Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2010

‘Nnnnnnaaaaaaaaaaaaa!’

Atseiniodd y gair estynedig, croch trwy’r babell adloniant, gan beri i bawb droi i’w chyfeiriad yn syn. A dyna le safai Carmen Fernandes-Jones, ai dyrnau bychain wedi’u cau’n dyn, dicter amlwg yn ei llygaid mawr siocled, a’i gwefusau fach pinc wedi pwdu’n berffaith grwn.

Syllodd Nain arni a chymysgedd o ddifyrrwch ac anobaith. Roedd hi wedi bihafio’n dda iawn hyd yn hyn, chwarae teg – yn gwylio’r perfformiadau lliwgar ac yn gwenu a chlapio pan welai pawb arall yn gwneud. Ond yn syth wedi i’r egwyl fer gychwyn collodd diddordeb. Sbonciodd o’i chadair, gan redeg i’r rhes tu ôl i eistedd ar ben ei hun, gan chwerthin a gwibio i’r rhes nesaf wrth iddynt geisio ei nôl hi.

‘O wel, fela na mai’ meddyliodd nain iddi hun.

‘Os y tymer ene sy’ arni rŵan, waeth i ni ei throi hi tuag adref’ meddai, gan basio’i llawfag i taid.

Cerddai yn araf tuag at le oedd y bychan dal wrthi’n pwdu, ond yn fwy mewn hwyl rŵan na thrwy wylltio.

‘Tyrd, mi awn ni adref i gael rhywbeth i fwyta’

‘Na’

‘Tyrd o ne, i’r bygi rŵan, na hogan dda’

‘Na’

Plygodd nain gan gydio arni’n dyner ai gosod hi yn y bygi coch, ai strapio hi mewn yn ddiogel.

‘Wyt ti eisiau llymed cyn mynd?’

‘Na’

‘Oke ta awn ni felly’

‘Na’

‘Taid oes gen ti bopeth’

‘Na!’ ebe Carmen, gan dorri ar draws yr oedolion, ai hwyneb yn llawn direidi.

Roedd y gêm yma’n hwyl ac roedd hi ar fin yngan Na mawr arall am effaith pan sylwodd ar olwg syrffed yn llygaid gleision nain. Roeddent yn wahanol i lygaid pawb arall yn y teulu, a oedd yn sbectrwm amrywiol o frown.

‘Hmmm, ella fod hynna’n ddigon am rŵan’ rhesymodd. Setlodd wedyn yn y bygi gan ddifyrru ei hun a’r stondinau cyffroes ar y ffordd tua’r allanfa.

‘Wyt ti eisiau ffonio Mami a Dadi pan da ni’n cyrraedd adre’?’

‘Na!’ Roedd Carmen wedi dechrau pwdu pob tro iddi beidio gweld aelodau’r teulu am fwy na ‘ychydig oriau, yn enwedig os yr esgus amhendant a ddaw oedd gan ei bod nhw ‘wrthi’n gweithio’. Roedd yr oedolion wedi bod yn defnyddio hwnnw braidd gormod yn ddiweddar ac roedd hi wedi dechrau ei drwgdybio.

‘Dwi ddim yn hoffi mami a dadi ddim ‘chwaneg’

‘Carmen, am beth ofnadwy i ddeud’ meddai Nain yn syn.

‘A beth amdana i, wyt ti’n hoffi fi?’

‘Na’

‘Beth am Taid?’

‘Na’

‘A Dodo?’

‘Na’. Dwi heb ei gweld hi ers talwm iawn meddyliodd Carmen.

Wrth iddyn nhw troi’r gornel dechreuai’r stryd edrych yn gyfarwydd. Yna sylweddolodd Carmen ei bod nhw’n agos at y siop hufen iâ. Trodd at Nain yn ddisgwylgar, gan wenu’n annwyl, a cheisio ennyn perswâd arni.

Gwenodd Nain iddi hun, fysa hyn yn ddiddorol.

‘Wyt ti’n hoffi…..hufen iâ?’

