Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2016

Wel dyma fi wedi cyrraedd carreg filltir bwysig – hanner ffordd trwy fy mlwyddyn gyntaf o addysgu fel darlithydd polisi cymdeithasol ym mhrifysgol Bangor. Ie wir, wnaeth semester un darfod ar y 4ydd o fis Ionawr (yn symbolaidd pan drosglwyddais y traethodau, wedi ei marcio a hefo sylwadau, yn saff i law’r swyddog gweinyddu myfyrwyr). Mi wnaeth hithau eu prosesu a rhoi gwybod i’r myfyrwyr fod y marciau ar gael trwy gyhoeddiad ar ‘Bwrdd du’ y modiwl. Rwyf y nawr felly wrthi’n paratoi at semester dau, sy’n cychwyn o ddifri mewn cwpwl o wythnosau. Fydda i yn cyflwyno tri modiwl: ail ran ‘Materion iechyd a lles’, fydd yn canolbwyntio ar yr agwedd polisi cymdeithasol; ail ran ‘Y broses ymchwil’, fydd yn canolbwyntio ar fethodoleg ansoddol, ffeministiaeth ac ethnomethodoleg; a modiwl newydd sbon o’r enw ‘Y corff caeth’, sy’n ymdrin â chaethiwed (addiction) mewn agwedd beioseicocymdeithasol. Ydy, mae’n mynd i fod yn llond o waith caled. Ond ydw, dwi’n edrych ymlaen ato…a hefyd at wario llond o amser braf dros yr haf, yn mynychu cynadleddau ac yn cael gwyliau bach neis, yn saff wrth wybod fod gen i swydd am o leiaf y pedair blynedd nesaf. Ew mae hi’n deimlad braf cael ychydig bach o sicrwydd ar ôl anrhefn y blynyddoedd diwethaf ‘ma! Felly synfyfyrion addysgol a cynorthwyol sydd gen i i’w cynnig yn y rhifyn yma…ond fydda i nôl i’r llenyddol yn y golofn nesaf, peidiwch â phoeni.

Hoffwn sôn ychydig wrthoch chi am Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Sefydlwyd Y Coleg yn seiliedig a’r ymrwymiad y gwneir gan glymblaid Llafur a Phlaid Cymru yng nghytundeb ‘Cymru’n un’, sef: “Byddwn yn sefydlu Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng-Cymraeg – y Coleg Ffederal – er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion” (Morgan a Jones, 2007). Ar ôl gwaith paratoi dros bedair blynedd, sefydlwyd Y Coleg ym mis Ebrill 2011. Dyma oedd y tro cyntaf i adnoddau arwyddocaol, cylchol cael ei buddsoddi yn addysg uwch Cyfrwng-Cymraeg ar lefel ledled-Cymru. Prif nod Y Coleg yw cynyddu, datblygu a lledaenu’r amrywiaeth o gyfleoedd astudio, trwy gyfrwng y Gymraeg, ym Mhrifysgolion yng Nghymru. Mae ganddynt gynlluniau penodol i wella astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys: cynllun staffio i apwyntio darlithwyr newydd cyfrwng-Gymraeg, ac ysgoloriaethau i annog darpar fyfyrwyr i wneud rhan neu i gyd o’i astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae fy swydd darlithio ym mhrifysgol Bangor dan nawdd Y Coleg ac mae yna dal ddigon o amser i ddarpar fyfyrwyr ymgeisio am un o’r ysgoloriaethau astudio. Mae yna pedair math o ysgoloriaeth ar gael, ac mae’r dyddiadau cau dal o fewn eich cyrraedd ar gyfer tair ohonyn nhw:

Ysgoloriaethau cymhelliant: i fyfyrwyr israddedig sydd am astudio o leiaf 33% o’i chyrsiau (40 credyd y flwyddyn), drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna o leiaf 150 ysgoloriaeth ar gael pob flwyddyn ac maent yn rhoi £1,500 o gymorth ariannol dros dair blynedd. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw: 8fed o fis Mai 2016.

Ysgoloriaeth William Salesbury: ar gael i un myfyriwr lwcus pob blwyddyn, sydd yn astudio 100% o’i chwrs (120 credyd y flwyddyn), drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth yma yn rhoi £5000 dros dair blynedd. Y dyddiad cau am wneud cais yw: 20fed o fis Mawrth 2016.

Ysgoloriaethau Meistr: i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cwrs sydd hefo o leiaf 60 credyd wedi ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd hefyd yn cyflwyno traethawd hir trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna o leiaf 10 o rain ar gael pob flwyddyn ac maent yn rhoi £3,000 dros gyfnod o flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer rhain yw: 11eg o fis Gorffennaf 2016.

Am fwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau yma, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: <http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/&gt; Medrwch ddefnyddio’r chwilotydd cyrsiau i ddarganfod cannoedd o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru ac mae yna fersiwn ap medrwch lawr-lwytho hefyd.

Yn ogystal ag ysgoloriaethau’r Coleg, mae yna ysgoloriaethau y medrwch ymgeisio amdanynt o fewn y prifysgolion. Yma ym mhrifysgol Bangor er enghraifft, mae yna lawer o ysgoloriaethau gwahanol, gan gynnwys rhai astudio cyfrwng Gymraeg (mewn sawl pwnc) a hefyd ysgoloriaethau rhagoriaeth a theilyngdod. Gweler y wefan yma am ragor o wybodaeth: <http://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/study-with-us/undergraduate-funding/cy&gt;

Felly mae’r dyfodol yn edrych yn reit ddisglair i addysg uwch cyfrwng-Gymraeg,- a ddim jest i bobl sydd am astudio llenyddiaeth Cymru (nid fod gen i ddim byd yn erbyn hynny wrth gwrs!) ond i ddarpar wyddonwyr, seicolegwyr…ac ie, y rhai ohonoch sydd am ddod atom ni yma ym Mangor i astudio’r gwyddorau cymdeithasol. Allaf hollol argymell fy modiwlau i ynde, ac mi fydd croeso cynnes Cymreig yma yn eich disgwyl!

*Ôl nodyn: defnyddiais wybodaeth o’r erthygl cyfnodolyn canlynol wrth baratoi’r erthygl yma:

Davies, A.J., & Trystan, D. (2012) ‘Build it and they shall come?’ An evaluation of qualitative evidence relating to student choice and Welsh-medium higher education. International Journal of Bilingual Education and Bilingualism, 15(2), 147-164.

 

Read Full Post »