Fel sawl un ohonoch mae’n siŵr, yr wyf, ers rhai blynyddoedd bellach, wedi bod wrthi’n mwynhau’r gyfres BBC: ‘Who do You think You are?” lle mae ‘celebs’ yn mynd ati i ymchwilio hanes eu teuluoedd, dysgu am eu hetifeddiaeth ac yna synfyfyrio eu ‘hunaniaeth’ yn sgil yr hyn a ddatgelir. Gwelsom Julia Sawalha yn yfed llefrith gafr gyda’r ‘bedouin’ yn wlad Iorddonen, lle hanai teulu ei thad ohoni; tra trafaeliodd Jeremy Irons hyd a lled Iwerddon yn chwilio am wreiddiau Gwyddelig yn ei deulu er mwyn esbonio’r teimlad o gynefindra a chartref y cafodd y tro cyntaf iddo ymweld â’r ynys, er gwaethaf ei magwraeth ‘quintessentially English’.
Yna, yn gynharach yn y flwyddyn, cychwynnodd rhwydwaith deledu NBC darlledu cyfres Americanaidd wedi ei selio ar y gyfres Saesneg. Y ‘Celeb’ cyntaf i fynd ati i ‘hel achau’ oedd Sarah Jessica Parker, a ddatgelodd cysylltiadau teuluol Americanaidd dros ben, gan gynnwys y ‘Goldrush’ a hefyd un o’i thylwyth a fuodd yn lwcus i ddianc rhag cael ei grogi yn Salem am fod yn wrach, gan i’r llysoedd perthnasol cael ei ddiddymu dyddiau cyn i’w hachos cael ei glywed! ‘Celeb’ arall nodweddiadol yn y gyfres oedd Brooke Shields, a darganfyddai cysylltiadau teuluol i bendefigaeth Eidaleg, gydag un o’i thylwyth yn fancwr i’r Fatican, a hefyd cysylltiadau i deuluoedd brenhinol Lloegr a Ffrainc trwy Henry IV a Louis XIV.
Wel, medde chwi, y mae hyn i gyd yn ddiddorol iawn ond mewn pa ffordd y mae’r rwdlan yma yn ymwneud a ‘Synfyfyrion llenyddol’? Wel, yn ddiweddar fues wrthi’n darllen adolygiad blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ddes i ar draws pwt ynddi yn sôn am y cwestiwn ‘Pwy ydych chi’n feddwl ydych chi?’ a’r ffaith fod y bobl hynny sydd â diddordeb mewn hel achau a hanes lleol yw un o’r carfanau pwysicaf sy’n defnyddio’r llyfrgell y dyddiau hyn. Y mae’n ddifyrwaith poblogaidd ac mae fy nhad yn gwario oriau yn pori’r we ac ar y ffon hefo pobl o America a thu hwnt yn ychwanegu canghennau at y ‘Goeden deuluol’. Tra buon ni lawr yn Aberystwyth yn y Llyfrgell, gwelsom hen luniau o’n teulu ni yn archifau’r papur bro ‘Nene’ ac roeddent wrth ein boddau! Perodd i mi synfyfyrio’r teimlad hwylus hyn, gan sidro sut allaf ei harneisio i fy ngyrfa fel awdures; yna sylweddolais mai’r cwestiwn ‘Pwy ydych chi’n feddwl ydych chi?’ (a’r synfyfyrion y mae hyn yn ennyn) yw sylfaen sawl un o’m hoff lyfrau, gan gynnwys dau lyfr gan Alex Haley: ‘Roots: The Saga of an American family’ a’r dilyniant: ‘Queen: The story of an American family’. Yn wir, wrth i mi feddwl, dechreuais weld genre cyfan o’m mlaen, gan gynnwys rhai caneuon posib i’w gynnig fel soundtrack i’r golofn, megis: ‘Coward of the county’ (Kenny Rogers), ‘In the Ghetto’ (Elvis) ac, yn fwy dadleuol fyth ella: ‘Who are You’ (The Who)!