Syllodd Carmen arni’n ddreng. Roedd yr hen Nain ‘na yn un gyfrwys. Roedd hi’n gwybod yn iawn fod hi wrth ei bodd hefo hufen iâ, a’i bod hi eisiau un rŵan, yn enwedig gan fod hi’n diwrnod mor braf. Ond doedd hi ddim am yngan y gair yr oedd Nain wedi bod wrthi’n trio mynnu ers iddyn nhw adael y ‘steddfod – sef ‘ydw’ ynte. Yna daeth yr ateb iddi a throdd yn orfoleddus:

‘Dwi wrth fy modd yn bwyta hufen iâ’ meddai, gan droi yn ôl a wincio ar ei doli Sali Mali.

Gwenodd Nain a Taid ar ei gilydd er gwaetha ei hunain. Mi roedd hi’n hogan fach glyfar a hynod o ddoniol weithiau. Dyma droi’r bygi tuag at gefn y ciw ac estyn yn eu pocedi am bres.

‘Reit ta, pa un wyt ti eisiau bach?’ ofynnodd Nain unwaith iddynt gyrraedd blaen y ciw.

‘Yr un hefo’r mefus’ ebe Carmen, dal yn pwdu braidd gan i Nain geisio ei thwyllo.

Gwenodd yr hogan tu ôl i’r cownter a gofyn i Nain ai côn bach oeddent eisiau.

‘Ia plîs’ meddai Nain ‘a dau diliau mêl hefyd os gwelwch yn dda’.

Symudon nhw dros y ffordd i’r bont i fwynhau’r haul wrth iddynt fwyta. Sylwodd Nain ar Jac-y-do gerllaw a phwyntiodd tuag ato. Ond roedd hi’n anodd i Carmen gweld unrhyw debygrwydd hefo’r aderyn mawr brawychus a’r cymeriad annwyl ar y DVD Sali Mali.

Toc roeddent dros y bont a dyma nhw’n cyrraedd y fflat. Tynnodd Nain y strapiau bygi oddi arni ac roedd hi’n rhydd i redeg o amgylch y lolfa….ond arhosa funud, pwy oedd hwnnw ar y balconi, wrthi’n eistedd a darllen…’. Dodo oedd ene!’

‘Grêt’ meddyliodd. Roedd Dodo wastad yn gêm am liwio neu chwarae sticeri hefo’r’ cylchgrawn ‘In the night Garden’. Rhedodd tuag ati yn ddisgwylgar. Ond wrth iddi nesáu sylwodd fod olwg blin ar wyneb Dodo, ac yna arni’n dyrnu’r bwrdd yn ddreng gan ddweud:

‘Alla i ddim ei gwneud o!’

Teimlodd Carmen yn anesmwyth. Doedd hi ddim yn gwybod pam yr oedd Dodo yn cael trafferth hefo’r darllen ‘na ond mi roedd hi’n gwybod ei bod hi’n teimlo drosti. Roedd hi wedi cyrraedd y drws erbyn hyn ac yn agos iawn at Dodo, ond roedd Dodo heb sylwi arni. Estynnodd ei llaw gan ei osod ar dwrn Dodo a dywedodd yr unig gysur alla hi feddwl oedd yn addas mewn sefyllfa fel hyn:

‘Wnâi dy helpu di Dodo’.

Trodd Dodo ei phen gan sbïo ar y llaw fechan a oedd wedi ymddangos mor sydyn ar ei dwrn caeedig. Teimlodd gymysgedd o gywilydd am fod mor wangalon am ei thraethawd, a sioncrwydd wrth weld y pryder amlwg yn y wyneb diffuant.

‘O Carmen bach, mi wyt ti wedi fy helpu fi’n barod. Tyrd awn ni weld beth mae Nain wrthi’n gwneud yn y gegin’.

Wrth iddynt gyrraedd y gegin gofynnodd Carmen mewn llais uchel:

‘Nain, beth wyt ti wrthi’n gwneud?’

Trodd Nain gyda gwen gan ddweud:

‘Beth ydw i wrthi’n gwneud?’

