Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Tachwedd, 2013

Ers rhai misoedd bellach, y rwyf wedi bod wrthi’n tyfu allan y lliw ges i ar fy ngwallt i guddio’r blaengudyn arian (streipen arian/ ‘Mallen’) sy’n estyn o fy nhalcen, a hefyd y lliw halen a phupur naturiol sydd gen i drwyddi draw. Fel rhan o hyn, yn ddiweddar, penderfynais gael ffrinj gan fyddai hyn yn torri’r lliw oren hyll a oedd yn glynu yn y gwallt o ryw hanner ffordd i lawr hyd at y gwaelod; o leiaf wedyn byddai’r streipen-andros-o-arian (bron cant-y-cant erbyn hyn) yn hollol naturiol o’i wreiddyn hyd at y gwaelod. Felly ffwrdd a fi i’r siop trin gwallt, iPad dan fy nghesail yn llawn lluniau o Angelia Jolie ac Agnetha Fältskog wedi ei lawr lwytho o’r we, er mwyn i mi cael dangos i’r triniwr gwallt pa fath o ffrinj roeddwn i eisiau. Ac, wel, dyma ddechrau siwrne o brofiadau newydd.

I ddechrau roeddwn i’n difaru’r penderfyniad byrbwyll, yn straffaglu hefo sut i’w steilio ac yn poeni nad oedd yn fy siwtio ayyb. Postiais ar facebook “ddoe = wedi cael ffrinj, heddiw = cychwyn tyfu’r ffrinj allan!” Yna synnais ar gymaint o bobl postiodd sylwadau yn ymateb i hyn, gyda llawer yn mynegi teimladau o gydymdeimlad, undod, ac yn rhannu hanesion ei hunain am ffrinj-related-disasters. Ond yn groes i’r storïau yma, postiodd un neu ddau o bobl pro-ffrinj pytiau o gyngor e.e. am aros wythnos a byddaf, yn ei thyb nhw, yn dod i arfer arni a byddaf wedyn wrth fy modd hefo hi. Ges i hefyd llwythi o negeseuon yn datgelu tips am sut i’w steilio – gan gynnwys: sut i’w sychu’n syth cyn ei ysgubo i un ochr; sut i ddefnyddio ‘radial brush’ (ac mae angen un os oes gennych ffrinj); a sut i gyrlio’r ffrinj hefo ‘straighteners’. Mae ‘hairspray’ hefyd yn hynod o bwysig…ac os da chi wir yr am ei thyfu hi allan, gellwch, ar ôl rhai wythnosau, defynddio ‘icle vintage clip’ i’w glymu nôl.

Rhaid cyfaddef roeddwn yn ‘touched’ iawn gan yr holl sylw, chyfeillgarwch ac arddangosiad  o ‘chwaeroliaeth’ (sisterhood)! A pherodd hyn i mi synfyfyrio ar atgof o’r tro cyntaf i mi ddod ar draws y fath yma o allgaredd (alturism), nol yn yr wythdegau, pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Bodhyfryd. Ar y pryd, roedd gen i wallt hir iawn ac mi roedd mam yn ei glymu nôl pob bore yn dynn mewn ponytail ac yna yn ei chwistrelli gyda llwythi o hairspray i gadw’r ‘wisps’ o dan reolaeth. Yr effaith oedd fy mod yn edrych ychydig fel ‘ballerina’…ond hefyd ychydig fel wy! Eniwe, roedd un o fy ffrindiau gorau yn fy nosbarth i hefyd yn ffrindiau hefo hogan oedd yn flwyddyn yn hŷn na ni, gan ei bod nhw’n cymdogion (wnawn i alw fy ffrind gorau yn Rhiannon, ai cymydog hŷn yn Catrin – a ffrind Catrin o’r un flwyddyn yn Awen). Y mae’r atgof dan sylw am ddiwrnod ysgol rwy’n ei gofio hyd heddiw hefo anwyldeb (fondness) a gwen. Mi roedd hi’n ddiwrnod go gyffredin, a finnau’n rhyw Saith mlwydd oed, ac am ddim rheswm arall oni bai am garedigrwydd, penderfynodd Catrin ac Awen, a oedd yn llawer iawn mwy soffistigedig na fi a Rhiannon, yr oeddynt am wneud ‘makeover’ arnaf – a sortio fy ngwallt allan i mi.