Dechreuais sidro’r rhesymau am atyniad rhyfeddol y ‘genre’ ac es ati i ymchwilio a gwirio ffeithiau er mwyn sgwennu colofn arno. Dysgais mai’r actores Lisa Kudrow oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r fersiwn Americanaidd o’r sioe, wedi iddi weld y gyfres wreiddiol wrth ffilmio’n Iwerddon. Y mae dyfyniad ganddi yn dweud: “It’s those tiny, wierd little connections to the past that make the show so interesting.” Yn wir, wrth synfyfyrio’r ffenomena fuaswn yn crybwyll rhywbeth tebyg gan gynnig mai’r canlynol sy’n ennyn ein diddordeb yn y maes o ‘achyddiaeth’ (genealogy):
- Y ffordd y mae bywydau ein teulu (a theuluoedd y Celebs) yn adlewyrchu, ac wedi ei phlethu gyda, ddigwyddiadau hanesyddol, nodweddiadol (megis y treialon gwrachod yn Salem)…
- Sut mae hyn wedyn yn ennyn emosiwn a realaeth i’r hanes, oherwydd bod y bobl yma yn golygu rhywbeth i ni: “These are my people” (I ddyfynnu SJP)
- Ac yn olaf, y syniad wibbly-wobbly-timey-wimey ene (i ddyfynnu Dr Who) o’r teimlad fod rhai pethau ‘yn y gwaed’ (i ddyfynnu ‘Jeremy Irons’) – y teimlad o fod yn ‘Connected’ (i ddyfynnu Brooke Shields) a oedd hefyd yn tybio fod hanes ei thylwyth yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i astudio diwylliant a llenyddiaeth Ffrangeg yn y brifysgol
Nawr te, cyn yn ddiweddar iawn, mi fyddwn innau wedi twt twtio am y trydydd pwynt uchod. Fuasai fy astudiaethau academaidd (Cymdeithaseg) yn dweud wrtha’i mai lol botes oedd syniadau fel hyn ac, oni bai am rhai nodweddion biolegol, ein hamgylchiadau personol sy’n ein siapio yn fwyaf. Ond, rhai misoedd yn ôl, ges i freuddwyd a gall, er gwaethaf y ffaith nad wyf yn grefyddol, cael ei sidro’n ‘datguddiad’; yn gryno, cwrddais â fy Nhaid, Glyn Edwards (cyn arweinydd band pres Rhosllannerchrugog), a fu farw o leiaf ugain mlynedd cyn i fi cael fy ngeni…dihunais gan barhau i deimlo fy mod wedi ei gwrdd o’r diwedd, a’i fod wedi estyn ataf er mwyn rhoi neges i mi…(am fwy o’r stori fisâr yma darllenwch ‘Paradocs y Pili-pala arian’ ar fy ngwefan isaf).
Eniwe, yn ôl at y llenyddiaeth! Wrth sidro esiamplau Cymreig, fuaswn yn argymell dau lyfr yn arbennig: ‘O Drelew i Drefach’ (Gwasg Gomer) gan Marged Lloyd Jones a ‘The Pleasure Seekers’ (Bloomsbury) gan Tishani Doshi. Y mae’r cyntaf yn adrodd hanes Ellen Davies, neu ‘Nel fach y Bwcs’ (gan mai llyfrwerthwr oedd ei thad) a ganed yn y Rhondda cyn symud yn hogan fach, hefo’i theulu, yn 1870 i Batagonia. Mam yng nghyfraith i’r awdures oedd ‘Nel’ ac mae’r llyfr yn llawn straeon annwyl o’r teulu a’r gymyned Gymreig yn setlo ym mheithiau garw, estron y Wladfa, gan gynnwys cyfeillgarwch a’r ‘Tuhuelche’ (Indiaid brodorol). Ymysg fy ffefrynnau yw’r sôn am y Tuhuelche yn ymgasglu y tu allan i Llain-las, sef cartref y teulu, gan weiddi am ‘Poco bara’ gan oeddent wedi cael blas arno ac yn fodlon cyfnewid ceffylau am y ‘danteithfwyd Cymreig’; y rhodd o ‘poncho’ i’r teulu adeg ei cholled; a’r ffaith fod y Tuhuelche wrth ei boddau yn gwrando ar y Cymru yn canu emynau, a byddent yn sefyll mewn rhes y tu allan i’r capel, yn siglo o un ochr i’r llall i’r miwsig, gan guro eu traed a chwerthin ar eu pennau!
Y mae’r ail lyfr, The Pleasure seekers yn gyhoeddiad newydd sbon gan y bardd Tishani Doshi o Madras, sy’n adrodd hanes ei rhieni, Babo a Siân, a’r plethu o ddau ddiwylliant gwahanol ar y naw (Gujarati Jain a Chymreig) wrth i’r ddau ‘pleasure seeker’ mynnu parhau a’i chariad a phriodi, er gwaethaf pob ymyrraeth deuluol. Eto mae’r llyfr yma yn llawn dop o straeon annwyl, wrth ddilyn bywydau Babo a Siân, o gyfarfod yn y cantîn yn ei gwaith, trwy gyfnod gwrthdystiad Babo yn nhŷ ei Ba (nain) ym mhentref Ganga Bazaar, lle aeth pan fynnodd ei deulu ni chaf weld Siân eto, nes iddynt briodi a setlo yn dŷ ei hunain, sef Tŷ-y-giatiau-Oren-a-du ym Madras, a magu teulu ei hunain. Y mae’r ddau lyfr yn ‘labour of love’ ac yn hynod o hwylus a difyr i’w ddarllen. Gobeithiaf ysgrifennu fersiwn (neu sawl fersiwn) fy hun rhyw ddydd…gan gychwyn, efallai, gyda hwyl a helyntion y teulu Pinto-Edwards!
Hoffwn ddiolch i Tishani Doshi am rhoi caniatâd i ni ddefnyddio ei llun. I ddarllen fy ngwaith llenyddol, gan gynnwys cyn-erthyglau o’r golofn, ewch i sbïo ar fy mlog/ wefan: www.saralouisewheeler.wordpress.com
Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd, Hydref 2010 (Rhifyn 141)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, October 2010 (Issue 141).