Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2016

Fedra i ddim cofio amser pan nad oedd Star Wars yn rhan o fy mywyd. Cefais fy ngeni rhwng rhyddhad y ffilm gyntaf ‘Star Wars, Episode IV: A new Hope’ yn 1977, a’r ail ffilm ‘Episode V: The Empire Strikes Back’ yn 1980. Roedd gennym Star Wars ar fideo, wedi ei dapio oddi ar y teledu, hefo’r darlun sgrin yn rhannu’r ffilm lle oedd yr hysbysebion wedi bod; darlun un o’r posteri marchnata ydoedd, ac mae’r darlun wedi aros yn fy nghof hyd yma (fwy am hyn mewn munud). Ond y drydedd ffilm y gwyliais fwyaf – ‘Episode V: Return of the Jedi’ (1983), nes oedd pob manylyn gen i ar gof – hyd yn oed rhannau’r Ewoks!

O’r ffilmiau yma, yn bennaf, y ffurfiais acen i fy hun (at pan oeddwn yn siarad Saesneg). Gwyliais drosodd a drosodd rhannau Ben ‘Obi Wan’ Kenobi, wedi ei chwarae gan Alec Guinness – yn dilyn ei ynganiad “…a more elegant weapon, for a more civilized age”, a “Luke, you’re going to find that many of the truths we cling to depend greatly on our own point of view”. Wnes i hefyd gwylio rhannau o ‘The King and I’, ‘Mary Poppins’, ac araith/ apêl y dywysoges Leia – ond Obi Wan oedd fy mhrif ‘Professor Higgins’.

Roedd gen i hen focs Ferrero Rocher wag, lle roeddwn yn cadw fy ffigyrau Star Wars – roedd gen i Luke, Han Solo, y dywysoges Leia, a’r R2 unit coch sy’n syrthio’n ddarnau pan mae Uncle Owen yn ceisio ei brynu (sy’n lwcus, wrth gwrs, i R2D2, gan fod e wedyn yn cael mynd at Luke a’i deulu ar y fferm lleithder, ac o fama mae’r cynllun i achub y tywysoges-yn-y-neges yn cychwyn o ddifri). Roedd gan ffigwr Luke ‘Lightsaber’ wedi ei guddio yn ei llawes, ac roedd nib bach yn eich galluogi i’w llithro fewn i’w law, yn barod i ymladd. Roedd wyneb Han Solo yn welw, ac nid oedd Leia hanner mor brydferth ag oedd hi yn y ffilm, ond doedd dim ots – gwariais oriau yn chwarae hefo nhw.
Rwy’n cofio gwario llond o amser yn ceisio gwneud lightsaber – gan ddefnyddio amryw dorsh a phapur neu blastig gwahanol liwiau. Rwyf hefyd yn cofio lapio rhaff sgipio o amgylch fy nghanol…jest rhag ofn fysa angen i mi ddianc gan ‘storm troopers’, a’r bont i gyrraedd yr ochr draw wedi torri. Chwaraeais gêm cyfrifiadur Star Wars, lle oedd modd fod yn rhan o’r tîm yn ceisio chwythu’r ‘Death Star’ fyny, trwy sgimio ar hyd y beipen wacáu ac yna’n defnyddio proton torpido i achosi adwaith cadwynol (chain reaction). A thyfais fy ngwallt yn hir er mwyn bod fatha’r dywysoges Leia – a hir y bu hi nes i gyfnod ‘Kylie Minogue’ cyrraedd, pan wnes i ei dorri a chael ‘bubble-perm’.

Felly dychmygwch fy nghynnwrf, yn 1998 – a finnau newydd gyrraedd Lerpwl i fynychu’r brifysgol, pan wnaeth sôn am y ffilmiau newydd Star Wars dorri. Roeddwn mewn sinema un diwrnod a ddaeth y ‘trailer’ am ‘Episode I: The Phantom Menace’ mlaen – ac wrth iddo ddarfod dyma drigolion y sinema dechrau clapio – ew, ar ôl llawer iawn ormod o flynyddoedd o absenoldeb, mi roedd bydysawd Star Wars yn ôl hefo ni. Ond siomedig oedd y ffilmiau yma (1999, 2002, 2005)…actiwli, os dwi’n mynd i fod yn cwbl onest, ar ôl gweld yr un cyntaf wnes i droi fy nghefn arnynt a wnes i ddim hyd yn oed boddran hefo’r ddau arall. Roedd rhai agweddau da – Brenhines Amidala, ond doedd naws y ffilmiau cyntaf ar goll, a gormod o bethau sarhaus megis Jar Jar Binks…yn ogystal â rhan fwyaf o’r deialog! Felly dydw i ddim yn cyfri’r ffilmiau yma fel rhan o’r ffenomenon rwy’n ffan ohoni.

Eniwe, wrth gwrs yn ddiweddar, eto ar ôl sbel, rydym wedi cael y ffilm newydd sbon: ‘Episode VII: The force awakens’. Poenais os ddylwn i’w weld neu ddim – beth os oedd hefyd yn siomedig? Gwyliais yr heip i gyd, gan gynnwys y ffaith fod llawer o’r cymeriadau gwreiddiol yn mynd i fod ynddi. Or diwedd, dros dolig, mi es i hefo fy ngŵr i’r sinema IMAX yn Cheshire Oaks, er mwyn rhoi cyfle i’r etholfraint (franchise) profi ei hun unwaith eto. Ond llugoer oedd fy ymateb mae gen i ofn. Mae’r sin agoriadol yn addawol iawn, a pan welish i’r ‘Star Destroyer’ o’r tu allan, wedi ei hanner claddu yn yr anialwch – yn amlwg wedi bod ene ers y frwydr yn y sêr – roeddwn wrth fy modd yn hiraethu am yr hen ffilmiau a’i chymynrodd (legacy).

Serch hyn, a rhyw un neu ddau sin arall, roedd y ffilm yn shambls. Yn wir, roedd o fel petai rywun wedi cymryd yr hen Star Wars gwreiddiol, wedi ei dorri yn ddarnau, ei shyfflo nhw, rhoi rhyw sins arall hurt mewn, ac yna ei gweu nhw nol at ei gilydd mewn rhyw jumbl dryslyd. Siomedig iawn. Ond mae yna un peth da wedi dod o hyn i gyd – mae nwyddau Star Wars unwaith eto ar gael, yey! Ges i ymbarél yn anrheg dolig o’r gŵr, lle mae’r polyn yn replica o lightsaber, a ffeindies i crys-t yn HMV sydd hefo’r union ddelwedd poster a oedd rhwng yr hysbysebion ers talwm. Pob cwmwl hefo leinin arian llu!

Read Full Post »