Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for the ‘Erthyglau/ Articles’ Category

Wel braf iawn yw cael dweud fy mod gwir yr yn byw fy mywyd orau ar hyn o bryd. Rwyf bellach wedi dychwelyd o’r cawell o bryder a thristwch oedd wedi rhewi fy nghreadigrwydd, ac rwyf y nawr, i’r gwrthwyneb, wrthi mewn bwrlwm o greadigrwydd, yn gwneud pob math o bethau direidus a hwyl – gan gynnwys niwlio’r ffiniau rhwng fy ngwaith creadigol a fy ngyrfa ysgolhaig.

Dros gyfnod y Nadolig, cyhoeddais gerdd ac ysgrif ar wefan Meddwl.org, am effaith ‘burnout’ ar y broses greadigol. Yn yr ysgrif, trafodais hefyd y ffaith nad oes gennym air Cymraeg am ‘burnout’, a gan ei bod yn gysyniad pwysig ym myd iechyd meddwl, ella dyle ni creu term; yn dilyn trafodaeth trydar ar y mater, cynigais ‘hunlosg’ – ond ys gwn i os oes darllenwyr Y Clawdd yma hefo barn ar y mater?

Rwyf hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiad o’r ysgrif a’r gerdd am ‘burnout’, ynghyd a gwaith creadigol arall, ar fy nghyfrif newydd ar wefan ‘Medium’. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn ehangu ar ysgrif cyhoeddais yn Y Stamp am drawsieithu a’r broses greadigol, gan obeithio ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn ysgolhaig – fwy am hyn rhyw bryd arall!

Yn y cyfamser, rwyf wedi bod yn sgwennu crynodebau erthyglau ymchwil, a’i hanfon at gynadleddau ysgolhaig ym maes Dyniaethau iechyd. Hyd yn hyn, mae dau ohonynt wedi ei derbyn. Un am fyddardod a Byddaroliaeth (Deafhood) mewn ffilmiau a nofelau, a hynny yn Nottingham, a’r llall am y ‘tywysogesau arian’ – megis Khaleesi (Game of Thrones), Elsa (Frozen), ac Addison (Zombies) – a hynny yng Nglasgow.

Ac, yn ddigon ysmala, mae’r gynhadledd yng Nglasgow newydd gyhoeddi galwad am gerddi perthnasol i iechyd, gan ei bod nhw am gynnal noson a darllen a pherfformio cerddi fel rhan o’r ŵyl – ew, da ydy byd y Dyniaethau iechyd ynte? Ac felly, wedi i mi ddarfod sgwennu’r golofn yma, byddaf yn mynd ati i orffen cyfieithiad o gerdd am fy mhrofiad i fel ‘Tywysoges arian’ – un rwyf wedi ei gynnig fel rhan o ‘Blodeugerdd 2020’ Y Stamp.

Dwi wedyn hefyd yn mynd i dynnu llun hefo fy mhensiliau lliw newydd, a fy medrau newydd, i’w hanfon hefo’r gerdd. Dwi hefyd am anfon fy ngherdd ‘Wellbecoming’, sef cyfieithiad o fy ngherdd ‘Dychwelyd’ sgwennais ar encil Y Stamp yn nhŷ newydd.

Yr wyf hefyd yn mynd i fod yn perfformio’r ddwy fersiwn o’r gerdd yma – ydy’n nhw’n ddwy gerdd, yntau fersiynau o’r un gerdd? Ydy cerdd yn gysyniad, niwlog reddfol, neu’n casgliad o eiriau ar dudalen? Dwn i’m, ond gai’i hwyl yn datrys hyn yn fy erthygl cyfnodolyn ar y gweill. Beth bynnag, byddaf yn perfformio ‘Dychwelyd’ a ‘Wellbecoming’ mewn gŵyl i ddathlu ‘Dydd Miwsig Cymru’, ar y 7fed o Chwefror, draw ym mhrifysgol Glyndŵr.

Damwain oedd i mi fod yn gwneud hyn gyda llaw. Roeddwn yn sôn yn y cyfarfod fod un o ffrindiau fi yn fardd ac yn ganwr, ac wedi bod yn gwirio fy Sgymraeg ar ambell i gerdd, a wnaeth rhywun camddeall a meddwl fy mod yn cynnig darllen fy ngherddi! Ond ta waeth, roedd pawb i’w weld yn meddwl ei fod yn syniad da, felly dwi’n edrych ymlaen at y sylw!

A tra bod hyn i gyd wedi bod wrthi’n blaguro fel eirlys wedi’r tywydd garw, ddes i glywed am ‘Gŵyl y Ferch’. Cyhoeddwyd galwad am waith creadigol o bob cyfrwng. Reit medde fi, wnâi anfon cerdd. Ond pan ddaeth y ffurflen ymgeisio, roedd tabl ynddi – rhes i nodi teitl y gwaith, rhes i nodi disgrifiad, a rhes i ddweud sut y byddech yn ei glymu i’r wâl. Ew, meddyliais, mae angen creu’r gwaith fel ei fod yn weledol. Sbïais ar eu cyfrif Instagram a gweld cerddi hefo delweddi arnynt, megis deigryn arian ar gerdd ‘Wylo’ gan Grug Muse.

Roedd yn gwneud synnwyr, gan fod hi’n ‘ŵyl’ – dechreuais ddychmygu awyrgylch megis yr eisteddfod, hefo galeri a phawb yn symud o gwmpas yn sbïo ar y waliau. Ac, mae beirdd Gwynedd i’w weld yn addurno ei gwaith hefo delweddau ayyb. Felly, es ati i lunio delwedd addas fel cefndir i fy ngherdd ‘Dwy ganrif o Fyddartopia a fu’. Yna defnyddiais Power Point i osod y gerdd ar y ddelwedd, ac mi brintiais hi yn y llyfrgell yn Glyndŵr fel poster A1. Prynais ffrâm bren rhad oddi ar Amazon, ac mae hi nawr yn barod i fod yn rhan o’r arddangosfa.

Mae hi wedi dod i’r amlwg y nawr, trwy drafod hefo’r trefnwyr, fy mod i wedi camddeall y ffurflen. Colofn ar gyfer arlunwaith oedd yr un oedd yn holi am dog-clips a waliau – mae’r farddoniaeth yn cael ei osod mewn antholeg, heb ddisgwyliad o greu delweddi. Fodd bynnag, roedd y trefnwyr yn hael iawn am fy ‘buffoonery’ ac, er ei fod yn waith braidd yn gae chwith, dywedasant ei bod nhw yn edrych ymlaen at ei weld e!

Ac i gloi felly, wrth synfyfyrio, mae’r darn o waith celf yma am Fyddartopia yn symbol diddorol o le rwyf wedi cyrraedd, ar ôl fy siwrne igam-ogam. Pan roes llun ohonof hefo fy delwedd-cerdd, wedi ei fframio, wnaeth un o fy nghydweithwyr cynt o Fangor ofyn os taw allbwn creadigol oedd e, yntau poster ysgolhaig. Ac wrth feddwl, fedrai weld naws y dryswch, gan mai cyfuniad o fy medrau a syniadau yw hyn…a dwi’n ei hoffi hi’n fawr iawn!

Cyhoeddwyd y golofn yma’n gyntaf yn Y Clawdd, Papur bro Wrecsam a’r cylch, Rhifyn 196.

Read Full Post »

Yn y golofn ddiwethaf, fues yn sôn fy mod wedi bod wrthi’n cyfuno fy sgiliau celf newydd hefo limrigio er mwyn creu ‘Insta-gerddi’, sef cyfuniad o gerdd a delwedd, mewn fformat sgwâr, sydd wedyn yn cael ei gyhoeddi ar blatfform cyfryngau cymdeithasol ‘Instagram’. Wel, a finnau erioed wedi defnyddio’r platfform o’r blaen, yr wyf erbyn hyn yn hen law, gydag amrywiaeth sylweddol o ddelweddau ag Insta-gerddi ar fy nghyfrif.  Ar ôl i mi anfon y golofn ddiwethaf i Y Clawdd, cafodd un o fy Insta-gerddi ei gyhoeddi ar wefan Y Stamp fel rhan o’r ŵyl Insta-gerddi, i ddathlu ‘Diwrnod Barddoniaeth Genedlaethol’ (3ydd o Hydref). Roeddwn wedi ysgrifennu limrig am y ffilm gwyddonias ‘Ad Astra’, gan odli hyn hefo ‘Galanastra’, sef gair sy’n golygu: ‘dinistr’ (devastation) (ymysg ystyron eraill). Ddes ar draws y gair rhyw pymtheg mlynedd yn ôl wrth drio sgwennu fersiwn fy hun, yn y Gymraeg, o ‘The Sun is burning’ gan Simon a Garfunkle. Wel, ni fuodd y fenter yna’n llwyddiannus iawn, ond dyma fi o’r diwedd wedi llwyddo ei ddefnyddio mewn cerdd, mewn ffordd effeithiol, felly rwy’n hapus iawn am hynny. Mi wnes i hefyd creu cefndir iddi gan ddefnyddio pensiliau lliw, felly roeddwn yn hapus iawn fy mod yn datblygu fy sgiliau celf mewn ffordd aml-gyfrwng. Yna roeddwn yn rhydd i arbrofi mewn gwahanol gyfeiriad.

