Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2011

              Dros y misoedd diwethaf y mae llawer o ddigwyddiadau bychain wedi fy atgoffa o gyfnod yn fy mywyd pan fues braidd yn anesmwyth a’r ffaith fy mod yn ‘heneiddio’, yn croesi’r ffin o un categori i’r llall, ac mi roeddwn yn ansicr iawn o’n hun; yn blwmp ac yn blaen mi roeddwn yn cael ‘argyfwng dirfodol’ (neu existential crisis ynde!) Mae hyn yn ffenomenon cyffredin wrth gwrs, gyda llwythi o ffilmiau, llyfrau, cyfresi teledu a jôcs wedi ei selio ar hyn fel y thema ganolog, ond gan amlaf cyfeirio at y ‘creisis canol oed’ ydynt.

                 Yn fy achos i fodd bynnag yr hyn a oedd yn gyfrifol am beri’r argyfwng oedd y ffaith fod fy mhen-blwydd trideg (neu deg-ar-hugain?!) yn nesáu a finnau’n gwingo wrth geisio dygymod a’r goblygiadau; erbyn hyn, er enghraifft, roeddwn wedi disgwyl y byddwn wedi hen orffen astudio, wedi fy setlo mewn gyrfa lwyddiannus, yn briod gyda thŷ bach neis, car, ella ci, ac yn sicr gyda digon o bres i fedru fforddio prynu anrhegion ‘dolig i’r teulu. Ond, fel y mae bywyd weithiau, nid fel hyn yr oedd pethau wedi troi allan a ddes i deimlo fy mod braidd yn fethiant, a fy mod wedi fy nal mewn rhyw fath o lasoed parhaol.

                  Am fisoedd maith fues yn pendroni ac yn dwrdio’n hun, ac yn swnian wrth bawb oedd yn fodlon gwrando (a rhai nad oedd ganddynt ddewis!) am y trychineb o beidio teimlo fy mod “yn y lle ddyliwn i fod hefo’n fywyd erbyn hyn”, a’r ffaith fod Frank Skinner unwaith wedi dweud fod merched dros 30 yn “rough as old boots”, a’r ffaith fod y geiriau i “Time” gan Pink Floyd wedi dechrau gwneud andros o synnwyr ac yn fy mhoenydio dydd a nos! (“Every year is getting shorter/ never seem to find the time/ plans that either come to nought/ or half a page of scribbled lines”).

                  Fuodd hyn yn broses ddefnyddiol a ffrwythlon fodd bynnag, ac o’r sgyrsiau yma mi ddois i sylweddoli fod llawer o bobl, yn enwedig merched, yn teimlo’r un fath o beth wrth iddynt dynnu tuag at adeg yma o’i bywydau. Mi ddwedodd un ffrind i mi ei bod hithau wedi gorfod mynd ar ei gwyliau ac yfed galwynau o win coch i ymdopi a’i phen-blwydd ‘trideg’ a’r ‘creisis chwarter bywyd’. Sylwais a’r cyfeiriadau ati ar y teledu, gan gynnwys Rachel yn y gyfres ‘Friends’ a ddwedodd un episod: Because she’s a woman and she’s almost 30 and you know…because she’s Monika!” Adlewyrchais hefyd fod ‘theme tune’ y gyfres yn adlewyrchu’r emosiynau’n berffaith: “…it’s like you’re always stuck in second gear/ when it hasn’t been your day, your week, your month or even your year…” ac mewn ffordd dyma oedd thema’r gyfres mewn gwirionedd, ‘mond fy mod heb sylwi hyn cyn rŵan, gan feddwl mai am gyfeillgarwch a byw bywyd hudol yn y ddinas ydoedd!

                  Yr esiampl fwyaf trawiadol fodd bynnag yw monolog Etta Place (aka Katherine Ross) yn y ffilm ‘Butch Cassidy and the Sundance kid’ wrth iddi ymateb i wahoddiad anfoesgar y Sundance kid (aka Robert Redfod):“I’m 26, and I’m single, and a school teacher, and that’s the bottom of the pit. And the only excitement I’ve known is here with me now. I’ll go with you, and I won’t whine, and I’ll sew your socks, and I’ll stitch you when you’re wounded, and I’ll do anything you ask of me except one thing: I won’t watch you die. I’ll miss that scene if you don’t mind.”

             Fel y gwelwn felly, mae ffiniau’r oedran perthnasol yn hyblyg ac nid o angenrheidrwydd yr un pen-blwydd carreg filltir sy’n achosi panig! Fuodd un o’m ffrindiau fi yn ddiweddar ar ‘facebook’ yn poeni am droi’n 32 gan nad oedd hi’n teimlo’n hapus a’i gyrfa erbyn hyn. Y mae yna ymwybyddiaeth yn tyfu erbyn hyn o’r ffaith fod trideg yn garreg filltir eithaf poenus i rai ac mae yna hyd yn oed llyfrau hunangymorth ar gael ar y pwnc (dwi’n gwybod achos mi ges i un yn anrheg!)

