Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Medi, 2017

Yn ôl yn rhifyn mis Mawrth 2013, fues yn sôn am fy ymweliad â`r ganolfan iaith yn Nant Gwrtheyrn, ger pentref Llithfaen, bro’r Eifl, Pen Llŷn. Soniais sut cefais grant gan Fentrau Iaith Cymru, roedd yn cael ei chynnig er mwyn hybu hyder pobl yn eu sgiliau iaith, hefo’r nod i helpu iddynt symud i weithio ac/ neu fyw yn ôl yng Nghymru. Braf iawn yw cael dweud y nawr, fy mod wedi gwireddu’r breuddwyd yna, gan ddechrau gweithio draw ym Mhrifysgol Bangor y flwyddyn ar ôl y cwrs! Wrth ddarllen y golofn yn ôl heddiw, rwy’n gweld faint oeddwn wedi gwirioni hefo’r lle – y mynyddoedd clegyrog a oedd yn fy atgoffa o gan John Denver “Rocky Mountain High”, y coed prydferth, golygfa glan y môr…a cymaint oeddwn yn mwynhau hynna’n fwy na bod yng nghanol ddinas Lerpwl, lle oeddwn yn gweithio ar y pryd. Ond er i mi synfyfyrio ychydig ar y pryd ynglŷn â hanes y Nant, nid oeddwn wedi mynd ati i ddysgu mwy am hyn.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, rwyf wedi cychwyn prosiect ymchwil ethnograffeg am hanes mentrau cydweithredol pentrefi’r Eifl, Pen Llŷn, gan gynnwys Nant Gwrtheyrn. Dechreuodd yr ymchwil fel ystyriaeth o’r berthynas rhwng diwylliant, hunaniaeth, teimlad o berthyn, ac iechyd; ond yn yr ail semester wnaethom ddechrau ystyried rôl mentrau cydweithredol i’r penderfynyddion ehangach o iechyd, yn benodol ym Mhen Llŷn. Dyma sut ddes i gyfarfod Dr Carl Clowes, sydd wrth wraidd llawer iawn o’r mentrau yma, gan gynnwys ‘Antur Aelhaearn’, mudiad cydweithredol cymunedol cyntaf y D.U., yn seiliedig ar fodel wedi ei mewnforio o Oilean Cléire yn y Gaeltacht, Iwerddon. Er mwyn cael trosolwg o hanes y mudiadau, es ati i ddarllen y llyfrau canlynol: Antur Aelhaearn; Cryfder ar y Cyd – mentrau cydweithredol pentrefi’r Eifl; a hunangofiant Carl ei hun, a gyhoeddwyd blwyddyn ddiwethaf, sef: Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia – a fi. Mae’r storïau am y mudiadau amryw sy’n cael eu crybwyll yn y llyfrau hyn yn llawn hwyl, direidi, ac agwedd ‘can-do’ at fywyd. Ond mae’n rhaid dweud, yn fy marn i, Nant Gwrtheyrn yw perl y casgliad!

Mae darllen hunangofiant Carl Clowes fel gwylio cyfres o ffilmiau, hefo’r naws dyrchafol, megis ‘Rocky’. Mae chwedl Nant Gwrtheyrn yn fy atgoffa cymaint o’r ffilm ‘Field of Dreams’, fel fy mod yn benderfynol y bydd ffilm yn seiliedig arni yn cael ei wneud rhyw ddydd, gydag unai Michael Sheen neu Ioan Gruffudd yn chwarae Carl. Mae yna sin yn y llyfr lle mae un o ffrindiau Carl yn pwyntio at ddarn o gwarts ar y silff ben tan, gan ddweud “pan mae hwnnw yn troi’n ddu, dyna pryd fydd yna ganolfan iaith yma” – gan gyfeirio at adfeilion pentref y chwarelwyr oedd wedi gweithio ene yn ystod y cyfnod pan oedd galw mawr am garreg arbennig yr ardal. Ond fel Ray Kinsella draw yn Iowa, a oedd yn benderfynol o greu cae pêl fas yng nghanol ei gae ŷd, roedd ymrwymiad Carl i’w freuddwyd yn ansigladwy. Mae’r hanes yn llawn tensiwn, athrylith, heriau, ac, hefyd, adegau digri – ag o ganlyniad, llwyddiant fu’r fenter, a rhyfeddol o le yw Nant Gwrtheyrn heb os.

Ac felly wythnos diwethaf, cefais y cyfle i ail-ymweld ac ardal brydferth Llithfaen, i fod yn rhan o gyflwyniad am y gwaith ymchwil yr ydym yn bwriadu ei wneud. Cefais gyfle i fynd o amgylch y gwahanol fudiadau cydweithredol roeddwn wedi bod yn darllen amdanynt, megis: Antur Aelhaearn, Tafarn y Fic, a Garej Clynnog Fawr – ac ar y ffordd adre, pipiais i Siop-y-Groes hefyd, lle prynais botel o ddŵr, bar o siocled, a chopi o bapur bro’r ardal, sef ‘Lanw Llŷn’…y ddau cyntaf i helpu hefo’r siwrne adre, a’r trydydd i helpu hefo’r ymchwil…ac i fod yn fusneslyd!

Gorffennais fy ngholofn am fy ymweliad cyntaf i Nant Gwrtheyrn yn son am yr hwyl cefais ene – y dawnsio gwerin, y bwyd bendigedig, a’r gwestai moethus, ar ffaith ei fod yn un o’r llefydd gorau i mi ymweld â hi ers llawer dydd, a “gallaf ei hollol argymell”. Braf yw cael dweud felly, fod hyn dal yn wir am Nant Gwrtheyrn draw ym mharadwys Llithfaen. Ychwanegaf hefyd, y gallaf hollol argymell darllen hunangofiant Carl Clowes, sydd yn cynnwys hanes cyffroes Nant Gwrtheyrn, a hefyd stori bywyd difyr meddyg ifanc hefo breuddwyd a ddigon o agwedd ‘can-do’. Yn wir, mae bywyd yn reit anodd weithiau ac mae’n ddigon hawdd digalonni a meddwl does dim pwynt brwydro yn erbyn tynged. Ond mae’r llyfr yma yn herio’r agwedd yma, ac yn braf iawn i’w ddarllen. Ac i ymateb i gwestiwn teitl llyfr Aled Lewis Evans “Ga’i ddarn o awyr las heddiw?” Dywedaf: “Cei tad, a dyma hi!”

 

Clowes, Carl (2016) Super furries, prins seeiso, Miss Siberia – a fi! Y Lolfa.

Read Full Post »