Yn y cyfamser, roedd un o’r bobl rwy’n dilyn ar drydar, Lucy Jenkins (@DrawnToIceHockey), wedi rhoi neges gyhoeddus am ei bwriad i gynnal ‘HydGelf’ arall eleni, ond roedd eisiau gwybod os oedd unrhyw un arall am ymuno a hi, er mwyn gwybod os oedd pwynt iddi wneud rhestr ‘procio’. Trwy drafod, ddes i ddeall mai fersiwn Cymraeg oedd hon, wedi ei chreu gan Lucy, i gyfateb i ‘Inktober’, sef her i greu darlun pob dydd am fis, gan ddefnyddio unrhyw declyn neu adnodd sydd hefo inc ynddo fo. Wel yn amlwg rwy’n sidro fy hun yn fardd ac awdur yn bennaf, gydag ychydig bach o gelf i fynd hefo fo erbyn hyn. Fodd bynnag, rwy’n hoff iawn o arbrofi, roeddwn newydd ddarfod gweithio, ac roeddwn wrthi’n cael ‘existential crisis’ ar y pryd, felly derbyniais yr her; gwnaeth Lucy rhestr ‘procio’ a ffwrdd a ni. Dylwn bwyntio allan fod Lucy yn astudio’r celfyddydau cain ac mae hi felly yn fedrus iawn yn y maes, a finnau ddim ond newydd brynu pens! Ta waeth, sbïais ar y rhestr a wnes i fy ngorau i gynhyrchu allbynnau dderbyniol.

Mae’n ddiddorol sbïo nôl dros y gwaith a gweld y gwelliant a hefyd y shifft o ran cymhelliant a chyfrwng. Pan wnes i gychwyn, roeddwn yn sgwennu cerdd fach ac wedyn yn tynnu llun bach syml hefo pen du fel rhyw ychwanegiad; erbyn y diwedd, roeddwn yn gwario llawer iawn o amser ar dynnu’r llun, gan ddefnyddio inciau gwahanol, ac weithiau ddim yn cynnwys geiriau o gwbl. Wrth adlewyrchu, fodd bynnag, rwy’n fwy hoff o’r enghreifftiau lle mae yna gyfuniad o’r ddwy beth. Wrth sbïo ar waith rhai o’r Insta-beirdd eraill, sylwais fod yr haiku, fel ffurf o farddoniaeth, yn hyd yn oed mwy perffaith i Insta-gerddi na’r limrig. Mae’r haiku yn gerdd 3 llinell o hyd, sy’n dilyn y patrwm: 5 sill, 7 sill, 5 sill. Roedd y tair haiku cyntaf yn weddol dda, er gwaetha’r darluniau amrwd roedd yn mynd hefo nhw. Sgwennais i’r cyntaf, ar y thema ‘esgidiau’, fel ymateb i’r her i’r amgylchfyd o ffasiwn ‘throw-away’:

 

Esgidiau bach haf

wnes ei wisgo am dymor

nawr rhof i’w cadw

 

Ysbrydolwyd y nesa gan y ffaith fod y mwyar duon ac afalau yn y cae o flaen y tŷ yn fy ngalluogi i wneud crymbl cartref braf; wrth baratoi’r haiku, wnes i ddarganfod fod yna un gair ar gael oedd yn golygu hel mwyar duon, ac roeddwn wrth fy modd hefo hyn:

 

Mwyaraf, casglaf

coginiaf – y melys a’r

sawrus, yn flasus

 

Yna es am rywbeth bach dyfnach a fwy personol, gan drafod fy nghyflwr genetig, sef syndrom Waardenburg, ag effaith y symptom o ddadbigmentiad ar fy mywyd, gan gynnwys dewis dillad:

 

Gennyn sy’n gollwng

lliw fy nghroen, gwallt a llygaid

gwisgaf mewn glesni

 

Es ymlaen i sgwennu’r nesaf, fel rhan o’r Insta-gerdd hefo’r helix dwbl, ac sy’n trafod y trawsnewid o fy llygaid a hefyd ei siâp – eithaf lot am haiku!:

 

Llygaid arbennig

siâp hir syndromaidd – lliw

brown-gwyrdd marmoraidd

 

Rwyf nawr wrthi’n ystyried y ddau haiku yma, wrth geisio sgwennu tair telyneg fwy sylweddol am syndrom Waardenburg er mwyn cael ei hanfon i’w hystyried i ‘Blodeugerdd’ Y Stamp – ond fwy am hynna rhywbryd arall. Wnes i hefyd paratoi Insta-gerdd haiku oedd yn tynnu ar atgofion o deithio trwy India rhai blynyddoedd yn ôl, pan wnaethom ddysgu am y tanwydd ‘kande’:

 

Cruglwythau kande

tanwydd o gweryd gwartheg

wedi’u trefnu’n dwt

 

Nid oeddwn yn ymwybodol o’r gair ‘cruglwythau’, nes i mi sbio yn y geiriadur am gyfieithiad o ‘pile’. Fodd bynnag, rhai dyddiau wedyn, wrth i mi ddarllen yr ysgrif ‘Lincyn-Loncyn’ gan T.H.Parry-Williams, dyna le oedd e, gan gadarnhau ei fod yn air llenyddol da! Yr wyf wedi bod yn darllen am yr ‘ysgrif’ fel cyfrwng neu genre, gan hefyd darllen ysgrifau amrywiol, ers dod ymwybodol ohonynt mewn gweithdy cafodd ei chynnal gan Grug Muse fel rhan o encil Y Stamp – ond fwy am hynny rhywbryd arall!

Cyhoeddwyd yn Y Clawdd, rhifyn 196 – Rhagfyr 2019

Read Full Post »

Rwyf wedi mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith dros y 23 mlynedd diwethaf – ers i mi ddechrau ymddiddori mewn barddoni; ond haf yma oedd y tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn wir yn rhan o’r ŵyl. Er fy mod wedi bod yn ymwybodol o’r cystadlaethau, y babell len a’r pafiliwn, doeddwn i heb sylweddoli faint o bethau diddorol oedd yn mynd ymlaen ar y maes – yn wir, dim ond gwario llawer o bres ar grysau-t a nic-nacs dwi fel arfer a gwneud ar y maes! Ond mi roedd blwyddyn yma’n wahanol.

Dechreuodd fy epiffani gan i mi ddechrau gweld sgyrsiau ar drydar am achlysuron, megis lansiad llyfr Llion Wigley ‘Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a’r seice cenedlaethol’. Wel, gan fy mod wrthi ar hyn o bryd yn gwneud prosiect seicdreiddiad personol am fy ymateb camaddasol i’r ffilmiau ‘Alien’, roedd hyn yn llenwi bwlch pwysig, o ran fy hunaniaeth Gymreig. Cefais sgyrsiau hwyl ar-lein am y llyfr a phenderfynais fynychu.

Yna, dechreuais sylwi ar achlysuron eraill yn cael eu hysbysebu. Roedd gan Y Stamp, cylchgrawn llenyddol direidus, sawl achlysur diddorol, ac roedd Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu a noddi gweithdai llenyddol. Roedd cymaint roeddwn i eisiau mynychu dechreuais wneud amserlen i fy hun – ac yna roedd gen i clash eisteddfodol – dychmygwch!

Roeddwn wedi mawr obeithio mynychu’r sesiwn ‘Meistroli’r Englyn’ gydag Eurig Salisbury, ond yn anffodus roedd hyn yn cael ei chynnal yr un amser a lansiad y llyfr am seicdreiddiad. Fodd bynnag, efallai mai bendith a thynged oedd hyn, gan fod englynio yn reit letchwith i’w ddysgu ac mae’n debyg byswn i dal wrthi rŵan yn strugglo ac yn syrffedu; blwyddyn nesaf, efallai, byddaf mewn lle gwell i dderbyn yr hyfforddiant yma. Yn y cyfamser, mae’r wythnosau diwethaf wedi bod am limrigio.

Mynychais y sesiwn limrigio hefo agwedd reit nawddoglyd – wedi’r cwbl, bach o jôc oedd limrig ynte? Ond, ges i fy nghwbl argyhoeddi gan agwedd brwdfrydig Eurig, ac erbyn diwedd y sesiwn roeddwn i’n hooked! Wnaeth Eurig dynnu’n sylw at y ffaith fod cryn dipyn o fedrusrwydd ei hangen ar gyfer sgwennu limrig – wedi’r cyfan mae angen cael y curiadau yn iawn ym mhob llinell (3, 3, 2, 2, 3) a hefyd cael llinellau 1, 2, a 5 i odli. Mae yna gryn dipyn o ddadlau am ba mor ‘gyson’ sydd raid i’r odl fod, ond i’r limrig weithio ar ryw lefel, mae’n rhaid i’r odl fod yno. Wnaeth Eurig gyflwyno limrigau llwyddiannus i ni, gan gynnwys un ddigri iawn gan Geraint Løvgreen:

 

Roedd dyn bach yn byw yn Hong Kong

oedd yn hoff iawn o chwarae ping pong

doedd ganddo ddim bat

na phêl cum tw ddat

dweud y gwir, oedd o’n chwarae fo’n rong.

 

Wel, gan fy mod yn nabod Geraint ar drydar, mi wnes i dynnu ei goes am ddefnyddio’r gair ‘rong’. Holodd: “Be’, tydi o ddim yn odli llu?”, a ddwedais “tydi o ddim yn air”, “ah, dyna le ti’n rong” meddai! Beth bynnag, roedd rhywbeth yn apelio am y rhythm ac roedd llinell gyntaf wedi ei rhoi (gweler isod) ar gyfer cystadleuaeth limrig yr ymryson yn y babell len y diwrnod wedyn; felly es i ati i geisio cyfansoddi limrig. Roedd y syniad o ‘mankini’ wedi bod yn rhan o’r gweithdy (roedden ni’n chwilio am rywbeth fysa yn achosi cywilydd) a gan fod Eurig wedi bod yn gwbl disgusted hefo’r syniad, es ati i drio sgwennu limrig yn ei chynnwys! Gan mai’r mankini fwyaf enwog yw’r un y mae Sean Connery’n gwisgo yn y ffilm Zardos, mi sgwennais:

 

Oes rhywun yn rhywle yn credu

fod Connery’n siwtio mankini

bŵts fyny i’w gliniau

a mwsásh saithdegau

yn Zardos fu’n ‘eye-candy’ inni.

