Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2013

Y mae sawl peth wedi digwydd yn ddiweddar sydd wedi peri i mi sidro natur a sefyllfa’r iaith yn ein degawd presennol – ac yn y bôn, mae’r golofn wedi chwarae rhan allweddol ym mhob digwyddiad. Yn gyntaf, cefais e-bost jest cyn ‘dolig, gan ‘Y Corpws Cenedlaethol Gymraeg’; “pranc neu spam mae’n siŵr” meddyliais i gychwyn. Ond yna gwelais ar ddiweddar yr e-bost fod tri enw ac e-byst o brifysgolion (Abertawe, Caerdydd a Newcastle…does dim gair Cymraeg am Newcastle hyd y gwyddwn i?) Darllenais ymlaen a deallais mai prosiect ysgolhaig ydoedd, gan ieithyddion, i ddatblygu ‘corpws’ o’r Gymraeg i gyd-fynd â’r rhai sydd eisoes wedi cael eu hadeiladu ar gyfer Saesneg a llawer o ieithoedd eraill o gwmpas y byd.  Yn ôl yr e-bost, mae corpws yn gasgliad o destunau, ar lafar ac yn ysgrifenedig, sy’n rhoi ‘cliplun’ o’r iaith. Mae’r corpora yn Saesneg wedi cael eu defnyddio fel sail ar gyfer llawer o eiriaduron mawr ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n eang ar gyfer ymchwil i lawer o agweddau ar eirfa, gramadeg a defnydd o’r iaith Saesneg. Rhan hanfodol o ddyfodol y Gymraeg felly, yw bod ganddi gorpws mawr sy’n gallu ei ‘dal’ hi fel iaith fyw; yna gall siaradwyr, athrawon a llunwyr polisi ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba amrywiaethau o’r iaith allai gael eu defnyddio mewn cyd-destunau llafar, dogfennau ysgrifenedig, dosbarthiadau i ddysgwyr a gwerslyfrau ac yn y blaen. Mi fydd llawer o gydrannau gan y corpws, o lenyddiaeth a phapurau newydd, i sgyrsiau ar lafar, gwefannau a dulliau cyfoes eraill o gyfathrebu…a’r elfen olaf oedd wedi peri iddynt gysylltu â fi.

Maent am ddefnyddio’r testunau sydd i’w cael mewn trydar (twitter), wikis, safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, gwefannau Cymraeg…a blogiau – a hoffwn nhw ddefnyddio cynnwys fy blog i yn y corpws! Felly, fel unrhyw ymchwilwyr gwerth eu halen, roedden nhw’n ysgrifennu i ofyn am ganiatâd – gyda’r ymwrthodiad y gall testunau yn y corpws fod yno’n hirach nag y gallaf fod wedi’i ragdybio pan bostiais i nhw. “Wel dim problem ene” medde fi wrth fy hun, mae’r rhan helaeth o’r blog cw wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol yn Y Clawdd, sydd wedyn yn cael ei archifo yn y Llyfrgell genedlaethol am flynyddoedd maith. Mae gweddill y blog yn cynnwys fy nghynigion llenyddol, a nod unrhyw awdures yw cael pobl i ddarllen ei gwaith, hidio befo am y fforwm! Ond…(medde chwi yn yr un modd a gwnes i) mae fy Nghymraeg i’n garpiog ac, um, anghyffredin oherwydd diffyg ymarfer a dealltwriaeth o’r stwff ‘cywir’…sut bynnag yw’r ffordd weddus i ddweud hynny hyd yn oed!