Aethom i doiledau’r merched ger y sinciau yn yr hen adeilad. Rwy’n ei gofio fel tasa hi’n ddoe – yn hytrach na rhyw 27 mlynedd yn ôl. Roedd hi’n ddiwrnod braf tu allan ac mi roedd yr haul yn tasgu pelydron disglair trwy’r ffenestri uchel, cul. Roeddwn yn gwisgo ffrog haf yr ysgol mewn  defnydd siec coch a gwyn ac mi roeddwn yn sefyll yn swil yn ganol yr ystafell. Teimlais Catrin ac Awen yn datod fy ‘bobbl’ yn ofalus, gan adael i’r gwallt syrthio’n rhydd. Yna teimlais i nhw’n rhedeg ei bysedd trwy fy ngwallt i lacio’r hairspray ac mi roedd hi’n deimlad hyfryd dros ben wrth i’r tyndra (tightness) rhyddhau a fu i’r gwallt gwahanu, gan ddisgyn yn naturiol lawr fy nghefn. Yna mi roeddynt yn brwsio fy ngwallt yn hynod o dyner, nes bod y clymau i gyd wedi ei datod ac roedd fy ngwallt yn llyfn a sidanaidd.

Dechreuo’n nhw pwffio’r gwallt ychydig i’w wneud yn fwy ‘tousled’ ac yna ei threfnu fel ei bod yn gorwedd mewn clystyrau cyfartal o flaen pob ysgwydd.  Gosodant glipiau coch yn fy ngwallt, un pob ochr o’m talcen ger yr arlais (temple). Daeth Catrin i sefyll o fy mlaen er mwyn iddi gael gwerthuso’r canlyniad. Sbïodd arnaf mewn ffordd hynaws (good natured) ac yn amlwg yn bodloni a’r effaith yr oeddynt wedi ei chreu. Gwenodd yn glen gan batio’r clipiau ac yna, wedi cyfnewid ciledrychiad (glance) hefo Awen dros fy mhen, mi wnaethon nhw fy hebrwng tuag at y drych er mwyn i mi cael gweld y canlyniad fy hun. Ac, wel, roeddwn i wrth fy modd; prin allaf goelio ond, yn hytrach na’r hogan fach plaen, hefo gwallt mewn steil wy yr oeddwn wedi arfer ei gweld yn sbïo nôl arnaf, roedd yna hogan hefo gwallt hyfryd, steilus…ac mi roedd hi’n hogan reit ddel actilwi! Yn wir, dyma oedd y tro cyntaf i mi feddwl fy mod yn ddel – ac mi roedd hi gyd yn ddiolch i’r weithred o garedigrwydd, a chwaeroliaeth (sisterhood), gan ddwy hogan yr oeddent prin yn fy adnabod. Cefais y teimlad oer-cynnes hyfryd hwnnw, ar fy ngwar, y mae rhywun yn ei gael pan maent yn ymhyfrydu mewn caredigrwydd eraill – a fues mewn swigen fach freuddwydiol a hapus am weddill y diwrnod.

Wrth adlewyrchu ar pam y mae’r eiliad bach yma yn fy hanes personol wedi dod i’r wyneb yn ddiweddar, a hefyd pam yr wyf yn rhannu’r synfyfyrio hyn a chwi, rwy’n tybio mai efallai oherwydd bod yna cymaint o dystiolaeth yn dod i’r wyneb pob dydd ar hyn o bryd am sut mae dynol ryw yn reit annifyr, oer, a dan din, a dim ond yn gweithredu er lles ei hunain. Mewn anialwch o barusrwydd a ffieidd-dra felly, y mae’r atgof yma yn ronyn o obaith i mi – yn esiampl o sut mae pobl, weithiau, yn gwneud pethau neis, jest gan ei fod nhw’n gallu. Eniwe, nol i’r presennol ac, er i mi a dod i arfer a’r ffrinj, a dysgu sut i’w steilio, yn y pen draw mi roedd hi’n rhu ‘high maintenance’, yn enwedig yn y bore ar ôl nofio neu’r gym pan rwy’n brysio i gael i’r gwaith ar amser. Felly mi wnes i ei gadw am un neu ddau o ddigwyddiadau blynyddol – cinio graddio ayyb, ac yr wyf yn nawr wrthi’n ei dyfu allan…gyda chymorth sawl clip a theclynnau gwallt eraill; wrth sgwennu hwn, er enghraifft, rwy’n gwisgo steil ‘bump’ ar blaen y gwallt – megis Sophie o Home and Away ers talwm.

Mae gen i llawer o ansicrwydd i’w ddelio a hi dros y misoedd nesaf yma…ond am un peth rwy’n hollol, hollol sicr…dydw i ddim eisiau ffrinj gwirion yn slofi fi lawr pob bore!

Read Full Post »