Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Awst, 2015

Wel mae llond o bethau wedi digwydd ers i mi sgwennu’r golofn ddiwethaf. Fy newyddion fwyaf yw fy mod wedi ymgeisio am swydd fel ‘Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol (Cyfrwng Gymraeg)’…ac wedi ei glanio hi! Ie wir, doeddwn i ddim wedi bwriadu ymgeisio am swydd newydd mor fuan ar ôl cychwyn ym mhrifysgol Bangor, yn enwedig gan fy mod yn mwynhau’r prosiect ymchwil presennol cymaint. Ond yn y bôn, nod yr holl astudio ac ymdrechu dros y blynyddoedd diwethaf oedd cael swydd fel darlithydd – ac rwy’n lwcus dros ben fy mod wedi ei chael hi. Ar ben yr anrhydedd o gael swydd fel darlithydd, fydd y fraint gen i addysgu a gweithio yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg; dwi wrth fy modd a bron methu coelio’r peth – dwi’n teimlo fatha Mair Llywarch! Mae sgwennu’r golofn yma dros y chwe blynedd diwethaf wedi bod yn hyfforddiant ardderchog i mi, wrth i mi orfod estyn y geiriadur i ysgrifennu am bethau a llefydd nad oeddwn wedi dysgu na chlywed amdanynt trwy gyfrwng y Gymraeg – gan gynnwys tre’r penrhyn!

Byddaf yn dechrau fy swydd newydd ar y cyntaf o fis Medi. Yn y cyfamser rwyf yn parhau a fy mhrosiect presennol am gymdeithas sifil yng Nghymru, mewn lle a thros amser. Rwy’n gwneud yr ymchwil yn Rhosllannerchrugog a Llangollen, gan ystyried y cysylltiadau rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau. Oherwydd natur ddwyieithog yr ardaloedd hyn, mae llawer o’r gwaith yn galw i mi wneud cyfweliadau a mynychu digwyddiadau ayyb trwy gyfrwng y Gymraeg; fysai’r ymchwil yn llawer iawn gwannach a llai cynhwysfawr heb yr allu i weithio’n ddwyieithog. Byddaf yn parhau i weithio ar yr ymchwil yma trwy’r haf a hefyd pan wyf yn cychwyn fel darlithydd, gan fod elfen ymchwil i fy nghyfamod. Mae’n sefyllfa ddelfrydol ac rwy’n ffeindio’n hun unwaith eto’n hynod o ddiolchgar fy mod wedi derbyn magwraeth ac addysg Gymraeg sydd wedi fy ngalluogi i fod yn y sefyllfa fendigedig yma.

Mewn newyddion arall, rwyf newydd ymaelodi fel un o ‘Cyfeillion Y Stiwt’ ac rwy’n edrych ymlaen at drefnu digwyddiadau hwyl ene, gan gynnwys rhai cyfrwng Gymraeg. Rwy’n hoffi meddwl byddai fy hynafiaid sy’n hanu o’r ardal hon yn browd o honnaf – gan gynnwys rhieni fy nain, sef Margaret Jones a John Earnest Jones (yntau’n mwynwr a hithau’n merch mwynwr, fel rwyf newydd ddysgu…ond fwy am hyn mewn colofn ar y gweill…). Yn wir mae hanes ardal y Rhos yn gyfareddol – roedd yn bair o Gymreictod, gyda’r boblogaeth yn cael ei denu o bob cornel ein cenedl hyfryd. Creuwyd yr arloeswyr yma diwylliant a thafodiaith arbennig ac unigryw, gan greu adeiladau anhygoel tra roeddynt wrthi’n creu ei chymuned ddeinamig; mae’r Stiwt yn un o’r adeiladau hyn – yn wir mae’n adeilad anhygoel i dref, heb son am bentref!

Yn y cyfamser, dros y misoedd diwethaf, wrth weithio ym Mangor, rwyf wedi dod yn ymwybodol o dwf cyffroes yn yr allbwn o Wyddonias Cyfrwng Gymraeg – pan ysgrifennais fy ail golofn Synfyfyrion Llenyddol ar y mater o wyddonias Gymraeg (Rhagfyr 2009: Roddenberry, Atwood…ac Islwyn Ffowc Elis! Tarddiad ‘Gwyddonias’ Cymraeg) roedd ddim llawer ar gael. Felly dwn i’m beth sy’n gyfrifol am y twf diweddar yma, ond rwy’n edrych ymlaen at dal i fynnu hefo hyn dros yr haf cw…efallai hefo lasiad o win yn yr ardd. Ac mae hyn wedi rhoi’r syniad i mi am ddigwyddiad posib i’w chynnal yn y dyfodol agos: ‘Comicon (Comicon) Cyfrwng Cymraeg’ – y cyntaf erioed! Rwyf wedi cael ymateb ffafriol yn barod gan rhai o fy ffrindiau ar drydar ac rwy’n rhagweld ymateb ffafriol gan y ‘Sin Gwyddonias Gymraeg’ yn gyffredinol.

Rwy’n gallu ei gweld hi rŵan (yn steil Marlow yn The Singing Detective, neu Dale Cooper yn Twin Peaks), fydd yna sesiynau panel hefo sêr y sin yn trafod ei gwaith, gweithdai ‘masterclass’ i blant ar sut i sgwennu gwyddonias (gan efallai ei chysylltu hefo cystadlaethau llenyddol, megis yr eisteddfodau), cystadlaethau gwisg ffansi gorau (dwi am fynd fel She-ra), stondinau nwyddau SciFi, cystadlaethau ‘Dungeons and Dragons’ , ‘Tri-dimensional chess’ a gemau tebyg, bwydydd ‘themed’ megis punch mewn steil y ddiod Klingon enwog ‘bloodwine’, ac wrth gwrs llawer iawn o drafodaethau yn y bar am y Gwyddonias gorau (mewn unrhyw iaith) a’r fath o wyddonias rydym ni’n gobeithio ei weld yn y dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gobeithio y caf wireddu fy mreuddwyd o Gomicon Cyfrwng Gymraeg, ond beth bynnag, mae’r dyfodol ar hyn o bryd yn edrych yn addawol iawn i mi – ac mae fy nyfodol, i’w weld hefo naws Gymreigaidd iawn arni. Felly, yn eiriau’r Picard (gan ddychmygu ei fod o Rhos): Gadewch i ni weld beth sydd allan ene…

Read Full Post »