Yn ôl yn rhifyn mis Chwefror 2010 o’r Clawdd, fues yn sôn yn fy ngholofn am y cysyniad o ‘nostalgia’. Synfyfyriais am y gair Saesneg, a’r genre o lenyddiaeth a chelf teimlais oedd yn mewngapsiwleiddio’r emosiwn melys-chwerw cysylltais hefo’r gair. Taerais mai teimladau cynnes a cysurus oedd yma, o oes aur pan oedd bywyd yn fwy syml a naïf. Am atgofion annwyl a necsws o gynefindra. Soniais yn frwdfrydig am ganeuon John Denver o fywyd cefn gwlad yn Starwood yn Aspen, gwaith celf Valériane Leblond yn darlunio bythynnod gwyngalch yn fryniau Ceredigion, a nofel Mari Strachen am fywyd mewn cymuned Gymreig yn y 1950au.
Ar y pryd roedd gen i syniadau cadarn am natur ‘nostalgia’. Cwynais nad oedd ein gair Cymraeg – ‘hiraeth’ yn ddigon agos o ran ystyr i wneud cyfiawnder i’r emosiwn roeddwn yn ceisio ei ddisgrifio. Roeddwn wedi cynnal trafodaeth ar maes-e.com ac roedden ni gyd wedi cytuno fod y gair ‘hiraeth’ hefo teimlad mwy trist iddo, am rywbeth yr oedden ni wedi ei golli. Roeddwn hefyd wedi cael trafodaeth ddiddorol hefo ieithydd am y ffaith fod yna bylchau o ran geiriau i ddisgrifio amrywiaeth o bethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly cynigais fod yna efallai cyfle yma i ni greu gair newydd, gan efallai ychwanegu cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, i greu geiriau newydd ar gyfer arlliwiau fel hyn.
Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf rwyf wedi dod ar draws sawl peth sydd wedi achosi i mi ailfeddwl y cysyniadau o ‘nostaligia’ a ‘hiraeth’. Yr wyf y nawr yn deall eu bod nhw yn llawer iawn gwell adlewyrchiad o’i gilydd, a’i bod nhw wedi bod yn newidiol trwy hanes, ac maent yn cael eu hadolygu a’u hailwampio yn gyson. Felly colofn yw hon hefo’r nod o ail-agor y drafodaeth am ‘nostalgia’ a ‘hiraeth’, gan obeithio denu un neu ddau o gyfraniadau gan ddarllenwyr y golofn.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, fynychais gynhadledd hunan/bywgraffiad y British Sociological Association yn Rhydychen (Oxford). Yn un o’r sesiynau, mi roedd Hilary Dickinson a Michael Erben yn cyflwyno gwaith ymchwil y roeddent wedi ei wneud ar ‘Nostalgia and Auto/Biography’. Roeddent wedi gwneud gwaith empeiraidd, sef casglu gwybodaeth gan gyfranogwyr, gan hefyd gwneud gwaith damcaniaethol ar y cysyniad o ‘nostalgia’, a’i gyhoeddi fel llyfr defnyddiol (prynais un ar unwaith ar ôl clywed beth oedd ynddi!)
Tarddiad y gair ‘nostalgia’ oedd diagnosis meddygol. Yn 1688, mi wnaeth Johannes Hofer, meddyg o’r Swistir, cymryd y geiriau Groeg ‘nostos’, sy’n golygu cartref, ac ‘algia’, sy’n golygu poen neu dristwch, i ddynodi dyheu patholegol am wlad ein hunain. Nid oedd y cysyniad o ‘homesickness’ yn un newydd, ac mi roedd yna eiriau mewn sawl iaith Ewropeaidd i’w ddisgrifio (ond efallai ddim yn y Gymraeg, gan mai’r gair yn y geiriadur cyfoes ar gyfer homesickness yw ‘hiraethus’). Beth oedd yn newydd, oedd y ffaith fod y cyflwr y nawr yn cael ei dyrchafu i fod yn salwch, yn hytrach nag yn unig yn emosiwn. Yn wir, mae Dickinson ac Erben wedi cynnwys tablau, sy’n cynnwys data o gofnodion meddygol Rhyfel Cartref America, sy’n dangos ‘nostaligia’ ar y rhestr o glefydon megis ‘llid yr ymennydd’ a ‘parlys’. Yn y tabl sy’n cyflwyno data am y flwyddyn 1863, mi wnaeth 2,016 o filwyr dioddef o’r salwch o nostalgia, gyda 12 marwolaeth yn cael eu cofnodi hefo nostalgia fel y rheswm.
Mae hyn efallai yn anodd i ni ddeall heddiw, o safbwynt ein pentref-byd-eang. Ond os feddyliwn yn ôl at gyfnod lle’r oedd pobl yn llai tueddol o symud o’i hardal genedigaeth, a cyn i deledu rhoi gwybodaeth i ni am y byd tu hwnt, ac yna’n meddwl am dynion ifanc, gyda theimlad o berthyn cryf i’w cymunedau, mae hi efallai yn haws i’w ddeall, o leiaf ar lefel cysyniadol. Yn amlwg nid oedd meddygaeth y cyfnod cystal â heddiw, ac mae’n debyg fod rhai o’r 2,016 clefyd uchod yn tarddu o heintiau neu niwed mewnol anweledig. Ond nid yw’n hollol tu hwnt i’r dychymyg i feddwl efallai fod rhai yn profi’r rhwyg oddi cartref yn ddigon i’w gwneud nhw’n andros o sâl. Mae’n fyn atgoffa i o’r gerdd Y Pabi Coch, gan I.D.Hooson, yn enwedig y pennill olaf:
Ond rhywun â didostur law
A’th gipiodd o’th gynefin draw
I estron fro, a chyn y wawr
Syrthiaist â’th waed yn lliwio’r llawr.
Dros y blynyddoedd mae’r gair ‘nostalgia’, ac rwy’n amau’r gair ‘hiraeth’ hefyd, wedi siglo rhwng disgrifiadau o salwch ac emosiwn. Mae’r rhethreg fwyaf diweddar (yn sgil Brexit) yn ei ail-lunio fel rhyw fath o salwch meddwl, megis hunan-serch (narcissism). Hiraethu am oes aur yr ymerodraeth Brydeinig, pan oedd rhagfarn a hiliaeth yn dderbyniol ac roedd uwchraddoldeb (superiority) pobl Brydeinig gwyn yn cael ei gymryd yn ganiataol.
Mae’r siglo yma, o gysyniadu hiraeth fel salwch ac yna ddim, yn debyg i’r ffenomenwn o ‘meddygoleiddio’ (medicalization) a ‘dad-meddygoleiddio’ (demedicalization), sef cysyniadau cymdeithasegol rwyf yn ei addysgu fel darlithydd…ond mae hynna’n stori am rywbryd arall. Am rŵan, mi wnaf gau’r golofn yma gan ddweud fod y geiriau ‘nostalgia’ a ‘hiraeth’ yn fwy cymhleth nag oeddwn wedi ei sylweddoli. Byddaf yn sicr yn gwneud fwy o synfyfyrio amdanynt yn y dyfodol – gan obeithio cael trafodaeth hefo chi’r darllenwyr.