Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for the ‘Rwdlan a Bwhwman’ Category

           Pan es ati yn wreiddiol i lunio’r wefan yma doeddwn i ddim yn deall rhyw lawer am ‘blogio’; fy mwriad oedd creu wefan arferol er mwyn cael rhywle i gasglu fy ngwaith creadigol, megis fy marddoniaeth a straeon byr, a hefyd fy ngholofnau (Synfyfyrion Llenyddol) wedi iddyn nhw ymddangos yn Y Clawdd. Ond dim ond rhyw saith colofn y flwyddyn yr wyf yn ei sgwennu a dim ond ryw lond llaw o gerddi oedd gen i wedi ei chyhoeddi. Cyn pen dim roeddwn wedi sylwi fy mod ond yn postio unwaith y mis tra bod blogwyr eraill yn tueddu o bostio o leiaf pob wythnos, os nad pob dydd.

            Pendronais y broblem am fisoedd. Darllenais bloggiau pobl eraill a ddes i ddeall mai sylwadau ar wleidyddiaeth oedd rhai, tra bod eraill fwy fel dyddiaduron. Er bod y syniad o rain yn apelio ataf, pwrpas fy ngwefan i oedd rhannu a hyrwyddo fy ngwaith creadigol, fel gall unrhyw un ddod at y wefan, o unrhyw ran o’r byd, a phori’r archif a’r hafan, gan ddod i wybod amdanaf fel awdures, bardd a newyddiadures a hefyd darllen fy ngwaith…ac efallai cynnig book-deal i mi! Os dechreuaf bostio llif-ymwybod a sylwadau ar y blog, peryg i fy ngwaith creadigol fynd ar goll yn y white-noise.

            Dechreuais blog arall yn y Saesneg er mwyn cael bloggio yn y gwir ystyr, fwy fel dyddiadur, ond rwyf dal eisiau postio’n fwy rheolaidd yma – os am ddim rheswm arall ond i hybu ymwybyddiaeth o’r blog a denu fwy o ddarllenwyr! Ar ôl postio un neu ddau o straeon byr a cherddi sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn ffeindio rhywle i’w cyhoeddi, penderfynais greu ‘colofn ar-lein’ fel ychwanegiad i fy ngholofn papur bro, lle allaf archwilio syniadau sydd gen i ar y gweill, gan gynnwys rhai sy’n synfyfyrion ieithyddol neu gyffredinol na rhai llenyddol. Gallaf hefyd trafod pynciau/ digwyddiadau a fyddent yn ddarfodedig erbyn iddynt fynd trwy’r broses cyhoeddi i fy ngholofn arferol. Penderfynais alw fy ngholofn newydd sbon yn: Rwdlan a bwhwman, gan mai dyna yr wyf wrthi yn gwneud a fy mywyd, mae’n ymddangos, wrth i mi straffaglu i greu cilfach i’n hun fel awdures, fardd a newyddiadures.

            Iawn medde chwi, ond beth sydd gan hyn i gyd i wneud a ‘Hoff Gerddi Cymru’? Wel, fel mae’n digwydd, fe ddaeth pwnc addas i fy ngholofn newydd i’r gweill dros y dyddiau diwethaf yma, ar ffurf lythyr a chyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg ac felly dyma fi wedi mynd ati i sgwennu’r ‘colofn’ cyntaf.

            Yng nghopi Golwg Medi 16, 2010 mi roedd yna lythyr, wedi ei hysgrifennu gan Elinor Wyn Reynolds, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion i Wasg Gomer. Yn ei llythyr mi roedd Elinor yn sôn bod deng mlynedd wedi pasio ers cyhoeddi’r gyfrol: Hoff Gerddi Cymru ac felly mae Gomer am ychwanegu at y casgliad gan gyhoeddi: Mwy o hoff Gerddi Cymru. Aeth Elinor ymlaen i annog darllenwyr Golwg i roi gwybod i Gomer pa gerddi yw ei ffefrynnau – hir neu fyr, hen neu newydd, astrus ac uchel ael neu rigwm/ cwpled – does dim ots medde nhw, cyn belled ei bod nhw’n ffefrynnau gennym.

