Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Awst, 2019

Dyma fy limrig yn ymateb i’r llinell (gyntaf) a rhoddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, at gystadleuaeth ‘Limrig y dydd’, 6ed Awst 2019.

Ddysgais sut i sgwennu limrig ar fore’r 5ed o Awst, am 11yb, mewn gweithdy dan arweiniad Eurig Salisbury, dan nawdd Llenyddiaeth Cymru – rhan o raglen Tŷ Newydd ar daith.

Diolch hefyd i Geraint Lovgreen a Siôn Aled Owen am gyngor, ac i Nic Dafis am ysbrydoliaeth.

 

Limrig y gwrthryfelwr difodiant

Oes rhywun yn rhywle yn credu

ein bod ni mewn pryd i weithredu

i drwsio’r niwed

a wnaed i’r blaned

fydd raid i ni gyd cydweithredu

Advertisements

Read Full Post »

Mae bywyd Brenin Henry VIII yn un cyfarwydd i ni heddiw, ar rai lefelau beth bynnag. Mae’r ffeithiau, megis iddo briodi chwe gwaith, yn ennyn ein diddordeb a’n dychymyg. Mae rhannau o’i fywyd, a bywydau rhai o’r gwragedd, wedi ei bortreadu mewn sawl ddrama rannol ffuglennol. Y frenhines rydym yn fwyaf gyfarwydd â hi, hyd yn hyn, mae’n debyg, yw Anne Boleyn – ei ail wraig. Yn ôl yr hyn sy’n cael ei chofnodi’n hanesyddol fel ‘Mater Mawr y Brenin’, mi wnaeth Henry ymbilio i’r Pab i ddiddymu ei briodas i’w wraig gyntaf, Catherine o Aragon, er mwyn iddo gael priodi Anne. Ar ôl broses o gyflafareddu cymhleth, fu dorrwyd Henry hefo Rhufain, gan gyhoeddi ei hun fel Pennaeth Goruchaf ar Ddaear o’r Eglwys Yn Lloegr. Cafodd ei briodas i Catherine ei ddatgan yn ddi-rym, a chollodd Catherine ei lle yn y Cwrt Brenhinol; chafodd hi a’i merch, Mary, ei ddisodli yn gyfan gwbl gan Anne a’i merch Elizabeth.

Yn y cyfresi teledu a ffilmiau amryw am y digwyddiadau hyn, megis ‘The Tudors’, a ‘The other Boleyn girl’, mae’r ffocws fwyaf ar Anne, gan geisio esbonio sut wnaeth hi swyno’r Brenin Henry i gyflawni’r ffasiwn beth. Mae hi’n cael ei phortreadu’n glamoraidd ac yn ddeniadol – er, ddim yn brydferth yn y modd confensiynol. Yn ‘The Tudors’ rydym yn cael cip o berthynas eithaf tyner rhwng Henry VIII a Catherine o Aragon, ond nid sut ddaethant nhw at ei gilydd yn y lle cyntaf. Dyma le mae’r ddrama newydd ‘The Spanish Princess’ yn llenwi’r bwlch. Cyfres yw hon sydd y nawr ar gael ar y sianel ‘Starz’ (Amazon Prime) ac rwyf i a’r gŵr wrthi’n ei fwynhau trwy ein teledu-clyfar. Mae’r gyfres yn seiliedig ar nofelau Philippa Gregory ac mae’n adeiladu ar y cyfresau cynharach sef ‘The White Queen’ a ‘The White Princess’.

Yn y gyfres ‘The Spanish Princess’, rydym yn dysgu fwy am dad Henry’r VIII – sef Henry’s VII a’i wraig Elizabeth o Efrog, a hefyd am frawd hynach Henry, sef Arthur. Y prif gymeriad, fod bynnag, yw Catherine o Aragon – wraig ifanc, brydferth a ddyfeisgar. Rydym yn gweld sut ddaeth hi i Loegr i briodi Arthur, eu perthynas lletchwith, a’i sefyllfa ansicr wedi iddo farw cyn iddynt gynhyrchu etifedd. Rydym wedyn yn dysgu nad ar chwarae bach y daeth Catherine i fod yn Frenhines Loegr trwy briodi Henry VIII. Roedd angen gollyngiad y Pab, gan iddi fod yn wraig i’w frawd (sef un o’r rhesymau y mae Henry VIII yn rhoi yn ddiweddarach am ddirymu’r briodas). Rydym yn gweld perthynas cariadus rhwng y ddau gymeriad – a oedd, ar y pryd, yn andros o ifanc (yn eu harddegau!) Rydym hefyd yn cael cip o ddynes arall bwysig yn hanes y berthynas rhwng Prydain a Sbaen, sef mam Catherine – y Frenhines Isabella 1 o Castile. Yn y gyfres mae hi’n arwain byddinoedd gan wisgo arfwisg debyg i’r hyn y gwelwn Gary Oldman yn gwisgo yn y ffilm ‘Dracula’. Braf iawn byddai gwylio cyfres yn seiliedig ar ei hanes hi, ac mae yna lyfr gan Kirsin Downey amdani o’r enw: ‘Isabella: The Warrior Queen’, wedi ei gyhoeddi yn 2014 – felly mae yna bosibiliadau!