 

Wel, i fod yn cwbl onest, mi ges i help gan Siôn Aled Owen hefo’r gair ‘inni’, oherwydd ‘teledu’ oedd gen i yn wreiddiol, ac mi roedd hynna’n ‘way off’ o ran yr odl oedd angen. Anfonais y limrig i Geraint trwy drydar a wnaeth y sylw fod yr odl ddim yn gyson. Ar ôl iddo esbonio, roeddwn yn medru gweld fod angen odl ‘edu’ i’r tair llinell, felly es i adre i feddwl.

Y bore trannoeth, cerddais mewn i’r maes a gweld Nic Dafis – rhywun dwi wedi nabod ers troad y ganrif, gan mai fe oedd arfer rhedeg maes-e.com. Roddodd pamffled ‘gwrthryfel difodiant’ (extinction rebellion) i mi a chawsom sgwrs ddifyr am y creisis hefo’r amgylchfyd. Roedd hi’n picio glawio a finnau yn oer ac wedi blino, felly es i draw i’r lle bwyd am snac, gan eistedd, yn y glaw, i geisio cyfansoddi limrig at y gystadleuaeth; a daeth yr awen. Sgwennes i limrig roeddwn i’n browd ohono. Anfonodd hi at Geraint, a chadarnhaodd yntau fod yr odl yn gyson. Rhoddes hi yn y blwch ar stondin Barddas, hefo’r un am Zardos, gan fod hynna’n fwy doniol, a mynychais yr ymryson. Ges fy siomi yma oherwydd ni ddarllenwyd fy limrigau, er i Karen Owen gwneud dadansoddiad gwerth chweil a manwl o’r englynion…ond stori arall yw hynny. Ymlaen a fi, yn aftermath y ‘steddfod, i feddwl fwy am limrigio, barddoni a bod yn greadigol.

Wnaeth fy nghontract fel darlithiwr ym mhrifysgol Glyndŵr darfod diwedd mis Awst, ac, ar ôl halibalŵ yn ystod yr wythnos gyntaf o gael wardrob newydd, a’i chael mewn i’r stafell wely, a’r stwff i gyd ynddi, mynychais encil llenyddol Y Stamp yn Nhŷ Newydd dros y penwythnos – ac rwyf mor falch i mi wneud. Ymysg y mynychwyr mi roedd yna artistiaid gweledol – roedd ganddynt pob math o dalentau anhygoel am greu celf, gan gynnwys cefndir i farddoniaeth. Gwariais ran fwyaf o fy amser yn eu gwylio nhw ac yn dysgu.

Pan ddes i adre, dechreuais arbrofi – prynais pens lliwiau-dwr. Yna, hysbysebwyd Y Stamp eu bod nhw, fel rhan o ‘Diwrnod Barddoniaeth Genedlaethol’ (03.10.19) am gynnwys ‘Insta-gerddi’ ar eu gwefan. Celf ar ffurf sgwâr yw hon, hefo cerdd fer ar gefndir o ryw fath, sydd wedyn yn cael ei rhoi ar blatfform Instagram; mae limrigau yn berffaith i hyn! Roddais fy ngherdd Zardos ar gefndir o lun syml o Connery yn ei mankini. Yna, roddais fy ngherdd am yr amgylchfyd ar gefndir o ffotograff tynnais tra roedden ni lawr ar y traeth yn ystod yr encil. Rwy’n hapus iawn hefo’r gerdd yma, ar y cefndir yma, ac es i ymlaen i baentio cefndir addas i limrig sgwennais am helynt ‘Operation Yellow Hammer’. Rwyf wedi cael ymateb da i rain yn barod ar drydar, ac mi wnaeth Y Stamp defnyddio fy ngherdd am yr amgylchfyd i hysbysebu’r ŵyl Insta-gerddi! Oedd, mi roedd hi’n ‘Dear diary’ moment!

Beth bynnag, es ymlaen i sgwennu tair arall ac, wrth i mi sgwennu’r golofn yma, mae fwy o bosibiliadau yn dechrau ffurfio – dwi mewn cariad a’r limrig fel ffurf o farddoniaeth – a hefo Insta-gerddi yn benodol, oherwydd yr elfen o gyfuno barddoniaeth hefo celf a bod yn greadigol, sydd yn beth newydd i mi. Rhannaf fy ddau gorau hefo chi yma, gan obeithio y byddech yn eu mwynhau! (Ôl nodyn i’r golofn: mae gen i fwy o le fama, felly rhannaf rhai eraill hefyd).

Read Full Post »

Mae bywyd Brenin Henry VIII yn un cyfarwydd i ni heddiw, ar rai lefelau beth bynnag. Mae’r ffeithiau, megis iddo briodi chwe gwaith, yn ennyn ein diddordeb a’n dychymyg. Mae rhannau o’i fywyd, a bywydau rhai o’r gwragedd, wedi ei bortreadu mewn sawl ddrama rannol ffuglennol. Y frenhines rydym yn fwyaf gyfarwydd â hi, hyd yn hyn, mae’n debyg, yw Anne Boleyn – ei ail wraig. Yn ôl yr hyn sy’n cael ei chofnodi’n hanesyddol fel ‘Mater Mawr y Brenin’, mi wnaeth Henry ymbilio i’r Pab i ddiddymu ei briodas i’w wraig gyntaf, Catherine o Aragon, er mwyn iddo gael priodi Anne. Ar ôl broses o gyflafareddu cymhleth, fu dorrwyd Henry hefo Rhufain, gan gyhoeddi ei hun fel Pennaeth Goruchaf ar Ddaear o’r Eglwys Yn Lloegr. Cafodd ei briodas i Catherine ei ddatgan yn ddi-rym, a chollodd Catherine ei lle yn y Cwrt Brenhinol; chafodd hi a’i merch, Mary, ei ddisodli yn gyfan gwbl gan Anne a’i merch Elizabeth.

Yn y cyfresi teledu a ffilmiau amryw am y digwyddiadau hyn, megis ‘The Tudors’, a ‘The other Boleyn girl’, mae’r ffocws fwyaf ar Anne, gan geisio esbonio sut wnaeth hi swyno’r Brenin Henry i gyflawni’r ffasiwn beth. Mae hi’n cael ei phortreadu’n glamoraidd ac yn ddeniadol – er, ddim yn brydferth yn y modd confensiynol. Yn ‘The Tudors’ rydym yn cael cip o berthynas eithaf tyner rhwng Henry VIII a Catherine o Aragon, ond nid sut ddaethant nhw at ei gilydd yn y lle cyntaf. Dyma le mae’r ddrama newydd ‘The Spanish Princess’ yn llenwi’r bwlch. Cyfres yw hon sydd y nawr ar gael ar y sianel ‘Starz’ (Amazon Prime) ac rwyf i a’r gŵr wrthi’n ei fwynhau trwy ein teledu-clyfar. Mae’r gyfres yn seiliedig ar nofelau Philippa Gregory ac mae’n adeiladu ar y cyfresau cynharach sef ‘The White Queen’ a ‘The White Princess’.

Yn y gyfres ‘The Spanish Princess’, rydym yn dysgu fwy am dad Henry’r VIII – sef Henry’s VII a’i wraig Elizabeth o Efrog, a hefyd am frawd hynach Henry, sef Arthur. Y prif gymeriad, fod bynnag, yw Catherine o Aragon – wraig ifanc, brydferth a ddyfeisgar. Rydym yn gweld sut ddaeth hi i Loegr i briodi Arthur, eu perthynas lletchwith, a’i sefyllfa ansicr wedi iddo farw cyn iddynt gynhyrchu etifedd. Rydym wedyn yn dysgu nad ar chwarae bach y daeth Catherine i fod yn Frenhines Loegr trwy briodi Henry VIII. Roedd angen gollyngiad y Pab, gan iddi fod yn wraig i’w frawd (sef un o’r rhesymau y mae Henry VIII yn rhoi yn ddiweddarach am ddirymu’r briodas). Rydym yn gweld perthynas cariadus rhwng y ddau gymeriad – a oedd, ar y pryd, yn andros o ifanc (yn eu harddegau!) Rydym hefyd yn cael cip o ddynes arall bwysig yn hanes y berthynas rhwng Prydain a Sbaen, sef mam Catherine – y Frenhines Isabella 1 o Castile. Yn y gyfres mae hi’n arwain byddinoedd gan wisgo arfwisg debyg i’r hyn y gwelwn Gary Oldman yn gwisgo yn y ffilm ‘Dracula’. Braf iawn byddai gwylio cyfres yn seiliedig ar ei hanes hi, ac mae yna lyfr gan Kirsin Downey amdani o’r enw: ‘Isabella: The Warrior Queen’, wedi ei gyhoeddi yn 2014 – felly mae yna bosibiliadau!