Ond yna darllenais weddill yr e-bost gan giglan yn hytrach na phoeni: “Y nod yw i’r corpws fod ar gael i bawb fel adnodd ar-lein a gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer deunyddiau addysgu a phrofi, ymchwil i sut mae iaith yn newid neu’n wahanol mewn cyd-destunau gwahanol o ran ei defnydd ac yn y blaen. Gall darnau bach gael eu dyfynnu mewn cyhoeddiadau academaidd ac addysgol. Dylen ni dynnu eich sylw at y ffaith na fydd eich geiriau’n cael eu labelu yn y corpws fel ‘cywir’ neu ‘anghywir’ ac os ydych chi’n tueddu i gymysgu, er enghraifft, Saesneg gyda’r Gymraeg, bydd y cymysgu yma’n aros yn y corpws. Mae corpws yn cynnwys iaith go iawn fel mae’n cael ei defnyddio – nid fersiwn lân sydd wedi cael ei thacluso. *Wrth gwrs, fydd athrawon sy’n ei ddefnyddio ddim yn argymell o angenrheidrwydd fod eu myfyrwyr yn copïo’r holl nodweddion gyda’r un faint o frwdfrydedd – ond mater iddyn nhw yw hynny. Yn y bôn, mae’r corpws yn cyflwyno’r wybodaeth, fel set o luniau o fywyd go iawn yng Nghymru, i eraill ei hastudio.” (*‘My emphasis’). Wel yr anrhydedd ynte, fy ngholofn fach darostwng a llenyddiaeth amrwd yn cael ei chynnwys yn y corpws – hyd yn oed os byddent yn cael ei defnyddio gan athrawon i ddangos…gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r iaith! Eniwe, fydd fy nghynnwys yn anhysbys ac mi sgwennes atyn nhw i ddweud bysaf wrth fy modd iddynt ei chynnwys.

Y mae’r ail beth yn dyddio nôl i Chwefror 2011, pan oeddwn wedi bod yn gweithio lawr yng Nghaerdydd, roeddwn yn flinedig a sarrug, ac yn wynebu oriau ar y trên gorlawn i gael nôl i’r hafan yng Nghilgwri. Ffeindiais sêt, estynnais yr I-phone a sbïais ar fy e-byst…gwelais un gan Jon Morris, o Wrecsam yn wreiddiol, yn esbonio fod e’n ysgrifennu doethuriaeth socio-ieithyddol ar ddefnydd yr iaith, yn enwedig ymysg pobl ifainc – er mwyn canolbwyntio ar y ‘sefyllfa bresennol’. Roedd yn ysgrifennu ataf i weld os oeddwn yn nabod recriwtiaid posib, ac roedd wedi cael fy e-bost o’r Clawdd gan ei fod yn darllen fy ngholofn! Hyfryd ag yn hwb i fy hunan hyder…ond yn ôl at Jon! Yn fis Ionawr 2013, cyflwynodd Jon ei waith i’r Gymdeithas Owain Cyfeiliog a chawsom noson ddiddorol iawn draw yn orendy gwesty’r Belmont. Teitl y ddoethuriaeth erbyn hyn yw: Amrywio socio-ieithyddol  a dwyieithrwydd iaith leiafrifol; astudiaeth o bobl ifainc dwyieithog Cymraeg-Saesneg yng Ngogledd Cymru. Mi roedd yn gyflwyniad proffesiynol  a deniadol iawn, a ddysgais lawer – gan gynnwys: fod yna diffyg gwaith meintiol (quantitative) yn y Gymraeg (rhywbeth sydd angen ei gywiro); pa fath o waith y mae ieithyddion yn ei wneud (cymhleth iawn o be welais i!); fod ‘na ffasiwn air a ‘ymddengys’…a bod y ffaith nad oeddwn yn gwybod hyn yn enghraifft o ‘diglossia’! (rhwng y tafodieithoedd ac Iaith lenyddol). Yn dilyn y cyflwyniad cawsom drafodaeth fywiog, ddifyr…ac roedd gen i PhD-envy!

Yr wyf hefyd wedi ennill grant i fynd ar gwrs hyfedredd iaith yn Nant Gwrtheyrn, yr wyf yng nghanol trefnu ceisiadau grant i astudio ‘Deaf Welsh Identity’ ac rwyf am gyhoeddi ‘Carmen Fernandez-Jones and the secrets of Cegin Dodo’ fel  fy ‘llyfr-e’ gyntaf…ond fwy am hyn i gyd mewn colofnau ar y gweill!

Read Full Post »