‘Ia’ meddai Carmen, mewn llais ychydig yn llai sicr.

Dwi wrthi’n gwneud Te i ni gyd’ meddai, gan droi yn ôl at y popty.

‘Grêt’ ebe Dodo. ‘Be da ni’n cael Nain?’

‘Samwn, tatws pwnsh a llysiau, ac wedyn pwdin reis’.

‘Pwdin reis?!’ ebe Dodo yn hapus, dyma un o’i ffefrynnau ers yn hogan fach.

‘Ia, felly ewch chi yn ôl i’r Lolfa i mi gael gorffen yn fan hyn, fydd hi ddim yn hir rŵan.

‘Ond…’ ebe Carmen yn syn. Yr roedd hi newydd estyn y stôl bren fechan o’r gornel, gan obeithio cael gwers arall am y wyddor a oedd wedi’u cherfio arni. Gwenodd Dodo arni:

‘Tyrd, awn ni i chwilio am Catrin Cwningen a thedi a phengwin’

‘Ieeee’ canodd Carmen yn hapus, gan ruthro i’r ystafell arall lle’r oedd Taid wrthi’n gosod y bwrdd.

Ar ôl dwy gêm o ‘picnic’ hefo’r teganau roedd hi’n amser te ac eisteddai Carmen yn ddigon bodlon yn ei chadair arbennig a oedd yn ffitio ar ben y cadeiriau arferol. Bwytaodd yn ddistaw gan fwynau’r bwyd yn fawr iawn.

Wedi iddi orffen bwyta sylwodd fod pawb wedi gorffen a bod yn oedolion wedi cychwyn siarad ymysg ei gilydd, heb wneud mymryn o ymdrech i’w chynnwys yn y sgwrs. Hollol annheg a tipical o’r ffordd yr oedd oedolion yn bihafio. Gwrandawodd yn astud ond doedd ddim modd iddi geisio ymuno gan nid oedd syniad ganddi am beth oeddent wrthi’n trafod.

Ceisiodd denu sylw pawb trwy chwarae’n giwt hefo’i llwy…wedyn canu…fflicio pys…ac wedyn:

‘STOPIWCH AR UNWAITH!!’ meddai, ai dwylo bychain yn yr awyr fel arweinydd band.

Ia, mi roedd hynny wedi cael sylw pawb. Ond ddim am yn hir yn anffodus, ac ar ôl rhyw bwffian chwerthin dyma nhw’n dechrau fyny eto:

‘Ia, ac wedyn fydd raid i mi orffen y traethawd ai chyflwyno, gwneud unrhyw newidiadau a…’ Aeth Dodo ymlaen yn hunanol. Dechreuodd Carmen grio – ddim i gael sylw ond achos bod y sefyllfa mor annheg; pam ei bod nhw’n mynnu trafod pethau oedolion rŵan, a hithau am gael hwyl.

Fu’n crio a straffaglu am gael dod allan o’i chadair nes i bawb fynd ati i geisio ei esmwytho. Fu’n eistedd a’r pen-glin Taid tra bod Dodo wrthi’n dangos teganau iddi a dweud pethau digri, ond doedd dim plesio arni.

Yn y cyfamser yr oedd Nain wedi mynd i’r gegin ac yn nawr wedi dychwelyd hefo bowlen o bwdin reis blasus iddi. Roedd Carmen dal yn mynnu crio, er ei bod hi wedi anghofio’n gyfan gwbl pam yr oedd hi mor anhapus yn y lle cyntaf. Roedd Nain wrthi’n siarad rŵan ac yn chwythu ar lwyed o bwdin reis poeth o’i blaen. Yna, heb fawr o rybudd dyma hi’n gwthio’r llwy tuag at geg Carmen, a agorodd yn atgyrchol ac roedd y cymysgedd hufennog yn ei cheg. Oedodd am eiliad, ynghanol crio, gan flasu:

‘Neis’ meddai’n syn ai aeliau’n codi. Chwarddai pawb gan fod yn olygfa mor ddigri.