Gan i ni ddarganfod ‘The Spanish Princess’ wrth iddi ddechrau darlledu, ym mhen dim yr oedden ni wedi gwylio’r penodau oedd ar gael – ac felly yn y mwdwl cyfarwydd cyn-bocsetaidd hwnnw, o aros am y pennawd nesaf. Ond yn ddigon ysmala, ddaeth ein teledu-clyfar i’n hachub! “Dyma’r cyfresi ddaeth cyn hwnnw”, meddai. Wel, oce medde ni, gan wylio ‘The White Princess’ a’i fwynhau yn arw! Yma ceir hanes rhieni Henry VIII – ac ew am hanes! Mi roedd y cwpwl ifanc reit yng nghanol y fargen a ddaeth a’r elyniaeth rhwng y ddau ‘rhosod’ i derfyn. Cynlluniwyd mamau’r ddau iddynt briodi ac felly uno’r ddwy gangen gystadleuol o ‘Tŷ Plantagenet’, sef ‘Tŷ Lancaster’ (y rhosod coch) a ‘Tŷ York’ (y rhosod gwyn).

Mae’r cymeriadau’n cael eu portreadu mewn ffordd argyhoeddedig. Mae cymeriad Elizabeth, neu ‘Lizzie’, yn datblygu o’m blaenau wrth iddi galedu o’r profiadau cas mae hi’n ei wynebu. Ond y cymeriad fwyaf diddorol yma, i mi, oedd Lady Margaret Beaufort, neu ‘My Lady the King’s Mother’, fel mae pawb yn ei adnabod yn ystod y gyfres. Y mae’r cymeriad yma yn llawer iawn fwy tywyll a chymhleth. Yna, trwy’r gyfres ‘The White Queen’, ddown i wybod fwy am sut ddaeth hi i fod fel hyn, a hefyd fwy am deulu’r York – Brenin Edward V a’r frenhines swynol – Elizabeth Woodville. Mae yna awgrymiad yma o ddewiniaeth ac mae’r cymeriad yn un annisgwyl o ddyfeisgar a chryf.

Wrth adlewyrchu, rhyfeddaf ar gyn lleied yr oeddwn yn gwybod am y menywod pwysig yma yn hanes y Frenhiniaeth a faint rwyf wedi mwynhau darganfod fwy amdanynt. Ac nid hyn yw ddiwedd y peth ychwaith – beth am Catherine o Valois, gweddw Henry’r V o Loegr, wnaeth priodi Syr Owen Tudor (neu Owain ap Maredudd ap Tudur – ei enw Gymraeg!) Wel, gobeithio bydd y ffuglen yn estyn yn ôl i’r cyfnod yma ac yn cael ei phortreadu i ni trwy gyfresi cysylltiedig cyn bo hir!

Read Full Post »

Rwyf wir yr wrth fy modd yn gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae yna awyrgylch bositif ag agwedd ‘medrwn’, ynghyd a chyfeillgarwch ag ewyllys da. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld erthygl amdanaf yn y Leader cw (ar-lein a chopi caled!) yn gwneud ffỳs braf am fy nghyflwyniad draw yn y gynhadledd ‘40 Years of Alien’, a’r cysylltiad hefo fy ngwaith fel darlithydd Seicoleg. Mae’n rhaid dweud, roedd hi’n hyfryd cael gweithio hefo James Bailey o’r adran ‘Cysylltiadau Cyhoeddus’ (PR) ar hyn, a braf iawn oedd teimlo braidd yn sbesial a llwyddiannus wrth weld yr erthygl wedi ei chyhoeddi! Roedd y gynhadledd yn wych ac aeth fy nghyflwyniad yn dda iawn hefyd; rwyf y nawr yn edrych ymlaen at sgwennu pytiau yma ag acw, yn seiliedig ar yr holl waith paratoi wnes i.

Yn ddigon ysmala, un o’r buddion daearyddol (heblaw am y daith fyrrach i fy ngwaith pob dydd o Benrhyn Cilgwri!) yw fy mod yn agos at fannau cyfarfod sin llenyddol Wrecsam. Mi roedd hyn yn handi iawn yn ystod ‘Gŵyl y geiriau’,  yn ôl ym mis Ebrill. Yn wir, anodd byddai i’r digwyddiad wnes i ei fynychu fod yn llawer iawn agosach at fy swyddfa yn yr adran Seicoleg, gan iddo gael ei chynnal yn y Ganolfan Catrin Finch, rhyw 20 llath ar draws y maes parcio!

Roedd Archdderwydd newydd Cymru, Myrddin ap Dafydd, yn cynnal noson ‘cynulleidfa hefo’, ac roedd criw go lew ohonom wedi ymgasglu i glywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Ac, wel, am hwyl! Cawsom wledd o gerddi a storïau digri am y bardd Gerallt Lloyd Owen, a oedd yn ysbrydoliaeth a math o fentor iddo, cyn iddo farw  yn ôl yn 2014. Mae’n debyg fod pawb yn gyfarwydd â’i waith adnabyddus a siriws, megis y gerdd ‘Fy Ngwlad’ sy’n cychwyn hefo’r llinell: “Wylit, wylit, Lywelyn”. Ond annisgwyl a braf oedd clywed un o’i gerddi digri, o’r gyfrol ‘Cilmeri a cherddi eraill’, sef ‘Trafferth mewn siop’; cerdd yw hon sy’n adrodd hanes ceisio talu hefo siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencer, a chael ei wrthod…a’r helynt wedyn. Ew, ges i flas ar ei waith o wrando! Rwyf am fynd ati nawr i ddarllen fwy o’i waith, fel rhan o fy ymdrech i ddechrau sgwennu’n greadigol eto.

Diddorol iawn hefyd oedd clywed am y trafodaethau cafodd Myrddin hefo Gerallt dros y blynyddoedd a hefyd stori wnaeth Gerallt ymadrodd mewn gweithdy yr oedd yn ei redeg, wrth i Myrddin a chriw o awduron/ beirdd ceisio cwblhau tasg lenyddol yr oedd wedi gosod iddynt. Does dim modd gwneud cyfiawnder i’r stori yma, roedd hi’n eiliad o ‘angen bod ene’; ond roedd yn cynnwys hanes modryb, taith i Lundain i edrych ar ôl ci mawr, tra roedd y perchennog ar wyliau, y ci yn marw…ar helynt wedyn wrth geisio penderfynu beth i’w wneud hefo corff y ci; daeth yr ateb wrth i’r fodryb a’r ewythr (a oedd wedi ymuno a’r fenter erbyn hyn), trafaelio yn ôl i Gymru ar y trên, hefo corff y ci mewn siwtces…wnaeth rhywun dwyn y siwtces! Ag trwy gydol y stori, roedd yr awduron/ beirdd wrthi’n ceisio canolbwyntio ar y dasg lenyddol!

Profiad pleserus a diddorol tu hwnt oedd gwrando ar y stori yma, wrth eistedd mewn ‘cynulleidfa hefo’; roedd hi’n stori, o fewn stori, o fewn stori – meta-ffuglen, mewn ffordd…ond fwy am hynny rhywbryd arall! Diddorol hefyd yw adlewyrchu ar y ffaith fod Myrddin wedi penderfynu, yn hael iawn, i rannu’r storïau  yma, a gwaith Gerallt, yn hytrach na ddefnyddio’r noson fel ffenest siop i’w waith ei hun, fel bysa sawl awdur wedi ei wneud…ag yn sicr academyddion! Ond yn ddigon ysmala, mae hyn wedi ennyn fy niddordeb yn ei waith ef – felly mae gen i restr hir o bethau ‘i’w ddarllen’ erbyn hyn!

Wrth ymchwilio ychydig i’r ffeithiau at y golofn hon, ges epiffani neis – fod Myrddin ap Dafydd yn dad i Lleucu Myrddin, un o’r myfyrwyr disglair fues yn ddigon ffodus i’w addysgu draw ym mhrifysgol Bangor! Roeddwn wedi gweld y ddau ohonynt yn noson ‘Y Stamp’ yn ‘Tafarn y Fic’, ond doeddwn heb wneud y cysylltiad! Mi roedd hyn i gyd yn amserol iawn, gan fod addysgu nawr wedi darfod, ac mi fyddaf wrthi, dros yr haf, yn ceisio sgwennu papurau o’r data casglais ar y prosiect ym Mhenrhyn Llyn; defnyddiol iawn oedd hel atgofion a dwyn momentwm unwaith yn rhagor.

Wrth archwilio gwefan Amazon am y casgliad ‘Cilmeri a cherddi eraill’, ddes o hyd i albwm Cilmeri – cerddoriaeth gwerin roeddwn yn gwrando arno pan oeddwn yn blentyn – mae’r albwm ar gael ar ‘amazon music’ i’w lawr-lwytho – mawr y cynnwrf! Ffwr a fi felly, ar Lun y Banc gwlyb yma, i wneud cinio ac i wrando ar yr albwm yma – fel ‘soundtrack’ y golofn yma!

Read Full Post »

Wel, wrth i mi sgwennu’r geiriau hyn, mae hwythau draw yn Nhŷ’r cyffredin wrthi’n ceisio datrys dryswch a phenbleth Prydael (Brexit). Yn ôl pob sôn, ddoe (Mawrth 29ain) oedd y diwrnod roedd ganddynt mewn golwg ar gyfer cwblhau’r ysgariad hanesyddol, gwleidyddol yma. Erbyn i’r Clawdd cael ei dosbarthu, mae’n debyg y bydd hi’n tair blynedd yn union ers i bobl Prydain pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd (Mehefin 23ain 2016).