            Wel, yn naturiol mi roedd hyn o ddiddordeb mawr i mi ac es ati i ddewis tair o’m hoff gerddi gan fy llenyddiaeth-idol: Aled Lewis Evans, gan gynnwys cerdd fach ddiymhongar o’r enw: ‘Lliw duw’ o’i gyfrol: Dim angen creu teledu yma. Anfonais fy newisiadau i Elinor ar ffurf e-bost i: Elinor@gomer.co.uk

            Nawr te, gobeithiaf na fyddech yn gweld hyn fel hunan-serch ar fy rhan i ond dechreuais sidro’r posibiliad o gael un o fy ngherddi i yn y gyfrol. “Ond wyt ti’n fardd ac a oes gennych gerddi sydd wedi ei chyhoeddi a’i darllen…yn ddigon iddynt gael ei hystyried yn ffefrynnau?” (rwy’n eich clywed chi’n gofyn!) Wel, mae gen i un neu ddau o gerddi sydd wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tu Chwith, ac maent hefyd wedi ei gyhoeddi yma, sydd, mewn ffordd, yn ei chyhoeddi ai cyflwyno i unrhyw un yn y byd sydd hefo mynediad i’r we.

           Yn ogystal â hyn mae gen i un gerdd – Pam fod brechdanau’n fenywaidd? (A chwestiynau difyr eraill) sydd wedi ei gyhoeddi yn Y Clawdd, fel rhan o fy ngholofn ac sydd felly, yn ôl cylchrediad Y Clawdd, wedi ei gyhoeddi 600 o weithiau ac wedi ei dosbarthu i sawl cartref yn ardal Wrecsam (a thu hwnt i ‘alltudion’) a’i ddarllen gan gryn nifer o bobl. Cafodd y gerdd cryn sylw ar ôl ei chyhoeddi, gan gynnwys llythyr a cherdd yn ymateb i’r cwestiynau ynddi gan un o ddarllenwyr Y Clawdd; mi fydd y llythyr a’r gerdd yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn nesaf Y Clawdd. Yn ogystal, cafodd y gerdd ei gyhoeddi yn ddiweddar yng nghylchgrawn ar-lein ‘Voice’ (United Press) ynghyd a fersiwn Saesneg o’r gerdd. Gellir darllen y gerdd (fersiwn Cymraeg a’r Saesneg) yma ar yr hafan neu gwasgwch y ddolen ‘Barddoniaeth’.

           Ac y nawr, yr wyf wedi rwdlan ar y pwnc yma am dros i wyth cant o eiriau a well i mi cau’r colofn-we yma cyn iddi fynd yn rhu hir i neb boddran ei ddarllen. Hoffwn gau felly gan eich annog i bleidleisio dros eich hoff gerdd yn arolwg barn Gwasg Gomer, pryn bynnag cerdd gan bwy bynnag yr ydych yn ei ddewis fel ffefryn. Mae’n bwysig fod mentrau fel hyn yn cael cefnogaeth a sylw a hefyd ei bod nhw’n adlewyrchu chwaeth y cyhoedd yn gyffredinol, yn hytrach na chylch cyfyng, breintiedig o ysgrifenwyr a chyhoeddwyr. Craidd llenyddiaeth yw difyrru a dod a phleser a chysur i bob un ohonom ni, mewn amserau hwylus a thrist.

           Fy mreuddwyd fwyaf yw cyhoeddi ryw waith llenyddol sydd yn ffitio’r disgrifiad uchod, boed e’n gerdd neu nofel, neu hyd yn oed cân pop, pwy a ŵyr? Dwn i’m os wyf eto wedi cyrraedd fy nghamre ac wedi creu eto fy ‘American Pie’, ‘Nant y Mynydd’ neu fy ‘Wide Sargasso Sea’  ond os wyf wedi dod yn agos ati, ‘Pam fod brechdanau’n fenywaidd?’ yw hi ac, os ydych wedi ei ddarllen ac wedi ei fwynhau ddigon i’w cynnig fel un o’ch ffefrynnau, mi fyddaf wrth fy modd!          

(Ôl nodyn: Y mae’n rhaid anfon yr e-bost cyn diwedd mis Medi gan ei bod nhw am gyhoeddi erbyn Nadolig felly ewch ati dros y Chwe diwrnod nesaf!)

This article is the first of my new online column ‘Rwdlan a Bwhwman’ (drifting and prattling)

Read Full Post »