Gan i ni ddarganfod ‘The Spanish Princess’ wrth iddi ddechrau darlledu, ym mhen dim yr oedden ni wedi gwylio’r penodau oedd ar gael – ac felly yn y mwdwl cyfarwydd cyn-bocsetaidd hwnnw, o aros am y pennawd nesaf. Ond yn ddigon ysmala, ddaeth ein teledu-clyfar i’n hachub! “Dyma’r cyfresi ddaeth cyn hwnnw”, meddai. Wel, oce medde ni, gan wylio ‘The White Princess’ a’i fwynhau yn arw! Yma ceir hanes rhieni Henry VIII – ac ew am hanes! Mi roedd y cwpwl ifanc reit yng nghanol y fargen a ddaeth a’r elyniaeth rhwng y ddau ‘rhosod’ i derfyn. Cynlluniwyd mamau’r ddau iddynt briodi ac felly uno’r ddwy gangen gystadleuol o ‘Tŷ Plantagenet’, sef ‘Tŷ Lancaster’ (y rhosod coch) a ‘Tŷ York’ (y rhosod gwyn).

Mae’r cymeriadau’n cael eu portreadu mewn ffordd argyhoeddedig. Mae cymeriad Elizabeth, neu ‘Lizzie’, yn datblygu o’m blaenau wrth iddi galedu o’r profiadau cas mae hi’n ei wynebu. Ond y cymeriad fwyaf diddorol yma, i mi, oedd Lady Margaret Beaufort, neu ‘My Lady the King’s Mother’, fel mae pawb yn ei adnabod yn ystod y gyfres. Y mae’r cymeriad yma yn llawer iawn fwy tywyll a chymhleth. Yna, trwy’r gyfres ‘The White Queen’, ddown i wybod fwy am sut ddaeth hi i fod fel hyn, a hefyd fwy am deulu’r York – Brenin Edward V a’r frenhines swynol – Elizabeth Woodville. Mae yna awgrymiad yma o ddewiniaeth ac mae’r cymeriad yn un annisgwyl o ddyfeisgar a chryf.

Wrth adlewyrchu, rhyfeddaf ar gyn lleied yr oeddwn yn gwybod am y menywod pwysig yma yn hanes y Frenhiniaeth a faint rwyf wedi mwynhau darganfod fwy amdanynt. Ac nid hyn yw ddiwedd y peth ychwaith – beth am Catherine o Valois, gweddw Henry’r V o Loegr, wnaeth priodi Syr Owen Tudor (neu Owain ap Maredudd ap Tudur – ei enw Gymraeg!) Wel, gobeithio bydd y ffuglen yn estyn yn ôl i’r cyfnod yma ac yn cael ei phortreadu i ni trwy gyfresi cysylltiedig cyn bo hir!

Read Full Post »

Rwyf wir yr wrth fy modd yn gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae yna awyrgylch bositif ag agwedd ‘medrwn’, ynghyd a chyfeillgarwch ag ewyllys da. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld erthygl amdanaf yn y Leader cw (ar-lein a chopi caled!) yn gwneud ffỳs braf am fy nghyflwyniad draw yn y gynhadledd ‘40 Years of Alien’, a’r cysylltiad hefo fy ngwaith fel darlithydd Seicoleg. Mae’n rhaid dweud, roedd hi’n hyfryd cael gweithio hefo James Bailey o’r adran ‘Cysylltiadau Cyhoeddus’ (PR) ar hyn, a braf iawn oedd teimlo braidd yn sbesial a llwyddiannus wrth weld yr erthygl wedi ei chyhoeddi! Roedd y gynhadledd yn wych ac aeth fy nghyflwyniad yn dda iawn hefyd; rwyf y nawr yn edrych ymlaen at sgwennu pytiau yma ag acw, yn seiliedig ar yr holl waith paratoi wnes i.

Yn ddigon ysmala, un o’r buddion daearyddol (heblaw am y daith fyrrach i fy ngwaith pob dydd o Benrhyn Cilgwri!) yw fy mod yn agos at fannau cyfarfod sin llenyddol Wrecsam. Mi roedd hyn yn handi iawn yn ystod ‘Gŵyl y geiriau’,  yn ôl ym mis Ebrill. Yn wir, anodd byddai i’r digwyddiad wnes i ei fynychu fod yn llawer iawn agosach at fy swyddfa yn yr adran Seicoleg, gan iddo gael ei chynnal yn y Ganolfan Catrin Finch, rhyw 20 llath ar draws y maes parcio!

