Pan es ati’n gyntaf i geisio ‘torri mewn’ i yrfa academaidd, cefais gryn drafferth cael troed yn y drws, yn bennaf gan nad oedd safon fy Saesneg ysgrifenedig yn ddigon da. Doeddwn heb gydio’n iawn ar y rheolau syml, megis: gramadeg ac atalnodi. Yn wir, nid oeddwn hyd yn oed yn defnyddio’r atalnod llawn gydag unrhyw gysondeb!
Ddaeth trobwynt pan es am swydd rhan amser, i gyfro absenoldeb mamolaeth, fel ‘P.A’. Teimlais yn weddol hyderus wrth gerdded i’r cyfweliad, hefo fy nhystysgrif gradd dan fy nghesail, ynghyd â phrofiad perthnasol dan fy melt. Ond, heb eisiau eich diflasu a’r stori gyfan, canlyniad y diwrnod oedd i mi ffeindio’n hun yn ôl yn y fflat, yn eistedd ar lawr y gegin, yn fy siwt, yn beichio crio ac yn dwrdio’n hun; roeddwn wedi methu cael swydd a gofynnir am dair T.G.A.U. yn unig gan nad oeddwn yn gwybod y gwahaniaeth rhwng “It’s” ac “Its” a rhyw fanylion ieithyddol tebyg. Wedi sychu fy nagrau fodd bynnag, penderfynais fod rhaid gwneud rhywbeth am hyn pronto neu byddai’r holl halibalŵ prifysgol wedi bod yn wastraff.
Mynychais ddosbarthiadau nos gramadeg Saesneg a darllenais: “Eats Shoots & Leaves: The Zero Tolerance Approach to Punctuation” (sy’n esbonio’r peth “It’s” ac “Its” i’r dim gyda llaw). Cyn pen dim roeddwn yn gyffyrddus a’r rheolau a oedd unwaith wedi achosi pryder i mi – yn wir, mi ddes yn bedant ac yn “much-sought-after-proof-reader” ymysg fy nghydweithwyr. Cefais waith fel ymchwilydd yn y brifysgol a theimlais fy mod wedi ‘cyrraedd’.
Ond cyn pen dim doedd fy mywyd Clark Kent ddim cweit yn ddigon. Roedd rhyw ysfa siwper-hiro-aidd yn deffro ynddo i. Roedd angen allfa i’r egni creadigol a dechreuais farddoni a synfyfyrio’n llenyddol. Yn y Gymraeg roeddwn am ysgrifennu’n greadigol, ac es ati’n frwdfrydig i fentro’r eisteddfodau lleol. Cefais reality-check fodd bynnag pan gefais fy stori fer cyntaf yn ôl, gyda’r frawddeg “Gormod o wallau iaith: Rwy’n amau mai dysgwr sydd yma?” wedi ei sgwennu arni. Yn amlwg roedd angen rhyw waith trwsio ar fy Nghymraeg hefyd meddyliais – ond roeddwn yn weddol hyderus, gan sidro fy llwyddiant hefo fy Saesneg.
Ond er gwaethaf fy ymdrechion dros y blynyddoedd nesaf ni ddes yn agos at safon foddhaol hefo fy Nghymraeg. Roedd y rheolau’n fwy cymhleth, yn enwedig yr enigma o ‘treiglo’. Ac roedd natur fy Nghymraeg yn wahanol i fy Saesneg. Fues ati’n ifainc iawn i lunio acen “Saesneg” i’n hun wedi ei selio ar Sir Alec Guinness, Deborah Kerr a Julie Andrews (er dwn i’m pam!) Felly roeddwn yn siarad yn ‘gywir’ os ychydig yn stiff. Datblygodd hyn yn bellach, wrth gwrs, wrth astudio gradd trwy gyfrwng y Saesneg. Ond Cymraeg yr aelwyd rwy’n ei siarad yn hytrach na Chymraeg coeth, ysgolhaig. Rwy’n cymysgu ‘tenses’ ac yn gwneud bloopers ieithyddol eraill, megis y fath o Saesneg pob dydd a glywir ar operâu sebon ag ati: iaith ‘naturiol’ ond nid yn ‘gywir’. Rwyf hefyd yn gam trosi idiomau, megis George Huws o C’mon Midffild a’i “Dyna sut mae’r cookie’n crymblo!
