“Beth yw pwynt ffuglen?”
Dyma’r cwestiwn chwithig a ofynnwyd i mi un tro, gan rywun roeddwn prin yn ei nabod, wrth i mi eistedd hefo fy nhrwyn mewn nofel tra roedd pawb arall wedi bod wrthi’n brysio o gwmpas gyda’i ysbienddrychau ar drip gwylio adar. Nawr te, dwi’n mwynhau gwylio adar, ond mae’n gallu bod yn hobi reit danbaid weithiau, yn enwedig os mai cwbl sydd o gwmpas i’w weld yw LBJs (little brown jobs); ar adegau fel hyn mae cymryd seibiant bach, gyda ‘chydig o ffuglen, ac efallai Kit Kat, yn ddymunol iawn ac yn ailfywiogi rhywun. Wrth gwrs, ar yr adeg mi roedd y cwestiwn i fod yn un rhethregol, wedi ei ofyn gan gwrthwynebydd-llenyddiaeth i wneud i mi deimlo’n anghyffyrddus; ond yn ddigon ysmala achosodd i mi ystyried y mater yn o ddifri am y tro cyntaf – ac rwyf wedi bod wrthi ers hynny i ddweud y gwir! Ar yr adeg, cynigais y syniad fod ffuglen yn fodd o adloniant, rhyddhad ac ‘escapism’…a daeth yr ateb swrth (a braidd yn dwp) ganddo “Ond dwi’n cael hynna trwy wylio Coronation Street”. Sidrais tynnu sylw at y ffaith fod operâu sebon hefyd yn fath o ffuglen a bod awdur wedi ysgrifennu’r storïau ynddynt a llunio’r cymeriadau – ond penderfynais fod well gen i ddatgyweddu o’r sgwrs cyn gyflymed a medraf, gan nad oedd ganddo ddim byd diddorol i’w ddweud ar y mater; dywedais rywbeth niwtral fel “O, dwi’n gweld” cyn troi yn ôl at fy llyfr. Ond mae’r cwestiwn wedi aros hefo fi ers hynny, ac yn ddiweddar mi wnes i ei droi’n fwy penodol ar y genre arswyd, gan sidro – “Pam ydw i’n mwynhau gwylio pethau sy’n fy nychryn – beth yw pwynt y genre arswyd?”
Yn ddiweddar yr ydym wedi gweld y gyfres Americanaidd “The Walking Dead” yn dychwelyd i’n setiau teledu, gyda hwyl a helynt y criw o oroeswyr wrth iddynt osgoi cael ei dal a’i bwyta (neu ei ‘troi’) gan zombies mewn byd ôl apocalyptaidd. Seiliwyd ar y gyfres llyfrau comig o’r un enw, ac mae’r gyfres teledu wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn America – gyda ‘Neilsen ratings’ da, gan gynnwys 9 miliwn wylwyr am yr episod olaf o’r ail gyfres. Mae’r ymateb ochr yma o’r dŵr, fodd bynnag, wedi bod yn fwy cymysg, gyda rhai blogwyr yn ei beirniadu’n hallt am ganolbwyntio gormod ar y criw o oroeswyr, a ddim digon ar y zombies. Mi rydw i, fodd bynnag, wrth fy modd hefo’r gyfres – a hynny er gwaetha’r ffaith fy mod ofn bron pob dim dan haul, gan gynnwys y tywyllwch a chysgod fy hun os wyf yn y tŷ ar ben fy hun!
Fel cymdeithasegwr, mae’n ddigon naturiol fy mod yn mwynhau’r ffocws ar y goroeswyr: e.e. beth fyddai pobl yn gwneud mewn sefyllfa fel hyn? Faint o amser fydda hi’n ei gymryd nes i ochr tywyll natur ddynol ddod i’r amlwg? Rhaid dweud cefais ysgytiad pan wyliais yr episod lle mae Shane yn saethu Otis a’i adael i’w tynged yn nwylo’r zombies tra bod ef ei hun yn dianc! Ond mewn gwirionedd rydym yn gwybod fod pobl gyffredin a’r gallu i fod yn hynod o ffiaidd dan yr amgylchiadau cywir – fel profodd Stanley Milgram yn ei astudiaeth ar ufudd-dod. Felly allaf ddweud mai chwilfrydedd deallusol sydd wrth wraidd fy mwynhad o’r gyfres yma, a bod y stori o zombies ddim ond yn darparu’r modd o archwilio hyn. Yn sicr byddaf yn ei fwynhau hyd yn oed heb zombie mewn golwg, gan ymfalchïo’n gyfan gwbl yn stori’r goroeswyr – wedi’r cwbl, nid ydym yn cael manylion yr apocalyps wrth wraidd “The Handmaid’s Tale” ond mae’n stori ddiddorol iawn hebddi. Ond rwy’n teimlo fod yna fwy i’r ffenomenon na hyn.