Mae hi’n anodd coelio llond o bethau erbyn hyn: y pandemoniwm a fuodd y bleidlais yn y lle cyntaf – cyn lleied o wybodaeth y rhoddwyd i ni fel pleidleiswyr, y bws, y sbin ayyb; yna’r diffyg cynllunio amlwg oedd wedi ei wneud ar gyfer paratoi am adael – beth oedd Prydael hyd yn oed? Yna daeth y gwahanol fathau o Prydael i’r amlwg – fel wŷ berwedig, roedd sawl ar gael – un feddal, un caled, rhai yn y canol, un glas, coch a gwyn (dim sôn am wyrdd?). A dyma ni nawr, tair blynedd o ridl-mi-ri yn ddiweddarach, a tyda’n ni fawr callach ar ôl dioddef y fath ffwdan, fel ein bod ni wedi syrffedu ar y lol botes yma.

Dros y pythefnos diwethaf, mae’r gŵr cw wedi bod yn gwylio trafodaethau’r Tŷ’r Cyffredin, gan fynnu ei adael ymlaen wrth i ni fwyta te ag ati, rhag ofn i ni golli rhyw eiliad hynod hanesyddol. Mae hi wedi dod i’r amlwg mai hyn yw’r drefn yn sawl cartref, gyda mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth y DU nag erioed yn ystod fy einioes – wel, i mi gofio beth bynnag. Mae hi hefyd wedi dod i’r amlwg fod rôl Llefarydd (speaker) Ty’r Cyffredin yn un hollbwysig yn ystod y trafodaethau dirdynnol yma. Rydym wedi gwylio’n astud wrth i John Bercow dylanwadu ar drefniant a chyfeiriad y trafodaethau a phenderfyniadau.

Ond mae yna agwedd arall o berfformiad Bercow sydd wedi ennyn sylw a diddordeb y cyhoedd yn gyffredinol – ei ddefnydd o iaith ac ynganiad. Hyd a lled trydar, mae pobl yn teipio ‘orrrrdeeeeeeer’, neu yn adrodd storïau digri am ateb cwestiynau bywyd pob dydd, megis grawfwyd (cereal) neu dost i frecwast, gan ddweud ‘division, clear the lobby’, neu ‘the toast has it, the toast has it’! Yn ôl pob sôn, mae plant hyd yn oed yn mwynhau’r hwyl, gan alw ei gilydd yn ‘the right honourable sibling’, gan chwerthin wrth gael dweud y drefn wrthynt am ‘chuntering from a sedentary position’. Fel nyrd ieithyddol, mae’n ddiddorol ystyried y ffenomenon hyn, gan sidro beth fedra i gyfrannu i’r hwyl.

Mae dadansoddiad sgwrs (conversation analysis) yn cynnig symbolau trawsgrifio, er mwyn i ni ail-osod y geiriau hefo’r llafarganu (intonation) yn ôl i mewn i’r geiriau ar y dudalen. Dyma ddefnyddiais ar gyfer trawsgrifio’r trafodaethau rhwng meddygon a chleifion yn fy nhraethawd hir doethuriaeth. Mi all hyn fod o fudd i ni yma, gan ganiatáu i ni nodi ynganiad Bercow; er enghraifft mae: <ord:::er> yn dangos y ffordd y mae rhai synau yn cael eu hymestyn, a hefyd fod y gair wedi ei arafu a’i ‘dynnu’n hir’. Fyddai’r math arall o ynganiad, yr un byr, wedi ei wasgu, yn edrych fwy fel hyn: >order<, tra byddai ynganiad swnllyd, uchel yn edrych fel hyn: ORDER, ac ynganiad distaw yn edrych fel hyn: °order°. Wrth trawsgrifo fel hyn, medrwch adeiladu corpws o deunyddiau ac yna ceisio gweld sut mae ynganiad, defnydd iaith, a pherfformiad, yn cael effaith ar beth sydd yn cael ei ddweud, yn ogystal a’r geiriau ei hunain. Rwy’n sidro gwneud hyn dros yr haf, pan mae fy nghontract presennol yn darfod.

Tu hwnt i Prydael a gwleidyddiaeth, mae cyfle arall i sidro mecanwaith iaith, a hynny mewn ffurf ffilm newydd sydd ar y gweill, hefo’r teitl (braidd hir a dadleuol): Extremely Wicked, Shockingly Evil and Vile. Biopic yw hwn am y llofrudd cyfresol Ted Bundy. Mae’r diddordeb yn y llofrudd yma hefyd yn ffenomenwn diddorol, gyda mwy nag un ffilm/ cyfres yn barod, ag elfen sbin cyfryngol, megis yr hyn yn achos Amanda Knox (Foxy Knoxy); roedd Ted yn golygus, swynol, ag yn glyfer – ag eto yn ‘drygionus’ (evil), beth bynnag mae hynna’n ei olygu (ond mae hynna’n colofn arall)…ac am rhyw reswm, mae hyn yn ennyn ein diddordeb fel bodau dynol – am un peth, mae hi tu hwnt i’r steroteip (fel arfer mae dihirod yn hyll ag/neu’n anabl/ sâl…ond mae hynny hefyd yn colofn arall).

Ond eto, i mi, a rhai o fy myfyrwyr, y peth mwyaf diddorol yw’r ffaith iddo droi i siarad yn y trydedd person er mwyn allu trafod y llofruddiaeth, thrais, a pethau gwaeth yr oedd wedi bod wrthi’n ei chwblhau. Yn ôl fy myfyrwyr, mae’n bosib hefyd gweld ei eirfa yn newid, ar ôl switso o siarad amdan ei hun, i siarad am y Ted-drygionus. Mae’r mater o pham, sut, a’r goblygiadau, yn ystyriaeth i seicolegwyr disgwrs (discursive psychologists), gan ddefnyddio agweddau o dadansoddiad sgwrs, i’w archwilio.

Ag yn olaf, y ffenomenwn fwyaf diweddar i mi ei ddarganfod – a hynny trwy ddefnyddio ein tyledu-clyfar newydd, hefo ‘amazon firestick’, yw’r gyfres moethus ‘Duwiau Americanaidd’. Yn seiliedig ar nofel gan Neil Gaiman, mae’n cymysgu hanes y Duwiau Norwyaidd (Norse Gods), hefo diwylliant poblogaidd, ac hefo delweddaeth ac awyrgylch hydolus, megis Twin Peaks. Ond, er i mi fwynhau’r wledd synhwyrol yma, fy hoff rhan hyd yma yw rhan o’r deialog o pennod 1, lle mae’r cymeriad ‘Mr Wednesday’ (Ian McShane), yn eistedd yn rhan dosbarth cyntaf yr awyren, yn yfed wisgi, ac mae hyn yn digwydd:

Stiwardes awyr:      Syr, dwi i fod i gymryd dy ddiod di rŵan

My Wednesday:      Ah, ond ti ddim am gwneud nag wyt…achos os oeddet ti am wneud, fysa chi wedi dweud “dwi’n gorfod cymryd dy ddiod di rŵan”, neu “dwi’n mynd i gymryd dy ddiod di rŵan”, ond wnaethoch chi r’un o’r ddau beth naddo? Felly wnai dal y diod neis ag yn dynn, a fedre di fynd a nôl un arall i mi, ac un i fy ffrind (gan amlygu ‘Shadow Moon’, wedi ei chwarae gan Ricky Whittle).

Ac mae hyn, felly, yn portread o agwedd arall o fecaneg iaith – yr hyn yr ydym yn ei ddweud, a’r ffordd union yr ydym yn ei ddweud e, a’r ystyr y mae hyn yn ei chyfleu. Yn ôl y llenyddiaeth ysgolhaig, rydym hefyd yn dechrau ymatebion problemataidd, megis troi lawr gwahoddiad, gan ddweud ‘Oh’. Mae hefyd tystiolaeth bod pobl yn dweud celwydd noeth wrth drïo gwneud pwyntiau pennodol, ac yna yn ‘trwsio’r’ celwydd, gan fynd yn ôl a dweud, er enghraifft: “Wel, mi aeth ei merch i’r brifysgol, yn diwedd, ar ôl straffaglu cael lle, a wnaeth hi ddim mynychu cwrs werth chweil, mewn brifysgol gwerth chweil” – sydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i “wnaeth ei merch hi ddim hyd yn oed mynychu prifysgol”. Ew, diddorol yw dadansoddi iaith, ynte?!

@SerenSiwenna

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn papur bro Wrecsam a’r cylch Y Clawdd, Ebrill 2019, rhifyn 192.

Read Full Post »

Mae hi’n flwyddyn o gerrig filltir yn fy swigen fach bersonol. Mae hi’n ddegawd ers i mi gychwyn y golofn yma, nol yn 2009. Mae hi’n ddegawd ers i mi gael fy wobble mawr am y ffaith fy mod yn troi’n deg-ar-hugain – y creisis chwarter bywyd. Rwyf y nawr, felly, yn deugain, neu bedwardeg – sydd yn garreg filltir yn einioes unrhyw un, amwn i. Yn ôl pob sôn mae bywyd yn dechrau hefo’r garreg filltir yma, felly dwi’n reit obeithiol am sut fydd pethe’n troi allan flwyddyn yma; ac wedi’r cwbl, allen nhw ddim mynd llawer iawn gwaeth na’r flwyddyn ddiwethaf hunllefus!

Rwyf ar hyn o bryd wrthi’n mwynhau fy ngwaith ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac wrth deipio’r golofn yma, dwi’n cadw llygad ar y cloc achos fy mod yn ddarlith am 9.15yb (mae hi’n 8.12yb ar hyn o bryd, a dwi ar ei hol hi yn anfon hwn i Aled fel mai!) Ond rwy’n hapus i ddweud nad wyf yn panicio, achos dwi’n teimlo fod gen i’r gallu i sgwennu hwn mewn digon o bryd a’i hanfon; mae fy ngallu i sgwennu wedi dychwelyd (wel, i’r hyn a oedd hi cyn mynd yn sâl beth bynnag!)