Roedd Archdderwydd newydd Cymru, Myrddin ap Dafydd, yn cynnal noson ‘cynulleidfa hefo’, ac roedd criw go lew ohonom wedi ymgasglu i glywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Ac, wel, am hwyl! Cawsom wledd o gerddi a storïau digri am y bardd Gerallt Lloyd Owen, a oedd yn ysbrydoliaeth a math o fentor iddo, cyn iddo farw  yn ôl yn 2014. Mae’n debyg fod pawb yn gyfarwydd â’i waith adnabyddus a siriws, megis y gerdd ‘Fy Ngwlad’ sy’n cychwyn hefo’r llinell: “Wylit, wylit, Lywelyn”. Ond annisgwyl a braf oedd clywed un o’i gerddi digri, o’r gyfrol ‘Cilmeri a cherddi eraill’, sef ‘Trafferth mewn siop’; cerdd yw hon sy’n adrodd hanes ceisio talu hefo siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencer, a chael ei wrthod…a’r helynt wedyn. Ew, ges i flas ar ei waith o wrando! Rwyf am fynd ati nawr i ddarllen fwy o’i waith, fel rhan o fy ymdrech i ddechrau sgwennu’n greadigol eto.

Diddorol iawn hefyd oedd clywed am y trafodaethau cafodd Myrddin hefo Gerallt dros y blynyddoedd a hefyd stori wnaeth Gerallt ymadrodd mewn gweithdy yr oedd yn ei redeg, wrth i Myrddin a chriw o awduron/ beirdd ceisio cwblhau tasg lenyddol yr oedd wedi gosod iddynt. Does dim modd gwneud cyfiawnder i’r stori yma, roedd hi’n eiliad o ‘angen bod ene’; ond roedd yn cynnwys hanes modryb, taith i Lundain i edrych ar ôl ci mawr, tra roedd y perchennog ar wyliau, y ci yn marw…ar helynt wedyn wrth geisio penderfynu beth i’w wneud hefo corff y ci; daeth yr ateb wrth i’r fodryb a’r ewythr (a oedd wedi ymuno a’r fenter erbyn hyn), trafaelio yn ôl i Gymru ar y trên, hefo corff y ci mewn siwtces…wnaeth rhywun dwyn y siwtces! Ag trwy gydol y stori, roedd yr awduron/ beirdd wrthi’n ceisio canolbwyntio ar y dasg lenyddol!

Profiad pleserus a diddorol tu hwnt oedd gwrando ar y stori yma, wrth eistedd mewn ‘cynulleidfa hefo’; roedd hi’n stori, o fewn stori, o fewn stori – meta-ffuglen, mewn ffordd…ond fwy am hynny rhywbryd arall! Diddorol hefyd yw adlewyrchu ar y ffaith fod Myrddin wedi penderfynu, yn hael iawn, i rannu’r storïau  yma, a gwaith Gerallt, yn hytrach na ddefnyddio’r noson fel ffenest siop i’w waith ei hun, fel bysa sawl awdur wedi ei wneud…ag yn sicr academyddion! Ond yn ddigon ysmala, mae hyn wedi ennyn fy niddordeb yn ei waith ef – felly mae gen i restr hir o bethau ‘i’w ddarllen’ erbyn hyn!

Wrth ymchwilio ychydig i’r ffeithiau at y golofn hon, ges epiffani neis – fod Myrddin ap Dafydd yn dad i Lleucu Myrddin, un o’r myfyrwyr disglair fues yn ddigon ffodus i’w addysgu draw ym mhrifysgol Bangor! Roeddwn wedi gweld y ddau ohonynt yn noson ‘Y Stamp’ yn ‘Tafarn y Fic’, ond doeddwn heb wneud y cysylltiad! Mi roedd hyn i gyd yn amserol iawn, gan fod addysgu nawr wedi darfod, ac mi fyddaf wrthi, dros yr haf, yn ceisio sgwennu papurau o’r data casglais ar y prosiect ym Mhenrhyn Llyn; defnyddiol iawn oedd hel atgofion a dwyn momentwm unwaith yn rhagor.

Wrth archwilio gwefan Amazon am y casgliad ‘Cilmeri a cherddi eraill’, ddes o hyd i albwm Cilmeri – cerddoriaeth gwerin roeddwn yn gwrando arno pan oeddwn yn blentyn – mae’r albwm ar gael ar ‘amazon music’ i’w lawr-lwytho – mawr y cynnwrf! Ffwr a fi felly, ar Lun y Banc gwlyb yma, i wneud cinio ac i wrando ar yr albwm yma – fel ‘soundtrack’ y golofn yma!

Read Full Post »