Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Rhagfyr, 2011

Un o’r pleserau ychwanegol ac annisgwyl sydd wedi dŵad o ganlyniad i mi sgwennu’r golofn hon yw’r cyfle i gysylltu â llenorion, beirdd ac arlunwyr rwy’n edmygu wrth i mi ymofyn caniatâd i ddefnyddio ei lluniau a delweddau i gyd fynd a’r erthyglau. Er enghraifft, pan ysgrifennais am y syniad o ‘genre o nostalgia’, cefais fy ysbrydoli gan nofel ‘début’ Mari Strachan: The Earth hums in B Flat; ysgrifennais at Mari i ofyn a chaf gynnwys delwedd o’i nofel ac roeddwn wrth fy modd pan, nid yn unig ces y caniatâd gan Mari, ond fuon ni’n dau wrthi’n seiber-sgwrsio am bob dim dan haul, gan gynnwys ei nofel gerllaw: Blow on a dead man’s embers. Rhai misoedd yn ddiweddarach, tua’r gwanwyn flwyddyn yma, dyma fi’n derbyn e-bost annisgwyl gan Mari i ddweud fod ei ail nofel ar fin cael ei chyhoeddi, ac roedd hi’n cynnig gofyn i’w cyhoeddwyr anfon copi cyn-cyhoeddi i mi! O, yr anrhydedd! Roeddwn wrth fy modd a dderbyniais yn syth bin…gan sarsio na fyddaf yn cael amser i’w ddarllen tan ar ôl i mi cyflwyno fy noethuriaeth ym mis Mai.

Wedi i mi cwblhau’r ddoethuriaeth es am wyliau i dŷ fy rhieni yn Sbaen, ac wrth i mi cychwyn ymlacio ar yr awyren dyma fi’n estyn fy nghopi ecscliwsif, ddim-ar-werth-eto o fy llawfag, ei ddadlapio’n ofalus o’i gorchudd gwarcheidiol o bandana coch, ac yna cychwyn ei darllen. Ac wel, dyma chi andros o lyfr da – roeddwn wrth fy modd a’i nofel gyntaf a ni siomais hefo’r nesaf ‘ma! Heb eisiau datguddio ormod, gallaf ddatgelu mai stori am ryfel yw hon, ond nid bwrlwm a chynnwrf y frwydro, megis Star Wars, neu ysbïwriaeth James Bond,  na ychwaith canlyniadau cymdeithasol macro ar wlad a chymunedau – megis ail adeiladu dinasoedd; golwg yw hon ar yr ochr micro, dynol, o sut mae rhyfel yn effeithio ar unigolion a theuluoedd, a’i pherthnasau cymdeithasol o ganlyniad. Wedi ei sgwennu yn yr amser-presennol, mae Mari unwaith eto wedi creu byd credadwy i’n amsugno i’r gorffennol – diwedd y rhyfel byd cyntaf i fod yn fanwl, lle mae cymeriadau cymhleth wrthi’n dadansoddi profiadau erchyll ac yn cwato cyfrinachau tywyll.

Mae Non a Davey Davies yn byw fel estronwyr dan yr un nen ers i Davey  ddychwelyd o’r rhyfel. Yntau’n ddioddef o ôl-fflachiau ac yn bihafio’n oeraidd a pell, tra bod Non yn benderfynol o fynd at wraidd yr hyn sydd wedi achosi i’w cymar ailadrodd yn ddychmygol ddigwyddiad o’r rhyfel drosodd a drosodd, gan cuddio o dan fwrdd y gegin ai llygaid mewn ‘thousand-yard-stare’. Os yw hyn yn ei hun yn swndio’n llinyn-stori ddigon cyffredin yna meddyliwch eto! Mae’r llyfr bach yma yn llawn troellau a syndod – ac mi wnes i, ar fwy nag un achlysur, ebychu’n out-loud am yr hyn yr oeddwn wedi ei ddarllen, megis: “Na!” a “wel, wel, wel”. Dechreuais gysyniadau’r golofn seiliedig, gan adlewyrchu ar ffilmiau cyfarwydd, megis Rambo: First Blood sy’n dangos ‘veteran’ o ryfel Fietnam yn bwhwman trwy British Columbia gan gael ei drwgdybio a’i erlid wrth iddo straffaglu i atgyfannu i fywyd sifiliaid.

Mae diddordeb gen i mewn effeithiau cymdeithasol a seicolegol rhyfel gan ei fod yn trawstorri a fy ymchwil doethurol ar ‘Medically Unexplained Symptoms’ – er enghraifft ‘shell-shock’ a ‘Gulf War Syndrome’. Yn ogystal mae’r syniad o ddewis bywyd milwrol yn ddiddorol i mi fel cymdeithasegwr – beth yw’r atyniad? Sut ydynt yn delio a’r ofn o gael ei lladd, anafu neu ei charcharu? Es ati felly a frwdfrydedd i wylio’r clasuron am ryfel, megis y broses ‘de-humaising’ yn y ffilm ‘Full Metal Jacket’, a dechreuais sidro fy hun yn ‘chydig o arbenigwr.