Yn sicr mae gen i ddiddordeb yn y syniad o epidemig o ryw fath sy’n gyfrifol am droi pobl iach yn zombies; allaf ddim cweit esbonio pam ‘chwaith, ond rwy’n credu ein bod ni gyd yn ymddiddori ryw faint mewn achlysuron hanesyddol megis “Y pla” neu’r “marwolaeth du”. Mae’r dychymyg yn crwydro – lle ddechreuodd yr haint? Roedd e’n un naturiol neu a chafodd ei greu mewn lab? Ai jest yn America yntau yw e wedi mynd yn fyd-eang? Cawsom gip olwg ar amlygiad yr haint pan fuodd y criw yn ymweld â’r CDC (Centre for Disease Control and Prevention) lle mae Dr Edwin Jenner (gwrogaeth!) wedi bod wrthi yn ei astudio, ac mae e’n esbonio i’r criw sut mae’r haint yn lladd y claf ac yna mae rhan o’r ymennydd yn ail-danio, ac mae’r meirw yn codi ac yn cerdded i chwilio am bobl i’w fwyta. Yn sicr felly mae’r posibiliadau gwyddoniaethol o ddiddordeb i lawer ohonom – mae’r ffaith fod y manylion hyn yn cael ei thrafod yn y gyfres ac mewn ffilmiau tebyg, megis “I am legend”, yn tystio i hyn; ond rwy’n credu hefyd efallai fod ene rhywbeth yn yr arswyd ei hun sy’n atyniad?
Er fy mod yn gwylio cryn gymaint o’r gyfres o du ôl i fy nwylo, gan gydio mewn cwshin neu ochr y sofa, rwyf dal yn ei fwynhau – ond pam? Wrth bendroni’r mater, mae’r syniad o ffuglen ‘thriller’ yn dod yn fwy eglur fel cysyniad dwi’n meddwl. Mae’r gyfres yn rhaglenni reit hwyr yn y nos (i mi beth bynnag) ac rwyf fel arfer yn stryglo i wylio’r teledu adeg yna o’r nôs, ac i ganolbwyntio ar unrhyw stori, heb sôn am wylio hefo llygaid crwn ac yn teimlo’n hollol effro ac yn barod i redeg lawr y stryd i ddianc rhag zombies! Rwy’n amau felly fod yr arswyd ei hun yn rhan o’r atyniad. Mewn gwirionedd rydw i eisiau byw bywyd tawel, diogel…ac yn sicr ddim eisiau cael fy helfa gan zombies! Ond mae hi’n rhan o natur bodau dynol i fod a’r gallu i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd bygythiol, yn enwedig peryglon corfforol gwirioneddol (megis Llewod neu dylwyth dieithr) yn hytrach na ‘peryglon’ y byd modern (megis siarad yn gyhoeddus neu ddyddiad cau ar y gorwel)…ac felly efallai mai dyma sydd wrth wraidd ‘pwynt’ y genres ‘arswyd’ a ‘thrillers’: maent yn rhyddhau hyn am ychydig funudau ac yn ein galluogi i ailgysylltu a’n ochr cysefin?
Efallai fy mod wedi gwneud pwyntiau ardderchog am y ‘genres’ yn yr erthygl yma…neu efallai mai jest siarad rwtsh yr wyf wedi ei wneud – ond y pwynt yw, rwyf wedi mwynhau gwneud. Ac felly, i ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol: pwynt ffuglen, os oes angen ei chyfiawnhau, yw’r cyfle i drafod, arsylwi ac, yn bennaf, i fwynhau. Dros y misoedd diweddar yr wyf wedi bod yn llawer iawn fwy blinedig nag arferol, hefo llai o egni ac felly ddim yn mentro allan ryw lawer ar ôl gwaith – yn wir yr wyf wedi bod fel un o’r ‘cerddwyr marwaidd’ o’r gyfres dan sylw! Ac pan mae rhywun yn y sefyllfa yma, mae ‘pwynt’ ffuglen yn dod yn llawer iawn cliriach; digon hawdd i bobl iach gwawdio nyrds am gwastraffu ei hamser ar ffuglen, pan ddylent fod allan yn gwneud rhywbeth fwy deinamig…ond pan nad yw’n bosib gwneud rhyw lawer arall, mae ffuglen yn gymorth a hyd yn oed yn therapi.
Yn ddigon ysmala yr wyf wedi bod yn teimlo ychydig yn well yn ddiweddar ac edrychaf ymlaen at gael ychydig o cydbwysedd yn ôl rhwng mwyhau ffuglen a mynd allan i wneud pethau ‘deinamig’ – ond yr wyf dal yn edrych ymlaen at ddilyn y gyfres wych yma, ac rwyf yn brysur yn adeiladu casgliad o bethau eraill yn y genre ‘zombie’; efallai ysgrifennaf werthusiad ohono, neu hyd yn oed creu cyfraniad fy hun wedi ei lleoli ym Mhrydain! Beth bynnag, yr wyf wedi cael hwyl yn rwdlan amdani – a gobeithiaf eich bod chwi wedi mwynhau darllen amdano! ‘Soundtrack’ y golofn tro yma: “Thriller” gan y ddiweddar Michael Jackson…gan gynnwys y fideo a’r ddawns eiconig!
Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd, Gorffenaf 2012 (Rhifyn 152)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, July 2012 (Issue 152).