Mae troi’n pedwardeg yn gwneud i rywun adlewyrchu – beth rwyf wedi ei ddysgu yn y bloc cyntaf yma o fy mywyd? Llond fyswn i yn dweud, ac nid yn unig am y byd a’i betws, nag ychwaith am faterion ysgolhaig, ond amdanaf i fy hun. Sut rwy’n ymateb i bethau, a sut fedraf addasu hyn at y dyfodol, er mwyn fwynhau bywyd tawelach a fwy hwylus. Ac yn ddigon ysmala, mae sawl peth ar hyn o bryd yn tryfalu’n berffaith ac felly mae fy nyletswyddau a diddordebau personol ac ymchwil yn berthnasol i’w gilydd.

Yn ôl pob sôn, mae’r ffilm wreiddiol ‘Alien’ hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn bedwardeg, ac i gofnodi’r achlysur, mae’r Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin draw ym mhrifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd. Er fy mod wedi gadael y brifysgol bellach, rwyf dal yn aelod o’r ganolfan ac rwy’n awyddus i gyfrannu ac i fod yn rhan o bob digwyddiad. Fodd bynnag, roedd yna un broblem hefo’r gynhadledd yma – dwi wastad wedi osgoi’r ffilmiau yn y gyfres yma gan nad wyf yn ei hoffi nhw. Damnia medde fi wrth fy hun, ond yna – efallai fod hwn yn gyfle am adlewyrchiad?

Weithiau, mae’n anodd rhoi bys ar pam ein bod ni yn ymateb mewn un ffordd neu’r llall, ac fel yna roedd hi hefo’r ffilmiau yma i ddechrau. Ond wedi i mi eistedd hefo pen a phapur, yn sgwennu’r geiriau cysylltiedig â’r teimladau, mi ddaeth i’r amlwg fod rhywbeth penodol yn fy ngwaredu. Roedd geiriau megis: goo, dripping, gloop, fluids, uneccissary, gratuitous, a yuck ar y papur o’m mlaen. Cefais drafodaeth hefo fy mentor, Dr Roger Slack, a ddaeth a mewnwelediad i fy ngwaith.

Dwi ddim cwbl yn erbyn y genre o ‘arswyd’ (horror). Dwi’n mwynhau ffilmiau am fampirod a zombis. Er fy mod yn cael ymateb reit gorfforol iddynt – teimlo’n pryderes ag ati, dwi ddim yn cael ymateb llawer iawn gwaeth na phobl eraill i bethau megis torri pennau zombiau ffwrdd. Ac felly, mae’n ymddangos, mai rhywbeth i wneud hefo’r agwedd fwy perfeddol (visceral) sy’n fy mhoeni; dwi hefyd yn teimlo fod yna agwedd pwrpasol a dros ben llestri hefo’r ‘xenomorphe’ (yr hyn maent yn galw’r aliwn yn y ffilmiau).

Felly dros y misoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gwneud ymchwil ar y mater. Mae fi a’r gwr wedi gwylio pob ffilm yn y gyfres a’i thrafod. Rydym hefyd wedi gwylio ffilmiau cysylltiedig, megis: Dark Star a The Thing. Rydym wedi trafod y ffilmiau a’r agweddau perfeddol. Rwyf hefyd wedi bod yn darllen y llenyddiaeth ysgolhaig cysylltiedig ac rwyf wedi dod ar draws academydd o’r enw Julia Kristeva, a sgwennodd y llyfr: Powers of horror: an essay on abjection (ymysg sawl peth arall).

Mae’r syniad o ‘abjection’ yn diddorol ac rwyf ar hyn o bryd yn dysgu amdano a sut fedrith helpu i mi ddadansoddi fy nheimladau o ffieidd-dod tuag at y ffilmiau poblogaidd yma. Mae ganddo ei wreiddiau yn seicdreiddiad (psychoanalysis) ac mae o am deimladau goddrychol o arswyd. Yn y modd yma, felly, rwy’n dysgu fwy am fy nheimladau i a hefyd am y genre a’r modd y mae yn cael ei dadansoddi yn ysgolhaig.

Gan ei fod yn ymchwil cyfoes gen i, ac oherwydd natur y cysyniadau damcaniaethol, rwyf hefyd wedi bod yn mwynhau trafod y gwaith hefo fy myfyrwyr sydd yn astudio’r cwrs sylfaen mewn seicoleg; rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r prosiect fel sail enghreifftiau iddynt, megis: sut i lunio poster/ adlewyrchiad/ cynllun traethawd ayyb. Ac felly, mae pob dim yn dechrau gwneud synnwyr yn fy mywyd, yn hytrach na thynnu fi i sawl cyfeiriad gwahanol. Ond, dyma hi’r nawr wedi cyrraedd 9yb, felly dwi am droi’r sgwennu ‘ma trwy ‘Cysill’ ar-lein ac yna ei hanfon i’r Clawdd cyn rhedeg lawr y coridor i addysgu’r myfyrwyr..

Read Full Post »

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi cael amser caled wrth geisio ysgrifennu, mewn unrhyw gyfrwng – sydd wrth gwrs, i mi, yn achosi pryder, gan mai dyna rwyf yn ei wneud yn fy ngwaith ac yn fy amser hamdden. Dechreuais 2018 yn cyhoeddi’n gynhyrchiol ac yn y llefydd cywir: The Conversation; Y Stamp; Yr Esboniadur; Gerddon Fach; Discover Society; DWY erthygl cyfnodolyn perthnasol, ‘Methodological Innovations’ a ‘AlterNative’ – a phob un yn adeiladu ar fy niddordeb ym maes iaith, tafodiaith ac enwau. Wnes i hyd yn oed sefydlu blog dwyieithog, ‘Yr Onomastegydd’, gan greu platfform i rannu fy synfyfyrion am enwau ym mhob agwedd o’n bywydau.

Ond yna daeth y pryder a gyda hi cyfnod gwag, dideimlad, pan roedd yn anodd i mi ganolbwyntio ar unrhyw beth, a throdd ysgrifennu o fod yn weithred cyffroes i fod yn dasg boenus. Wrth i ni dynnu tuag at ddiwedd y flwyddyn anghysurus yma, rwy’n falch cael dweud fy mod wedi dechrau ysgrifennu eto – a hynny heb ormod o straen na phoen. Nawr felly, meddwl oeddwn fyswn yn siarad am y llenyddiaeth ddaeth yn bwysig iawn i mi dros yr haf a’r hydref, wrth geisio ffeindio’r llwybr yn ôl o’r swigen roeddwn ynddi: llenyddiaeth iechyd meddwl merched.

Y llyfr cyntaf ddaeth i fy sylw oedd ‘The Bell Jar’, gan Sylvia Plath. Ddaeth y llyfr yma yn enwog, yn fwy na dim, gan i Plath sgwennu’r stori yma am hunanladdiad, ei chyflwyno i’r cyhoeddwr…ac yna cyflawnodd hunanladdiad. Dyma felly oedd mewnwelediad gan llygad-dyst i’r teimladau ac argyfwng all arwain at y ffenomenon trist yma – persbectif ychwanegol i’r hyn a geir gan y cymdeithasegwyr Durkheim a Douglas a wnaeth astudiaethau meintiol ar ffigyrau hunanladdiad, ac yna astudiaeth fwy ansoddol, yn ôl eu trefn.

Darllenais i hi yn frwdfrydig, gan ei bod hi, felly, o ddiddordeb proffesiynol i mi. Yn wir, pan es ati i sbïo, diddorol oedd gweld faint o ysgolheigion, gan gynnwys hwy o faes meddygol, sydd yn dyfynnu llyfr Plath hyd heddiw, yn y cyfnodolion academaidd, fel enghraifft o brofiad iselder a thriniaeth mewn clinig – gan gynnwys defnydd therapi sioc trydan. Ond, fyddwn yn argymell gofal wrth ei thrin fel hanes bywgraffyddol – er gwaetha’r ffaith ei fod yn seiliedig ar brofiad personol Plath, o gael ei thrin yn ysbyty adnabyddus ‘McLean’, yn Belmont, Massachusetts.

Sgwennodd Plath y llyfr yn wreiddiol o dan y ffugenw ‘Victoria Lucas’. Rhoddodd yr enw ‘Esther Greenwood’ ar y prif gymeriad, a ni wnaeth ei chyflwyno fel gwaith hunan-bywgraffyddol felly. Ond yn fwy na hyn, mae gennym lythyrau Plath i’w mam, yn esbonio: ei bod wedi sylwi fod pobl eisiau darllen am faterion iechyd meddwl, ar ôl gweld ymateb y cyhoedd i lyfr Mary Jane Ward ‘The Snake Pit’, a gwnaed ffilm ohono; ei bod hi felly wedi cymryd ei phrofiadau ei hun a’i gymysgu hefo ffeithiau eraill; a bod hyn oll yn ymdrech i greu ‘pot boiler’, sef, fel dwi’n ei ddeall, yn llyfr fydd yn cadw’r blaidd oddi wrth y drws.