                Eniwe, serch hyn i gyd mi gefais ben-blwydd ardderchog: aros mewn gwesty hyfryd, cael bwyd yn Y Felin Ŷd, gyda’r teulu i gyd, ac yr wyf wedi dysgu erbyn hyn i o leiaf troedio’r dŵr, yn hytrach na phoenydio’n hun amdano. Efallai fod Pink Floyd eto hefo eiriau doeth i’w gynnig: “When I was a child/ I caught a fleeting glimpse/ out of the corner of my eye/  I turned to look but it was gone/ I cannot put my finger on it now/ the child is grown/ the dream is gone/ I…have become, comfortably numb”. Yn yr un ysbryd a chaneuon Pink Floyd fan hyn, mi sgwennais gerdd am fy mhoenedigaeth, yn a mewngapsiwleiddio’r chwerwder ac rwyf am ei rhannu hefo chwi isod.

                 Ond a’r nodyn mwy positif, mi welais yn eithaf diweddar raglen realaeth Kerry Katona, a chafodd hi barti i ddathlu‘r ffaith ei fod ar fin croesir trothwy ac yn cychwyn amrediad oed newydd, gan adael y sothach negatif y tu ôl iddi (ac mae’r ferch wedi bod yn hynod o anlwcus gyda’r llaw o gardiau’ (trosiadol) a ddeliwyd. Trawiadol iawn oedd agwedd Kerry ar y mater, ac yn ysbrydoliaeth. Wedi dweud hynny yr wyf innau hefyd yn llawer iawn fwy positif nag oeddwn i pan sgwennais y gerdd isod, ac mi basiodd fy mhen-blwydd 30 (am y trydydd tro!) flwyddyn yma bron heb ffws na stŵr! Ac wrth i mi dynnu tuag at ddiwedd fy noethuriaeth, a minnau nawr yn briod ac yn byw mewn tŷ bach twt yn Cilgwri, gyda chegin llechi a chrochenwaith Portmeirion, efallai gallaf amgyffred a’r syniad o fod yn hynach na tri-deg y flwyddyn nesaf…a bod yn barod, o’r diwedd, i wynebu’r dyfodol fel oedolyn diffuant!

                 Eniwe, dyma hi’r gerdd, a chofiwch gellwch ddarllen/ lawr lwytho fwy o fy ngwaith, ynghyd a’r cyn colofnau Synfyfyrion llenyddol o fy ngwefan: http://www.saralouisewheeler.wordpress.com 

30

Gwallt yn llwydi, gwasg yn lledaenu,

crychion ysgafn yn patrymu’r croen,

o amgylch fy llygaid blinedig.

Ddim eto’n hen, ag eto ddim yn ifainc,

bwgan y ddeg-ar-hugain yn fy helfa,

trwy’r byd effro ac yn fy nghwsg.

Ddim yn briod, ddim yn llwyddiant,

ddim yn hydal hyd yn oed.

Pendroni’n ddiflas am fy methiannau,

 cyn lleied yr wyf wedi ei wneud,

a’r chymaint na wnes i eto,

dros gyfnod fy einioes ddibwys.

 

Ni freuddwydiais am foethusrwydd,

enwogrwydd na gogoniant ychwaith,

ond meddyliais y byddaf, erbyn hyn,

â mwy i ymfalchïo ynddi.

Lle aeth pethe o chwith tybed?

i’r hogan fach hapus, llawn brwdfrydedd?

Ddim yn brydferth, ag eto’n reit ddel,

yn synhwyrol, heb fod yn rhagorol.

Yn ddigon clên hefyd, cyn i’r cymylau casglu,

a ddim am ddiffyg ymdrechu mae’r bai.

Mae fy mywyd braidd yn siom i mi felly,

Ac yn aml mae’r felan yn codi ynddo i.

 

Ag eto wrth i mi heneiddio,

mae’r dicter milain yn ymdawelu.

Rwy’n hidio llai, ac yn derbyn fwy,

yr hyn a dynghedwyd i mi.

Y mae’n rhaid cyfaddef, rwyf weithiau’n ymfalchïo,

yn fy nhristwch a digalondid.

Ella’n wir mai dyma fy nawn,

i berffeithio melys wylo.

Eto i gyd, ella mai dryswch,

Sy’n fy ngafael yn fy argyfwng..

Gobeithiaf pan yr wy’n cwrdd â’r bwgan,

Y daw pethau’n gliriach i mi unwaith eto.

 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Ebrill 2011 (Rhifyn 144)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, April 2011 (Issue 144).

Read Full Post »