Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Tachwedd, 2018

Rhai misoedd yn ôl, welais tweet gan gylchgrawn llenyddol newydd o’r enw Y Stamp; roeddynt yn gofyn a oedd beirdd yn cuddio draw ym Mhrifysgol Bangor (neu eiriau o’r fath). Meddyliais – wel, ddim yn cuddio, ond yn sicr mewn rhyw fath o drwmgwsg, gan nad wyf wedi sgwennu cerdd ers rhyw saith mlynedd bellach – trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag.

Meddyliais yn ôl at pan sefydlais y golofn, a finnau mor frwdfrydig i fod yn rhan o’r sin llenyddol Gymraeg, trwy gyfrannu gwaith creadigol a trwy sgwennu am y sin yn y golofn. Ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn sbïo nôl dros fy ngholofn – sydd y nawr yn ei nawfed flwyddyn bellach (?!), gan sylwi ei fod wedi crwydro sawl gwaith fwy i gyfeiriad y sin academaidd, ac am fy synfyfyrion gyrfaol, yn hytrach na synfyfyrion am yr hyn rwyf wedi bod yn ei darllen, sgwennu neu fynychu.

Mae hyn yn reit naturiol, efallai, gan fod gyrfa academaidd yn cymryd llond o ymdrech i’w lansio, a gan fod rhywfaint o orgyffwrdd yn bodoli hefo fy niddordeb mewn sgwennu’n greadigol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo nawr, a finnau wedi cyrraedd rhyw fath o drobwynt dirfodol, ei fod yn bwysig i mi ail-gydio ar y ffocws gwreiddiol, ac efallai hefyd deffro o fy nhrwmgwsg llenyddol; trwy hyn efallai medraf gofio pwy oeddwn i, cyn i mi weld y gwningen wen academaidd, a phenderfynu ei ddilyn ar antur annisgwyl.

Felly nol at tweet Y Stamp – cliciais ar y linc i fynd at y wefan, er mwyn cael golwg ar bwy oedden nhw a pa fath o gylchgrawn llenyddol roeddynt wrthi’n ei gynhyrchu. Yn amlwg roeddwn braidd yn amheus ac yn sinigaidd – fel rwyf wedi sôn o’r blaen yn y golofn, mi wnaeth un cylchgrawn llenyddol Gymraeg barnu nad oedd fy ngherddi yn, wel, cerddi (shmerddi efallai?!) tra gwnaeth golygyddion cylchgrawn arall newid teitl un o fy ngherddi heb ofyn, a hefyd geiriau allweddol mewn cerdd arall, a wnaeth newid ystyr y gerdd yn gyfan gwbl.

Ond braf iawn yw cael dweud fod Y Stamp yn gylchgrawn cwbl wahanol a llawer iawn fwy cynhwysol. O’r broliant golygyddol, ddes i ddeall fod golygyddion Y Stamp wrthi’n creu gofod copi caled, a hefyd platfform ar-lein, er mwyn estyn cartref i bob math o gyfraniadau, gan bob math o gyfranwyr, mewn kaleidoscope o dafodieithoedd lliwgar. Ew, meddyliais, ys gwn i…

Synfyfyriais ar beth fyddaf yn sgwennu amdano, yn fy nhafodiaith Jaco/ treffin-‘Over the llestri’-aidd. Yna sylweddolais, mi roedd yna ryw syniad am gerdd wedi bod yn ceisio denu fy sylw ers rhai misoedd bellach, rhywbeth oedd yn deillio o fy ngyrfa academaidd, ac o fy niddordeb yn y tafodieithoedd oedd wrthi’n brwydro am ei hawliau draw yn y brifysgol. Ni ddaeth yn hawdd – fel dychwelyd i nofio ar ôl sbel o ddiogi o gwmpas ar y soffa yn bwyta sglodis a Pizza, ond yn y diwedd roeddwn wedi bugeilio rhai syniadau i mewn i ryw fath o siâp ar y tudalen.

Danfonais y gerdd draw at y golygyddion, gan feddwl byswn yn ei phostio ar y blog cw os nad oeddent am ei gyhoeddi. Braf iawn yw cael datgan y cefais brofiad cadarnhaol iawn hefo’r broses olygyddol. Nid yn unig wnaethant gytuno i gyhoeddi’r gerdd, ond ges i gefnogaeth a chyngor ar sut i’w wella – ac roeddwn yn llawer iawn hapusach hefo’r cynnyrch gorffenedig. Rwy’n falch iawn o’r gerdd gan ei fod yn trafod, fel bues yn sôn yn y golofn nol ym mis Ebrill, un o’r heriau fwyaf rwy’n ei wynebu fel darlithydd cyfrwng Gymraeg – ac felly medrwn ei hystyried yn ‘ffuglen gymdeithasegol’ (ond fwy am hynny rhywbryd arall).