Beth bynnag oedd ei chymhelliad wrth ei hysgrifennu, a faint o ffeithiau personol neu o ymchwil systematig wnaeth hi ei chynnwys, creodd Plath yma campwaith – yn fy marn i beth bynnag. Mae yna faterion hynod o ddiddorol yn cael ei thrafod, gan gynnwys y teimlad o bellter oddi wrth bob dim o’i chwmpas. Un peth nodweddiadol iawn oedd ei bod yn dangos ei llawysgrifen i bobl, gan esbonio ei fod yn edrych yn gwbl wahanol i’w hysgrifen arferol. Gan fod fy llaw ysgrifen i wastad wedi bod yn uffernol o flêr, ac nid wyf yn tueddu o sgwennu rhyw lawer hefo pen dyddiau yma, ac nid wyf wedi sylwi fawr o wahaniaeth. Ond, mae fy steil ysgrifennu wedi altro dwi’n meddwl. Nid yw’n llifo yn yr un ffordd – mae dôn y llais wedi newid – a hyd yn oed yn ddiweddar, lle rwyf wedi llwyddo sgwennu pytiau, mae’r llais dal yn un nad wyf cweit yn gyfarwydd â hi (ac ydw, dwi’n cyfri’r golofn yma yn hynny!)

Wrth i’r pryder fy nghydio, ddaeth yn anodd braidd i hyd yn oed darllen erthyglau cyfnodolyn neu adnoddau ysgolhaig eraill. Troais felly at ffuglen. A beth y mae hogan sy’n dioddef o bryder yn mynd i gael blas arni i’w ddarllen? Wel, pobl yn yr un sefyllfa neu waeth, ynde! Cofiais fod yna ffilm adnabyddus gyda’r teitl diddorol: ‘Girl, interrupted’, oedd am iechyd meddwl. Doeddwn erioed wedi ei weld – dim amser, rhu prysur yn astudio at fy ngradd israddedig…hmm. Wel, dyma gyfle i mi ei fwynhau, meddyliais. Yn handi iawn, gyda help fy IPad ffyddlon, a’r ap. ‘Prime Video’, roedd mynediad at y ffilm yn hawdd a bron yn ‘instant’.

Mae’n seiliedig ar brofiad personol yr awdures, Susanna Kaysen, o pan fuodd hithau yn breswylydd dros dro yn ysbyty ‘McLean’, er, yn y ffilm ei enw yw ‘Claymoore’. Ceir darlun yma, o hogan ifanc sydd yn aros yn yr ysbyty a bron iawn yn gwneud astudiaeth hunanethnograffaidd ohoni. Gan ddechrau hefo’i chyflwr a phrofiadau ei hun, mae hi’n troi ei sylw at ei chyd-breswylwyr, gan nodi disgrifiad ohonynt yn ei llyfr nodiadau. Trwy’r ddyfais stori yma, rydym yn dod i nabod y cymeriadau amrywiol a’r perthnasau rhyngddynt.

Mae yna olygfeydd melys, megis pan mae un hogan wedi ypsetio’n lân yn ei hystafell, ac mae Susanna a Lisa yn eistedd tu allan yn canu “Downtown” (gan Petula Clark) i geisio codi ei hysbryd. Yna, cyn iddi fynd yn rhu delfrydol, mae’r perthnasau rhwng y gennod yn dirywio ac mae yna olygfeydd reit erchyll a syfrdanol, gan gynnwys hiliaeth, casineb a hunanladdiad. Ond ar y cyfan, rhywsut, mae yna deimlad reit ysgafn i’r ffilm, sydd hefo ‘soundtrack’ berthnasol ag addas i’r cyfnod a chyflwyni’r, sef diwedd y chwedegau.

Ar ôl mwynhau’r ffilm, es ati i ddarllen y llyfr y mae’r ffilm yn seiliedig arni. Mae hwn ar ffurf portreadau bychain o wahanol agweddau o fywyd yn yr ysbyty, yn hytrach na naratif cydlynol megis campwaith Plath. Ar adegau, felly, ges i lai o flas arni ac, ar balans, mae’r ffilm yn well – sydd ddim yn rhywbeth rwy’n aml yn ei deimlo. Serch hynny, mae’n llyfr diddorol ac mae’n llawn adlewyrchion difyr, megis y ffaith fod Susanna wedi cael diagnosis o ‘Anhwylder personoliaeth ffiniol’ (borderline personality disorder) – a beth a olygir hyn iddi hi yn bersonol.

Yn ddifyr iawn, mae’r diagnosis yma yn dod a ni’n dwt at y trydydd llyfr o ddiddordeb, sef ‘Rhyddhau’r Cranc’ – ac nagie, nid cyfieithu ydw i yma, llyfr cyfrwng Cymraeg yw hon, yipee! Wnaeth un o fy ffrindiau dynnu fy sylw ati rhai dyddiau yn ôl, yn bennaf oherwydd y teitl diddorol a’i botensial i fod o ddiddordeb onomastaidd. Fodd bynnag, ymdrech yw hon gan Malan Wilkinson i rannu, mor onest â phosib, ei phrofiadau o anhwylder personoliaeth ffiniol – gan gynnwys cael ei rhoi mewn unedau seiciatryddol. Ew. Gwych. Dwi wrthi rŵan yn ei ddarllen, ac yn ei fwynhau – ond, a’r golofn eto’n edrych yn hirach na ddylid hi fod, rhaid cadw’r adolygiad at rywbryd arall!

Read Full Post »

Rhai misoedd yn ôl, welais tweet gan gylchgrawn llenyddol newydd o’r enw Y Stamp; roeddynt yn gofyn a oedd beirdd yn cuddio draw ym Mhrifysgol Bangor (neu eiriau o’r fath). Meddyliais – wel, ddim yn cuddio, ond yn sicr mewn rhyw fath o drwmgwsg, gan nad wyf wedi sgwennu cerdd ers rhyw saith mlynedd bellach – trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag.

Meddyliais yn ôl at pan sefydlais y golofn, a finnau mor frwdfrydig i fod yn rhan o’r sin llenyddol Gymraeg, trwy gyfrannu gwaith creadigol a trwy sgwennu am y sin yn y golofn. Ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn sbïo nôl dros fy ngholofn – sydd y nawr yn ei nawfed flwyddyn bellach (?!), gan sylwi ei fod wedi crwydro sawl gwaith fwy i gyfeiriad y sin academaidd, ac am fy synfyfyrion gyrfaol, yn hytrach na synfyfyrion am yr hyn rwyf wedi bod yn ei darllen, sgwennu neu fynychu.

Mae hyn yn reit naturiol, efallai, gan fod gyrfa academaidd yn cymryd llond o ymdrech i’w lansio, a gan fod rhywfaint o orgyffwrdd yn bodoli hefo fy niddordeb mewn sgwennu’n greadigol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo nawr, a finnau wedi cyrraedd rhyw fath o drobwynt dirfodol, ei fod yn bwysig i mi ail-gydio ar y ffocws gwreiddiol, ac efallai hefyd deffro o fy nhrwmgwsg llenyddol; trwy hyn efallai medraf gofio pwy oeddwn i, cyn i mi weld y gwningen wen academaidd, a phenderfynu ei ddilyn ar antur annisgwyl.

Felly nol at tweet Y Stamp – cliciais ar y linc i fynd at y wefan, er mwyn cael golwg ar bwy oedden nhw a pa fath o gylchgrawn llenyddol roeddynt wrthi’n ei gynhyrchu. Yn amlwg roeddwn braidd yn amheus ac yn sinigaidd – fel rwyf wedi sôn o’r blaen yn y golofn, mi wnaeth un cylchgrawn llenyddol Gymraeg barnu nad oedd fy ngherddi yn, wel, cerddi (shmerddi efallai?!) tra gwnaeth golygyddion cylchgrawn arall newid teitl un o fy ngherddi heb ofyn, a hefyd geiriau allweddol mewn cerdd arall, a wnaeth newid ystyr y gerdd yn gyfan gwbl.

Ond braf iawn yw cael dweud fod Y Stamp yn gylchgrawn cwbl wahanol a llawer iawn fwy cynhwysol. O’r broliant golygyddol, ddes i ddeall fod golygyddion Y Stamp wrthi’n creu gofod copi caled, a hefyd platfform ar-lein, er mwyn estyn cartref i bob math o gyfraniadau, gan bob math o gyfranwyr, mewn kaleidoscope o dafodieithoedd lliwgar. Ew, meddyliais, ys gwn i…

Synfyfyriais ar beth fyddaf yn sgwennu amdano, yn fy nhafodiaith Jaco/ treffin-‘Over the llestri’-aidd. Yna sylweddolais, mi roedd yna ryw syniad am gerdd wedi bod yn ceisio denu fy sylw ers rhai misoedd bellach, rhywbeth oedd yn deillio o fy ngyrfa academaidd, ac o fy niddordeb yn y tafodieithoedd oedd wrthi’n brwydro am ei hawliau draw yn y brifysgol. Ni ddaeth yn hawdd – fel dychwelyd i nofio ar ôl sbel o ddiogi o gwmpas ar y soffa yn bwyta sglodis a Pizza, ond yn y diwedd roeddwn wedi bugeilio rhai syniadau i mewn i ryw fath o siâp ar y tudalen.

Danfonais y gerdd draw at y golygyddion, gan feddwl byswn yn ei phostio ar y blog cw os nad oeddent am ei gyhoeddi. Braf iawn yw cael datgan y cefais brofiad cadarnhaol iawn hefo’r broses olygyddol. Nid yn unig wnaethant gytuno i gyhoeddi’r gerdd, ond ges i gefnogaeth a chyngor ar sut i’w wella – ac roeddwn yn llawer iawn hapusach hefo’r cynnyrch gorffenedig. Rwy’n falch iawn o’r gerdd gan ei fod yn trafod, fel bues yn sôn yn y golofn nol ym mis Ebrill, un o’r heriau fwyaf rwy’n ei wynebu fel darlithydd cyfrwng Gymraeg – ac felly medrwn ei hystyried yn ‘ffuglen gymdeithasegol’ (ond fwy am hynny rhywbryd arall).

