Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2012

          Rhyw ddeng mlynedd yn ôl bellach, gwisgais fy het du, sgwâr, academaidd, a’r gŵn glas tywyll gyda choler llwyd, ac eisteddais yn swil hefo fy nghyd myfyrwyr yn yr Eglwys cadeiriol, gothig draw yn Lerpwl. Roedd y tair blynedd o astudio ar gyfer fy ngradd wedi gwibio heibio a dyma fi ar drothwy fod yn ‘graddedig’ a derbyn fy nhystysgrif gan ddeon y gyfadran…a’r unig beth ar fy meddwl oedd poeni fuaswn yn baglu wrth groesi’r llwyfan a gwneud ffŵl mawr o’n hun o flaen y dyrfa ddysgedig! Ni ddigwyddodd hyn diolch byth ac i ddweud y gwir roedd y seremoni ychydig fel cludfelt y ‘generation game’ gyda’r rhestr enwau yn cael ei ddarllen yn heb saib, a ni gyd yn brysio oddi ar y llwyfan fel plantos yn clirio gwaelod y sleid yn y parc rhag i ni gyd baglu dros gynau ein gilydd a landio’n un swp ddau-y-geiniog wrth draed yr Is-ganghellor. Cyn pen dim roeddwn allan yn yr awyr iach yn cydio fy nhystysgrif yn ei ‘punch-pocket’ ddiseremoni ac yna’n ciwio am oriau i gael tynnu fy llun.

          Ta waeth, cychwynnais, wedi’r diwrnod proffwydol hyn, ar genhadaeth i gerfio gyrfa i fy hun fel ‘academydd’, gan gychwyn gyda dwy flynedd sabothol yn yr undeb myfyrwyr cyn symud i mewn i waith ymchwil. Fel bues yn sôn yn fy ngholofn gyntaf un, cefais epiffani wrth weithio fel ymchwilydd, wel, tra oeddwn adre yn fy ngwely yn rhu sâl hefo ffliw i fynd i fy ngwaith fel ymchwilydd, gan i mi ailddarllen y nofel ‘Wide Sargasso Sea’. Datblygais obsesiwn gyda Jean a’i gwaith, gan hefyd ailgydio yn fy mreuddwyd plentyndod o fod yn awdures. Cychwynnais ysgrifennu cerddi a straeon byr a’i hanfon at eisteddfodau a chylchgronau llenyddiaeth, gan gynnwys rhai trwy gyfrwng y Gymraeg. Fuodd fy niffyg meistrolaeth o fy mamiaith yn gryn rwystr ac mae wedi achosi nifer o sefyllfaoedd chwithig i mi, ond mae hyn yn ddigon teg ac yn ‘fixable’ (i rai graddau beth bynnag) os astudiaf yn ddygn. 

          Ond heblaw’r mater o gywirdeb iaith, yr wyf wedi cael un neu ddau o feirniadaethau hallt dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwrthodiad hynod gan y cylchgrawn ‘Taliesin’ – ar sail y ffaith “nad ydynt yn gerddi”. “Ys gwn i beth ydyn nhw felly?” sidrais… “Shmerddi efallai?” Eniwe, wedi i mi adlewyrchu ar y mater, a darllen rhai o’r cynigion cyhoeddedig yn y gyfrol ene o ‘Taliesin’, penderfynais, braidd yn hunan-addoliadol, fod gwell gen i fy ngherddi fel ag yr oedden nhw a doedd ddim awydd gen i newid fy steil er mwyn cael fy nerbyn gan yr ysgolheigion yma – dysgu cywiro fy iaith ia, ond nid newid fy steil. Teimlais yn gryf am y peth ac felly, gwnes beth fysai unrhyw nyrd gwerth ei halen yn ei wneud, sgwennais gerdd amdano! Roeddwn yn hapus a’r gerdd ac mi anfonais at gylchgrawn ‘Tu Chwith’ lle cefais gyhoeddi un o fy ngherddi cynt – ac yn ddigon ysmala dyma nhw’n ei chyhoeddi! Rhaid cyfaddef i mi deimlo braidd yn hunanfoddhaol am y ffaith fod fy ngherdd am wrthod newid er mwyn plesio eraill…wedi plesio rhywun ac wedi ei gyhoeddi!