Beth bynnag, wythnos diwethaf, ar ddechrau mis Hydref, mi ddaeth dau o olygyddion Y Stamp, Grug Muse ac Iestyn Tyne, draw i lyfrgell Wrecsam i drafod Y Stamp hefo chymdeithas Owain Cyfeiliog, mewn sesiwn wedi ei chadeirio gan Tracy Jaques. Dyma ddau fardd ifanc, disglair a llwyddiannus y sin llenyddol Gymraeg cyfoes, sydd wedi cyhoeddi cyfrolau ei hunain o’u barddoniaeth (ar gael o wefan Y Stamp).

A dyma un o’r pethau fwyaf rhyfeddol am Y Stamp – mae’r bobl dalentog yma yn fodlon treulio eu hamser, yn amyneddgar, i helpu pobl o bob lefel, allu a steil, i olygu eu gwaith nes ei fod yn cyrraedd safon foddhaol i’w gyhoeddi. Mae hyn, yn fy marn i, yn wasanaeth hael, o’r fath nad wyf wedi ei weld o’r blaen. Nid ydynt yn cymryd yn ganiataol eu bod nhw yn gwybod yn well na’r bardd/ awdur eu hunain – dim ond gwneud sylwadau, cynigion, a helpu gneud y cyfraniadau’n ddarllenadwy. Maent yn garedig a ffeind ac mi rwyf yn hollol argymell i chi ei hystyried fel adnodd, os oes gennych awydd cyhoeddi rhyw waith creadigol.

Ar y noson, cawson glywed y beirdd yma’n rhannu eu gwaith nhw, a chafwyd cyfraniadau hefyd gan Holly Gierke, a ddarllenodd ei llen meicro trawiadol, ar bynciau heriol, a chafodd ei gyhoeddi yn rhifyn Gwanwyn 2018 Y Stamp. Mi wnaeth Paul Eistedd cyflwyno gwaith clywedol hynod o ddiddorol am greu geiriau newydd yn y Gymraeg. Ac mi wnaeth bardd y gororau, Aled Lewis Evans, darllen un o’i gerddi ef oedd wedi ei gyhoeddi yn Y Stamp, a hefyd fy ngherdd i, gan ei berfformio llawer iawn gwell na fuaswn i wedi ei wneud.

Diddorol iawn oedd clywed hanes sefydlu Y Stamp yn ystod y noson, gyda Grug Muse yn sôn fod y tîm golygyddol, sydd hefyd yn cynnwys Llŷr Titus a Miriam Elin Jones, wedi ffurfio ar ôl trafod y ffaith nad oedd llwyfan oedd yn dathlu amrywiaeth creadigol drwy gyfrwng Cymraeg – fod yna bwlch pan ddaeth y cylchgronau Tu Chwith a Taliesin i ben. Hefyd, mi roedd y tîm yn benderfynol y byddai’r cylchgrawn yn annibynnol o nawdd, fel na all neb mewn pwyllgor ddod a’r cyhoeddiad i ben trwy chwifio pen. Roeddent am gynnig llwyfan oedd yn agored a chwbl groesawgar.

Difyr yw’r ymrwymiad i fod yn annibynnol o nawdd, sydd wrth gwrs yn diogelu yn erbyn rhywun arall yn tynnu’r plwg ar y fenter. Ond mae yna hefyd agwedd o ymreolaeth ag annibyniaeth yn deillio o fod yn annibynnol o nawdd – fel yr hyn yr wyf wedi bod yn ei arsylwi trwy fy ngwaith ymchwil ym Mro’r Eifl i’r mentrau cydweithredol cymunedol; pobl yn gweithredu drostyn nhw ei hunain, yn hytrach nag aros i rywun rhoi pob dim iddynt ar blât. Os oes bwlch a chi am ei weld yn cael ei llenwi – ewch ati i ffeindio ffordd. Mae hyn yn debyg i’r hyn yr wyf wedi darllen am y cyfnod o sefydlu’r papurau bro nol yn y ‘70au a hefyd yr hyn a gwelwn ni hefo’r Saith Seren yn ddiweddar.

I gloi, rwyf am ddweud fy mod yn gweld Y Stamp fel menter cyffroes iawn, wedi ei harwain gan y genhedlaeth ifanc gyfoes, ac rwy’n edrych ymlaen at wylio wrth iddynt wireddu eu breuddwyd o fod yn llwyfan cynhwysfawr i amrediad eang o fodau creadigol. Gobeithiaf y medrwn ni, yma yn y Gogledd Ddwyrain, ei chefnogi yn eu nod, trwy sicrhau fod ein lleisiau’n cael ei chynnwys yn gyson – gan ateb eu galwad i ni gyd ‘rhoi ein Stamp direidus ni ar y dadeni’.

Read Full Post »