Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mawrth, 2018

Roedd hi rhywbryd rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd, a finnau wedi bod yn diogi o gwmpas y tŷ ychydig gormod, pan awgrymais i’r gŵr i ni fynd am dro i Gaer am gwpwl o oriau, i sbïo o gwmpas y siopau a chael rhywbeth i fwyta. Euthum i’n siopau arferol, megis y siop modelau, siopau gwyddonias, a WH Smith’s i sbïo ar y cylchgronau. Yna euthum i Waterstones, lle’r oedd gwledd o lenyddiaeth yn ein disgwyl, ar fwy nag un llawr, ac mi wnaethon ni gwahanu i grwydro o gwmpas yn sbïo ar bethau o fewn ein sffêr sbesiffig o ddiddordeb. I fi, mae hyn fel arfer yn cynnwys nofelau neu rywbeth i wneud hefo fy ngwaith ysgolhaig. Fodd bynnag, ar yr achlysur yma, a hithau’n adeg ôl-dolig, mi roedd yna lawer o nwyddau diddorol o amgylch y lle, yn amlwg wedi eu creu a’i chyflwyno fel anrhegion i bobl sydd yn hoffi llenyddiaeth, ac efallai felly yn anodd prynu anrhegion iddyn nhw.

Mae’n bosib prynu pob math o nwyddau hefo naws llenyddol – mygiau neu eitemau dillad hefo dyfyniadau llenyddol arnynt, a gemau bwrdd yn seiliedig a themâu llenyddiaeth enwog. Yma yn Waterstones, mi roedd un stondin bach wedi denu fy sylw, a hwnnw yn cyflwyno cadwyni a oedd hefo naws llenyddol iddynt. Roeddynt yn reit fawr, gyda’r brif ran wedi ei wneud o wydr, ac o fewn y ‘swigen’ o wydr roedd yna ddyfyniadau. Darllenais a’u hedmygu, gan ystyried byswn yn hoffi ei chael nhw i gyd! Roedd yna tair ohonynt yn benodol yn apelio ataf:

  1. “You can never get a cup of tea large enough or a book long enough to suit me” ~ C.S.Lewis.
  2. “To thine own self be true” Hamlet.
  3. “It’s always Tea-time!” Alice.

Wel, am ddewis! Mae yna lond o jôcs poblogaidd am nyrds-darllen, er enghraifft dyfyniad ar Facebook: y cyfan rydym eisiau yw llyfrau…a mwg neis i yfed ein paned ohoni wrth i ni ddarllen…a chadair esmwyth neis, lle gallwn eistedd wrth ddarllen…a thocynnau siop lyfrau er mwyn i ni gael prynu fwy o lyfrau i’w ddarllen; ac mi rydw i yn ffitio’r stereoteip yma i’r dim – fy syniad i o baradwys yw gorwedd yn fy nghrogwely ar ddiwrnod braf, hefo paned wrth fy ochr, yn darllen nofelau ac yn synfyfyrio am sgwennu storïau fy hun. Felly roedd y gadwyn gyntaf yn apelio’n fawr iawn, yn enwedig gan mai C.S.Lewis oedd o’n dyfynnu, a finiau’n ffan fawr o’i waith a’i fywyd – wnes i hyd yn oed ceisio creu grŵp llenyddol megis yr Oxford Inklings tra roeddwn i yn Lerpwl – The Inklingettes…ond fwy am hynny rhywbryd arall!

Roedd yr ail ddyfyniad yn apelio ataf yn arw hefyd. Os ydych wedi darllen un neu ddau o’r colofnau yma, mi fyddwch yn ymwybodol fy mod, ar sawl lefel, braidd yn ‘wahanol’, a fy mod yn byw rhan fwyaf o fy mywyd draw yn ‘cae-chwith’. Un o’r pethau braf am heneiddio yw fy mod wedi dŵad i dderbyn fy hun fel ag ydw i – quirks and all. Gall pawb cwestiynu fy mhenderfyniadau, gan geisio fy narbwyllo fy mod yn gwneud camgymeriad, ond cyn belled fy mod yn ‘bod yn wir i fi fy hun’, rwy’n hapus i sefyll yn browd – beth bynnag y goblygiadau.

Roedd y drydedd gadwyn hefo darlun arni yn ogystal â’r dyfyniad, a hynny o’r wledd te’r prynhawn y ‘Mad hatter’, y ‘March Hare’, y pathew, ac Alice. Roedd y darlun yn ei wneud yn ddel yn ogystal â chŵl, wel, nyrd-cŵl! Ew, roeddwn i eisiau’r tair ohonynt – ond roeddent ugain punt yr un, a fedraf i ddim cyfiawnhau gwario £60 ar anrhegion ôl-dolig hunanol! Roeddwn mewn penbleth felly – pa un oeddwn yn ei hoffi fwyaf? Ar ôl y fath mwydro byswch ddim yn ei choelio taswn i’n ei hadrodd yma, dewisais yr un hefo’r darlun o Alice in Wonderland arni, gan fod hwn yn cyfuno fy nghariad at y stori arbennig honno…ac hefyd am yfed te. Gallaf wastad prynu’r lleill rhywbryd arall, meddyliais, gan ei gosod yn ôl ar y stondin, a cherdded yn amharod oddi wrthynt.

Fel rhyw fath o ôl-nodyn digri, mi wnaeth prynu’r gadwyn ail-gynnal fy niddordeb yn stori Alice, ac es ati i’w ddarllen – a chefais fy synnu: nid Alice wnaeth ddweud “It’s always tea time”, ond y ‘Mad Hatter’, gan gyfeirio at sut roedd eu bywydau bellach yn cylchdroi o amgylch ei oriawr a oedd wedi torri, ac felly roedd hi wastad yn 6 o’r gloch, ac yn amser am de. Yn ddigon ysmala, rhywsut mae hyn yn ei wneud yn arteffact fwy boddhaol fyth – gan ei fod yn cyfleu cymhlethdod a dryswch y stori i’r dim! Mae yna lond i ddweud am nwyddau llenyddol a’n dyhead ni amdanynt – ond fwy am hyn rhywbryd arall!

Read Full Post »