            Yn y cyfamser, cychwynnais fy noethuriaeth yn 2006 ac, degawd wedi i mi graddio y tro cyntaf, ac ar y diwrnod cyn noswyl y Nadolig, es draw i Lerpwl i gyflwyno fy nhraethawd doethuriaeth, yn ei chlawr ‘bottle-green’ gyda llythrennau boglynnog aur, ac felly yn hawlio fy nheitl newydd fel ‘Dr’ ac yn sicrhau fy sedd yn y seremoni graddio nesaf yn yr haf ‘cw. Fodd bynnag, cyn i mi cael cyflwyno’r traethawd gorffenedig, mi roedd rhaid i mi wneud rhai newidiadau bychain i fy ngwaith gwreiddiol er mwyn plesio’r arholwyr, gan gynnwys un neu ddau o bethau nad oeddwn yn hollol cytuno a hwy; mi roedd hyn yn brofiad gostyngedig a ddaeth a’r gerdd (neu shmerdd!) yma i fy meddwl unwaith eto, yng nghyd a’r profiadau a achosai i mi ei sgwennu. Synfyfyriais dros weledigaethau fu’n cyseinio a rheini gan Willy Russell yn ei ddrama ‘Educating Rita’, am dderbyn syniadau sefydledig a cholli llais unigryw…ond eniwe, dyma yr oedd rhaid ei wneud er mwyn cael dod trwy’r drws trwm, pren a lledr, ‘Harry-Potter-aidd’, i gymryd fy sedd gyda gweddill yr academyddion, wrth y bwrdd mawr bren yn y neuadd gyda’r nenfwd uchel…felly llyncais fy malchder a chyflawnais y cywiriadau. Wrth i 2012 gychwyn felly, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael graddio am yr ail dro, a hefyd at gael fwy o amser i ymroddi i fy ngwaith creadigol, ynghyd a rhyddid creadigol yn fy ddau faes o ddiddordeb. Wrth feddwl am ‘Soundtracks’ posib i’r golofn tro hyn, tybiais byddai ‘My way’ gan Frank Sinatra yn reit addas. Os hoffech clywed fwy am fy ngwaith ymchwil ar gyfer y doethuriaeth ac i fy ngholofn, dewch draw i’r cyfarfod Cymdeithas Owain Cyfeiliog ar Chwefror yr 2il am 7yh, yng ngwesty’r Belmont, Wrecsam. Dyma fy ngherdd (neu shmerdd!), gobeithiaf y byddech yn ei fwynhau:

 

Lladd fy ngherddi

Yn creu, yn gweu, y geiriau’n delweddi,

ond yn ôl y beirniaid, nid ydynt yn gerddi –

sy’n canu, na’n dangos dealltwriaeth gan fardd,

ag o’r cylch breintiedig caf fy ngwahardd.

 

Fod fy ngwaith yn amrwd, nid oes amheuaeth,

a ni fydd yn llwyddo yn yr un gystadleuaeth,

ond i mi, o leiaf, maent yn llawer mwy siriol,

na ‘r cerddi a dyfarnir ei bod yn rhagorol.

 

Mae’r cerddi cyhoeddedig sy’n canu i chi,

Yn anffodus yn ddiflas ac yn ddirgelwch i mi.

Delwedd ni ddaw, dim ond geiriau mydryddol,

Wedi ei gosod yn fedrus mewn siâp arddulliadol.

 

Efallai mai anwybodaeth o’r grefft o farddoniaeth,

Sy’n rhannol gyfrifol am fy niffyg dealltwriaeth,

Ond yn wir i chi dyna yw’r profiad cyffredin,

Gan na hastudiwyd mynegiant ymysg fy nghynefin.

 

Ac felly rwy’n sidro fod gwell i mi beidio,

Newid fy steil rhag i mi niweidio,

yr hyn sy’n arbennig i’m waith wyddost ti,

y cerddi pob dydd sydd yn bleser i mi.

  

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn ‘Tu Chwith’ (Cyfrol 30, Mawrth 2009, Thema: ‘Na!’)

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Chwefror 2012 (Rhifyn 149)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, February 2012 (Issue 149).

Read Full Post »