Pendronais y broblem am flynyddoedd. Un tro, wrth wylio’r DVD Sali Mali hefo fy nith, dyma Sali Mali’n cyfri’r brechdanau: “Un, dwy, tair, pedair…” “Ond Pam fod brechdanau’n fenywaidd?” ymbiliais, a Christina’n sbïo arna i’n syn. Yna, un diwrnod, wrth i mi eistedd ar y trên, yn darllen Golwg, gwelais lythyr yn tynnu sylw at dueddiad sylwebyddion Rygbi i gymysgu cenedl a threigliadau: “Y Llinell, nid y linell” cwynodd y pedant. Dechreuodd cerdd ffurfio yn fy mhen. Tynnais bapur a beiro o fy mrîf ces a dechreuais sgriblan. Erbyn i ni gyrraedd Lime Street roedd sylfaen cerdd gen i. Mentrais y gerdd i’r gystadleuaeth “Ysgoloriaeth Emyr Feddyg” (Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r cylch 2008) a cheir adolygiad reit ffafriol ohono yn y llyfr Cyfansoddiadau (er, cyfeiriodd hefyd at y gwallau iaith!)
Gwaetha’r modd yr wyf dal yn hollol clueless ynglŷn â Chymraeg ‘cywir’ ac rwy’n tueddu i sgwennu’n greadigol fwy yn y Saesneg erbyn hyn, yn enwedig lle mae cystadlaethau yn y cwestiwn. Ond rwyf dal yn mwynhau sgwennu trwy’r Gymraeg ac felly rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i sgwennu fan hyn. Soundtrack y golofn mis yma felly yw’r albwm Stereophonics “Just enough education to perform”. Ac, os faddeuwch yr hubris, hoffwn rannu fy ngherdd gyda chwi, gan obeithio y byddwch yn ei fwynhau:
Pam fod brechdanau’n fenywaidd?
(A chwestiynau difyr eraill)
Y Llinell, nid y linell.
Y llong, y llinyn, y llyfr, y llwyn.
Mae Sali Mali’n cyfri’r brechdanau,
Un, dwy, tair, pedair,
Gan mai benywaidd yw brechdanau ynte?
Ond pam fod brechdanau’n fenywaidd?
A sut mae gwybod pryd i dreiglo –
A phryd i beidio?
Meddal, trwynol, llaes, Cysefin.
Mae gen i’r tabl ym mlaen fy ngeiriadur,
Ond waeth iddo fod am fecaneg cwantwm ar y blaned Siwenna wir!
A beth am yr acen grom te?
a’r symbolau deniadol eraill?
Maen nhw’n edrych yn neis iawn ar y dudalen,
Ac yn ychwanegu ryw Je ne se quoi at enwau pobl,
Mae’n rhaid i mi gyfaddef,
Siôn, Siân, Llŷr ag Andrèa.
Ond dwi’n methu’n glir a chofio’r rheolau,
Ac maen nhw’n niwsans i’w teipio ‘fyd –
Codau cymhleth fel rhyw fath o semaffor hunllefus,
Mae’n ddigon i gadw rhywun rhag blogio!
A sut mae sgwennu’r dyddiad hyd yn oed?
-af, -fed, -ydd, -ed,
A pam fod rhai pethe yn un-deg-tri,
Tra bod eraill yn dair-ar-ddeg?
Rwy’n ddieithryn i iaith fy nghalon –
Mewn pob ffordd “cywir” beth bynnag.
Ag eto, mae yna brydferthwch i’r cymhlethdod.
Hen iaith urddasol, swynol, cyfriniol,
A’i idiomau pert a’i eiriau barddonol.
Mae yna ddyfnder sy’n deillio o’i hanes maith,
A’r traddodiadau morffolegol yng ngwreiddiau’r iaith.
Y mae cyfoeth yn deillio o’r tafodieithoedd niferus,
A sioncrwydd yn yr ymennydd pan fo Cymraeg ar y wefus.
Ac felly rwy’n fodlon straffaglu â marciau diacritig,
Am yr anrhydedd o ‘sgrifennu yn yr iaith fendigedig.
Anwesaf yn awr y teg, tecach, a’r teced,
A’r drud, y drutach, y drutaf, a’r dryted.
Y mae’n bleser i ddysgu sut i gywiro fy ngwallau,
A dysgu’r ffordd orau i gyfrif brechdanau.
Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd, Gorffennaf 2010 (Rhifyn 140)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, July 2010 (Issue 140).