Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Rhagfyr, 2017

“Mae’r nofel Wythnos yng Nghymru Fydd mor wych fel ei bod yn amhosib ei chrybwyll a gwneud cyfiawnder iddo fan hyn (fwy amdano rywbryd arall ella). Ond ‘suffice to say’ mae’n stori blynyddoedd-goleuni ‘ahead of its time’ ac mae’r frawddeg ‘yn ôl i’r dyfodol’ yn cael ei yngan yma degawdau cyn i Marti McFly a Doc Emmett Lathrop Brown ei ddefnyddio!

(Fy ail golofn synfyfyrion llenyddol, Rhagfyr 2009).

             A dyma fi, o’r diwedd, wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn dychwelyd i’r mater o’r nofel ‘Wythnos yng Nghymru fydd’ – a hynny gan fod hi’n ben-blwydd 60 mlynedd ers ei gyhoeddi yn 1957, ac rwyf wedi mynychu’r opera newydd sydd wedi ei seilio ar y gwaith. Dyma oedd Y nofel Gwyddonias (Science fiction) gyntaf cyfrwng Gymraeg i gael ei gyhoeddi ac mae hi’n ardderchog. Heb os, prif thema’r gwaith yw’r iaith Gymraeg a’i thynged; cyllidwyd yr awdur, Islwyn Ffowc Elis, gan Blaid Cymru i’w hysgrifennu, ac felly mae yna demtasiwn i’w diystyru fel propaganda gwleidyddol…ond mae hi cymaint fwy na hynny.

Yn y stori mae Ifan Powel, sydd ddim yn genedlaetholwr, yn mynd i ymweld ag aros hefo’i ffrind Tegid, sydd yn genedlaetholwr, am fach o wyliau. Mae Tegid wedi gwahodd ffrind arall, Doctor Heinkel, i gael swper hefo nhw. Wrth gyfarfod Ifan, mae Doctor Heinkel yn synnu ar ei olwg gorfforol, ac yn esbonio, ar ôl iddynt gael pryd o fwyd, fod Ifan yn dangos nodweddion corfforol y fath o berson sydd yn medru trafaelio mewn amser, o dan yr awgrym o hypnosis, oherwydd yr ‘elfen K’. Mae’n esbonio ei ddamcaniaeth anthropolegol amdano, sef fod “rhywfaint o waed y dyn Neanderthal – yr is-ddyn – wedi dod lawr i’w gwythiennau. A dyma’r rhan glyfar a sbwci o’r nofel.

Erbyn hyn rydym yn hen gyfarwydd â’r syniad yma yn y genre sci-fi; er enghraifft yn Stargate Atlantis, dim ond y bobl sydd hefo arlliw o waed yr Ancients sydd yn medru defnyddio’r control chair’. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn thema yn gwyddonias y ‘50au, oherwydd nid oedd y syniadau anthropolegol yma yn bod eto. Ar y pryd, y gred oedd bod dynol ryw bresennol wedi datblygu o neanderthals – ac felly fysai’r arlliw gwaed ganddynt yr un fath ym mhob person. Yna, newidiodd y damcaniaethau i feddwl ein bod ni wedi disodli’r neanderthals trwy gystadlu’n well am adnoddau. Mae’r damcaniaethau presennol yn seiliedig ar ein gwybodaeth o enynnau, fod gan rhai pobl fwy o arlliw gwaed neanderthal nag eraill, sydd yn cael ei esbonio trwy rywfaint cyfyng o ryngfridio, yn ogystal â chystadlu’n well. Ond, felly – sut oedd Islwyn Ffowc Elis wedi dod ar draws y syniad nol yn y 50au?

Mae’r stori yn datblygu ac mae Ifan, er braidd yn anfodlon, yn cael ei yrru i’r dyfodol i’r flwyddyn 2033, lle mae’n cwrdd â Dr Llywarch a’i merch brydferth Mair Llywarch. Yn y dyfodol yma mae Cymru, ei iaith a’i diwylliant yn ffynnu. Mae’n cael amser gwych ac yn syrthio mewn cariad a Mair. Ond, ar ôl 5 diwrnod, mae Llywarch yn dychwelyd Ifan i amser ei hun, gan esbonio y gall diflannu fel ffantom, heb rybudd, gan bwerau tu hwnt i’w ddealltwriaeth. Gwelwn yma felly, adlais o storïau Barsoom gan Edgar Rice Burroughs, a’r berthynas rhwng John Carter a Deja Thoris. Yn wir, mae’n amlwg trwy ddarllen y nofel fod Islwyn Ffowc Elis yn ffan go ddifri o’r genre, wrth iddo blethu syniadau fwyaf dylanwadol y cyfnod, megis pryder ynglŷn â phŵer milwrol. Mae Ifan yn cael ei dychwelyd i’r flwyddyn 2033, ond y mae’n ddyfodol paralel, ac y tro hwn mae’r iaith a diwylliant Gymraeg wedi ei difodi, gydag enwau lleoedd wedi ei newid, ac mae e’n dod o hyd i Mair, sydd, yn y dyfodol yma, hefo’r enw ‘Maria Lark’ (rhywbeth sydd yn drawiadol iawn i’r onomastegydd!) Mae’n dychwelyd i’r gorffennol wedi ei argyhoeddi i fod yn genedlaetholwr. Mae’n stori bwerus.

Es i hefo fy rhieni i weld yr opera, sydd wedi ei chyd-gynhyrchu gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood. Euthum i’w weld yn theatr newydd Pontio, ym Mhrifysgol Bangor, a hefyd yn theatr Art-deco crand Y Stiwt, ym mhentref genedigol fy Nhad: Rhosllannerchrugog. Wnaethom fwynhau’r ddau berfformiad yn arw, ond yn enwedig yn Y Stiwt, lle fuodd fy nhad yn mynd ers talwm i wylio operâu Gilbert & Sullivan. Ces fy ngwahodd i’w hadolygu mewn erthygl i gylchgrawn Golwg, a chafodd hynny ei gyhoeddi hefo llun ohonof yn cydio yn fy nghopi gwreiddiol o’r nofel, a gyhoeddwyd yn 1957, a fy nghopi o’r fersiwn ‘limited-edition’ newydd. Fel unrhyw nyrd werth ei halen, roeddwn am gael un o rain. Dim ond 300 o gopïau o’r nofel yn ei newydd wedd sydd wedi cael ei gyhoeddi; mae gen i gopi 100/300. Ys gwn i bwy sy’n berchen ar yr 299 copi arall? Rwyf am gychwyn tudalen ar Facebook i ni gael ffurfio clwb y 300!

https://www.facebook.com/groups/1889242424723742/

 

Read Full Post »