Un o’r ffilmiau mwyaf dylanwadol yn nhermau ein syniadau ynglŷn â rhyfel (fuaswn i yn dweud) yw: ‘Apocalypse now’; wrth i ryfel Fietnam cyrraedd ei uchafbwynt mae Capten Benjamin Willard (Martin Sheen) yn pwdu yn ei hystafell gwesty yn Saigon – yn aros am genhadaeth (mission). Rydym yn clywed meddyliau Capten Willard fel ‘voice-over’ ac mae e’n synfyfyrio: I’m still only in Saigon… Every time I think I’m gonna wake up back in the jungle. When I was home after my first tour, it was worse. I’d wake up and there’d be nothing. I hardly said a word to my wife, until I said “yes” to a divorce. Mae’n ddiddorol sut mae hyn yn cyseinio i raddau a thema nofel Mari.

O’r diwedd mae Capten Willard yn cael cenhadaeth i hwylio’r afon Nyung i lofruddio ‘green beret’ o’r enw Colonel Kurtz (Marlon Brando) sydd wedi ei yrru’n wallgof gan arswydon ryfel, ac sydd y nawr yn byw fel rhyw fath o Feseia gyda byddin ei hun yn y jyngl. Wrth i Gapten Willard nesáu at leoliad Kurtz, mae ef ei hun yn dechrau troi’n fwy a fwy tebyg i’r dyn y cafodd ei yrru i’w ladd. Cafodd sawl diweddglo ei ffilmio, pob un yn ddramatig, gydag un wedi ei selio ar y diweddglo yn y llyfr ‘Heart of Darkness’ (y mae’r ffilm yn seiliedig arni), gyda’r awgrym fod Willard yn lladd Kurts ond yna yn cymryd ei le. Beth bynnag, cyn i Willard ei ladd mae Kurtz yn rhoi monolog diddorol am ryfel, arswyd a gwallgofrwydd:ad feedbackMae’r

“I’ve seen horrors… horrors that you’ve seen. But you have no right to call me a murderer. You have a right to kill me. You have a right to do that… but you have no right to judge me. It’s impossible for words to describe what is necessary to those who do not know what horror means. Horror… Horror has a face… and you must make a friend of horror. Horror and moral terror are your friends. If they are not, then they are enemies to be feared. They are truly enemies!”

Mae hyn yn ddiddorol gan ei fod yn mynd at wraidd y ffenomenon: yr arswyd. Dim ots pa ryfel na pha oes sydd dan sylw – arswyd natur ddynol, mor hyll, sy’n achosi ymatebion y cymeriadau yma. Mae’r tair esiampl uchod yn ymwneud a rhyfel Fietnam ond yn tryfalu’n berffaith a nofel newydd Mari, sydd yn amlwg wedi ei archwilio’n drylwyr.

Felly roedd y golofn yn siapio’n reit dda a fynnai’n llawn arsylliadau difyr i’w cynnig. Yna, roeddwn ar y trên yn dychwelyd o Lundain, ac eisteddai dyn cyferbyn i mi. Yr oedd newydd ddychwelyd o Afghanistan – ‘sniper’ – yn y cnawd! Siaradai am yr hyn yr oedd wedi ei weld yno, a sut roedd pethau wedi newid yn y lluoedd arfog ers iddo gychwyn rhyw ugain mlynedd yn ôl – gydag iawnderau dynol yn newid y broses hyfforddiant tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Yr oedd ar ei ffordd i weld ei ffrind yn yr ysbyty a oedd wedi colli ei llaw-reiffl a’i ddwy goes dros y pen-glin oherwydd ‘IED’ (Improvised Explosive Device). Sylweddolais mewn chwinciad fy mod yn gwybod y nesaf peth i ddim am ryfel, fod fy holl syniadau wedi ei seilio ar y ffuglen, a bod y realaeth yn llawer iawn fwy erchyll nag oedd bosib i mi dychmygu. Cynyddodd fy edmygedd felly i’r ysgrifenwyr, fel Mari, sy’n mynd ati i ymchwilio ac i ysgrifennu am y pwnc sensitif, cymhleth yma.

Felly os ydych yn chwilio am lyfr diddorol i roi fel anrheg Nadolig flwyddyn yma, edrychwch dim pellach – allaf hollol argymell y nofel hon; ac os ydych yn chwilio am elusen i’w chefnogi, yna sidrwch: Help for Heroes, sef elusen Brydeinig sy’n ymgyrchu am amodau gwell ar gyfer milwyr sy’n dychwelyd o ryfel. http://www.helpforheroes.org.uk

I ddarllen cyn-colofnau Synfyfyrion Llenyddol, a gweddill fy nghynigion llenyddol, ewch i sbïo ar fy mlog/ wefan: http://www.saralouisewheeler.wordpress.com 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Rhagfyr 2011 (Rhifyn 148)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, December 2011 (Issue 148).

Read Full Post »