afaelgar fel roedd rhaid i mi roi’r gorau i switsio rhwng y ddau gan roeddwn yn mwynhau’r stori ac eisiau gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Yn amlwg dwi ddim eisiau rhoi gormod o sbwylars, ond mae ‘na berthnasau cymhleth a llofruddiaethau sy’n gwneud i ni adlewyrchu ar ochr dywyll dynoliaeth wrth i ddiwedd y byd nesáu…wel, diwedd i rai gwledydd a’i gwareiddiad eniwe. Y mae hi wedi ei lleoli ar ffarm draddodiadol yng Nghymru ac y mae’n portreadu newid y dirwedd mewn ffordd sy’n creu darlun hawdd i’w ddychmygu a hefyd yn dwysáu’r tyndra. Mae’r awdur yn gwneud defnydd da o storïau gorffennol y cymeriadau ac yn plethu realaeth a’r hyn y mae’r cymeriadau yn ei ddweud mewn modd clyfar i gadw ni’n dyfalu.

                  Mae yna ambell i cliché sy’n amharu braidd ar fy mwynhad innau o’r stori – er engraifft mae yna wrogaeth i Lord of the flies sydd braidd yn ddiangen ac sydd ddim rili yn gweithio yng nghyd-estyn teulu bach mewn ffermdy yn hytrach na chriw mawr o fechgyn ar ynys, ac mae yna esiamplau o ailadroddiad sydd braidd yn flêr – megis hanes y plisgyn wyau y mae Nico yn ei phaentio, a sut mae Mari ac wedyn Nico yn disgrifio ei rhesymau am droi yn ôl ar ddiwedd y nofel; serch hyn y mae’n beltar o nofel, yn y ddwy iaith, a pan ddarllenais ddiweddglo’r nofel synfyfyriais “ys gwn i a fydd dilyniant…wedi ei lleoli yn 6B”? Gobeithiaf wir, oherwydd fuasai hyn yn ddiddorol tu hwnt! Ond eniwe, hyd yma dim ond y nofel gyntaf sydd ar gael, a gallaf ei hollol hargymell!

Read Full Post »