Ar ôl te dyma’r oedolion ‘go iawn’ yn clirio’r bwrdd, tra bod Dodo (ryw hanner oedolyn yn nhyb Carmen) a Carmen ei hun yn brysur yn ‘lliwio mewn yn dwt’ yn y llyfr lliwio. Wedi iddynt flino ar hyn aethant i baratoi bath i Carmen, a chafodd chwarae ymysg y swigod hwylus. Dechreuodd esbonio i Dodo, a oedd ddim yn brofiadol iawn am amser bath:

‘A dyma Mami hwyaden, a Dadi hwyaden, a Babi hwyaden…Eh! Lle mae’r Dodo hwyaden?’ meddai a golwg gofidus ar ei hwyneb. Gwenau Nain o’r drws lle oedd wedi bod yn gwylio:

‘Dyna fo ylwch’ meddai, gan bwyntio ar yr hwyaden a oedd yn fflachio goleuadau pan oeddech yn ei wasgu. Doedd e ddim yn rhan o’r set ond doedd hynna ddim yn bwysig.

Roedd Carmen yn ddigon bodlon derbyn yr esboniad yma a ddechreuodd eto i esbonio i Dodo sut oedd teulu’r hwyaid yn gweithio – wedi’r cyfan, roedd rhaid iddi ddysgu rhywbryd.

Pan oedd hi’n amser dŵad allan o’r bath, ddaeth Nain i mewn ai chodi o’r dŵr tra bod Dodo yn dal y lliain mawr, cynnes, blewog, braf, ai lapio ynddi cyn ei gorwedd hi ar y gwely i’w sychu. Toc mi roedd hi yn ei byjamas ac yn crwydro o’r stafell i edrych am Taid. Dacw fo ar y cyfrifiadur – berffaith, alle fo rhoi Balamory arni iddi gael canu iddo, a dyma hi’n rhedeg tuag ato’n ddisgwylgar:

‘Taid!’

Trodd Taid tuag ati gan wenu:

‘Helo cariad, ti’n barod i dy wely?’

‘Na!’ ebe Carmen yn syn. Beth oedd peth fel hyn ta? Roedd Taid wedi troi yn ei herbyn? Pam fysai fo’n sôn am ei hanfon i’r gwely, a hithau wedi bod yn hogan mor dda?

‘Dwi eisiau gweld Balamory’ meddai, mewn llais a oedd yn bygwth llefain.

‘O wel, dwi’n siŵr fod hynna yma’n rhywle, tyrd wnawn ni edrych amdano’.

Cafodd chwarae ar y cyfrifiadur tra bod Nain wrthi’n cribo ei gwallt ac ati, ac yna daeth Dodo o’r llofft a hithau wedi ei gwisgo yn ei byjamas.

‘Amser am stori?’

‘O!’ Doedd Carmen heb feddwl am hynna, mi roedd y rheini’n hwyl. Neidiodd oddi ar y set a sbonciodd mewn i’r gwely, gan dynnu’r duvet dros ei choesau yn gyffyrddus. Agorodd Dodo’r llyfr a ddechreuodd darllen y stori. Yna, ddaeth at y rhan am yr anifeiliaid. Roedd diddordeb mawr gan Carmen mewn anifeiliaid a chraffodd ar y lluniau wrth i Dodo esbonio:

‘Ac felly fu’r anifeiliaid yn cael ei hel i’r Arch bob yn ddwy, dacw Jiráff, Eliffant, Mwnci a dau Lew…’

‘Lle mae’r Chinchilla?’ Ofynnodd Carmen yn sydyn.

Synnodd Dodo – ble ar y Ddaear oedd y bychan wedi clywed am rheini?

‘Um, Chinchilla….um’

‘Ie, chi’n gwybod, o Dora the Explorer…’

Wrth gwrs, dyna sut – ew roedd hi’n graff.