Beth bynnag, wythnos diwethaf, ar ddechrau mis Hydref, mi ddaeth dau o olygyddion Y Stamp, Grug Muse ac Iestyn Tyne, draw i lyfrgell Wrecsam i drafod Y Stamp hefo chymdeithas Owain Cyfeiliog, mewn sesiwn wedi ei chadeirio gan Tracy Jaques. Dyma ddau fardd ifanc, disglair a llwyddiannus y sin llenyddol Gymraeg cyfoes, sydd wedi cyhoeddi cyfrolau ei hunain o’u barddoniaeth (ar gael o wefan Y Stamp).

A dyma un o’r pethau fwyaf rhyfeddol am Y Stamp – mae’r bobl dalentog yma yn fodlon treulio eu hamser, yn amyneddgar, i helpu pobl o bob lefel, allu a steil, i olygu eu gwaith nes ei fod yn cyrraedd safon foddhaol i’w gyhoeddi. Mae hyn, yn fy marn i, yn wasanaeth hael, o’r fath nad wyf wedi ei weld o’r blaen. Nid ydynt yn cymryd yn ganiataol eu bod nhw yn gwybod yn well na’r bardd/ awdur eu hunain – dim ond gwneud sylwadau, cynigion, a helpu gneud y cyfraniadau’n ddarllenadwy. Maent yn garedig a ffeind ac mi rwyf yn hollol argymell i chi ei hystyried fel adnodd, os oes gennych awydd cyhoeddi rhyw waith creadigol.

Ar y noson, cawson glywed y beirdd yma’n rhannu eu gwaith nhw, a chafwyd cyfraniadau hefyd gan Holly Gierke, a ddarllenodd ei llen meicro trawiadol, ar bynciau heriol, a chafodd ei gyhoeddi yn rhifyn Gwanwyn 2018 Y Stamp. Mi wnaeth Paul Eistedd cyflwyno gwaith clywedol hynod o ddiddorol am greu geiriau newydd yn y Gymraeg. Ac mi wnaeth bardd y gororau, Aled Lewis Evans, darllen un o’i gerddi ef oedd wedi ei gyhoeddi yn Y Stamp, a hefyd fy ngherdd i, gan ei berfformio llawer iawn gwell na fuaswn i wedi ei wneud.

Diddorol iawn oedd clywed hanes sefydlu Y Stamp yn ystod y noson, gyda Grug Muse yn sôn fod y tîm golygyddol, sydd hefyd yn cynnwys Llŷr Titus a Miriam Elin Jones, wedi ffurfio ar ôl trafod y ffaith nad oedd llwyfan oedd yn dathlu amrywiaeth creadigol drwy gyfrwng Cymraeg – fod yna bwlch pan ddaeth y cylchgronau Tu Chwith a Taliesin i ben. Hefyd, mi roedd y tîm yn benderfynol y byddai’r cylchgrawn yn annibynnol o nawdd, fel na all neb mewn pwyllgor ddod a’r cyhoeddiad i ben trwy chwifio pen. Roeddent am gynnig llwyfan oedd yn agored a chwbl groesawgar.

Difyr yw’r ymrwymiad i fod yn annibynnol o nawdd, sydd wrth gwrs yn diogelu yn erbyn rhywun arall yn tynnu’r plwg ar y fenter. Ond mae yna hefyd agwedd o ymreolaeth ag annibyniaeth yn deillio o fod yn annibynnol o nawdd – fel yr hyn yr wyf wedi bod yn ei arsylwi trwy fy ngwaith ymchwil ym Mro’r Eifl i’r mentrau cydweithredol cymunedol; pobl yn gweithredu drostyn nhw ei hunain, yn hytrach nag aros i rywun rhoi pob dim iddynt ar blât. Os oes bwlch a chi am ei weld yn cael ei llenwi – ewch ati i ffeindio ffordd. Mae hyn yn debyg i’r hyn yr wyf wedi darllen am y cyfnod o sefydlu’r papurau bro nol yn y ‘70au a hefyd yr hyn a gwelwn ni hefo’r Saith Seren yn ddiweddar.

I gloi, rwyf am ddweud fy mod yn gweld Y Stamp fel menter cyffroes iawn, wedi ei harwain gan y genhedlaeth ifanc gyfoes, ac rwy’n edrych ymlaen at wylio wrth iddynt wireddu eu breuddwyd o fod yn llwyfan cynhwysfawr i amrediad eang o fodau creadigol. Gobeithiaf y medrwn ni, yma yn y Gogledd Ddwyrain, ei chefnogi yn eu nod, trwy sicrhau fod ein lleisiau’n cael ei chynnwys yn gyson – gan ateb eu galwad i ni gyd ‘rhoi ein Stamp direidus ni ar y dadeni’.

Read Full Post »

Yn fy ngholofn ddiwethaf, fues yn swnian am y sioc o golli fy nghreadigrwydd, yn sgil straen a thristwch y misoedd diwethaf. Wel, mae’n rhyfeddol fel gall un digwyddiad bach hwylus, disodli’r cwmwl enfawr o rwystredigaeth. Sôn wyf, mis yma, am fynychu lansiad llyfr newydd Yr Athro Angharad Price, o ysgol y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor. Ag yn fwy penodol, am fwynhau ei llyfr yn arw, gan deimlo awydd newydd i geisio sgwennu yn dechrau pigo, wrth i mi hanner breuddwydio trwy’r rhyddiaith fendigedig.

Cynhaliwyd y lansiad yng Ngaleri Caernarfon, sydd rhyw 20 munud o fy swyddfa yma yn y brifysgol, felly es i yn syth o fy ngwaith. Roedd criw go lew wedi ymgasglu i glywed yr areithiau a’r gerddoriaeth fel rhan o’r noson; ac mi roedd yna giw i gael eiliad hefo’r awdur a llofnod ar y llyfr – na wir yr, roedd hi’n fedlam! Yn amlwg, roeddwn wrth fy modd yn cael mynychu soirée o’r fath, a braf iawn oedd clywed cymaint o Gymraeg wrth i bobl sgwrsio a mwynhau ei hunain – mater nodweddiadol o ardal Gaernarfon wrth gwrs. Ond y peth fwyaf trawiadol yw’r llyfr ei hun.

Nawr mae’n debyg fod rhai ohonoch wrthi’n meddwl “llyfr ysgolhaig, uchel-ael, anodd-i’w-ddeall”…a rhaid cyfaddef fy mod wedi poeni am hyn ychydig fy hun; OND, llyfr llawn pytiau annwyl am fywyd pob dydd y dre yw’r llyfr yma, gyda lluniau trawiadol gan Richard Outram, sydd yn dod a’r darllenydd yn agosach at y dirwedd a’r sefyllfaoedd a ddisgrifir.

Diddorol iawn oedd darllen yn y rhagair, fod y llyfr wedi cychwyn fel cyfres o ddarnau byrion am ‘gorneli cudd’ Caernarfon ar gyfer ‘Papur Dre’, sef papur bro Caernarfon. Hefyd yn ddiddorol yw’r ffaith fod Angharad yn ei ddisgrifio nhw fel ‘sgetsys byrion’, gan mai dyna beth ydyn nhw; rhyw 400 o eiriau yn cyfleu teimladau dwfn ac awyrgylch y cyd-destun yn gyfoethog. Mae’r rhyddiaith yn debyg i farddoniaeth, gyda phob gair yn ennill ei le ar y tudalen. Rwy’n gweld ei arddull a chystrawen yn debyg i Jean Rhys, ac mae’r trysor o lyfr yma yn debyg i ‘The Left Bank’, sef casgliad o straeon byr, a oedd Jean hefyd yn ei ddisgrifio fel ‘sgetsys’.

Mae yna synfyfyrion cymdeithasegol yma, megis trafod effaith erydiad caeau chwarae a llefydd i fwynhau, wrth i ‘botensial’ godi tai a datblygu cael ei sylwi (Cae Top). Hefyd, mae’r ffaith ei bod hi wedi penderfynu sgwennu sgets am ‘Parc Sgêtbords Coed Helen’, yn nodweddiadol, gyda’r llun yn ei ddangos mewn olau realaeth foel, yn hytrach na thrio ei rhamanteiddio. Ond rwy’n credu mai ‘Castell Bach Coed Helen’ yw perl y casgliad i mi. Mae’n llawn delweddau a syniadau o blentyndod, wrth chwarae ym myd y dychymyg, sy’n bleserus iawn i’w ddarllen. Felly medraf wir argymell y llyfr yma, sef:

Trysorau Cudd Caernarfon, Angharad Price, lluniau gan Richard Outram.

Gwasg Carreg Gwalch (£12).

Mae’n llyfr i’w fwynhau hefo paned, tro ar ôl tro, gan ei ddefnyddio i gychwyn breuddwyd liw dydd a synfyfyrion braf. Ond i mi, hefyd, mae hi wedi helpu clirio beth bynnag oedd yn rhwystro fy nghreadigrwydd; rwyf wedi fy ysbrydoli i geisio sgwennu’n greadigol, a hynny unwaith eto yn y steil rwyf wedi edmygu ers rhyw ddegawd bellach (ers ‘fy nghyfnod mawr Jean Rhys’). Rwyf am geisio fod yn ddarbodus hefo geiriau – yn hytrach na fy rwdlan arferol, i geisio creu sgetsys atgofus, sy’n cwmpasu naws a theimlad rhyw le neu ryw adeg arbennig. Hyfryd o deimlad i gael yn ôl yw hyn.

Cafodd y colofn yma ei gyhoeddi’n wreiddiol yn Y Clawdd/ This column was originally published in Y Clawdd.

Read Full Post »

Older Posts »