‘Wel, mae’r Chinchilla’n anifail go fach tydi’ dechreuodd Dodo. ‘Ac felly fydd o’n gorfod bod yng nghefn y ciw achos mae’n bwysig llwythi’r anifeiliaid mawr i mewn i’r Arch yn gyntaf….i gael gweld sut fydd pawb arall yn gallu ffitio mewn gorau’. Rhesymodd, gan obeithio nad oedd yn swnio’n rhy wirion.

‘Hmmm’ roedd hyn yn gwneud rhywfaint o synnwyr, meddyliodd y bychan.

‘Felly dyma fo yn fama ylwch’ pwyntiodd Dodo ar lun o’r ciw a oedd yn ymestyn yn ôl trwy’r anialwch nes bod yr anifeiliaid yn rhy fach i’w hadnabod. Phew! A oedd hynna wedi gweithio tybed?

‘Eh?’

‘Ia, mae yna ormod o anifeiliaid i ni weld nhw’i gyd yn llawn, ond yn y rhan yma o’r ciw mae’r Chinchilla’n aros….yn amyneddgar, am gael mynd i’r arch a gorffwys yn ei flwch llwch.’

‘O, dwi’n gweld’ meddai hi, gan dderbyn yr esboniad blêr.

Ar ôl mynd trwy’r stori pum gwaith, roedd Carmen yn ddigon bodlon rhoi’r llyfr i gadw, am heno beth bynnag. Diffoddodd Dodo’r golau mawr, nes bod yr ystafell wedi ei oleuo gan y lamp fechan hefo blodau arni yn unig.

‘O mae’n dywyll’ meddai’r bychan.

‘Nadi siŵr, gallwn ni dal gweld pob dim, drycha – dyma tedi yma a Sali Mali, da ni gyd yn iawn, ag am fynd i gysgu’.

‘Na, mae ‘na chysgodion’

‘Eh?’

‘Cysgodion’

‘Na, na, does dim cysgodion, ma’ na ddigon o olau, pob dim yn iawn – cysga rŵan’.

Gorweddai Dodo ar y gwely gan esmwytho’r gwallt oddi ar dalcen y bychan.

‘Dwi yma i edrych ar dy ôl di, cer i gysgu’

‘Ond y cysgodion..’

‘Dim cysgodion’

‘Ond Dodo..’

‘Shhhh, cau dy lygaid rŵan, cysga’n dawel.’

Gwyliodd y bychan wrth i Dodo orwedd ar ei chefn, gwneud ei hun yn gyfforddus, cau ei llygaid, a smalio cysgu. Gwyliodd gan ddisgwyl iddi agor ei llygaid ond ni wnaeth. Doedd dim amdani felly ond trio cysgu hefyd.

Wrth iddi drefnu’i hun nesaf i Dodo – gan sicrhau fod ei braich yn gorffwys arni fel ei bod yn dal i wybod bod hi ene wedi iddi gau ei llygaid, teimlodd yn saff ac yn hapus. Doedd pethau ddim mor ddrwg wedi’r cyfan, ac mi oedd hi wedi dechrau teimlo’n flinedig rŵan.

‘Oke Dodo, Nos da’ meddai’n annwyl.

Agorodd Dodo un llygad a sbïo arni’n gariadus

‘Nos da nghariad i’ a chysgodd y ddau’n hapus tan y bore.

***************************************************

Y mae’r stori fer yma yn rhan o gasgliad o waith llenyddol gan ‘dodo’ ifainc i hybu ymwybyddiaeth a defnydd o’r hen air tafodieithol ‘dodo’ sy’n golygu ‘modryb’. Mae’n ffenomenon astrus fod y geiriau annwyl yma, megis ‘dodo, bodo, bopa’ wedi ei disodli, mewn un genhedlaeth, gan yr air Saesneg ‘aunty’. Nid yw’r stori fer yma wedi ei gyhoeddi ninlle arall./ This short story is part of a collection of literary work by a young ‘dodo’ designed to increase awareness of the old colloquial term ‘dodo’ meaning ‘aunty’. It is a strange phenomenon that these dear words, such as ‘dodo, bodo, bopa’ have been replaced, in one generation by the English word ‘aunty’. This short story has not been published anywhere else.

Read Full Post »